
Yng nghrombil y Pandemic Cofid, mae’r dyfodol datganoledig yn goleuo ar y Banc yn Lloegr, sylfaen yr Undeb drwy’r Bunt Brydeinig ers 1694 (ffynhonell)
Cyflwyniad
Bydd Rhan Cyntaf y traethawd hwn yn ymdrin â’r Gorffennol, hanes Cymru fel cenedl annibynnol o wreiddiau Rhufeinig, esblygiad yr Oesoedd Canol at oruchafiaeth Gwynedd dros weddill Cymru, hyd y Deddfau Uno efo Lloegr yn 1535 a 1542 o dan deyrnasiad Harri’r Wythfed sy’n dod a threfn ffiwdal a Babyddol Cymru i ben, ag wrth i Gymru ddioddef ei Diwygiad Protestannaidd a’r broses aml ganrifol o Seisnigeiddio a Phrydenio y Cymry. Byddwn yn trafod rôl a hanes hollbwysig y Bunt Brydeinig, sydd yn enwedig ers sefydlu’r Banc yn Lloegr yn 1694 wedi dod yn arian cyffredin sy’n cadwyno pobol Prydain o fewn Undeb Ariannol a Chyllid, ag yn sybsidi anferthol i gyfoethogi Llundain a De Lloegr ar draul tlodi Canoldir a Gogledd Lloegr, Yr Alban a Chymru.
Bydd Rhan Dau o’r traethawd yn trafod y Presennol, a thebygolrwyddau y dyfodol am annibyniaeth yn seiliedig ar gyfundrefnau ariannol, wrth gymharu tri dewis gwahanol: ymuno efo’r Ewro, hollti’r Undeb Brydeinig a dyfeisio chyfundrefn ariannol a Phunt Gymreig o’r newydd, neu fabwysiadu Safon ariannol a chyfrifo fyd-eang a datganoledig Bitcoin, cyn amlygu Bitcoin fel y dewis mwyaf tebygol ar gyfer dymchwel Undeb Prydain, a diweddu’r duedd bum canrif o ganoli a chynnydd ymyrraeth Seneddwyr Llundain a Llywodraeth Prydain dros ei dinasyddion.
Bydd Rhan Tri y traethawd yn trafod y Dyfodol a Strategaeth ar gyfer Annibyniaeth, yn cwmpasu Polisïau Ariannol, Trethi a Thollau, Egni, Amddiffyn, Mudo, Llês, Addysg, Diwydiant, Amaeth, a Iaith, a’r strwythyr ysgogi bydd mabwysiadu arian dad-chwyddiannol yn ei yrru er mwyn cryfhau Annibyniaeth Cymru rhag Lywodraeth a Seneddwyr Chaerdydd a’r Blaid Lafur yng Nghymru.
Wrth i ni symud ymhellach fewn i ddyfodol digidol ddechreuodd efo’r Rhyngrwyd ers 1994, ag sydd wedi cyflymu ers dyfeisiad Bitcoin ag arian cynhenid i’r Rhyngrwyd ers 2009, mae Ugeiniau’r Ail Ganrif ar Hugain yn mynd i weld rhagor o ddatganoli gwybodaeth a chyfathrebu ynghŷd a thyfiant arian digidol allan o reolaeth llywodraethol, fydd yn gwanhau dylanwad llywodraeth dros ein bywydau ag yn galluogi y symudiad am annibyniaeth unigol, teuluol a chymunedol, er mwyn ail-adeiladu a ffynnu Cymru o’r llawr i fyny. Mae degawd gythryblys a chynhyrfus iawn o’n blaenau!
Yn dilyn cyhoeddiad y traethawd hwn, bydd y tri rhan yn cael eu cyhoeddi ar blogariancymreig.com fel traethodau annibynnol, y gellir eu didoli a’u darllen ar wahân.
RHAN UN: GORFFENNOL
Hanes Cymru Fel Cenedl

Cymru Rufeinig diwedd y Bedwaredd Ganrif (ffynhonell)
Er bod olion pobol yng Nghymru yn dechrau oddeutu 9,000 o flynyddoedd yn ôl, mae hanes Cymru fel Cenedl ynghlwm â’r Rhufeiniaid, sy’n dechrau concro Cymru yn 43 ar Ôl Crist, yn nheyrnasiad Iŵl Cesar. Mae’r Rhufeiniaid yn aros yn Nghymru a Phrydain am dros dair canrif nes y Flwyddyn 383, pan maent yn hwylio am adael wrth i Ymerodraeth Rufain ddymchwel ar y Cyfandir.

Chwedl Breuddwyd Macsen Wledig (ffynhonell)
Mae sefydlu Cymru fel cenedl ynghlwm â chwedloniaeth Macsen Wledig sy’n dod yn Ymerawdwr Rhufain yn y Gorllewin rhwng 383 a 388, a mae teuluoedd Brenhinol a Thywysogion Cymru y Canol Oesoedd yn hawlio’r hanes a’r achau Rhufeinig hwn.
Y Canol Oesoedd Cynnar (5ed i’r 10ed Ganrif)

Dechrau datganoli Ynysoedd Prydein wedi’r Rhufeiniaid (ffynhonell)
Mae Rhufain wedi gadael Prydain yn gyfangwbl erbyn y Flwyddyn 410, efo nifer o ranbarthau gwahanol yn rheoli eu hunain. O dan y Rhufeiniaid mae Cymru eisioes yn gyswllt efo Cristionogaeth, ac mae Oes y Seintiau yn para bron dair can mlynedd o 400 i 700 Ôl Crist, wrth sefydlu eglwysi a mynachlogydd dros Gymru, drwy arloes Dewi Sant, Illtud a Theilo.

Prydain y Seithfed Ganrif (ffynhonell)
Mae ymadawiad Rhufain yn ysgogi y Saeson Cyfandirol i oresgyn a setlo yn Ne Ddwyrain Lloegr a’r Eingls yn y Gogledd Ddwyrain, dros y Seithfed Ganrif mae’r Brythoniaid yn colli tiriogaeth Lloegr wrth i Gymru, yr Hen Ogledd, a Chernyw gael eu dad-gysylltu.

Teyrnasau cynnar Cymru (ffynhonell)
O fewn Cymru mae nifer o deyrnasau gwahanol, efo’r ddau fwyaf yng Ngwynedd yn y Gogledd Orllewin a Phowys yn y Dwyrain, ond oherwydd daearyddiaeth Powys ar y ffîn efo Mersia, maent yn gorfod rhyfela’n amddiffynnol yn erbyn y Saeson, sy’n dyrchafu Gwynedd fel y deyrnas gryfaf erbyn yr Wythfed Ganrif. Serch cadernid Gwynedd, mae hi’n anodd iawn uno Cymru yn ystod yr adeg yma oherwydd natur Cyfreithiau Cymru sy’n rhannu eiddo a theyrnasau rhwng yr holl feibion, yn hytrach na Chyfraith Lloegr ag etifedd yr eiddo fel arfer i’r mab hynaf. Golygir hyn fod cyfraith werinol a datganoledig yn fainteisiol i atal canoli o fewn Cymru, ond hefyd yn anfantais sy’n gwanhâu Cymru yn erbyn undod a rheolaeth fwy canolog Lloegr.

Gwynedd yn ehangu o dan deyrnasiad Rhodri Fawr (ffynhonell)
Mae’r Nawfed Ganrif yn dyfod Rhodri Fawr, brenin Gwynedd sydd hefyd yn dod i reoli Powys a Cheredigion. Mae ei ŵyr, Hywel Dda yn creu teyrnas Deheubarth ag yn safonoli Cyfreithiau Cymru, neu Cyfraith Hywel fel y’i adnabyddir, ag yn taro heddwch gyda Lloegr. Wedi marwolaeth Hywel yn 949, mae Gwynedd yn torri ffwrdd o’r teulu.

Mae Cymru bron yn unedig o dan deyrnasiad Hywel Dda (Ffynhonell)
Canol Oesoedd Hwyr (11fed i 15fed Ganrif)

Cymru’n unedig am wyth mlynedd dan deyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn (ffynhonell)
Yr unig frenin i uno Cymru’n llawn ydi Gruffudd ap Llywelyn, sydd hefyd yn trechu lluoedd ag ennill tir gan Loegr, ond am gyfnod o wyth mlynedd rhwng 1055 a 1063. Lladdir Llywelyn yn 1063 gan ei filwyr ei hun, ar ôl ei drechu gan Harold Godwinson, mae Cymru eto’n datganoli i deyrnasau cystadleuol, ar yr adeg gwaethaf bosib…

Dyfod y Normaniaid (ffynhonell)
Mae Cymru’n ddioddef gyda dyfod y Normaniaid yn 1066, ei choncro yn ei gwendid bron yn gyfangwbl, er gwrthryfela ysbeidiol Gollewin Cymru ag amddiffyniad Gwynedd a Deheubarth.


Ffiniau brâs Cymru yn y Fwyddyn 1217 (ffynhonell)
Mae Gwynedd eto’n codi mewn nerth yn y Drydedd Ganrif ar Ddeg, efo Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn Dywysog Gwynedd yn 1200, ag erbyn ei farwolaeth yn 1240 mae’n rheoli rhan fwyaf o Gymru.


Ffiniau Cymru wedi Cytundeb Trefaldwyn (ffynhonell)
Ar ôl cyfnod o ffraeo teuluol, coder Llywelyn ap Gruffudd, ŵyr Llywelyn Fawr yn Dywysog, ag arwyddir Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 efo Harri’r Trydydd o Loegr, yn anffodus sydd ddim yn para’n hir. Mae marwolaeth Harri a dyfodiad Edwart Y Cyntaf (Goeshir) yn diweddu efo Llywelyn Ein Llyw Olaf yn cael ei ddenu i gyfarfod efo Lloegr, a Thywysog olaf Cymru’n cael ei ladd yng Nghilmeri yn 1282.

Y Cylch Haearn o naw castell adeiladwyd gan Edwart y Cyntaf i orchfygu Gwynedd (ffynhonell)
Edwart y Cyntaf sy’n diweddu annibyniaeth Cymru a chadarnle Gwynedd, ag adeiladu rhwydwaith o gestyll dros Ogledd Cymru i gadw rheolaeth. Mae hefyd yn arwyddo Statud Rhuddlan yn 1284, sy’n cyfyngu ar Gyfraith Hywel ag yn newid cyfansoddiadol wrth uno Tywysogaeth Cymru at Frenhiniaeth Lloegr. Mae’r Goeshir yn coroni concro Cymru drwy wneud ei fab yn Dywysog Cymru, a fyth ers 1301 mae mab hynaf Brenin Lloegr wedi cael ei arwisgo’n Dywysog Cymru.


Ffiniau Cymru yn dilyn Statud Rhuddlan 1284 (ffynhonell)
Er fod llinach Tywysogion Gwynedd yn dod i ben efo llofruddiaeth Owain Lawgoch yn 1378 gan Loegr, mae uchelwr o’r enw Owain Glyndŵr yn codi ag yn trechu’r Saeson mewn ambell i frwydr, ag am gyfnod byr yn rheoli y rhan fwyaf o Gymru, efo cefnogaeth rhan fwyaf o’r Cymry. Mae Owain yn sefydlu y Cynulliad cyntaf ym Machynlleth, ag yn cynllunio ar gyfer ddwy Brifysgol. Serch hyn, mae’r Saeson yn ail sefydlu rheolaeth ag yn y diwedd mae Owain yn diflannu.

Ymgyrch “Y Mab Darogan” yn erbyn Coron Lloegr am bymtheng mlynedd (ffynhonell)
Gyda dechrau ymgyrch Glyndŵr mae Senedd Lloegr yn pasio’r Deddfau Penyd yn 1402, sy’n gwahardd Cymry rhag cadw arfau, dal swyddi cyhoeddus, a byw mewn trefi arfog, er bod y cyfreithiau’n cael eu ymlacio dros amser.
Mae Cymru’n chwarae rhan amlwg yn Rhyfel y Rhosod, rhwng Swyddi Efrog a Chaerhirfryn mewn brwydr ddeng mlynedd ar hugain dros Goron Lloegr, sy’n dechrau’n 1455.

Siwrnau Harri’r Seithfed o Sir Benfro i Goron Lloegr, 1485 (ffynhonell)
Yn 1485, mae Harri Tudur, o drâs Cymreig ag yn olrhain ei achau gan Dywysogion megis Rhys ap Gruffydd, yn glanio byddin yn Sir Benfro i frwydro am goron Lloegr, efo llawer o gefnogaeth o fewn Cymru. Mae byddin Harri’n trechu lluoedd Rhisiart y Trydydd ym Mrwydr Bosworth yn 1485 sy’n cynnwys llawer o filwyr Cymreig, ag yn ôl llygad dystion y frwydr yn Guto’r Glyn a Thudur Aled, Rhys ap Thomas laddodd Rhisiart. Mae buddugoliaeth y Tuduriaid yn dyrchafu Harri yn Frenin Lloegr, fel Harri’r Seithfed.
Y Diwygiad Protestannaidd

Mil o flynyddoedd o ddiwylliant mynachol a Phabyddol Cymru a Lloegr, yn cael ei ysbeilio gan un gwallgofddyn (ffynhonell)
Cyrhaeddir Harri’r Wythfed, fel drafodwyd eisioes ym Mhennod 6 o’r Podlediad Arian Cymreig, y Brenin sy’n dinistrio y mileniwm diwethaf o hanes Lloegr a Chymru fel gwledydd Pabyddol, a chanolbwynt y Diwygiad Protestannaidd ym Mhrydain. Mae ei ysgariad er mwyn geni mab yn arwain iddo greu ei Eglwys ei hun, Eglwys Lloegr ag Anglicaniaeth, drwy ddwyn a dinistrio eglwysi, allorion seintiau a diddymu mynachlogydd “Yr Hen Grefydd” dros Loegr a Chymru. Fel y Brenin cyntaf i arfogi grymoedd Seneddol, a thrwy Fandaliaeth Brif Weinidogaeth Thomas Cromwell, daw traddodiad y mynachod i ben rhwng 1536 a 1541. Harri ydi Brenin cyntaf Lloegr i oresgyn Iwerddon a dechrau hanes Lloegr i danseilio’r Iwerddon Babyddol, wedi Deddf Coron Iwerddon yn 1542.
Yn bwysicach ar gyfer Cymru, Harri sy’n Uno Cymru efo Lloegr yn llawn, drwy Ddeddfau Uno 1535 a 1542 sy’n lladd beth sy’n weddill o Gyfraith Hywel a’r Gyfraith Geltaidd, a rhoi Cymru dan Gyfraith Lloegr. Mae Cymraeg yn cael ei gwahardd fel iaith mewn unriw rôl neu statws swyddogol, ag am y tro cyntaf mae’r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei gwneud yn swyddogol, wrth i drefn Sirol Seisnig ymestyn dros Gymru, ond sydd hefyd am y tro cyntaf yn rhoi cynrhychioliad ag Aelodau Seneddol o Gymru yn Senedd Lloegr a San Steffan.

Trefn newydd Sirol Cymru yn dilyn y Deddfau Uno. Un Aelod Seneddol i bob Sir (ffynhonell)
Yn dilyn fandaliaeth Harri’r Wythfed, mae Cymru’n troedio llwybr Lloegr fewn i Brotestaniaeth ag Anglicaniaeth, gan fwyaf drwy Feibl William Morgan â’r cyfieithiad llawn cyntaf yn 1588. Mae’r Beibl yn safonoli’r iaith Gymraeg â thafodieithau’r Gogledd a’r De, ag mae defnydd y beibl yn cadw’r Gymraeg yn fyw ar lafar ag fel iaith grefyddol, yn erbyn gormes Lloegr a’r iaith Saesneg.

Beibl Wiliam Morgan a’r prif reswm mae’r Gymraeg yn dal yn fyw heddiw (ffynhonell)
Rhyfel Cartref – Y Senedd yn erbyn y Frenhiniaeth
Mae Cymru gan fwyaf yn cefnogi y Frenhiniaeth yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas (Lloegr, Iwerddon a’r Alban) rhwng 1639 a 1651 yn erbyn y Senedd, a mae nifer o filwyr Cymreig yn brwydro ym myddin Siarl y Cyntaf. Wedi gorchfygu yn y Rhyfel Cartref, mae’r Senedd yn torri pen Siarl ymaith yn gyhoeddus yn 1649 a mae Lloegr (a Chymru’n) dechrau fel Gwerinlywodraeth neu Gymanwlad. Mae hanes Oliver Cromwell a’r Pennau Crwn yn enwedig o waedlyd ar gyfer Prydain a’r Iwerddon, wrth erlid Pabyddion a chefnogwyr y Frenhiniaeth.

Cymru yn frenhinol ar y cyfan er trâs Cymreig Cromwell, a chefnogwyr megis ei frawd yng nghyfraith John Jones, Maesygarnedd Aelod Seneddol dros Feirionnydd ag un o 59 llofnod ar warant marwolaeth Siarl Y Cyntaf, a’r llenor Morgan Llwyd (ffynhonell)
Daw Adferiad i’r Frenhiniaeth yn 1660 wedi marwolaeth Cromwell, ond mae tensiynnau yn parhau rhwng Brenhinoedd y Sdiwartiaid a’r Senedd, sy’n diweddu yn 1688 efo’r Chwyldro Gogoneddus, gwaredu Brenin Pabyddol Iago’r Ail, a choroni William y Trydydd Oren o’r Iseldiroedd, efo cefnogaeth Seneddol. Mae Pabyddion yn cael eu gwahardd o’r Goron yn sgîl Deddf Setlo 1701 a mae Protestaniaeth yn cymeryd drosodd Prydain unwaith ag am byth.
Y Bunt, Y Banc yn Lloegr, a’r Undeb
Mae Pennod 5 o’r Podlediad Arian Cymraeg yn ymdrin gyda Safon hanesyddol y Bunt, Swllt a Cheiniog, sefydlwyd gan Pepin Fychan (a thâd Siarlymaen) yn 755 gyntaf yn Ffrainc, cyn lledaenu drwy weddill Ewrop ag i Brydain, yn seiliedig ar arian. Mae’r Bunt felly wedi bod yn arian Prydain ers canrifoedd lawer cyn dyfodiad y Banc yn Lloegr, gyda chyhoeddi arian wedi datganoli rhwng nifer o fathdai a thrysorlysau gwahanol.

Safon ariannol Prydain cyn 1971 – Punnoedd, sylltau a cheiniogau. 12 ceiniog i bob swllt, 20 swllt a 240 ceiniog i bob punt. Daeth gwerthoedd uwch na Phunt yn arian papur gyda datblygiad bancio (ffynhonell)
Dim ond chwe mlynedd wedi’r Chwyldro Gogoneddus sefydlir y Banc yn Lloegr yn 1694, ar gyfer ariannu rhyfeloedd yr Ymerodraeth Brydeinig wrth gystadlu efo Ymerodraethau yr Iseldiroedd a Ffrainc yn ystod y Ddeunawfed Ganrif, gyda’r banc yn dechrau drwy ariannu gweithiau haearn ag amaeth a llywio’r economi tuag at ryfel a chanoli.

Siartar cyntaf Banc Lloegr a chanoli andwyol Prydain drwy’r Bunt Brydeinig (ffynhonell)
Un o brosiectau cynharaf y Banc yn Lloegr ydi ariannu’r Deddfau Uno rhwng Lloegr a’r Alban yn 1707, sy’n creu Undeb Drethi ag Ariannol drwy’r Bunt Brydeinig. Mewn effaith, mae Lloegr yn llwgwrwobrwyo Uchelwyr a Gwleidyddion yr Alban i greu’r Undeb wedi canrifoedd o ryfela gan yr Alban dros ei hannibyniaeth, am y prif reswm fod Llywodraeth yr Alban wedi ceisio sefydlu Gwladfa newydd o dan y Darien Scheme yn Caledonia Newydd (Panama heddiw), oedd wedi methu’n llwyr ag yn bygwth yr Alban gyda methdal, yn eu gorfodi fewn i’r Undeb a Theyrnas Prydain Fawr.
Yn yr hanner Canrif cyntaf mae’r banc yn gweithio ar ran llywodraeth Prydain, yn bennaf drwy ariannu’r Llynges Frenhinol er mwyn goruchwylio’r moroedd rhwng Prydain a’i Hymerodraeth dramor, yn yr Amerig yn bennaf, ond yn ddiweddarach India, Hong Cong a Tseina, y Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol ag Affrica. Ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Fanc Lloegr dros gyfundrefn ariannol a gweddill banciau Prydain, sydd wedi datganoli yn lleol dros Brydain.
Ond dros y Ddeunawfed Ganrif mae’r dylanwad yn cryfhau a chyfundrefn ariannol yn araf ganoli, nes erbyn y Siartar Adnewyddu yn 1781, mae Banc Lloegr wedi dyfod yn “Fanc y Bancar”, wrth i weddill banciau Prydain ei ddefnyddio ar gyfer setlo masnach, gyda nodiadau papur y Banc Lloegr yn medru cael eu cyfnewid am aur, o dan Safon Aur ddyfeiswyd gan Isaac Newton yn 1717, sydd wedi disodli yr hen Safon Arian erbyn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
Y Ddeddf Rwystredigaeth Fancio 1797

Y cartŵnydd dychanol James Gillray yn gwatwar Senedd Prydain dan Brif Weinidogaeth William Pitt yr Ieuengaf yn troi at wâsg argraffu cyfred papur i ariannu rhyfeloedd truenus yr Ymerodraeth (ffynhonell)
Mae Prydain wedi gorchfygu Ymerodraeth yr Iseldiroedd erbyn 1800, yn gadael Ffrainc fel y gelyn mwyaf bygythiol. Mae’r Chwyldro Ffrengig gwaedlyd rhwng 1789 a 1799 sy’n troi Ffrainc ben i waered yn poeni Prydain, ag yn 1793 mae Senedd Pitt yn datgan rhyfel ar Ffrainc. I ariannu Byddin a Llynges Prydain ar gyfer rhyfeloedd Ffrainc, penderfynwyd argraffu gormoded o nodiadau papur y Banc yn Lloegr heb yr aur yn y Trysorlys i’w cefnu.
Mae’r twyll bancio ffracsiynnol yn arwain at rediadau banc yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr yn hwyr yn 1796, a mae’r sefyllfa yn gwaethygu wedi newyddion fod milwyr Ffrainc wedi glanio yn Sir Benfro, ar gyfer Brwydr Abergwaun yn Chwefror 1797.

Hanes Jemima Niclas yn hela milwyr Ffrainc efo’i phicfforch ym Mrodwaith Abergwaun, a’r tro diwethaf i lynges estron oresgyn Ynys Prydain (ffynhonell)
Mae Senedd Llundain yn brawychu wedi’r rhediadau banc, ag i atal y Banc Lloegr rhag mynd yn fethdalwr, mae’r Ddeddf Rwystredigo 1797 yn gorfodi Prydain oddi ar Safon Aur fewnwladol i argraffu Rhyfeoledd Napoleon (1803-1815) a’r chwyddiant enbyd mae Prydain yn ei ddioddef er mwyn trechu Ffrainc, a datblygu’n Ymerodraeth fwyaf y byd dros y Bedwaredd Ganrif Ar Bymtheg.

Cartŵn arall gan James Gillray yn dychan disgyniad Hen Ddynes Stryd Threadneedle o foneddiges i hwren ben clawdd, ar ôl cael ei swyno a’i threisio gan y Senedd a William Pitt yr Ieuengaf. Daw llysenw hanesyddol y Banc yn Lloegr, “The Old Lady of Threadneedle Street” yn uniongyrchol o’r arlunwaith hwn (ffynhonell)
Mae fandaliaeth William Pitt o Safonau Ariannol Prydain ynghŷd a chyflwyno y Dreth Incwm yn 1799, yn tynnu Prydain oddi ar aur am gyfnod o 24 mlynedd nes y 1af o Fai 1821, sy’n creu newidiadau anferthol drwy Brydain yn y genhedlaeth yma, o dŵf poblogaeth anferthol Lloegr, i’r chwyldro egni, y chwyldro diwydiannol, a’r chwyldro amaethyddol. Mae torri’r Safon Aur a’r gadwyn ar arian prin yn batrwm sy’n ailadrodd drwy hanes, ag er hwn oedd y tro cynta i Brydain fyned oddi ar Safon Aur, fyddai ddim y tro olaf…
Y Chwyldro Diwydiannol

Mae yna ychydig o ddadlau dros dyddiadau “swyddogol” y Chwyldro Diwydiannol, ond yn frâs rydym yn edrych ar y Ganrif rhwng 1750 ag 1850, ychydig dros hanner Canrif wedi sefydlu’r Banc yn Lloegr. Mae injian stêm James Watt yn gam pwysig yn natblygiad y Chwyldro yn y Flwyddyn 1776, yr un flwyddyn a Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a Gwrthryfel yr Un Deg Tri Gwladfa rhwng 1775 ag 1783 yn erbyn Senedd ag Ymerodraeth Prydain.

Glo, haearn, stêm a benthyciadau banc sy’n galluogi tŵf y peiriannau (ffynhonell)
Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn cael ei greu allan o Lundain a’r Banc yn Lloegr, oherwydd ei ganolbwynt a’i gysylltiad efo gweddill banciau Prydain, yn cyflymu’n enbyd wedi torri’r Safon Aur yn 1797, ag yn ffrwydro gan fwyaf tu allan i Lundain a De Lloegr, ag ar ymylon Prydain, yn enwedig Canoldir a Gogledd Lloegr, De’r Alban, a De Cymru.

Y Chwyldro Egnïol – geoleg a meysydd glo Ynysoedd Prydein (ffynhonell)
Mae’r chwyldro hefyd yn un egnïol, efo darganfyddiadau geolegol a sefydlu meysydd a phyllau glo Lloegr a Gogledd Ddwyrain a De Cymru, ag yn ddiwydiannol gyda dablygiad gweithiau haearn a dur dros Loegr, Alban, a De Cymru. Mae’r chwyldro’n hefyd yn un amaethyddol dros Brydain, sy’n ymyrryd efo economi traddodiadol lafur yng nghefn gwlad, wrth i’r peiriannau greu diweithdra a gyrru llifoedd poblogaeth o’r wlad i ffurfio trefi diwydiannol newydd. Yn fyr, mae periannu a peiriannau yn ffrwydro drwy economi Prydain, ag yn cyd-ddigwydd efo tŵf anferthol poblogaeth Lloegr a’r Chwyldro Llafur plant o 1800.

Ar ôl codi ar gyfartaledd o filiwn o bobol bob canrif rhwng 1100 a 1800, mae poblogaeth Lloegr yn ffrwydro o 8.3 miliwn yn Ngyfrifiad 1801 i 30 miliwn erbyn Cyfrifiad 1901 (ffynhonell)
Mae tŵf poblogaeth a pheiriannau yn diddymu swyddi llafur a chreu diweithdra anferthol yng nghefn gwlad Lloegr yn enwedig, ag felly’n gorfodi tŵf trefi a dinasoedd diwydiannol Prydain, a ffatrïoedd i gynyddu cynhyrchedd y Wlad, ynghŷd a’r chwyldro mewn genedigaeth ar gyfer llafur plant i gadw safonau byw teuluol, oherwydd dibrisio gwerth y Bunt a thlodi enbyd. Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn arddangos holl symptomau chwyddiant, gynta yn y llif arian a cholled mewn pŵer prynnu, sy’n gorfodi chwyddiant maint teuluoedd, y boblogaeth, a’r galw am fwy o egni, diwydiant a pheiriannau.
Mae De Cymru’n enwedig yn chwarae rhan bwysig yn y Chwyldro Diwydiannol, yn y diwydiannau glo a haearn. Ar ôl dyfeisiad injian stêm James Watt, mae Richard Trevithick yn datblygu’r trenau a’r rheilffyrdd cynharaf ar gyfer pyllau glo a gweithiau haearn, ddwy ddegawd cyn rheilffyrdd a threnau cyhoeddus, y cofnod hanesyddol cyntaf o drên stêm ar reilffordd ydi Chwefror 1804, o weithiau haearn Penydarren ger Merthyr Tudfil lawr i Abercynon.

Loco Penydarren – trên stêm hynaf y byd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru (ffynhonell)
Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn effeithio’n anferthol ar strwythurau pŵer o fewn Cymru, ymaith o’r Gogledd a chadarnle hanesyddol Gwynedd, lawr i Gymoedd y De, a dinasoedd Abertawe, Caerdydd a Châsnewydd. Mae poblogaeth De Cymru’n tyfu’n anferthol o’i gymharu efo’r Gogledd, sy’n gwneud y De’n fwy pŵerus o fewn Cymru, a llîf poblogaeth o Loegr a’r tu allan yn chwyddo poblogaeth y cymoedd a dinasoedd De Cymru wrth ddinistrio poblogaethau cynhenid Cymreig. Er ystadegau, mae poblogaeth De Cymru’n dyblu o hanner miliwn yn 1801, i dros filiwn erbyn 1851, a dyblu eto i 2,400,000 erbyn 1911.

Mae Rheilffyrdd Cyhoeddus yn ffrwydro yng nghanol Pedwardegau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, y gan fwyaf ohewydd y Banc yn Lloegr yn gollwng cyfraddau llog, a channoedd o Ddeddfau Seneddol a Gwleidyddion barus yn bwydo’r Gorffwyll Rheilffyrdd (ffynhonell)
Mae hanner cyntaf y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yn cyd-ddigwydd efo hanner canrif olaf y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain, sy’n cynnwys trenau, lledaeniad y rheilffyrdd sy’n gneud trafeilio ag ymfudo yn gyflym a fforddiadwy ag yn agor Prydain i gyd i fyny, yn tanseilio datganoli ag amrywiaeth ddiwylliannol, wrth i Lundain a Gwleidyddiaeth San Steffan gymeryd mwy o reolaeth dros is-adeiledd gweddill Prydain. Mae diwydiant hefyd yn gwneud Abertawe a Chaerdydd fel dinasoedd porthladd yr Ymerodraeth yn gyfoethog a phŵerus iawn. Mae diwydiant hefyd o’i natur yn canoli, yn berchen gan fwyaf mewn dwylo Seising, sy’n arwain at wrthryfel y Cymry yn ysbeidiol. Mae’r Gwrthryfel ym Merthyr yn 1831 oherwydd cyflogau isel a diweithdra yn sgîl dirwasgiad yn arwain at gadw reiat yn erbyn y meistr haearn William Crawshay, galw’r Fyddin Brydeinig i gadw trefn, a chrogi Dic Penderyn ag alltud Lewsyn yr Heliwr i Awstralia. Bydd codiad Undebau Llafur a Sosialaeth yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol Cymru, gyda Kier Hardie yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf erioed Y Blaid Lafur, yn Merthyr Tudfil yn 1900.

Y Faner Goch a ddaw yn symbol o Sosialaeth a Chwyldroadau llafur, yn cael ei chwifio am y tro cyntaf yn Merthyr Tudfil yn 1831 (ffynhonell)
O dan Brif Weinidogaeth Robert Peel, mae gafael Llundain dros yr Undeb a Phrydain drwy’r Bunt hefyd yn cryfhau. Yn 1844 mae’r Ddeddf Siartar Banc yn gwneud prês papur y Banc yn Lloegr yn arian cyfreithiol, ag yn gwahardd unrhyw fanc arall rhag creu eu arian papur eu hunain. Er bod y Banc Lloegr dal yn sefydliad efo cyfranddalwyr preifat, mae ei arian yn cael ei genedlaetholi dros Brydain, gan Senedd Llundain.

Llywodraeth Geidwadol yn troi cefn ar Fercantiliaeth ag yn troedio’r llwybr Rhyddfrydol at Fasnach Rydd (ffynhonell)
Yn ogystal, yn 1846 mae llywodraeth Geidwadol yn diddymu’r Deddfau Ŷd sy’n hollti’r Blaid a gorfodi ymddiswyddiad Peel, er mwyn masnachu’n rhydd a hybu llîf ariannol y Bunt Brydeinig i weddill y byd erbyn diwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, tra’n tanseilio’r hir dymor drwy redeg colledion masnachol efo’i ddau gystadleuwr rhyngwladol mwyaf, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
Yn wir, yn 1850 mae economi Prydain yn ddwbwl maint yr Unol Daleithiau, ond erbyn 1900 mae economi Prydain yn hanner maint America, ag yr un maint ag economi yr Almaen, oedd o dan arweiniaeth Otto von Bismarck, wedi mabwysiadu Mercantiliaeth, a’r Drefn Americanaidd o drethu mewnforion. Sgîl effeithiau hanner canrif o fasnach rhydd oedd adeiladu grymoedd economaidd y ddwy brif wlad fydd yn diweddu Prydain fel Gwlad ag Ymerodraeth fwyaf bŵerus y byd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yn gweld allforio Chwyldro Diwydiannol, Ymerodraethau a Bancio Canolog i weddill gwledydd Ewrop, a’r Unol Daleithiau (ffynhonell)
Yr Ugeinfed Ganrif
Efo tyfiant Ymerodraeth yr Almaen erbyn dechrau’r Ugeinfed Ganrif i’r un maint a Phrydain, maent wedi dyfod yn fygythiad. Mi fyddai’r Almaen yn debygol wedi trechu Ffrainc a Rwsia mewn rhyfel cyfandirol wrth ehangu yr Ymerodraeth ychydig yn bellach i’r Gorllewin a’r Dwyrain, ond mae Prydain fel Ymerodraeth fwya’r byd yn creu’r Rhyfel Byd Cyntaf wrth ymuno gyda’r Cynghreiriaid i atal tyfiant pellach yr Almaen.
Mae Ewrop gyfan a Phrydain yn dod oddi ar y Safon Aur, sy’n estynnu cyfnod y rhyfel o chwe mis a rhyfel milwrol, i ryfel pedair blynedd erchyll sy’n chwalu Teuluoedd Brenhinol Ewrop, yn chwalu dyfodol Prydain fel Ymerodraeth gryfaf y byd, ag yn sefydlu ei dibyniaeth ar yr Unol Daleithiau i ennill rhyfeloedd, a dechrau’r broses o drawsnewid “heddwas y byd” o Brydain i America.

Lladdwyd oddeutu 35,000 o ddynion Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf (ffynhonell)
Mae tystiolaeth dinistr y Rhyfel Mawr i weld ymhôb mynwent ymhôb pentref, trêf, a dinas drwy Brydain ag Ewrop, genoseid cenhedlaeth o ddynion gorau’r Gorllewin, plymio cenhedlaeth o deuluoedd fewn i alar a thlodi, y rhyfel diwydiannol cyntaf, a dinistrio economi gyfan drwy chwyddiant a phrinderau. Diolch i lanast Winston Churchill a Lloyd George, am dynnu Prydain fewn i’r rhyfel sy’n dinistrio dyfodol y Wlad.
Mae’r cyfnod rhwng y Rhyfeloedd yn amseroedd caled i Gymru ar ôl colli gymaint o ddynion ifanc yn y rhyfel, ac ym mhôb pentref, wrth i dlodi eto gynyddu dros y cyfnod. Mae’r Blaid Lafur yn gwaredu’r Rhyddfrydwyr o Gymoedd Diwydiannol De Cymru, wrth i Sosialaeth ag Undebau Llafur gydio, ag yn hollbwysig i dŵf y Blaid Lafur a’r Cenedlaetholi fydd yn rhoi diwydiannau Cymru a Phrydain yn nwylo Llywodraeth Prydain yn fuan iawn.

Yn ogystal a cholli oddeutu 15,000 o Gymry, daw’r Ail Ryfel Byd adref drwy gyrchoedd bomio awyrlu’r Almaen yn targedu isadeiledd Prydeinig, yn enwedig dinasoedd porthladd Abertawe a Chaerdydd (ffynhonell)
Mae’r Ail Ryfel Byd yn dinistrio poblogaeth a gwledydd Prydain, Ewrop a Rwsia am yr eilwaith mewn chwarter canrif, ag yn gadael Prydain mewn effaith yn fethdalwr, wrth i’r Bunt a Banc Lloegr golli ei statws fel arianwr y byd i’r Unol Daleithiau a’r Federal Reserve. Mae America hefyd yn sefydlu’r Safon Aur Gyfnewidiol hefyd adwaenir fel y Safon Goed Brython, gan gadwyno’r Doler i bris aur ar $35 yr owns, a’r Bunt yn cyfnewid yn ei herbyn. I ail-adeiladu gwledydd Prydain ag Ewrop yn dilyn dinistr y rhyfel, mae America hefyd yn ariannu’r Cynllun Marshall, wrth i Brydain dderbyn benthyciad o £5 Biliwn, 26% o’r cyfanswm.

Mae’r Bunt yn cael ei dibrisio i 4 Doler yn dilyn Cytundeb Bretton Woods, sy’n golygu fod owns o aur ym Mhrydain yn £8.75 yn dilyn y Rhyfel. Er cymhariaeth ag i ddangos chwyddiant y Bunt dros yr wyth degawd diwethaf, mae owns o aur heddiw’n dros £1600! (ffynhonell)
Wedi’r Rhyfel – Cysgod y Cryman
Ar ôl helpu rhoi Dwyrain Ewrop yn nwylo Stalin, yn 1946 mae Comiwnyddiaeth yn dyfod adref i Brydain, dan Blaid Lafur Clement Attlee yn dilyn chwalfa Churchill a’r Blaid Geidwadol yn Etholiad 1945, mae is-adeiledd ag economi Prydain yn cael ei genedlaetholi.

Cartŵn dychanol o 1935 yn portreadu Clement Attlee yn cynnig pas i Hen Wreigan Stryd Threadneedle, ar ei ffordd i’w dienyddio. Unarddeg mlynedd yn ddiweddarach caiff ei wireddu (ffynhonell)
Y pwysicaf o’r Cenedlaetholi ar gyfer ariannu Comiwnyddiaeth ydi’r Banc yn Lloegr ei hun, yn 1946. Ar ôl bodoli fel Banc efo cyfranddalwyr preifat am 252 mlynedd, dwy flynedd wedi Bretton Woods a cholli rhagorfraint cyfundrefn ariannol y byd i’r Unol Daleithiau, mae’r Banc yn awr yn berchen i Senedd San Steffan.
Yn dilyn, mae Cenedlaetholi y Wlad:
Yn 1946 mae’r Diwydiant glo yn cael ei genedlaetholi efo’r Ddeddf Cenedlaetholi Diwydiant Glo.
Yn 1946 mae iechyd yn cael ei genedlaetholi efo’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Ddeddf Yswiriant Gwladol, sy’n ehangu’r Wladwriaeth Lês dan Weinidogaeth Aneurin Bifan.
Yn 1947 o dan y Ddeddf Trefi Newydd a’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref mae’r Llywodraeth yn dechrau adeiladu Tai Cyngor ymhob pentref, ag yn cynllunio trefi newydd i leddfu gorboblogi dinasoedd megis Llundain a Glasgow, a chreu niferoedd o broblemau cymdeithasol ar yr ystadau yma, yn amal heb swyddi gerllaw, sy’n gorfodi pobol ar y clwt, ag at dlodi sy’n gyrru troseddu.
Yn 1947 mae’r Ddeddf Drafnidiaeth yn cenedlaetholi y priffyrdd, y rheilffyrdd, y camlesi, porthladdoedd llongau, cwmnioedd bysus, a’r lorïau!
Yn 1947 mae’r Ddeddf Drydan yn cenedlaetholi’r Grid Trydanol, ynghŷd a Cable and Wireless (Telegraff a Teleffôn).
Yn 1948 mae’r Ddeddf Nwy yn cenedlaetholi y Diwydiant Nwy.
Yn 1949 mae’r Ddeddf Haearn a Dur yn cenedlaetholi y Diwydiannau Haearn a Dur.

Cartŵn arall dychanol o’r llanast hawdd ei ddarogan wrth i’r Llywodraeth gymeryd rheolaeth o isadeiledd Prydain drwy fangl San Steffan (ffynhonell)
Mewn effaith mae’r Blaid Lafur a Llywodraeth Prydain yn dod yn berchennog ar ddiwydiant De Cymru, ac felly mae De Cymru’n dyfod yn wystl Senedd Llundain a’i Gwleidyddion anwadal am ddyfodol eu economi a’u ffordd o fyw.
Y tu allan i’r ardaloedd diwydiannol, drwy ryw drugaredd mae’r Diwydiant Amaeth yn dianc Cenedlaetholi llawn ag ailadrodd newynnau Gwledydd Comiwnyddol eraill megis Rwsia a Tseina, ond hyd yn oed yng Nghefn Gwlad Cymru mae cysgod Comiwnyddiaeth a Chynllunio Canolog yn bygwth yr hen ffordd Gymreig o fyw, wedi ei bortreadu yn drawiadol gan Islwyn Ffowc Elis yn ei nofel Cysgod y Cryman sy’n cael ei gyhoeddi’n 1953, a gafodd ei ethol yn Llyfr y Ganrif yn 1999.

Llyfr y Ganrif – y Cryman wrth gwrs ydi Comiwnyddiaerh
Mae cenedlaetholdeb Cymreig yn magu wedi’r Rhyfel, ag er fod Plaid Cymru wedi ei sefydlu ers 1925, yn 1966 mae nhw’n ennill eu sedd gyntaf yn Senedd Llundain. Yn 1967 mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gyfundrefn gyfrethiol o fewn Gymru, oedd wedi bod yng anghyfreithlon ers canrifoedd.
Y Saithdegau Chwyddiannol – Diddymu’r Safon Aur

Yr Unol Daleithiau yn methdalu ar gyfnewid aur efo gweddill gwledydd y byd – mae’r gadwyn ar chwyddiant yn torri
Yn 1971 mae Richard Nixon yn diddymu’r Safon Aur Ryngwladol, sy’n rhoi’r byd ar y Safon Arian Bapur, wrth i’r gadwyn ar chwyddiant gael ei thorri sy’n gyrru chwyddiant a chostau byw i’r entrychion yn y Saithdegau.

Prif Bensaer llusgo Prydain fewn i Undeb fwy a chanolog – Edward Heath a’r Blaid Geidwadol (ffynhonell)
Mae 1973 yn flwyddyn bwysig, wrth i’r Blaid Dorïaidd swyno Prydain fewn i’r Gymuned Ewropeaidd, fel gelwid yr Undeb Ewropeaidd bryd hynny, ag mewn adeg pan y Torïaid oedd yr Blaid Ewropeaidd a’r Blaid Lafur oedd yr Ewrosgeptigs, yn poeni am ddyfodol Undebau Llafur a diwydiant Prydeinig wrth ymuno efo Ewrop, a’r llîf o lafur a chynnyrch rhad o’r Cyfandir fyddai’n tanseilio’r Undebau, diwydiannau cynhenid, ag etholaeth naturiol y Blaid Lafur. Mae’r hanner can mlynedd diwethaf wedi cadarnhau pryderon Llafur am Undeb Prydain efo Ewrop, a mae’r Colledion Masnachol o dros wythdeg biliwn y flwyddyn rydym yn rhedeg efo Ewrop (yn enwedig yr Almaen) wedi cymorth tanseilio economi diwydiannol Prydain ers y Saithdegau.

Yr Wythnosau Tri Niwrnod sy’n para tri mis yn nechrau 1974, ag yn diweddu gyrfa wleidyddol Ted Heath, daw Llafur i rym yn Etholiadau Chwefror a Hydref 1974 (ffynhonell)
Mae chwyddiant enbyd y Bunt yn nechrau’r Saithdegau’n yn gyrru streiciau diwydiannol cenedlaethol Prydain i godi cyflogau gweithwyr a theuluoedd, yn enwedig Sdreic y Glöwyr a’r Rheilffyrdd yn 1974, sy’n gorfodi’r Torïaid fewn i’r Wythnosau Dri Diwrnod ar gwmnïau a diwydiannau i arbed trydan rhwng Ionawr a Mawrth, sydd hefyd yn diweddu’r Torïaid yn etholiad 1974, wrth i Lafur ddyfod yn ôl i rym.

Creisus y Bunt yn 1976 yn gorfodi Prydain i fethdalu ar ei dyledion a mynd ar ofyn y Gronfa Ariannol Ryngwladol (International Monetary Fund – IMF) (ffynhonell)
Yn 1976 mae Prydain a Llywodraeth Lafur Callaghan yn methdalu ar fenthyciadau ag yn gorfod gofyn am bêlowt gan yr IMF, pennod ddarostyngol iawn i Wlad oedd wedi rhedeg y byd ychydig o ddegawdau ynghynt. Mae’n cael ei adnabod fel y Creisus Sterling, ag mae’r benthyciad o 4 biliwn, y mwya yn hanes yr IMF hyd hynny, i drio cefnogi gwerth gyfnewid y Bunt efo chwyddiant o dros ddeg y cant y flwyddyn, yn atseinio’r ddwy flynedd ddiwethaf yr ydym newydd ei ddioddef ers creisus Cofid.

Streicio gan Undebau yn golygu nad oedd sbwriel yn cael ei hel dros drefi a dinasoedd Prydain yng Ngaeaf 1978 (ffynhonell)
Mae Gaeaf 1978 yn cael ei gofio fel y Gaeaf Anfodlon, efo streicio Undebau Llafur yn plygu’r Wlad a’r Blaid Lafur i’w gliniau, ag yn palu’r ardd ar gyfer blodeuo Margaret Thatcher a’r Wythdegau Torïaidd. Mae sdreicio y dynion sbwriel yn mygu trefi a dinasoedd Prydain mewn budreddi, ag wrth i sdreiciau ymysg undeb y tyllwyr beddi atal claddu’r meirw. Mae tri degawd o isadeiledd canolog ag undebau llafur ymhob diwydiant mawr yn dod a’r Wlad i derfyn wrth orchymyn codiadau cyflog, i gyd oherwydd chwyddiant y Bunt Brydeinig, yn dod yn agos i ddinistrio Prydain.

Thatcher yn Brif Weinidog wedi Etholiad 1979 (ffynhonell)
Ym mlwyddyn olaf y Saithdegau cythryblus mae Thatcher a’r Toriaid yn codi i rym fydd yn chwalu diwydiant ag economi De Cymru yn ystod yr Wythdegau, mae anterth grym diwydiant Cymru a’r Undebau Llafur dros ddiwydiannau Prydain yn diweddu efo chwalfa y Blaid Lafur wedi Etholiad 1979.

Y canran yn erbyn Refferendwm Datganoli i Gymru – hyd yn oed yng Nghorllewin Cymru roedd dau draean wedi pleidleisio Na! (ffynhonell)
Yn ogystal, ar y 1af o Fawrth (Dydd Gwyl Dewi) 1979 mae Cymru’n derbyn refferendwm ar ddatganoli a Chynulliad, a phrawf yn yr Alban a Chymru i fesur cryfder yr Undeb, ag unrhyw gryfder mewn hunaniaeth Gymreig. Mae 80% o Gymru’n pleidleisio yn erbyn y referendwm a dim ond 20% o blaid, sy’n cau pen y mwdwl ar unryw ddatganoli am yr ugain mlynedd nesaf.
Yr Wythdegau – Preifateiddio

Steic y Glöwyr 1984-5 yn erbyn cau pyllau De Cymru, ac ardaloedd glo eraill Prydain. Cafodd diwydiant glo Prydain ei breifateiddio a’i roi allan o fusnes bron dros nos (ffynhonell)
Mae’r Wythdegau yn un o ddegawdau mwya dinistriol a thrist yn hanes Cymru, ag yn tynnu llawer o’r grym a’r dylanwad oedd gan Gymru, yn enwedig llafur gweithwyr Cymru dros weddill yr Undeb, ag mae rhan fwyaf o hyn lawr i un ddynes, Magi Thatcher. Ond cyn ei llusgo allan o’r bedd i’w edliw, mae angen ei thrafod yng nghyd-destun y camgymeriad cynt o genedlaetholi holl ddiwydiannau egni a diwydiant trwm Prydain.
Fel rydym eisioes wedi sôn, mae dechrau dinistr yr Wythdegau yn y Pedwardegau, a chenedlaetholi y diwydiannau glo, nwy, niwclear, trydan, trafnidiaeth, a dur. Mae Cynllunio Canolog a gweithio tu allan i unrhyw farchnad gystadleuol yn ddibynnol ar elw a cholledion, yn dioddef o’r “Problem Gyfrifo Sosialaidd“, oherwydd nad ydi’r llywodraeth yn gorfod rhedeg ar elw, mae’n amhosib gwybod beth sy’n gwneud elw a beth sy’n gwneud colled. Roedd hi’n ymddangos yn fwy amlwg fod Llywodraeth Prydain yn rhedeg diwydiannau trwm Prydain ar golledion anferthol, wedi adlewyrchu i ran fawr yn chwyddiant a thrafferthion ariannol y Bunt yn ystod y Saithdegau.
Erbyn yr Wythdegau, roedd diwydiannau Prydain wedi dyfod yn anghystadleuol efo gweddill Undeb Ewrop a’r byd, heb fuddsoddi digon mewn datblygiad peirianwaith newydd ag yn or-ddibynnol ar lafur a’r Undebau Llafur oedd wedi dod yn bŵerus, ag yn medru dod a Phrydain i gyd i sdop wrth streicio. Dyma’r prif reswm mae Thatcher yn penderfynu torri’r Undebau yn yr Wythdegau a phreifateiddio cwmnïau cyhoeddus Prydain, ag mae’r rhestr canlynol yn rhoi blâs o’r cwmniau yn nwylo cyhoeddus: Y Post Brenhinol, Capita, British Aerospace, Cable & Wireless, British Gas, British Coal, British Telecom, British Steel, British Petroleum (BP), Rolls Royce, British Airways, Cwmniau Dŵr, Cwmniau Trydan, National Power, Powergen, British Rail.

Yn hytrach na pharhau i sybsideiddio ardaloedd diwydiannol gan greu egni a deunyddiau gartref sy’n cryfhau annibyniaeth a diogelwch cenedlaethol, mae’r Torïaid yn penderfynnu taflu pawb ar y clwt, a sybsideiddio diweithdra ag anobaith yn lle (ffynhonell)
Lle mae rhaid beirniadu Thatcher a’r Blaid Dorïaidd oedd preifateiddio bob dim mor gyflym, ag mewn effaith taflu llafur diwydiannau trwm Cymru a Phrydain allan o waith bron dros nos, a chreu diweithdra a thlodi enbyd yn ardaloedd diwydiannol Prydain ag yn enwedig De Cymru, sy’n bwydo’r Wladwriaeth Lês a sybsidis Llywodraethol am beidio gweithio, â sgîl effeithion anobaith mewn caethiwed i alcohol, cyffuriau, troseddu a hunan laddiad. Yn wir, dydi clwyfau Cymru dal heb gau ers diberfeddu’r Wythdegau. Mae preifateiddio hefyd wedi rhoi’r Cwmnïau yma, mewn nifer o engreifftiau, yn nwylo pobol sydd wedi eu rheibio i wneud elw ar gyfer ychydig iawn o fuddsoddwyr a chyfranddalwyr preifat, ar draul gwasanaethau gwaeth a drytach i’r cyhoedd sy’n gorfod eu sybsideiddio drwy dalu biliau a threthi. Mewn nifer o engreifftiau, mae preifateiddio wedi gwneud y cwmnïau yma hyd yn oed yn waeth a di-egwyddor nag oedden nhw yn nwylo’r Llywodraeth, sy’n golygu fod ganddom heddiw greisus arall yn bragu ar gyfer isadeiledd Prydain, wele safon y diwydiant rheilffyrdd a sgandal Thames Water yn ddiweddar. Mae preifateiddio mewn nifer o engreifftiau wedi gwneud isadeiledd Prydain yn waeth, ag wedi gwneud Prydain yn fwy dibynnol ar fewnforion tramor o Wledydd eraill am adnoddau fel dur, glo a nwy.
Y Nawdegau – Dechrau’r Datganoli

Clawr Cylchgrawn Time, Tachwedd 1994 – y flwyddyn breifateiddwyd y Rhyngrwyd (ffynhonell)
Gellir dadlau fod y duedd o ganoli Gwleidyddol ddechreuodd efo’r Diwygiad Protestannaidd bum Canrif yn ôl, yn cyrraedd ei anterth dan y Blaid Lafur ar ddiwedd y Pedwerdegau neu dan Lafur ar ddiwedd y Saithdegau, yr Wythdegau o dan Thatcher oedd dechrau’r duedd o ddatganoli Llywodraeth, ond y Nawdegau sy’n gweld datganoli cyfathrebu, a chadarnhau tuedd aml ddegawd o ddatganoli. Yn rhan annatod o’r datganoli ydi’r Rhyngrwyd, gynt yn dechnoleg cyfathrebu’n perthyn i’r Lluoedd Arfog, Sefydliadau Addysgol ag o fewn y Sector Gyhoeddus, breifateiddwyd yn 1994 i’r cyhoedd dros y byd ei ddefnyddio. Er mae ychydig o alw oedd ar y dechrau, ag ychydig iawn o bobol oedd yn meddu cyfrifiadur neu gysylltiad i’r rhwyd, dri deg mlynedd yn ddiweddarach mae technoleg digidol wedi newid ein bywydau i gyd, ag rydym heb amheuaeth erbyn heddiw’n gwbwl ddibynnol ar ein ffônau symudol am fancio symudol, e-byst, a chyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ag i gyfathrebu. Yn wir, mae cyfathrebu person i berson sydd wedi ffrwydro yn y dair degawd ddiwethaf wedi tanseilio llawer o’r cyfryngau canolog oedd yn monopoleiddio gwybodaeth a chyfathrebu ynghynt, a pham yr ydym yn gweld heddiw gymaint o symudiad i guddio ag i sensro’r rhyngrwyd a’r cyfryngau arlein, wrth i Wleidyddion a’r Wladwriaeth ddeffro fyny i fygythiad siarad rhydd ag ein beirniadaeth ar wallgofrwydd ag anallu ein Uchelwyr Gwleidyddol, sy’n credu eu bod uwchlaw unrhyw feirniadaeth. Serch yr holl Ddeddfau “Amddiffyn Diogelwch” ag arian trethdalwyr sy’n cael ei daflu at dawelu’r dyfroedd “gwrth-ddemocrataidd” drwy gyfyngu neu wahardd ar y rhyddid i ddarlledu a chyfathrebu arlein, mae’r duedd yn dal i fagu stêm ag yn sicr bydd cythrwfwl pellach rhwng grymoedd dros ganoli a datganoli’r rhyngrwyd am y ddegawd nesaf.

Llafur Newydd (heb yr Undebau), a Cheidwadwyr mewn Coch (ffynhonell)
Erbyn diwedd y Nawdegau mae deunaw mlynedd o’r Torïaid wedi bod yn hen ormod, ag efo dyfod Llafur Newydd o dan arweiniad Toni Blêr a Gordon Brown, mae addewid am obaith newydd i Gymru o fewn yr Undeb. Yn unol gyda dechreuad y Blaid Lafur a Keir Hardie yng Nghymoedd De Cymru, mae tri o bedwar addewid gwreiddiol y Blaid Lafur yn cael eu gwireddu gan Lafur Newydd, sef Datganoli, yr Isafswm Cyflog, a gwaredu etifeddiaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi. Yr unig addewid sy’n methu ydi gwahardd alcohol a’r ddiod feddwol.

Cymru, diolch yn bennaf i Gymoedd De Cymru yn pleidleisio’n fain dros Ddatganoli (ffynhonell)
Mae dechrau datganoli’r Undeb yn cael ei wireddu ar ôl Etholiad Llafur efo Refferendwm 97, ag yn 1999 mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei sefydlu ar ôl i Gymru bleidleisio’n fain o’i blaid. Mae’r Cynulliad yn dyfod yn Senedd Cymru yn Mis Mai 2020. Gellir dadlau for datganoli wedi bod yn llwyddiant efo grymoedd newydd i Lywodraeth Cymru, ond gellid hefyd dadlau bod datganoli wedi bod yn fethiant, efo monopoli y Blaid Lafur Gymreig wedi sosialu a lladd sector breifat gynhyrchiol Cymru, ag wrth i’r sector gyhoeddus a pholisïau dinistriol wneud Cymru’n fwy dibynnol ar Drysorlys Llundain.
Brexit 2016 – Darganoli Pellach

Y gyrrwyr tu ôl i Brexit oedd Lloegr tu allan i Lundain, ynghyd a Chymru (ffynhonell)
Roedd Refferendwm Brexit yn un o ddigwyddiadau gwleidyddol pwysicaf yr Unfed Ganrif ar Hugain mor belled, ac ym marn yr awdur wedi gwanhâu’n angheuol yr Undeb Ewropeaidd a’r Undeb Brydeinig, fel yr ydym yn debyg o weld yn y ddegawd nesaf.
Fe berodd Brexit gryn ddoniolwch i’r awdur fel datganolwr sy’n amheus iawn o Undebau Rhyngwladol a Gwleidyddol yn gyffredinol, wrth sylweddoli mae’r bobol fwyaf tanbaid o blaid yr Undeb Brydeinig oedd fwyaf o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r mwyaf tanbaid o blaid Undeb Ewrop oedd fwyaf gelyniaethol i Undeb Prydain!
Yn y diwedd fe bleidleisiodd Prydain yn fain iawn dros adael Undeb Ewrop ar ôl bron i hanner canrif, er mwyn cymeryd pŵerau a chyfraith yn ôl rhag Gomisiwn Brwsel i Senedd Llundain, er mwyn i Brydain fedru rhedeg mwy o’i economi ei hun, gosod ei thermau masnach ei hun, a chystadlu’n fwy ystwyth ag effeithiol y tu allan i fonopoli’r UE a biwrocratiaid honco Brwsel.
Y broblem efo’r meddylfryd hwn mor belled, ydi nad oedd Dafydd Camdrwyn na’r Blaid Dorïaidd adawodd y refferendwm, na gwleidyddion San Steffan na biwrocratiaid Whitehall na’r cyfryngau cyhoeddus fel y BBC, yn disgwyl i Brydain fyth bleidleisio mewn mwyafrif dros adael, ag felly doedd gan lywodraeth na chyfundrefn Prydain ddim cynllun, a mewn gwirionedd unrhyw awydd nag ewyllys cymeryd rheolaeth yn ôl dros eu Gwlad wrth ddiddymu deddfau a chyfreithiau Ewrop.
Mae hyn yn golygu ein bod heddiw, bron i wyth mlynedd wedi Brexit, heb wneud dim efo rhoddion annibyniaeth Prydain, yn dal ynghlwm efo rhan fwyaf o gyfreithiau a rheolaethau gwirion a di-sens y Cyfandir, dal heb reolaeth dros ein diwydiant Pysgota, a dal yn rhedeg colledion masnachol o dros £90 Biliwn y flwyddyn, mewn geiriau eraill mae Prydain yn dal i brynnu 92 Biliwn o gynnyrch Ewrop (Yr Almaen gan fwyaf) yn fwy na maent yn ei werthu i ni. Rydym yn allforio ein diwydiannau a’n cwmnïau a’n swyddi diwydiannol i’r Almaen, tra mae Prydain yn allforio’r Bunt a’n dyledion cenedlaethol drwy’r sector ariannol a banciau i dalu am y sybsidi anferthol yma, a buasai dim ond rhedeg cydbwysedd masnachol efo Ewrop yn dychwelyd dros £90 biliwn y flwyddyn werth o ddiwydiannau a swyddi’n ôl i Brydain!!!

Yn ôl ystadegau Tŷ’r Cyffredin ar fasnach, mae Prydain wedi rhedeg elw masnachol o £5 Biliwn efo gweddil y byd yn 2022, tra’n rhedeg colledion masnachol o £92 Biliwn efo’r UE. Dyma’r rheswm fod beth sydd yn weddill o’n diwydiannau yn diflannu, ag yn ein gorfodi’n ddibynnol ar allforion o wledydd estron (ffynhonell)
Mae Brexit yn cael ei adnabod heddiw fel camgymerad trychinebus gan y rheini oedd eisiau aros a’r rheini oedd isio gadael, ond mae hyn oherwydd y llanast gwleidyddol mae’r Blaid Dorïaidd a Llywodraeth a Chyfundrefn Prydain wedi wneud o adael pan mae’r holl wladwriaeth yn ryddfrydwyr asgell chwith, ag yn addoli’r Cyfandir p’run bynnag. Mae’r fradwriaeth yma’n debygol o ddymchwel y Blaid Geidwadol yn yr Etholiad eleni, ag yn debyg o ddyfod yn agos i ddymchwel y Blaid yn ei chyfanrwydd dros y bum mlynedd nesaf wrth i asgell dde a chanol Prydain gwffio dros y corff, tra mae ewro-addolwyr Llafur yn mynd i gael mwyafrifon anferthol yn Nhŷ’r Cyffredin i arafu ag atal Brexit yn bellach, gyda’r un Gyfundrefn Barhaol Ewro-addoli yn gweithio’n ddirgel yn y cefndir tu ôl i Lafur, ag oedd tu cefn i’r Torïaid. Mae’n debyg bydd ddyddiau llawer tywyllach i ddod ar gyfer y Wlad yma yn y dyfodol agos.
O ran y duedd ddatganoli mae goleuni, ac mae’n debyg y byddwn yn edrych yn ôl yn y ddegawd i ddwy nesaf ar Brexit fel dechrau’r diwedd i’r Undeb Ewropeaidd a’r Undeb Brydeinig, datblygiad positif iawn yn nhŷb yr awdur. Mae Ewrop yn awr wedi colli un o’i gyfranwyr ariannol mwyaf ym Mhrydain, sy’n cynyddu’r faich ar yr Almaen a Ffrainc fel sylfaen ariannol a dyledion Ewrop, fydd ond yn gorfodi’r Almaen i dynnu’r plwg ar y prosiect yn gynt. Rhaid cofio fod yr Undeb Ewropeaidd a’r Ewro yn ieuanc iawn o’i gymharu efo Undeb Prydain a’r Bunt, felly y tebygolrwydd ydi mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Ewro fydd yn dymchwel i deilchion gyntaf.

Canlyniadau cwestiwn Hunaniaeth Cenedlaethol yng Nghyfrifiad 2011, sy’n dangos mae dim ond ychydig o ardaloedd yn Llundain (a Gogledd Iwerddon) sy’n cysidro eu hunain yn Brydeinig gyntaf. Mae’r cwestiwn wedi newid erbyn Cyfrifiad 2021, ceir mwy o drafodaeth yma (ffynhonell)
O fewn Prydain, mae Brexit wedi amlygu’r gwahaniaethau rhwng meddylfryd poblogaeth Llundain a gweddill Lloegr, a rhwng Lloegr a’r gwledydd Celtaidd, yn arddangos ei hun ar y funud fel ymgyrchoedd newydd yn yr Alban a Chymru am ddatganoli pellach, ag hyd yn oed annibyniaeth llawn. Nid yn unig mae Brexit wedi lladd yr Undeb Ewroperaidd yn yr hir dymor, mae’r awdur hefyd o’r farn y bydd Brexit yn hollti’r Undeb Brydeinig yn y ddegawd i ddilyn.
Y Presennol a Realiti’r Undeb Brydeinig

Mae’r map yma o 2014, ddwy flynedd cyn Brexit, yn adlewyrchu ein colledion masnachol efo Gogledd Ewrop, a’r dyledion a’r tlodi mae hyn yn ei greu tu allan i ganolfan ariannol Llundain, a’i banciau sy’n elwa fwyaf o’r sefyllfa bresennol drwy gadwyn genedlaethol y Bunt (ffynhonell)
Cam pwysig ydi trio cyrraedd at wraidd y gwir o sut mae’r Undeb yn gweithio, pwy sy’n elwa a pwy sy’n dioddef, a mae’r Llywodraeth a’r Cyfryngau yn gweithio efo’i gilydd yn y maes yma i dwyllo a drysu poblogaeth Prydain.
Os yn wrandawr ar Gyfryngau Llundain yn ffau’r bwystfil, mae Llundain yn sybsideiddio gweddill Prydain drwy lywodraeth, trysorlys, y Banc yn Lloegr a sector ariannol y Ddinas yn Llundain.
Yn bellach, mae’r Saeson gan fwyaf yn credu eu bod yn dioddef oherwydd sybsideiddio economïau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon drwy lywodraeth leol a’r wladwriaeth lês, oherwydd fod gwariant sector gyhoeddus y gwledydd Celtaidd yn uwch o ran canran y boblogaeth a GDP, sydd yn wir.
Mae’r Cymru, yr Alban a’r Gwyddelod Gogleddol yn dadlau eu bod hwythau yn dioddef dan ddwylo Lloegr oherwydd Trysorlys Llundain, a chyfrifon fel y Fformiwla Barnett sy’n penderfynnu faint o sybsidis mae’r gwledydd Celtaidd yn ei dderbyn am eu trethi.
Mae pawb yn ffraeo ag yn dadlau ymysg eu gilydd, tra fod realiti a natur ein Undeb o dan arian canolog y Bunt ag wedi ei greu allan o Lundain, yn mynd yn angof. Y realiti ydi mae Llundain drwy’r Bunt a’i sector ariannol sy’n derbyn y sybsidi eithaf o fewn y gyfundrefn yma, drwy Effaith Cantillon, gyda’r rhai agosaf i’r wâsg argraffu arian chwyddiannol yn derbyn yr arian gyntaf ag efo’r pŵer prynnu gwreiddiol, wrth i’r arian yma lifo allan yn araf i weddill y wlad a’r rhai sy’n debyn yr arian olaf, ag wrth iddo golli ei bŵer prynnu. Mae hyn yn creu gormodedd o arian (a’r ddelwedd o gyfoeth) yn Llundain a De Lloegr, a phrinderau arian a thlodi yng ngweddill Lloegr, yr Alban a Chymru, sy’n cael ei arddangos yn y graffegion isod.


Dau graffeg sy’n disgrifio sut mae arian yn llifo o’r canol tuag at yr ymylon, ag yn colli ei werth prynnu ar y daith. Mae Effaith Cantillon hefyd yn egluro sut mae Llundain yn ardal mwya cyfoethog yng Ngogledd Ewrop, tra mae wyth o’r ardaloedd tlotaf o fewn yr un Undeb (ffynhonell, ffynhonell)
Unwaith mae pobol Cymru, yr Alban a Gogledd a Chanol Lloegr yn deffro i sut mae’r Bunt a’n cyfundrefn ariannol gyfredol yn gweithredu yn yr Undeb hon, mae’n bosib uno ag edrych oll ar y Ddinas yn Llundain a’i banciau, a’r canol, y Banc yn Lloegr. Yn anffodus, dydi hyn ddim yn debygol o ddigwydd yn y byr dymor, ond bydd chwyddiant cynyddol y Bunt yn gwarantu mwy o ddyledion i Drysorlys Llundain, a mwy o dlodi yng ngweddill Prydain, fydd yn gyrru chwyddiant a threthi, ag yn gorfodi mwy o bobol ffoi gyfundrefn ariannol y bunt, ag i fewn i arian cystadleuol allanol wrth i’r Oes Ddigidol symud yn ei blaen.
Diwedd Rhan Un
RHAN DAU: PRESENNOL

Fel eglurir Nico Maciafeli, mae’r ddynol natur yn geidwadol ag yn amheus o drefn newydd ddiarth yn erbyn hen drefn gyfarwydd. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer cyfundrefnau ariannol, yn enwedig mewn carchar dair canrif oed Punt y Banc yn Lloegr
Darogan y Dyfodol – Trafod Tebygolrwyddau a’r Gêm o Undebau
Bydd Rhan Dau o’r traethawd yn ymgeisio darogan y dyfodol, gan drafod brasluniau o’r gwahanol ddewisiadau sydd yna ar gyfer dyfodol Cymru fel Gwlad Annibynnol, a beth yw’r tebygolrwydd dros hyn ddigwydd, fydd o leiaf yn gymorth er mwyn rheoli pethau llai tebygol allan, yn ogystal a rheoli pethau fwy tebygol i fewn.
Dewis 1: Gadael Undeb Prydain ag ymuno efo’r Undwb Ewropeaidd a’r Ewro
Dyma’r opsiwn lleiaf tebygol, oherwydd fod Cymru (o fewn Undeb Prydain) wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2016, ag i ail ymuno efo’r UE byddai rhaid i Gymru dderbyn annibyniaeth oddi wrth Undeb Prydain gyntaf, sydd yn edrych yn anhebygol iawn yn bresennol. Yn ogystal, roedd Pleidlais Brexit yn oddeutu 50% o ran aros a 50% dros adael, felly hyd yn oed mewn Refferendwm yn y dyfodol, byddai’r tebygolrwydd o ymuno efo’r UE yn hanner y cant, ag yn gyrru rhwygiadau clîr a rhyfel cartref (llenyddol yn fwy na llythrennol) i lawr canol poblogaeth Cymru.

Ymgyrch Cadw’r Bunt – er gwaethaf ymdrechion y Blaid Lafur Newydd a’i ddadeni ewro-addolwr i swyno Prydain fewn i’r Ewro ag undeb ariannol gyfandirol ar ddechrau’r Mileniwm newydd, ychydig iawn o ddifrifwch a gafodd y syniad ar lawr gwlad (ffynhonell)
Hyd yn oed yn llai tebygol nag ail ymuno efo’r Undeb Ewropeaidd, fyddai ymuno am y tro cyntaf efo’r Ewro. Fel a sonwyd yn Rhan Un mae’r Bunt yn rhan hanesyddol o arian Cymru ers dros fileniwm, ag yn enwedig ers sefydlu’r Banc yn Lloegr mae’r Bunt yn sylfaen ar gyfer masnach Prydain a Chymru, ag er mwyn ariannu dyledion Llywodraeth Prydain. Er gorau yr ewyllys ag effeithiol y propaganda allan o’r Blaid Lafur Newydd dros fabwysiadu arian y Cyfandir ag uno’n llawn efo Ewrop, arian yw’r elfen fwyaf hanfodol o fewn cymdeithas a’r Bunt ydi’r gyfundrefn gyfrifo rydym i gyd yn ddibynnol arni heddiw, yn cynhyrchu iddi ag yn defnyddio ynddi, yn gwerthu llafur neu gynnyrch er mwyn prynu llafur neu gynnyrch, ag yn storio ein gwerth personol ar gyfer dyfodol sy’n ansicr. Byddai ymuno efo arian a chyfundrefn gyfrifo newydd felly, wastad yn fwy ansicr a pheryglus i ddinistrio gwerth personol a chenedlaethol nag aros efo’r cyfarwydd a’r arferol. Yn wir, mae Safon Bunt y Banc yn Lloegr bellach yn dros dair canrif oed, gyda chadernid hanesyddol ym meddylfryd poblogaeth Prydain a Chymru, ar gyfer medru byw heddiw ond yn bwysicach ar gyfer cynhyrchu a chynilo mewn arian weddol sefydlog ar gyfer y dyfodol. Dim ond am y rheswm yma, buasai unriw ymgyrch gan Lywodraeth Cymru annibynnol newydd i geisio gorfodi Cymru i fabwysiadu’r Ewro yn arwain at Ryfel Cartref a dinistr gwerth ar raddfa enfawr, fyddai’n plygu’r llywodraeth i’w liniau, cyn sôn am y ffaith nad oes yna unrhyw isadeiledd ariannol neu fancio gan Gymru heddiw, rydym yn hollol ddibynnol ar gyfundrefn ariannol a banciau stryd fawr sydd a’u pencadlysoedd ym milltir sgwâr Dinas Llundain.

Mae diweithdra ag anobaith ymysg yr ieuanc yn llethu gwledydd y De, wrth i’w diwydiannau a’u swyddi ddiflannu tua’r Gogledd yng ngharchar ariannol yr Ewro. Dyma fyddai ffawd Cymru ar ymylon Ewrop, sydd er cymhariaeth efo 14.1% o’r ieuanc yn ddiwaith yn ôl ystadegau diweddar (ffynhonell)
I ymhelaethu ar y syniad o’r Ewro yn buddiannu Cymru dros gadw’r Bunt, mae Effaith Cantillon yn perthyn i’r Ewro yn ogystal a’r Bunt. Er gwaethaf yr anghydraddoldeb mae’r Bunt yn ei gynhyrchu rhwng Llundain fel y derbynwr ariannol cyntaf a gweddill y wlad fel y derbynwyr olaf, mae hi’n Undeb fach o’i chymharu â Chyfandir Ewrop a’r ugain gwlad swyddogol sydd yn yr Ewro heddiw, a gyda anghydraddoldeb hyd yn oed fwy eithafol rhwng Gogledd y Cyfandir (sy’n cynnwys Ffrancffwrt fel lleoliad Banc Canolog Ewrop a Brwsel fel lleoliad y Comisiwn) a chynhyrchwyr mwyaf yr UE, a De’r Cyfandir ar y cyfan yn ddefnyddwyr a’r dyledwyr. Mae natur yr Ewro fel un arian Cyfandirol yn trin economïau’r ugain aelod yn gyfystyr, er gwahaniaethau anferthol rhwng cynhyrchedd yr economïau, oedd yn yr hen dyddiau yn medru cael ei ddatrys drwy ugain arian gwladol yn cryfhau ag yn gwanhau yn erbyn ei gilydd, yn ddibynnol ar elw neu golledion masnachol. Yn yr ystyr hwn roedd rhedeg arian gwan a dibrisio yn erbyn arian cryf y Gogledd yn gadael i wledydd y De gynnal eu cystadleurwydd drwy wneud allforion (a chynhyrchu gartref) yn rhatach a mewnforion (a chynnyrch estron) yn ddrytach, ond o fewn yr Ewro mae hyn ym amhosib. Mae hi’n anochel felly bydd diweithdra yng ngwledydd y De yn cynyddu wrth i’w ddiwydiannau ddiflannu, yn bennaf i’r Almaen a’r Iseldiroedd ag economïau fwy cynhyrchiol a pheiriannol y Gogledd. Drwy aros allan o’r Ewro a chadw’r Bunt, mae Prydain wedi medru dianc y gwaethaf o undod ddinistriol arian cyfandirol.

Er y colledion masnachol enbyd mae Senedd Llundain yn dewis eu rhedeg efo’r Undeb Ewropeaidd, mae gan Brydain o leiaf un mecanwaith i leddfu’r gwasgedd a chystadlu’n fwy effeithiol, drwy ddibrisio’r Bunt yn erbyn yr Ewro (ffynhonell)
I gau pen y mwdwl ar y Gêm o Undebau, mae’r ffaith fod Undeb Prydain a’r Bunt bellach yn 317 mlwydd oed a fod yr Undeb Ewropeaidd ddim ond o gwmpas ers 1993 a Chytundeb Maastricht, a’r Ewro ddim ond yn bodoli ers y Cyntaf o Ionawr 2002, yn gwneud Prydain yn Undeb llawer cryfach a chyfun nag Undeb y Cyfandir. Yn nunlle mae hyn yn eglurach nag yn y gyfundrefn ariannol, sy’n cael ei gefnu gan ddyledion Gwladol Prydain, y Trysorlysiau a’r farchnad Gilts, ag yn hynny o beth mae dyledion Prydain yn gyfun rhwng y bedair gwlad, ag o fewn un Trysorlys. Mae Ewrop ar y llaw arall efo Banc Canolog ag Undeb Ariannol, ond yn wahanol i Brydain mae dyledion yr Ewro wedi eu rhannu rhwng 20 o drysorlysiau yr aelodau, ag er yr holl glebran dros Oes yr Ewro am Undeb Gyllidol a chanoli’r dyledion drwy gyhoeddi EwroBonds, mae sector fancio Ewrop yn eistedd ar gasgliad o ddyledion gwahanol wledydd, gan fwyaf Bunds yr Almaen, ond hefyd OAT Ffrainc a BTP yr Eidal. Oherwydd fod gwahaniaethau rhwng cyfraddau llôg a graddfa gredyd ag ymddiried y dyledion gwladol yma, mewn adegau o greisus mae Undeb yr Ewro yn gwegian oherwydd y seiliau rhanedig a gwendidau economïau yr Eidal a Ffrainc, o’i gymharu a chryfder economi yr Almaen. Yn wir, y pris roedd yn rhaid i’r Almaen ei dalu ar delerau Ffrainc am Aduniad yr Almaen wedi dymchwel yr Undeb Sofietaidd, oedd gwaredu’r Deutsche Mark a mabwysiadu’r Ewro ag Undeb Ariannol, ond yr Almaen sydd hefyd wedi gwthio fwyaf yn erbyn unrhyw Undeb Gyllid, rhag bod dyledion gweddill Ewrop yn gorfod cael ei ysgwyddo ganddynt.

Mae Banc Canolog Ewrop yn cadw balans Targed 2 rhwng masnach ei gwledydd mewnol, ag mae’r ffigyrau’n dyfrio’r llygaid. Does dim posib i’r Eidal, Sbaen, Groeg a Ffrainc dalu eu dyledion masnachol yn ôl i’r Almaen, Lwcsembwrg, yr Iseldiroedd ag Iwerddon (ffynhonell)
Fe ddaw’r Ewro i ben pryd bynnag mae’r Almaen fel ffatri a gwlad mwya bŵerus y Cyfandir yn penderfynu mae digon yw digon, na fydd dim Undeb Gyllid nag Undeb Ddyledion, ag ei bod yn amser dod ag arbrawf yr Ewro i ben. Bydd hyn yn debygol yn golygu unai Gwledydd y Gogledd yn torri ffwrdd i greu Undeb llai gydag arian cryfach gan adael Gwledydd y De mewn Undeb ar arian gwanach, neu bydd Ewrop yn dychwelyd i arian gwladol unwaith eto, fyddai’n cywiro holl gamgymeriadau a’r anghydbwyseddau’n deillio o Arian Cyfandirol. Mae cyfyngiadau diweddar Llys Cyfansoddiadol yr Almaen ar ariannu Llywodraeth yr Almaen yn engraifft cynnar o wrthryfel yn erbyn cynyddu dyledion ar ddec y Titanic.
Tebygolrwydd Dewis 1 ar gyfer Annibyniaeth Cymru: Dim Tebygolrwydd
Dewis 2: Gadael Undeb Prydain a Chreu Arian Newydd (Punt Gymreig)

Fformiwla Barnett ar gyfer ail-ddarparu trethi Prydain sy’n llifo fewn i Drysorlys Llundain, allan fel gwariant cyhoeddus i weddill yr Undeb (ffynhonell)
Fel mae dyfodol yr Undeb Ewropeaidd yn dibynnu ar barhâd yr Almaen fel y wlad fwyaf gynhyrchiol yn rhedeg yr elwon masnachol mwyaf, mae Undeb Prydain yn dibynnu ar barhâd Lloegr fel y wlad fwyaf gynhyrchiol yn rhedeg ei elw masnachol efo colledion masnachol gweddill Prydain, fel mae Fformiwla Barnett yn ei awgrymu. Yn wir, fel mae’r awdur wedi cysidro’r Almaen fel holltwr yr UE, hefyd yn credu mae Lloegr fyddai yn hwyr neu’n hwyrach yn diddymu’r Deyrnas Unedig, am nifer o resymau.

Mae diddymu’r Undeb yn mynd i gymeryd Deddf Seneddol, felly pwy sy’n mynd i reoli’r broses efo 533 Etholaeth allan o 650?! (ffynhonell)
Y rheswm mwyaf amlwg ydi grym Seneddol Lloegr o’i gymharu a gweddill y gwledydd Celtaidd ag aelodau Undeb Prydain, ag i wneud hyn mor eglur a phosib roedd Deddfau Uno 1535 a 1542 yn Ddeddfau Seneddol, fel roedd Deddfau Uno 1707 yn Ddeddfau Seneddol. Hefyd yn engraifft Iwerddon a thorri ymaith Gwladwriaeth Rydd Iwerddon yn 1922 mewn cytundeb efo Llywodraeth David Lloyd George, yn swyddogol drwy Ddeddf Seneddol 1922. Mae ganddom hefyd un achos diweddar i drawo goleuni ar y broses o hollti Undeb Prydain, i’w astudio mewn fwy o fanyldeb.
Mae Refferendwm Annibyniaeth 2014 yn rhoi achos diddorol iawn o drefniant pe bai Senedd Lloegr byth yn cytuno i ymadawiad, pan gytunodd Dafydd Camdrwyn fel Prif Weinidog Senedd Llundain, i alwadau Senedd yr Alban am Refferendwm. Drwy Goron Elisabeth yr Ail, bu gorchymun i drosglwyddo pŵerau dros dro i Senedd yr Alban i gynnal y Refferendwm, gyda’r cwestiwn “Ddyliau’r Alban fod yn Wlad Annibynnol?”, ag addawodd Llywodraeth Prydain y byddai mwyafrif syml o blaid “Ie” yn ddigon i’r Alban ddod yn wlad annibynnol, wedi cyfnod o gyd-drafod.

Dafydd Camdrwyn, Holltwr Undebau? – Canlyniad llawer agosach nag oedd Senedd Llundain wedi ei ddisgwyl efallai, ond fe bleidleisiodd yr Alban yn erbyn Annibyniaeth. Yn amlwg doedd Camdrwyn na Seneddwyr Llundain yn disgwyl i Brydain bleidleisio mewn Refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd chwaith, llai na dwy flynedd yn ddiweddarach. Wps! (ffynhonell)
Wrth ddadansoddi’r rhesymau mwyaf dros bleidleisio yn erbyn Annibyniaeth a dros gadw’r Undeb ymysg cyhoedd yr Alban, yn crynhoi i gadw’r Bunt a sefydlogrwydd safon ariannol cyfarwydd Prydain, dros yr ansicrwydd ag anhrefn datganoli undeb ariannol a chyllidol tri chanrif oed, a sydd mor hawdd ei ddeall gan bawb sy’n meddu ar gyfrif banc ag yn defnyddio’r Bunt heddiw. Mae hyn yn gwneud synnwyr pûr, ag yn agor y drafodaeth o be fyddai’n digwydd pe bai Refferendwm yn y dyfodol byth yn llwyddo yng Nghymru.
Pe bai Undeb ariannol yn dod i ben o dan safon arian caled aur ag arian a threfn ariannol Prydain cyn y Banc yn Lloegr o 1694, byddai datganoli yn fater digon di ffwdan, ond mewn Safon Ariannol yn seiliedig ar Fanc Canolog a lle mae gwerth yr arian wedi’w greu allan o bapur ag erbyn heddiw yn ddigidau ar sgrîn gyfrifiadur neu ffôn symudol, dydi hyn ddim yn gwestiwn mor hawdd. Heddiw, ychydig iawn o sector ariannol cynhenid sydd gan yr Alban tra does gan Gymru ddim sector ariannol cynhenid, mae sector ariannol Prydain gyfan yn ddibynnol ar fanciau Lloegr, a mae banciau Lloegr yn gwbwl ddibynnol ar gyfundrefn ariannol Llundain, ag yn deillio eu gwerth gan Bunt y Banc yn Lloegr. Byddai hollti undeb ariannol Prydain yn gorfod arwain at ddatganoli arian, ag ar gyfer y byd modern sy’n rhedeg dyledion a chwyddiant gynyddol i fedru fforddio ein economi soshalaidd gyda gwariant cyhoeddus yn bron hanner maint yr economi, yna byddai gwir annibyniaeth yn golygu Punt Gymreig. Yn y byd modern byddai Cymru annibynnol angen Banc Canolog ei hun, Banc Cymru, a Phunt Gymreig, sy’n ein dyfod at yr isadeiledd ariannol sy’n galluogi y drefn fel y mae hi heddiw.
Yn rhan o Gytundeb Undeb 1707 fe gafodd yr Alban gadw ei chyfundrefn gyfreithiol, ag i raddau ei chyfundrefn ariannol a bancio hefyd, ond mae Cymru mewn Undeb ers bron ddwy ganrif ynghynt, ag felly’n hollol ddibynnol ar gyfundrefn gyfreithiol Lloegr, ag ar gyfundrefn ariannol a banciau Llundain. Yn wir, er bod hanes lliwgar cynnar mewn Banciau Cymreig megis Banc y Llong (1762 i 1806), Banc yr Eidion Du (1799 i 1909), Banc y Ddafad Ddu (1810 i 1815), a’r mwyaf llwyddiannus ym Manc Gogledd a Deheudir Cymru (1836-1908), mae Deddf Siartar Banc 1844 a rhoddi monopoli dros greu arian papur i’r Banc yn Lloegr fel drafodwyd eisioes yn Rhan Un, yn cyfyngu ar fanciau cefn gwlad Cymru ag ers dechrau’r Ugeinfed Ganrif mae Cymru’n ddibynnol ar isadeiledd ariannol a banciau Lloegr/Llundain (mae Banc Gogledd a Deheudir Cymru’n cael ei lyncu gan Fanc Lloyds yn 1908, gyda Banc yr Eidion Du’n cael ei lyncu gan Fanc Midland yn 1909). Mae Cymru heddiw felly, yn methu isadeiledd fancio annibynnol, a byddai rhaid creu un o’r newydd ag yn agos i dros nôs, sydd yn anhebygol os nad ym amhosib. Bydd mwy o drafodaeth am bolisi ariannol Cymru Annibynnol yn Rhan 3 y traethawd.

Sail yr Undeb Ariannol ydi’r Undeb Gyllidol, a sail yr Undeb Gyllidol ydi Trysorlysiau, dyled gwladol sy’n cael ei greu gan y Trysorlys. Mae’r farchnad am ddyled Prydeinig yn dros £3 TRILIWN hyd at ddiwedd 2022 (ffynhonell)
Er fod Prydain yn Undeb Ariannol sy’n gorfodi drwy Gyfraith defnydd y Bunt ar gyfer masnach er mwyn talu’r trethi (a thrêth anhysbys chwyddiant) i Drysorlys Llundain, mae yna elfen sydd hyd yn oed yn bwysicach i’w drafod, a hynny ydi’r Undeb Gyllid a’r dyledion enbyd sy’n seilio’r Undeb Ariannol. Hyd yn oed efo’r holl drethi mae’r Trysorlys yn ei hel wrth fygwth y carchar ar drethdalwyr Prydain, oedd yn record o £787 Biliwn yn Mlwyddyn Ariannol 2022/23, nid yw’n agos i fod yn ddigon i dalu am wariant cyhoeddus ag afreolus Senedd Llundain, a rydym ar hyn o bryd bron £3 TRILLIWN yn y coch, efo diffygion yn codi dros amser. Does dim Trysor yn y Trysorlys ers amser maith, a dyfodol yr Undeb fydd mwy o ddyledion, a mwy o drethi a chwyddiant i dalu am gostau llôg i’r benthycwyr dal ddigon gwirion i fuddsoddi yn nyledion Llywodraeth Prydain.

Mae dyledion Prydain yn £2.67 Trilliwn neu 97.5% o CMC yn ôl ystadegau’r ONS (ffynhonell)
Pwy sydd felly dal yn ddigon gwirion i fenthyg arian i gynyddu gwariant a dyledion Prydain? Mae’r ateb yn un cymhleth ond i symlhau maent yn fuddsoddwyr yn sector ariannol Prydain, o fanciau i gronfeydd pensiwn, cronfeydd buddsoddi a chronfeydd yswiriant, oherwydd rheolaethau cyfrifo sydd mewn effaith yn gorfodi cyfundrefn ariannol Prydain i fuddsoddi mewn dyled cenedlaethol. Yn ogystal, mae’r Banc yn Lloegr yn prynu dyledion y Trysorlys mewn sgam gweithred adwaenid fel “Quantitative Easing”, sy’n gaddo gofyn parhaol am ddyledion Trysorlys Prydain am y dyfodol agos, fydd yn galluogi Prydain i barhau i gynyddu’r Ddyled Wladol a chaethiwo poblogaeth genedig a heb eu geni i dalu dyledion San Steffan heddiw.

I ateb y cwestiwn o sut all Prydain redeg colledion masnachol o £90 BILIWN y flwyddyn efo’r Undeb Ewropeaidd, drwy’r sector fancio a dyledion cartref, corfforaethol a gwladol sy’n parhau’r drefn o fradwriaeth a chaethiwed. Mae hyn yn golygu bydd unrhyw greisus ariannol a dyledion yn taro Banciau Prydain yn llawer caletach yn y ddirwasgiad ddisgwyledig yn 2024 a 2025 (ffynhonell)
I gau pen y mwdwl ar y tebygolrwydd o annibyniaeth drwy’r drws ffrynt, a drwy hollti Undeb Ariannol a Chyllidol Prydain, mae’n rhaid i bobol ddeall y byddai hyn yn golygu diwedd Prydain fel gwlad soshalaidd, lle mae gwariant cyhoeddus yn bron i hanner gwariant y wlad ag yn cyflogi chwarter i draean o’r boblogaeth. Yr unig reswm rydym dal yn medru gweithredu fel hyn ydi hanes hir oesol Undeb Prydain, ag Undeb feder dalu ei dyledion yn ôl ar gyfraddau llôg isel i barhau’r arbrawf soshialaidd yn enwedig yn y Gwledydd Celtaidd, fel mae Fformiwla Barnett yn ei gadarnhau. Byddai hollti Undeb Gyllid Prydain yn golygu dechrau o’r newydd, rhannu dyledion yr Undeb rhwng Trysorlysiau Annibynnol Lloegr, Cymru a’r Alban, ag yn medru menthyg llawer llai o ddyledion ag ar gyfraddau llôg llawer uwch, i adlewyrchu risg llawer uwch o fuddsoddi mewn dyledion gwledydd newydd datganoledig a llawer ansicrach i fuddsoddwyr, na chadernid cyfarwydd Trysorlys Llundain a thri chanrif o hanes cynyddu talu ei dyledion.

Buasai hollti Undeb ddyled yn dod a diwedd i wariant Sector Gyhoeddus Prydain sy’n agos i hanner GDP Prydain erbyn heddiw, byddai rhaid diberfeddu sector gyhoeddus Cymru i fedru fforddio gadael yr Undeb (ffynhonell)
Eglurir yr uchod i’r Cymry cyffredin, hyd yn oed yr annibynwyr mwyaf tanbaid, y golled mewn gwerth prynnu arian newydd, a dymchwel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y sector addysg, pensiynau gwlad a phopeth arall na fyddai’n fforddiadwy tu allan i Undeb ddyledus Prydain, fe ddyliau ddod yn eglurach nad ydi Annibyniaeth i wledydd Prydain drwy ddiwedd gwirfoddol yr Undeb mewn realiti byth yn mynd i ddigwydd, oherwydd y niwed buasai’n wneud i’r drefn bresennol a bywydau pawb sy’n gweithio drwy’r Bunt, Gymru oll.
Tebygolrwydd Dewis 2 dros Annibyniaeth Cymru: Tebygolrwydd Isel Iawn
Dewis 3: Newidiadau Technolegol a Thorri’r Bunt ag Undeb Prydain Drwy Arian Allanol

Mae’n werth gwrando ar eiriau Hayek yn y fideo byr dau funud yma o 1984, wrth drafod dad-genedlaetholi arian, drwy sefydlu cyfundrefn o gyfrifon. Mae’n darogan dyfodiad a chodiad Bitcoin 25 mlynedd ynghynt (ffynhonell)
Yn barod mae’r dewis hwn yn rhagori ar y ddau ddewis cynt, oherwydd ei fod tu allan i unryw gyfraith gwladol, ag felly eisioes yn annibynnol o’r gyfundrefn bresennol. Mae hyn yn gwneud y gyfundrefn gyfrifo newydd yn un gwirfoddol, ag yn gadael i bobol ei mabwysiadu’n raddol a dros gyfnod hir o amser, sy’n osgoi hollti Undebau Ariannol a Chyllidol dros nôs, sy’n hanfodol bwysig ar gyfer cynnal sefydlogrwydd y gyfundrefn gyfredol a fyddai’n creu dinistr pe byddai’n dymchwel yn afreolus, fel yn achos y ddau ddewis cynt.
Mantais arall Bitcoin ydi ei fod yn gyfundrefn fyd-eang sy’n torri allan nifer o ataliadau a rheolaethau sy’n ran annatod o arian gwladol, ag felly mae’n gweithio dros ffiniau ag yn galluogi masnach persion i berson, busnes i fusnes a hyd yn oed wlad i wlad, yn yr un ffordd ag yr oedd aur yn safon fyd-eang ag yn fodd cyffredin ar gyfer masnach gwladol a rhyngwladol.
Mae Bitcoin yn safon gyfrifo sy’n gynhenid i’r rhyngrwyd, ag felly’n dibynnu ar drydan ag yn gweithredu’n debyg iawn i fancio arlein, ond yn hytrach nag ymddiried mewn banc mae’r ymddiried yn y rhwydwaith sydd wedi aros i fyny am gant y cant o’r bymtheg mlynedd ddiwethaf, heb gyfyngiadau oriau banc nag ar y penwythnosau, mae’n bosib ei anfon neu dderbyn 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Yr elfen bwysicaf ydi’r ffordd mae Bitcoin yn cael ei greu yn seiliedig ar Brawf o Waith, a defnydd dwys o drydan wrth gyfrannu at atgyfnerthu’r rhwydwaith, ag yn derbyn bitcoins newydd fel gwobr, sydd ar hyn o bryd yn 6.25 bitcoin bob deng munud ynghŷd ag unrhyw ffïoedd am drafodion sy’n cadarnhau yn yr un bloc. Mae hyn yn golygu fod posib cloddio am bitcoins yn unryw ran o’r byd, sydd wedi arwain at ddatganoli’r rhwydwaith cloddio a darpariaeth drydanol sydd erbyn hyn dros y byd. Mae natur creu bitcoin hefyd yn gadael i unigolion, corfforaethau neu lywodraethau greu arian yn eu gwledydd eu hunain, fel y trafoder yn bellach yn y man.
Am y rhesymau syml uchod, os daw Annibyniaeth i Gymru dyma fydd y dewis mwyaf tebygol, a mae’n werth i ni felly astudio’r dewis yma’n fwy trylwyr.
Tebygolrwydd Dewis 3 dros Annibyniaeth Cymru: Mwyaf Tebygol
Diffinio Arian a Chyfred

Prinderau ariannol yn gynnar yn y Chwyldro Diwydiannol yn gorfodi i gwmni cloddio copor ar Ynys Môn greu tocynnau ar gyfer masnach lleol, mewn erthygl ddiddorol ag yn y Gymraeg! (ffynhonell)
Cyn plymio ymhellach i’r dyfroedd, mae’n bwysig gwario adran yn trafod beth yw arian a chyfred, a’r ffordd i feddwl amdano yn y byd modern. Er bod y gair “arian” a “prês” yn Gymraeg yn deillio o’r metalau oherwydd rhain oedd sail y Safon Bunt, Swllt a Cheiniog am dros wyth can mlynedd, dydi ceiniogau aur ag arian ddim ond yn hanner yr hanes, ag yn wir am adegau hir o’r Canol Oesoedd lle’r oedd prinderau lleol o geiniogau aur ac arian, gorfu i fasnach ag economïau lleol addasu at ddefnyddio eilyddion ariannol, a llyfrau cyfrifo neu arian cyfred yn defnyddio pren, lleder neu bapur.

Yn hytrach na masnach mewn arian, mae cynilion a dyledion y Canol Oesoedd yn cael eu setlo drwy lyfrau a chyfrifo, a mae’r ffon dali yn engraifft o hyn. Ar ôl taro’r fargen, mae’r ffon yn cael ei hollti a’r prynwr a’r gwerthwr yn cadw hanner copi yr un ffunud, sy’n atal twyll (ffynhonell)
Engraifft arall o eilydd ariannol ydi arian parod papur, sy’n ffrwydro dros y Gorllewin ar ddiwedd y Canol Oesoedd, ag yn sgîl y Diwygiad Protestannaidd sy’n seilio bancio modern a llyfrifiadau dwy gofnod, sy’n rhoi rheolaeth i fanciau lleol greu arian papur a chadw’r metelau drudfawr dan glo. Mae’r dull yma hefyd yn canoli cread arian ag yn cynyddu twyll a bancio ffracsiynnol.

Papur Deubunt Banc y Ddafad Ddu – Tra byddai trafodion bach ar lawr gwlad yn cael eu setlo mewn ceiniogau a sylltau, roedd arian papur yn ffordd gyfleus o setlo trafodion canolig i uchel mewn gwerth (er engraifft byddai dau bwys tŵr (700 gram) o arian (dwy bunt) ar bris heddiw ar oddeutu 60 ceiniog y gram yn werth £420! Daeth yr arferiad o arian papur lleol i ben gyda monopoli y Banc Lloegr dros gyhoeddiad arian papur yn 1844 (ffynhonell)
Erbyn dechrau’r Ugeinfed Ganrif, roedd trafodion canolig ag uchel yn cael eu setlo mewn papur yn hytrach na mewn metel, unai drwy nodiadau banc am symiau cyffredinol ag yn gynyddol drwy sieciau am symiau fwy penodol ag uwch, fe ddyliai’r duedd fod yn glîr, mae trafodion arian yn symud o’r corfforol tuag at y dansoddol. Mae cyflymder trosglwyddo ariannol hefyd yn cyflymu gyda dyfeisiad y Telegraff sy’n galluogi Trosglwyddiadau Gwifren, sydd ond wedi cyflymu wedi’r Ail Ryfel Byd, a dyfeisiadau cyfathrebu megis Telex yn defnyddio’r Teleffôn.

Engraifft o Siec Banc Gogledd a Deheudir Cymru o 1872 am Drideg Punt (£6,300 yng ngwerth arian heddiw) (ffynhonell)
Yn y Chwedegau mae’r chwyldro taliadau a cherdiau credyd yn dechrau taro Prydain, ag yn 1966 mae cyflwyno’r Barclaycard, a daeth cardiau credyd yn llawer fwy poblogaidd ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau, nag yng ngwledydd Ewrop er engraifft.

Mae Cardiau Credyd yn dechrau cystadlu efo arian papur ar ddiwedd y Chwedegau efo’r BarclayCard, tra mae Cardiau Debyd yn lawnsio yn 1987 gyda Barclays Connect (ffynhonell)
Mae’r naid dechnolegol a chyfathrebol mwyaf hanes dynoliaeth ag arian/cyfred, yn dechrau efo preifateiddio’r rhyngrwyd yn 1994, a chychwyn yr Oes o arbrofion arian cyfriadurol a digidol, yn wir o fewn blwyddyn ag ymhell o flaen y banciau datblygodd David Chaum DigiCash, sef e-arian digidol oedd yn cyfathrebu efo banciau cydweithredol i setlo masnach person i berson, ag yn anhysbys drwy ddulliau cryptograffeg a llofnodion dall, efo’r taliad cyntaf yn cael ei weithredu’n 1994. Yn anffodus i Chaum ychydig iawn o ddiddordeb oedd gan y banciau yn yr arian digidol a phreifat yma, ag aeth DigiCash i’r wal yn 1998.

E-arian cyntaf y rhyngrwyd – DigiCash David Chaum. Mae Satoshi Nakamoto yn cyfeirio at DigiCash fel un ysbrydoliaeth ym Mhapur Gwyn Bitcoin (ffynhonell)
Ers troad y Mileniwm, mae Banciau dros y byd wedi parhau i adeiladu ar y rhyngrwyd, a mae pob banc modern a phoblogaidd wedi datblygu eu fersiwn unigryw o fancio arlein. Fe ddechreuodd y duedd ar gyfrifiaduron personol, ond ers dyfodiad yr iPhone a’r chwyldro ffonau symudol ers 2007, mae bancio symudol wedi ffrwydro defnydd arian/cyfred ddigidol, ag mae’n prysur lyncu arian papur a’r gofyn am ganghennau banc lleol, sydd wedi hoelio dyfodol y gyfundrefn fancio i’r rhyngrwyd gan droi cefn ar yr hen ffordd o greu a thrafod arian.

Erthygl ddiddorol iawn ar dueddiadau bancio modern. Wrth i’r hen genhedlaethau farw mae’r genhedlaeth newydd yn anghofio’r oes ariannol cyn y rhyngrwyd (ffynhonell)
Fe ddyliau’r dyfodol fod yn eglur felly, mae’r Banciau dan reolaethau a thrwyddedau Llywodraeth Prydain wedi troi cefn ar yr hen drefn o gynhyrchu arian metel a phapur, ag wedi betio’r holl ddyfodol ar yr rhyngrwyd ag yn gynyddol ar ffonau symudol, mae poblogaeth Prydain a gweddill y byd yn mynd i fabwysiadu technoleg ddigidol a bancio drwy’r drws ffrynt, sydd hefyd yn ei gwneud yn gyfleus a chyfarwyddo poblogaeth Prydain a gweddill y byd ar gyfer mabwysiadu Bitcoin, drwy’r drws cefn.

Engraifft o walet Bitcoin ar ffôn symudol, bluewallet (ffynhonell)
Olrhain Gwreiddiau Bitcoin
Dechreuwn drafod Bitcoin wrth ei wraidd, ag am pa bwrpas gafodd ei greu?

Papur Gwyn Bitcoin, gyhoeddwyd ar bitcoin.org (ffynhonell)
Ar y diwrnod olaf o Hydref 2008 fel oedd y gyfundrefn ariannol yn dymchwel i fewn i greisus fwya’r Ganrif newydd, fe e-bostwyd cyswllt i bapur wedi ei awduro gan Satoshi Nakamoto gyda’r teitl, Bitcoin: A Peer-to-Peer Electronic Cash System, â’r Papur yn disgrifio dulliau o ddefnyddio rhwydwaith person i berson, heb orfod ymddiried yn neb arall. Mae’r Papur hefyd yn rhestru nifer o brosiectau arian digidol ym mhymtheg mlynedd cyntaf y rhyngrwyd sydd wedi ysbrydoli a chyfrannu i ddyfeisiad Bitcoin, o DigiCash David Chaum o 1990, Hashcash Adam Back yn 1997, i B-money Wei Dai yn 1998, bitgold Nick Szabo 1998 a rpow Hal Finney yn 2004. Drwy gyfuno elfennau o’r prosiectau cyntefig yma, mae’r protocol datganoledig yn cael ei gyflwyno i’r byd.

Bloc genedigol Bitcoin ar y Trydydd o Ionawr 2009 yn cyfeirio at y creisus ariannol ym Mhrydain, a Changhellor y Trysorlys (Alistair Darling) drwy’r trethdalwyr, yn achub y banciau rhag methdalu
Mae’r protocol yn cael ei ryddhau yn dawel ar y Trydydd o Ionawr 2009, wrth i Satoshi gynnal y prosiect a chloddio ar ei ben ei hun i ddiogelu dyddiau cynnar Bitcoin, a thrio lledaenu ymwybyddiaeth i gryptograffwyr eraill. Mae’r dyfyniad canlynol hefyd o fisoedd cyntaf y protocol:
“The root problem with conventional currency is all the trust that’s required to make it work. The central bank must be trusted not to debase the currency, but the history of fiat currencies is full of breaches of that trust. Banks must be trusted to hold our money and transfer it electronically, but they lend it out in waves of credit bubbles with barely a fraction in reserve. We have to trust them with our privacy, trust them not to let identity thieves drain our accounts. Their massive overhead costs make micropayments impossible.
Bitcoin’s solution is to use a peer-to-peer network to check for double-spending. In a nutshell, the network works like a distributed timestamp server, stamping the first transaction to spend a coin. It takes advantage of the nature of information being easy to spread but hard to stifle. For details on how it works, see the design paper at http://www.bitcoin.org/bitcoin.pdf” ~ Bitcoin open source implementation of P2P currency, 11fed o Chwefror 2009 (ffynhonell)
Pwrpas Bitcoin felly oedd datganoli arian a chyfundrefn gyfrifon dros y byd, a diddymu gorfod ymddiried mewn sefydliadau canolog i reoli, boed yn fancar, yn gyfrifydd, yn gyfreithiwr, neu lywodraethwr, ag yn hytrach ymddiried yn rhwydwaith datganoledig Bitcoin sy’n cynyddu defnydd a gwerth y rhwydwaith, sy’n gaddo tyfiant parhaol a sefydlogrwydd a diogelwch i’w ddefnyddwyr. Mae hi bron yn anhygoel fod y prosiect yma nid yn unig dal yn fyw, ond wrth groesi Pymtheg Oed ar y Trydydd o Ionawr 2024, efoi’i faint yn £600 Biliwn (a chwarter gwerth dyledion Trysorlys Prydain), efo uned o’i arian werth dros £30,000 yr un, ag yn bygwth a brawychu cyfundrefn chwyddiannol a threthol yr Hen Drefn dros wledydd y byd, mae Bitcoin yn gryfach nag erioed wrth edrych i’r dyfodol ag annibyniaeth ariannol.
Pwy Oedd Satoshi?
Mae yna gymaint o drafodaeth ag anwybodaeth am y cwestiwn yma, mae’n werth sylwebu ychydig. Yn gyntaf mae’r ffaith fod y gŵr neu wraig yma dal yn anhysbys, o gysidro natur agored a pharhaol y rhyngrwyd ag wrth i’w ddyfeisiad yn araf bach gymeryd drosodd a thrawsnewid y byd, yn eithaf anhygoel. Mae yna nifer o bobol wedi ymgeisio darganfod pwy ydi Satoshi, gan ddefnyddio’i enw, ei batrymau oriau arlein, ei gyfeiriadau, ag wrth gwrs ei iaith, natur ysgrifennu, gramadeg a sillafu. Mae gohebiath arlein Satoshi yn parhau oddeutu dwy flynedd a hanner o Awst 2008 i’w e-bost ddiwethaf yn Ebrill 2011, ag yn rhoi agoriad i batrymau ysgrifennu’r awdur (mae casgliad cyfan ysgrifennu Satoshi yma).

“Sorry to be a wet blanket, but, writing a description of Bitcoin for general audiences is bloody hard. There’nothing to relate it to.” – Satoshi, 5ed o Orffennaf 2010. Mae’r frawddeg yma’n awgrymu Prydeinwr, neu frodor o’r Gymanwlad (ffynhonell)
Er nad oes posib gwybod mewn unriw sicrwydd sydd yn ein gadael i ddyfalu’n y tywyllwch, pan yn cymeryd dalen blaen y Times o Lundain yn y bloc genedigol, ynghŷd ag arddull gynhenid Seisnig ei frawddegau a’i sillafu, mae yn awgrymu bod Satoshi yn hanu o Ynysoedd Prydein, â’r tebygolrwydd cryfaf mae Sais ydoedd. Er hyn, dydi’r ffaith ei fod yn sgwennu yn y Saesneg fel iaith fyd-eang ddim yn golygu’n angenrheidiol mae Saesneg oedd ei iaith gyntaf, sy’n agor y posibiliad lleiaf ei fod yn Gymro Cymraeg. Ym mha bynnag achos, roedd ei fryd hir dymor ar darfu croglath Senedd Llundain, y Banc yn Lloegr a’r Bunt dros weddill Prydain, a thanseilio’r Undeb sy’n ein cadwyno yn y gyfundrefn ddinistriol yma.
Triawd Elfennol Bitcoin – Defnyddwyr, Datblygwyr, Cloddwyr
Defnyddwyr Bitcoin

Erthygl ddiddorol iawn ar faint sy’n defnyddio Bitcoin a crypto-cyfred yn gyffredinol, dros y byd. At Awst 2023, mae amcangyfrifon o 172 miliwn yn ymwneud gyda Bitcoin efo 25 miliwn yn hunan gystodi bitcoins (ffynhonell)
Yr elfen fwyaf poblogaidd a niferus ydi’r defnyddwr, y rheini sy’n defnyddio Bitcoin ar gyfer sdorio gwerth unai drwy dderbyn neu brynu bitcoins, ag hefyd rheini sy’n gwario neu werthu bitcoins am gynnyrch neu arian gwladol. Hwn ydi’r dosbarth mwyaf cyffredinol o bell ffordd, ag yn llawer haws i’r person cyffredin ddod yn rhan o’r rhwydwaith drwy ddefnyddio’r arian, yn hytrach na mynd i fewn i ddatblygu neu gloddio. Oherwydd natur Bitcoin fel cyfundrefn sy’n gynhenid i’r rhyngrwyd, mae Bitcoin fel y rhyngrwyd yn gyfundrefn fyd-eang ag yn gweithredu ar riw lefel yn 195 gwlad y byd yn gydamserol, wrth i’r dechnoleg gael ei fabwysiadu gan y boblogaeth o’r llawr i fyny, ag wrth i’r is-adeiledd ariannol ar gyfer cyfnewid rhwng Bitcoin ag arian gwladol ffynnu. Er dechrau heb ddim defnyddwyr a dim gwerth ariannol, wrth i’r rhwydwaith dyfu a datblygu mae wedi cyrraedd oddeutu 25 miliwn o ddefnyddwyr yn hunan gystodi bitcoin (chwech gwaith poblogaeth Cymru) o fewn ecosystem anferthol efo amcangyfrifon o dros 400 miliwn o bobol dros y byd wedi prynnu crypto-cyfred, a dros 200 miliwn wedi prynnu bitcoin ar sefydliad gyfnewid. Byddwn yn trafod y rhwydwaith Gyfnewid yn y man.
Datblygwyr Bitcoin
Ar ôl gwario’r flwyddyn gyntaf yn maethu ag yn magu Bitcoin drwy ddatblygu a chloddio, o Haf 2010 mae cyfraniad Satoshi yn crebachu ar yr union amser roedd mwy o alw am ei ddyletswydd i lywio’r llong newydd, ag erbyn diwedd y flwyddyn roedd wedi diflannu’n gyfangwbwl ag wedi gadael y prosiect yn nwylo llond llaw o ddisgyblion cynnar. Mae yna nifer o ddamcaniaethau am pam y diflannodd Satoshi, yn cynnwys y fygythiad o arestio a charcharu gan yr awdurdodau am greu cyfundrefn ariannol newydd (yn sgîl Gavin Andresen, cynorthwydd Satoshi yn datgan ei fod yn bwriadu ymweld a phencadlys y CIA ar ddiwedd Ebrill 2010), a’i fod wedi blino ar y prosiect. Beth bynnag y rheswm, mae diflannu a gadael y dyfodol i’r datblygwyr gwffio drosto wedi sefydlu Bitcoin fel rhwydwaith anhrefnus iawn, ag o’r gwaelod i fyny, mae yna nifer o engreifftiau o ryfeloedd rhwng datblygwyr, a’r frwydyr rhwng y blocwyr mawr a’u bryd ar ganoli a’r blocwyr bach a’u bryd ar ddatganoli. Drwy gwffio dros ddatganoli fe drechodd y blocwyr bach fygythiadau cynnar canoli Bitcoin, yn Rhyfeloedd Blocfaint 2017, ag ers hynny mae nifer y datblygwyr wedi ffrwydro o gannoedd i filoedd, sydd hefyd yn golygu fod y ffraeo a’r cystadlu dros ddatblygu Bitcoin yn cynyddu dros amser, sy’n gwneud y gyfundrefn gymaint anoddach i’w newid a ddyliau fod yn ddigwyliedig wrth i werth rhwydwaith Bitcoin groesi Hanner Triliwn. Serch hyn, mae nifer o welliannau dros y blynyddoedd wedi cyrraedd consenws, efo SegWit yn 2017 a Taproot yn 2021, ag mae’n debyg bydd gwelliannau pellach yn y dyfodol agos i bell, er mwyn graddio’r rhwydwaith i fwy o ddefnyddwyr.
Cloddwyr Bitcoin

Cyfrifiaduron pŵerus ag arbenigol sy’n defnyddio trydan i gloddio am bitcoin (ffynhonell)
I gloi’r triawd, mae cloddwyr yn defnyddio peiriannau arbenigol a thrydan i ddiogelu Bitcoin yn erbyn ymosodiadau, ag yn y broses yn cael eu gwobrwyo gan y rhwydwaith mewn cyfred, bitcoins. Yn y dechreuad, roedd posib cloddio efo cyfrifiadur personol, a dyma sut wnaeth Satoshi gloddio’r miliwn bitcoin cyntaf (sydd 15 mlynedd wedyn dal heb symud). Wrth i ddiddordeb a gwerth Bitcoin dyfu, daeth cystadleuaeth a dyfeisiadau peiriannol i gloddio’n fwy dwys, a symudiad unedau prosesu o CPU (Central Processing Unit) i GPU (Graphics Processing Unit), ag erbyn 2012 wedi cyrraedd ASIC (Application Specific Integrated Circuit). Ers oes yr ASIC, mae costau trydanol wedi dod yn eithriadol o bwysig i gloddio Bitcoin, wedi adlewyrchu yng nghanoli cloddio mewn gwledydd efo trydan rhad, yn enwedig Tseina rhwng 2012 a 2021. Fe benderfynodd Plaid Gomiwnyddol Tseina wahardd cloddio Bitcoin yn mis Mai 2021, ag er bod dal marchnad ddu iach a helaeth yn dal i gloddio’n ddirgel yn Tseina, mae cloddio wedi allfudo a datganoli i weddill y byd ag yn enwedig i’r Gorllewin yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf, sy’n cryfhau daearyddiaeth cloddio’r rhwydwaith.
Mae’r cloddwyr yn rhan hanfodol o Bitcoin, ag felly maent wedi trio ennill goruchafiaeth dros y defnyddwyr a’r datblygwyr yn y gorffennol, yn wir y blocwyr mawr yn rhyfeloedd 2015-2017 oedd y cloddwyr er mwyn cynyddu eu ffïoedd am drafodion, fe orfu’r defnyddwyr a’r datblygwyr sefyll yn gadarn ag yn y diwedd gorfodi’r cloddwyr i blygu, ag yn y broses adnabod goruchafiaeth y defnyddwyr (a rhedwyr nodynau llawn) dros y rhwydwaith.

Mae consensws llywodraethu Bitcoin yn gweithredu fel hyn! (ffynhonell)
Y Pedwerydd Elfen – Cyfnewidfeydd

Mae Bitcoin yn sylfaenol yn rwydwaith person i berson, ond yn bresennol mae pawb yn defnyddio ag yn byw o fewn cyfundrefn arian gwladol. Ar hyn o bryd felly, y ffordd mwya cyfleus i ymuno gyda rhwydwaith Bitcoin ydi drwy Gyfnewidfa, am arian gwladol (ffynhonell)
Gellir cysidro Cyfnewidon (Exchanges) fel is-elfen o’r defnyddwyr, ond maent hefyd yn unigryw oherwydd eu bod yn ariannu cyfundrefn Bitcoin, drwy gysylltu â’r gyfundrefn fancio gyfredol sy’n carcharu cyfoeth a dyledion y byd. Ohewydd fod Satoshi wedi dyfeisio Bitcoin gyda’r cloddwyr yn creu ag yn derbyn yr arian gyntaf, yn y dyddiau cynnar doedd dim Cyfnewid wedi cael ei adeiladu i alluogi rhywun nad oedd yn cloddio am bitcoins, i fedru fod yn berchen ar bitcoins. Y Cyfnewid cyntaf o unriw faint yn y ddwy flynedd gyntaf oedd Mt Gox yn Siapan sefydlwyd yn Ngorffennaf 2010, i alluogi cloddwyr i werthu eu bitcoins am arian gwladol, ag i’r cyhoedd a buddsoddwyr cynnar gyfnewid eu arian gwladol am bitcoins, ag felly daeth yn ganolbwynt darganfyddiad pris Bitcoin mewn arian gwladol. Cyfnewidfeydd eraill cynnar nodedig oedd Bitstamp sefydlwyd yn Nhachwedd 2011, LocalBitcoins yn Mehefin 2012, Coinbase yn Hydref 2012 a Bitfinex yn Rhagfyr 2012, ond roedd Mt Gox yn cawru dros y gweddill ag yn hawlio 70% o drafodion byd-eang cyn dymchwel i fethdal yn Chwefror 2014, ag yn ei sgîl roedd nifer yn poeni y byddai marwolaeth Mt Gox yn lladd Bitcoin hefyd.
Yn dilyn dymchwel Gox, mae cyfnewid Bitcoin wedi datganoli i ddau gant o wledydd y byd, ag yn datblygu’n wahanol ymhob gwlad yn ddibynnol ar gyfreithiau a rheolaethau cenedlaethol a’r berthynas gyda’r banciau, sy’n mynd i gyfrannu at ariannu a llwyddiant Bitcoin yn yr hir dymor er mwyn ehangu’n prif arian y byd, tra yn y tymor byr a chanolig mae Bitcoin yn mynd i gael ei fygwth gan lywodraethau a’r gyfundrefn ariannol sy’n mynd i drio rheoli a chaethiwo Bitcoin, drwy’r system fancio a chyfnewidfeydd, y cawn drafod ymhellach nes mlaen.
Polisi Ariannol Bitcoin a’r Rhaglen Gyhoeddi

Siart o raglen gyhoeddi ariannol Bitcoin, maint mewn glas a’r radd chwyddiant mewn oren (ffynhonell)
Mae rhaglen gyhoeddi ariannol Bitcoin wedi ei gyn-benderfynu, efo uchafswm o Ddauddeg Un Miliwn (21,000,000) o unedau, a ddechreuodd yn Ionawr 2009 yn creu 50 bitcoin bob bloc deng munud am ei bedwar mlynedd cyntaf, hyd at yr 28ain o Dachwedd 2012, cloddwyd 210,000 o flociau 10 munud, i gyhoeddi 10,500,000 bitcoin (210,000 x 50), neu hanner yr uchafswm.
Ar yr 28ain o Dachwedd 2012, hannerodd y wobr i 25 bitcoin bob bloc deng munud (3600 bob dydd) barodd dan Orffennaf y 10fed 2016, pan gloddwyd 5,250,000 bitcoin (210,000 x 25), am gyfanswm o 15,750,000 a/neu 75% o’r uchafswm yn yr wyth mlynedd gyntaf.
Hannerwyd y cyhoeddiad eto wedi Gorffennaf 2016 lawr i 12.5 bitcoin bob deng munud (1800 bob dydd), mae cyfnod y trydydd hanneriad yn para hyd 11eg o Fai 2020, i greu 2,625,000 bitcoin (210,000 x 12.5), am gyfanswm o 18,375,000 a/neu 87.5% o’r Uchafswm…
Daw cyfnod y pedwerydd hanneriad ollyngodd y cyhoeddiad i 6.25 bitcoin bob deng munud (900 y dydd) i ben o gwmpas yr 22ain o Ebrill 2024, pan bydd 1,312,500 bitcoin (210,000 x 6.25) arall wedi eu cloddio am gyfanswm 19,687,500 a 93.75% o’r uchafswm…
Bydd cyfnod y pumed hanneriad yn para rhwng 2024 a 2028 yn cloddio ychydig dros 600,000 ar 450 y diwrnod am 96.975% o’r uchafswm, gyda llai na miliwn ar ôl i’w cloddio allan o’r 21,000,000, dros y ganrif nesa.
Mae prinder a dad-chwyddiant (deflation) felly yn ran annatod o brotocol Bitcoin gyda’r llif ariannol yn hanneru bob pedair blynedd, ag efo cynnydd yn nefnyddwyr Bitcoin erbyn heddiw i dros gan miliwn o bobol, mae’r prinder yn cael ei adlewyrchu ym mhris Bitcoin ar gyfnewidfeydd ag mewn arian gwladol.
Dosbarthiad Bitcoin

Graffeg ddigon defnyddiol ar gyfer amcangyfrif dosbarthiad perchnogaeth bitcoin
Pris Bitcoin a’r Cylchoedd Llanw a Thrai
| Dyddiad a Blwyddyn | Pris Bitcoin mewn Punnoedd |
| 3ydd Ionawr 2009 | £ 0.00 |
| 3ydd Ionawr 2010 | £ 0.00 |
| 3ydd Ionawr 2011 | £ 0.19 |
| 3ydd Ionawr 2012 | £ 4.27 |
| 3ydd Ionawr 2013 | £ 8.34 |
| 3ydd Ionawr 2014 | £ 576.71 |
| 3ydd Ionawr 2015 | £ 189.00 |
| 3ydd Ionawr 2016 | £ 313.08 |
| 3ydd Ionawr 2017 | £ 735.74 |
| 3ydd Ionawr 2018 | £ 12,138.06 |
| 3ydd Ionawr 2019 | £ 3,151.18 |
| 3ydd Ionawr 2020 | £ 5,436.28 |
| 3ydd Ionawr 2021 | £ 29,032.95 |
| 3ydd Ionawr 2022 | £ 35,236.97 |
| 3ydd Ionawr 2023 | £13,743.49 |
| 3ydd Ionawr 2024 | £ 35,755.59 |
Cip-olwg ar bris Bitcoin mewn punnoedd ar y 3ydd o Ionawr, bob blwyddyn ers 2009 i’r presennol (ffynhonell)
Mae’r tabl uchod yn rhoi cip edrychiad arwynebol ar gynnydd anhygoel pris Bitcoin ar yr un dydd, bob blwyddyn ers ei enedigaeth, ond ychydig iawn mae’n deuthum am gylchoedd ariannol Bitcoin, sy’n cael eu dylanwadu’n drwm gan raglen gyhoeddi Bitcoin, ag yn enwedig yr hanneru.

Mae patrymau cylchoedd pris Bitcoin wedi ailadrodd i raddau syfrdanol dros y dair hanneriad mor belled. Yn seiliedig ar y gorffennol, bydd Bitcoin yn pasio’i uchafswm pris o $70,000/£50,000 darwyd ar y 10fed o Dachwedd 2021, o gwmpas diwedd y flwyddyn yma (ffynhonell)
I geisio eglurhad ar gyfer y siart uchod, mae’r hanneriad yn hanneru cyfradd chwyddiant a llif bitcoins sy’n cael eu creu cofier, gan y cloddwyr. Mae’r hanneru mewn effaith yn dyblu costau cynhyrchu’r cloddwyr dros nôs, fydd yn gorfodi’r mwyaf aneffeithlon ac amhrofidiol i droi ffwrdd eu peiriannau a dad-gysylltu o’r rhwydwaith am y tro. Mae’r hanneriad hefyd yn Sioc Gyflenwad, wrth gynyddu prinder bitcoins o’i gymharu efo’r galw o dros bedwar ban byd, yr unig ffordd i fedru cydbwyso felly ydi drwy brisiau, a phris bitcoin yn codi.
Tra dydi’r sioc gyflenwad ddim yn ymddangos yn y pris ar ddwrnod yr hanneriad, mae hanes yn deuthum fod pris Bitcoin yn dechrau saethu fyny yn y chwe mis wedi hanneru, ag yn pasio’r pris uchafswm y gylchred gynt o gwmpas diwedd yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn ar ôl yr hanneru mae Bitcoin yn cyrraedd ei anterth a pan mae pawb yn siarad amdano ag wedi eu sugno fewn i’r meddylfryd yr aiff i fyny am byth, cyn dymchwel yn y flwyddyn nesa o leiaf 70%, ysgwyd allan y sefydliadau a chyfnewidau llwgwr, buddsoddwyr dwylo gwan a’r gamblwyr, ag ailosod darpariaeth a galw ar gyfer y gylchred nesaf.
Yng nghylchred 2012-2016 hannerodd Bitcoin ar y 28fed o Dachwedd am dan £8, cyn ffrwydro i’r uchafswm o £650 ar y 5ed o Ragfyr 2013, blwyddyn ag wythnos wedi’r hanneriad. Dymchwelodd Bitcoin wedyn 80% cyn taro ei isafswm pris o £150 ar yr 17eg o Ionawr 2015.
Yng nghylchred 2016-2020 hannerodd Bitcoin ar y 10fed o Orffennaf 2016 ar oddeutu £400, cyn hedfan i’r uchafswm o £14,000 ar y 17eg o Ragfyr 2017, blwyddyn a pum mis ers hanneru. Disgynodd Bitcoin wedyn 80% eto cyn taro ei isafswm pris o £2,600 ar yr 15fed o Ionawr 2019.
Yng nghylchred 2020-2024 hannerodd Bitcoin ar y 11eg o Fai 2020 ar oddeutu £8,000, cyn taranu i’r uchafswm o £50,000 ar y 10fed o Dachwedd 2021, blwyddyn a hanner ers hanneru. Disgynodd Bitcoin wedyn 80% eto cyn taro ei isafswm pris o £14,000 ar 20fed o Dachwedd 2022.
Noder yn syfrdanol yma fod uchaswm pris Bitcoin yn y dair cylchred bedair blynedd ddiwethaf wedi taro yn Rhagfyr 2013, Rhagfyr 2017 a Tachwedd 2021, bedair blynedd ar wahan yn y deuddeng mlynedd ddiwethaf, deunaw mis yn dilyn hanneru. Noder hefyd fod isafswm Bitcoin yn taro yn Ionawr 2015, Ionawr 2019, a Thachwedd 2022, flwyddyn wedi’r uchafswm, a blwyddyn a hanner cyn yr haneriad nesaf.
Os ydi’r patrwm hanesyddol yn dal ag yn ailadrodd, bydd yr hanneriad yn Ebrill 2024 yn debygol o arwain i uchafswm pris Bitcoin ar ddiwedd Blwyddyn 2025, llai na dwy flynedd o heddiw.

Siart damcaniaethol o gylchred Bitcoin ar ôl hanneru 2024, noder fod y prisiau mewn doleri (ffynhonell)
Mabwysiadu Bitcoin – Byd y Gogledd a’r De

Mae mabwysiadu crypto-cyfred ar y cyfan yn lledeanu fwyaf cyflym mewn gwledydd efo cyfundrefn fancio, ag arian gwladol gwan. Yn ôl yr ystadegau, allan o’r Ugain gwlad uchaf ar y mynegai uchod, mae naw yn Asia, tri yn Ne America, a dau yn Affrica (ffynhonell)
Mae’r rhan fwyaf o drafodaeth geowleidyddol yn rhannu’r Byd rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain, ond ar gyfer yr adran yma, byddwn yn defnyddio’r Gogledd a’r De. Mae’r Gogledd ar y cyfan yn wledydd datblygiedig efo llywodraethau a chyfundrefnau bancio cadarn â lefel ymddiried gryf gan y boblogaeth efo chwyddiant îs, sy’n cynnwys Ewrop, Prydain, Yr Unol Daleithau, Canada, Rwsia a Tseina. Mae’r De ar y cyfan yn wledydd datblygol efo llywodraethau a chyfundrefnau bancio gwan efo lefel ymddiried isel gan y boblogaeth â chwyddiant uwch, sy’n cynnwys Y Dwyrain Canol, India, De Ddwyrain Asia, Affrica a De America.
Yn y gwledydd Gogleddol efo cyfundrefn fancio ddatblygedig, bydd Bitcoin yn datblygu fwy fel stôr o werth a dull o gynilo ar gyfer y boblogaeth â’r banciau yn dal i ragori ar yr agwedd daliadau am y tro, yng Ngwledydd y De lle mae’r gyfundrefn fancio dal i ddatblygu â chyfran helaeth o’r boblogaeth heb gyfrif banc, mae Bitcoin yn mynd i ddatblygu fel stôr o werth AC fel cyfundrefn daliadau, ynghŷd a chrypto-cyfred yn gyffredinol, er engraifft cyfred sefydlog (stablecoins). Mae’n debyg felly bydd y De yn mabwysiadu Bitcoin yn gynt fel arian bob dydd, na’r Gogledd lle bydd Bitcoin yn datblygu fwy fel cyfalaf a sail i’r gyfundrefn fancio a thaliadau.
Mabwysiadu Bitcoin – O’r Sector Breifat i’r Sector Gyhoeddus
Fel y trafodwyd eisioes, dechreuodd Bitcoin wrth ei draed ag o’r gwaelod i fyny, y mabwysiadwyr cyntaf oedd unigolion, cwmnïau a busnesau y sector breifat, wrth adeiladu’r cyfnewidfeydd ag is-adeiledd Bitcoin i ehangu’r defnyddwyr a’r rhwydwaith, ag mewn amser pan oedd llywodraethau a’r sector gyhoeddus yn ddiarwybod am ddatblygiad Bitcoin. Wrth i Bitcoin basio ei Ddegfed Penblwydd yn 2019 fe ddechreuodd bethau newid yn yr agwedd yma, ag mae’r dair blynedd ddiwethaf yn enwedig wedi gweld nifer o ddatblygiadau, wrth i lywodraethau cenedlaethol a chyfundrefnau ariannol traddodiadol, ddechrau synhwyro bygythiadau a chyfleoedd mabwysiadu Bitcoin o flaen gwledydd eraill.
Mabwysiadu Bitcoin gan Wledydd

Nayib Bukele, Llywydd El Salfador, ddaeth y wlad gyntaf i wneud Bitcoin yn arian cyfreithiol (ffynhonell)
El Salfador efo poblogaeth o 6.5 miliwn, ddaeth y wlad gyntaf i gyfreithloni Bitcoin fel arian ar yr 7fed o Fedi 2021, a Gweriniaeth Ganol Affrica efo poblogaeth o 5.5 miliwn ddaeth yr ail wlad ar y 27ain o Ebrill 2022. Yn ogystal mae gohebiaeth ar Tonga (poblogaeth o 105,000) a Fiji (poblogaeth o filiwn) yn cysidro mabwysiadu Bitcoin fel arian cyfreithlon i leddfu eu dibyniant ar arian tramor, mae hefyd achos Panama (poblogaeth o 4.3 miliwn) lle mae rheolaethau eglur, ag er nad ydi Bitcoin yn arian cyfreithiol does dim trethi cyfalaf, sy’n rhoi Bitcoin ar yr un droed a’r Balboa a Doler yr UDA, y ddau arian cyfreithiol yn Panama.
Yn ychwanegol, yn ôl sibrydion diweddar mae Suriname (poblogaeth o 630,000) a Colombia (poblogaeth o 52 miliwn) yn Ne America yn cysidro strategaeth fabwysiadu Bitcoin, tra mae codiad Javier Milei yn yr Ariannin (poblogaeth o 47 miliwn) wedi arwain at ryddid i ddefnyddio bitcoin ar gyfer setlo cytundebau, ag yn bwysicach wedi diddymu holl drethau ar gyfnewid mewn bitcoin sy’n dymchwel atalfa lywodraethol, fydd yn ffynnu mabwysiadaeth gynhenid ag yn denu cyfalaf ag arbenigedd cyfundrefn fyd-eang Bitcoin, i symud i’r Ariannin i adeiladu.
Beth sydd yn gyffredin i’r gwledydd uchod? Maent i gyd yn wledydd datblygol ar ymylon cyfundrefn ariannol y byd, yn ddibynnol ar arian y Gorllewin (y Doler yn enwedig) ag efo diffygion ariannol a bancio cynhenid sy’n atal y boblogaeth a’r economi rhag tyfu a chynhyrchu cyfoeth, ag yn fwy torcalonnus yn sugno yr ifainc allan o’r wlad i weithio’n y Gorllewin er mwyn gyrru’r arian gartref, Effaith Cantillon ar ei orau. Mae’r duedd felly yn glîr, fod gwleidyddion yn y gwledydd tlawd ac ymylol yn mynd i yrru mabwysiadaeth er mwyn rhyddid ariannol o’r Gorllewin, ag er llês y dyfodol. Y tebolrwydd ar lefel Wladol ydi bydd y Gwledydd Datblygol y De ar yr ymylon yn mabwysiadu Bitcoin fel arian cyfreithlon gyntaf, a Gwledydd Datblygedig y Gogledd yn y craidd yn mabwysiadu Bitcoin fel arian cyfreithiol olaf.
Gwledydd yn Cloddio Bitcoin
O’r uchod, a symudiadau wyth gwlad yn cynnwys dros gan miliwn o bobol tuag at Bitcoin, daw’r cwestiwn o sut i gael gafael arno yn y ffordd mwyaf cyfleus? Dyma agwedd arall lle mae Bitcoin yn rhagori, oherwydd gellir cynhyrchu bitcoins o fewn y wlad drwy gloddio, a thrwy ddefnydd gridiau trydanol, sydd yn rhan fwyaf o wledydd y byd yn nwylo’r llywodraeth yn barod, mewn un ffordd neu arall. Drwy arallgyfeirio trydan, gellir creu arian gwladol gartref, sy’n cryfhau diogelwch cenedlaethol a chadarnhau annibyniaeth. Am y rheswm hyn, fe ddaw Bitcoin yn rhan fwy pwysig o geowleidyddiaeth egnïol y byd yn y ddegawd nesaf, fel drafodwyd ym Mhennod 9 o’r Podlediad Arian Cymreig ar Bitcoin ag Egni, ag yn y traethawd Bitcoin ag Egni (i ddilyn).
Engreifftiau o wledydd yn cloddio Bitcoin:

Iran – Oherwydd sanctiynnau ariannol y Gorllewin yn gwahardd gwerthu olew a nwy mewn Doleri i setlo masnach, mae Iran wedi penderfynu llosgi eu olew a nwy i gynhyrchu trydan i gloddio Bitcoin. Yn wir tra mae’r Awdurdodau wedi gwahardd cloddio i’r cyhoedd ar ôl i nifer ddechrau cloddio mewn mosgiaid am eu bod yn derbyn trydan yn rhad ag am ddim gan y Llywodraeth, mae Iran yn cloddio ar y lefel Genedlaethol drwy’r Lluoedd Arfog, ag yn amlwg gyda bendith y Llywodraeth. Mae’r bitcoins yn cael eu defnyddio wedyn i dalu am fewnforion na gellid eu talu mewn Doleri, a mae Iran wedi bod yn cloddio ers o leiaf 2019.

Venezuela – Gwlad arall yn dioddef sanctiynnau Gorllewinol, ar ôl carcharu cloddwyr Bitcoin preifat mewn Gwlad lle mae trydan bron am ddim i’r cyhoedd, mae’r Llywodraeth a’r Fyddin wedi troi trydan Cenedlaethol fewn i bitcoins ers 2020 er mwyn sefydlogi eu seiliau, wrth i arian gwladol y Bolivar doddi mewn gwerth fesul yr awr ar gyfer y cyhoedd.

Bhutan – Daeth yr hanes allan ond yn y chwe mis diwethaf fod Brenhiniaeth Bhutan, gwlad o 700,000 yn Ne Asia, wedi bod yn cloddio’n gyfrinachol ers 2020 drwy ddefnyddio egni adnewyddol a phŵer dŵr i gynhyrchu trydan. Mae rhesymau Bhutan dros fabwysiadu Bitcoin ar lefel Wladol yn cynnwys colledion ariannol twristiaeth yn ystod ag ers llanast Cofid, ag yn ymgais i geulo allfudo eu pobol ifanc allan o’r wlad (1.5% o’r boblogaeth wedi allfudo i Awstralia yn unig yn y ddwy flynedd ddiwethaf).

El Salfador – Yn ogystal a chyfreithloni Bitcoin fel arian gwladol, mae Bukele wedi mynd gam yn bellach, wrth ddefnyddio egni adnewyddol a gwres llosgfynyddoedd i gloddio am bitcoins, ar gyfer cronfa wladol, ag er mwyn cymeryd dyled allan yn y ffurf Volcano Bonds i adeiladu is-adeiledd Bitcoin y wlad yn bellach.
Mae’r bedair esiampl uchod yn amlygu sut all Gwledydd a Llywodraethau gynhyrchu bitcoins gartref, sy’n magu annibyniaeth egni ag arian rhag prinderau ag anwadalrwydd arian Gorllewinol, wrth i ymddiried yn ei chyfundrefn ariannol wanhau, wrth i’w sanctiynnu a’i gwaharddiadau ar weddill gwledydd y byd gynyddu. Mae Iran (gwlad o 88 miliwn) eisioes wedi troi at Bitcoin i osgoi’r sanctiynnau, sydd wedi ymestyn i Rwsia (gwlad o 147 miliwn) sydd hefyd yn y broses o gyfreithloni Bitcoin ar gyfer taliadau tramor a sibrydion fod eu Llywodraeth hefyd yn cloddio Bitcoin fel rhan o strategaeth i leihau dibyniaeth ar y Doler wrth fasnach yn rhyngwladol. Fe ddylia’i hefyd fod yn glir y meder llywodraethau gyfreithloni Bitcoin ar lefel lywodraethol tra’n gwahardd defnydd Bitcoin gan y cyhoedd o fewn y wlad, a dyma’r tebygolrwydd cryfaf yn y byr dymor, y bydd gwledydd yn cymeryd mantais o Bitcoin ar lefel ryngwladol, tra’n rheolaethu’n llym defnydd Bitcoin ar gyfer taliadau mewnwladol, rhag iddo fygwth a thanseilio monopoli eu arian gwladol dros y boblogaeth gynhenid. Ond yn yr hir dymor, ag wrth i werth Bitcoin gynyddu, fe ddaw yn fater o ddiddordeb ag yn wir diogelwch cenedlaethol i gyfreithloni Bitcoin ar gyfer taliadau, er y bygythiad feidrol fydd hyn yn ei greu i’r gyfundrefn fancio a threthi.
Bitcoin A’r Gollewin – Seiliau Newydd i’r Undebau Cyllid

Bydd ailosod seiliau cyfalafol y byd yn cynnwys ail brisio aur yn llawer uwch, a banciau a llywodraethau yn defnyddio aur a Bitcoin a phrinder cynhenid fel seiliau’r gyfundrefn newydd, ag ar draul arian a dyled gwladol fydd yn dibrisio ag yn anablu gallu Undebau’r Gorllewin i gyhoeddi dyled a gwariant cyllidol (ffynhonell)
Cyrhaeddwn yn agosach adref, ag at dair Undeb Ariannol a Chyllidol sy’n mygu dominyddu setlo masnach dros y byd. Er y dyledion enbyd a hunllefus mae’r Unol Daleithiau, Ewrop a Phrydain yn eu creu ers eu dechreuad, mae chwyddiant yn gyffredinol yn îs yn y gwledydd yma ag mae’r system fancio a thaliadau yn gweithredu’n fwy effeithiol, sy’n golygu y tebygolrwydd y bydd hi’n cymeryd yn hirach i Bitcoin gymeryd drosodd yma fel rhwydwaith daliadau, ond mae Bitcoin yn cynnig lot fwy o ddefnydd byr dymor i’r Gorllewin fel stôr o werth a chyfalaf phrin a drudfawr i gefnu’r dyledion arian a’r cyllid.
Oherwydd rôl hanesyddol aur fel sail yr hen system ariannol ag am y ffaith fod Banciau Canolog y Byd yn dal i storio aur ar eu llyfrau fel cyfalaf annibynnol a sofrin, yna mae’n weddol hawdd damcaniaethu y bydd gwledydd y Gorllewin, ymysg dymchwel eu marchnad ddyledion rhyngwladol a chwyddiant gynyddol eu arian mewnwladol, yn penderfynu ailbrisio aur yn uwch fydd drwy lygredd hud a lledrith Cyfrifo, yn ailbrisio llyfrau a gwerth y gyfundrefn gyfrifon yn uwch, a chynyddu’r galw am brynnu a storio aur yn y Gorllewin.
Mae’r un peth yn wir am Bitcoin. Os ydi’r gyfundrefn fancio a llywodraethau cenedlaethol yn dechrau hel cronfeydd Bitcoin fel ased sylfaenol ar eu llyfrau, fel mae gwerth Bitcoin yn tyfu mae gwerth cyllidol ar lyfrau banciau a thrysorlysiau yn tyfu, yn galluogi cynyddu benthyciadau a gwariant gwladol ar yr ochor ddyledus, fydd yn cynyddu tŵf economaidd a gwariant cyllid llywodraethau. Y prîs fydd rhaid ei dalu am fuddsoddi mewn prinder a chyfalaf gwell wrth ailbrisio aur a bitcoin yn uwch, fydd dibrisio bonds a dyledion gwladol fydd yn eu gwneud yn llai deniadol i weddill yr economi eu prynnu, fydd yn anablu gallu’r Gorllewin i redeg dyledion a gwariant cyllidol allan o reolaeth, ond bydd y dewis hwn yn fwy deniadol na chreisus ariannol a dyledol, a chwyddiant uwch.
Banciau’r Gorllewin yn Mabwysiadu Bitcoin
Dechreuwn yma efo’r corfforaethau an-etholedig, a biwrocratiaid ariannol sy’n goruchwylio Banciau Canolog y byd. Adwaenir y Banc Setlo Rhyngwladol fel Banc Canolog y Banciau Canolog, a’i bencadlys erchyll yn Basle, Y Swisdir, ac mae ei gynghorau a’i bwyllgorau yn penderfynu safonau mabwysiadu cyfalaf gweddill banciau’r byd, felly mae’n bwysig talu sylw i ddatblygiadau rheolaethau crypto-cyfred ar y lefel yma.


Pwyllgor Basle yn diweddu polisi yn awgrymu 2% o uchafswm i Bitcoin fel cyfalaf ar lyfrau banciau (ffynhonell)
Y Basel III Accord, ydi’r fframwaith diweddaraf sy’n pennu safonau rhyngwladol ar gyfer cyfalaf banc, profi am straeniau, a gofynion hylifol, er mwyn cydnerthu cyfrifon a lleihau leferaeth.
Dealltwriaeth Basel III sydd wedi bod yn gyfrifol am ddyrchafu aur corfforol i Gyfalaf Dosbarth Cyntaf, yn Rhagfyr 2022 diweddodd y pwyllgor ei bolisi arfaethedig ar ddal Bitcoin, ar ôl ymgynghori efo lobïau banc (yn cynnwys J P Morgan a Deutsche Bank), efo cyfyngiad o 2% o gyfalaf yn Bitcoin. Yn seiliedig ar $180 triliwn mae’r banciau yn ei gystodi, byddai 2% yn oddeutu $3.6 trilliwn, pedair gwaith maint presennol Bitcoin werth $800 biliwn.
Dydi’r uchod ddim yn golygu y bydd y banciau i gyd yn gorlifo fewn i Bitcoin yn y dyfodol agos, ond mae’r drws wedi cael ei agor, gan y banciau eu hunain, i ddal Bitcoin fel cyfalaf ar eu llyfrau. Er engraifft os byddai gwerth Bitcoin yn lluosi ddeg gwaith o fama, byddai 2% o gyfalaf yn chwyddo i 20% o gyfalaf, a deg gwaith y gallu i godi benthyciadau i’r sector breifat a thŵf economaidd fyddai’n dod yn ei sgîl.
Diweddaru Safonau Cyfrifo ar Gyfer Bitcoin
Yn ogystal a’r gyfundrefn ariannol, mae’r gyfundrefn gyfrifo yn chwarae rhan bwysig ar gyfer corfforaethau a chwmnïau y sector breifat, sydd fel y banciau a’u dwylo ynghlwm gan safonau a rheolaethau cyfreithiol yn penderfynu pa asedau a chyfalaf y caent fuddsoddi ynddo. Er fod nifer o gwmnïau y sector breifat eisioes wedi buddsoddi yn Bitcoin fel cronfa gyfalafol ar gyfer y dyfodol, roedd rheolaethau cyfrifo yn rhoi cosbau ar ddal Bitcoin fel cyfalaf, drwy ei ddiffinio fel “indefinite-lived intangible asset” sydd yn brifo Bitcoin fel ased gyfrifo. O dan y diffiniad yma, yn ystod chwarter lle byddai pris Bitcoin yn disgyn, byddai’r cwmni yn gorfod adnabod y golled ar eu llyfrau, ond mewn chwarter lle byddai gwerth Bitcoin yn codi, ni fuasai yn cael ei adnabod fel elw cyfalafol ar y llyfrau!
Mae’r diffiniad hanner call yma o Bitcoin fel “indefinite-lived intangible asset”, sydd wedi atal corfforaethau a chwmnïau fuddsoddi mewn Bitcoin ar eu llyfrau ar fîn cael ei adolygu, wrth i’r Bwrdd Safonau Cyfrifo Ariannol (Financial Accounting Standards Board – FASB) symud ymlaen i gyfrifo gwerth têg ar gyfer Bitcoin.


FASB ydi’r corff sy’n gosod safonau cyfrifo i wellhau Egwyddorion Cyffredinol Derbyn Cyfrifon (Generally Accepted Accounting Principles – GAAP) o fewn yr Unol Daleithiau er llês y cyhoedd (ffynhonell)
Mae gan yr un addasiad cyfrifo yma oblygiadau anferthol ar ddyfodol Bitcoin, wrth i’r Unol Daleithiau fel canolfan ariannol y byd fabwysiadu cyfrifo gwerth têg, bydd yn gorfodi Byrddau Safon Cyfrifo mewn gwledydd eraill i gymeryd yr un agwedd tuag at Bitcoin, a galluogi eu corfforaethau preifat a chyhoeddus i fuddsoddi yn Safon Gyfrifo Bitcoin. O hyn ymlaen bydd cwmniau yn dal bitcoin ar eu llyfrau yn medru addasu i werth têg y farchnad bob chwarter, wrth i werth bitcoin gynyddu bydd gwerth sefydliadau a chorfforaethau a iechyd ariannol y cwmni yn cynyddu, yn galluogi ehangu y cwmni a chreu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol. Ac oherwydd fod rhaglen gyhoeddi Bitcoin yn rhagweladwy ag yn hanneru bob pedair blynedd, bydd yr holl gwmnïau yma’n ymladd am gyfranddaliad o’r uchafswm o 21,000,000, efo bron i 19,600,000 wedi eu creu yn barod â’r radd chwyddiant i hanneru eto eleni o 900 i 450 y diwrnod, bydd yn gyrru galw am Bitcoin yn llawer uwch na’i ddarpariaeth. Gellir dadlau y bydd prynu parhaol gan sefydliadau yn diddymu cylchoedd ariannol pedair blynedd Bitcoin, sydd wedi ailadrodd dair gwaith ers ei ddechrau. Bydd buddsoddi corfforaethol hefyd yn siwr o leihau hydarthedd (volatility) Bitcoin, a sefydlogi prisiau fuasai’n gwneud Bitcoin hyd yn oed yn fwy deniadol fel cyfalaf, ag yn gyrru fwy o fuddsoddi a fwy o frwydro wrth ailbrisio llyfrau corfforaethol yr Unol Dalethiau a’r Gorllewin yn uwch eto! Rhywbeth i gnoi cîl arno.

Trysorlysiau Corfforaethol ar hyn o bryd dros 1,700,000 bitcoin, neu 8.7% o ddarpariaeth yn ôl ystadegau bitcointreasuries.net, drwy Dashfwrdd Bitcoin Clark Moody
Mabwysiadu Bitcoin ar lefel Wladol – Deddfau Seneddol
Yn ogystal a’r cyrff anetholedig yn cynllwynio yn y cysgodion, mae’r cyrff etholedig a Chyfreithiau Gwlad, Deddfau Seneddwyr yn chwarae rhan hyd yn oed yn fwy pwysig. Yn wir, mae rhan fwyaf o drobwyntiau hanes Cymru a Phrydain (a’r helaeth o’r rhain er gwaeth) wedi dod allan o Senedd Llundain, o’r Deddfau Penyd 1402, i Ddeddfau Uno 1536 a 1542, Deddfau Uno 1707, Deddf Rhwystredigaeth Fancio 1797, a Deddfau Cenedlaetholi economi Prydain wedi’r Ail Ryfel Byd. Efallai bod y diniwed yn credu fod llwybyr igam ogam hanesyddol tuag at ganoli wedi bod yn un damweiniol, ond mae angen deall fod Senedd Llundain yn ganolog i ddatblygiad economaidd a thechnolegol Prydain ers Diwygiad Harri ag wedi dewis enillwyr a chollwyr y bum canrif ddiwethaf, ag felly yn ei gwneud yn ddylanwadol iawn ar ddyfodol Bitcoin ym Mhrydain, unai yn anghyfreithlon yng nghysgodion y farchnad ddu, neu yn gyfreithlon ag yn graidd polisîau ariannol a chyllid dyfodol yr Undeb.
I drafod y Gorllewin yn gyffrediniol gyntaf, ag yn erbyn pob disgwyliad, yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cymeryd y blaen gyda Rheolaethau Marchnad Mewn Asedau Crypto (Markets in Crypto Assets – MICA) ers yr 20fed o Ebrill 2023, ag er fod yr adolygion mor belled yn rhai cymysg, mae gan gwmnïau a sector ariannol Ewrop ddarlun llawer cliriach o beth sy’n bosib a ddim yn bosib ei wneud efo Bitcoin, gyda Deutsche Bank, banc mwyaf yr Almaen yn un o’r symudwyr cynnar wrth gynnig dal crypto-cyfred ar gyfer ei gwsmeriaid. Ar ôl edrych fel yr Undeb fwyaf blaengar dros fabwysiadu Bitcoin o dan Lywyddiaeth Donald Trump, mae’r Unol Daleithiau wedi symud i gefn y dosbarth ers Llywyddiaeth Joe Biden a’r Democratiaid, eu casineb amlwg tuag at Bitcoin yn agored i’w weld, ag wedi dylanwadu’n gryf ar Operation Chokepoint 2.0 a’r ymgais i lwgu Cyfnewidfeydd Bitcoin a banciau crypto er mwyn eu torri ffwrdd o’r sector ariannol draddodiadol. Er ymdrechion y Democratiaid, ar Stryd Y Wal mae’r gyfundrefn ariannol yn parhau i gynhesu at Bitcoin efo llith o Gronfeydd Gyfnewid Masnachol (Exchange Traded Fund – ETF) yn cael eu lawnsio ar ddechrau Ionawr gan rai o sefydliadau ariannol mwya’r byd megis Blackrock a J P Morgan, yn dangos fod diddordeb yn awchu i fuddsoddi. Hyd yn oed o fewn y Gyngres mae yna filiau yn gweithio’u ffordd drwy’r gors gyfreithiol, o’r bil ddwybleidiol Lummis-Gillibrand S. 4356 – y Ddeddf Arloesedd Ariannol Gyfrifol (Responsible Financial Innovation Act – RFIA) yn Ngorffennaf 2022, bil drafft Strwythur Marchnad a’r Ddeddf Eglurdeb Taliadau Arian Sefydlog 2023, gan gadair y Cyngor Gwasanaethau Ariannol (Financial Services Committee) Patrick McHenry a Gweriniaethwyr Tŷ’r Cynrhychiolwyr, wrth i’r Unol Daleithiau ddisgyn ar ôl ym mabwysiadu Bitcoin a crypto ag yn ddibynnol ar ailddyfodiad Trump.
Yn olaf i Lundain, lle pasiodd Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2023 fewn i Gyfraith, er mwyn rheolaethu y sector grypto-cyfred. Bydd lobïau’r Trysorlys, y Banc yn Lloegr a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (Financial Conduct Authority – FCA) nawr yn ymgynghori gyda lobïau gweddill y sector breifat a chyhoeddus, fydd yn penderfynnu eithafon a chyflymder tŵf ariannol a chyfrifo Bitcoin o fewn Prydain.


Mae Brexit wedi bod yn ergyd drom i sector ariannol a fancio y Ddinas yn Llundain, efo nifer o fanciau Ewrop wedi ymadael yn ôl am y Cyfandir, sydd fwy na thebyg tu ôl i ddelfryd diweddaraf y Blaid Dorïaidd i drawsnewid Prydain fewn i ganolfan crypto (ffynhonell)
Dyfodol Bitcoin Ym Mhrydain
Roedd Prydain yn anterth ei nerth ar ddiwedd y Chwyldro Diwydiannol, oherwydd ei pholisïau o golledion masnachol ar gyfer ehangu’r Bunt a’r Ddinas yn Llundain yn ganolfan ariannol y byd, aberthwyd economi a chynhyrchedd Prydain nes ei hunanladdiad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd nerth Prydain wedi methu, yn colli ei statws ariannol fyd eang i’r Unol Daleithiau, a Llundain wedi colli canolfan ariannol y byd i Efrog Newydd. Serch hyn, o ludw ei chyn-oruchafiaeth ariannol, y dadenwyd y Ddinas yn Llundain fel ail ganolfan ariannol y byd, a phrif ganolfan cyfundrefn yr EwroDoler esblygodd wedi’r Ail Ryfel Byd, ynghŷd a chanolfannau bancio llai yn Ewrop, yn yr Almaen, Y Swisdir, Ffrainc a’r Eidal. Ffrwydrodd yr EwroDoler, neu bancio yn y cysgodion ar ôl diddymu’r Safon Aur yn 1971, a daeth i gawru dros y Doler mewn maint a chymlethder, yn enwedig yn yr Wythdegau, yn arddangos fel y Big Bang a dad-reolaethu sector ariannol Llundain. Roedd effeithiau’r Glec Fawr yn ddramatig, ag yn nhŷb nifer erbyn 2006 roedd Llundain unwaith eto yn brif ganolfan ariannol y byd, ag nid drwy gyd-ddigwyddiad hwn fyddai’n profi’n anterth y gyfundrefn EwroDoler hefyd.

Mae anterth yr EwroDoler (a Llundain) yn Awst 2007, pan mae rhywbeth tu fewn i’r gyfundrefn yn torri, wrth i ymddiried rhwng banciau Efrog Newydd a Llundain dorri lawr, mae Creisus Ariannol mwyaf ers y Ddirwasgiad Fawr yn y 1930au (ffynhonell)
Diweddodd prinderau’r EwroDoler efo Creisus Ariannol 2008 (fel yr oedd Satoshi’n cyhoeddi ei Bapur Gwyn) ag mae’n cael ei chofio fel un o greisusau gwaethaf hanes arian, ag fyth er hynny mae’r byd ag yn enwedig Prydain wedi dioddef o wendid menthyg ymysg y banciau, sgîl effaith o ddiffyg ymddiried a chwant am gymeryd risg sydd wedi cyfeithu fewn i lai o gread credyd sydd wedi brifo busnesau a’r economi yn gyffredinol, wrth i radd GDP fel un mesur o gynhyrchedd Cenedl ddioddef a thlodi gynyddu. Yn wir, er gorau ymdrechion y cyfryngau a’r wâsg draddodiadol i bapuro dros graciau 2008, mae nifer yn dechrau adnabod y cyfnod ers 2008 fel y Ddirwasgiad Fwy a’r Ddirwasgiad Dawel, nad oes neb ymysg economyddwyr, gohebwyr, nag o fewn y Trysorlys a’r Banc yn Lloegr eisiau ei drafod. Ymhellach, medr disgrifio’r bymtheng mlynedd ddiwethaf fel diwedd canoli’r byd o dan y term Seisnig “globalisation”, a medrir disgrifio prinderau EwroDolers fel dechrau’r datganoli, y gellid ei weld yn y gorthrwng gwleidyddol a “de-globalisation” y ddegawd ddiwethaf, mwyaf trawiadol ym Mhleidlais Brexit Gorffennaf 2016, a dyfodiad Donald Trump fel Llywydd yr Unol Daleithiau yn Nhachwedd 2016.
Mae sector Fancio y Ddinas yn Llundain wedi dioddef yn bellach ers Brexit, efo nifer o fanciau Ewrop yn symud o bencadlys ariannol Llundain, ag yn ôl i ganolfannau ariannol llai y Cyfandir, yn bennaf Frankfurt, sy’n gwanhau sector ariannol a gellir dadlau prif allfor Prydain yn yr Undeb sydd ohoni, gyda’n colledion a diffygion masnachol sy’n dibrisio ein arian, cyflymu diwedd ein diwydiant, cynyddu ein dyledion, ag yn magu dibyniaeth ar estroniaid a gelyniaid am yr egni a’r cynnyrch ddylai fod yn fater o ddiogelwch cenedlaethol i ni gynhyrchu gartref. Gyda dyledion Gwladol yn methu, mewn creisus egni a chostau byw, a sector fancio sy’n cyfyngu, sydd ar fîn creu y Ddirwasgiad a chreisus ariannol mwya ers 2008, ymddengys i’r awdur y bydd yn rhaid i Wledydd y Gorllewin, ag yn enwedig Prydain ail brisio seiliau cryfach i’w chyfundrefn ariannol a chyfrifo, drwy ailbrisio ag ariannu aur fel cyfalaf traddodiadol, ond hefyd ariannu Bitcoin a chrypto-cyfred fel cyfalaf arloesol, a hwn ydi’r rheswm mwyaf tebygol am symudiad y Blaid Dorïaidd a Phrydain (mewn gair, Llundain) fewn i “Hwb Crypto”, fydd wrth gwrs yn ddibynnol ar sut mae Llywodraeth Prydain yn rheolaethu y Gyfraith newydd sydd yn adnabod Bitcoin fel dosbarth ariannol newydd o fewn Undeb Prydain.

Mae rheolaethau llym cyfredol yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn arwain at gwestiynnu honiadau delfryd Rishi Sunak a’r Blaid Dorïaidd am droi Prydain fewn i hwb arian cryptograffeg (ffynhonell)
Yn ogystal a Goruchwyliaeth Crogbwynt 2.0 (Operation Chokepoint) yn yr Unol Daleithiau, mae Goruchwyliaeth debyg wedi bod yn digwydd ym Mhrydain drwy reolaethau’r FCA a chyfyngiadau llym banciau stryd fawr Prydain (Lloyds, NatWest, HSBC a Barclays) ar brynu a gwerthu Bitcoin ar Gyfnewidfeydd, ag wrth i Gydymffurfiad KYC/AML fygu’r sector, a bydd lobïau ariannol cryf yn parhau i drio arafu tŵf Bitcoin drwy gyrff fel yr FCA, ond hefyd Seneddwyr a’u lobïwyr fydd yn penderfynnu’n derfynol y raddfa fydd banciau Dinas Llundain, a thrwy estyniad economi a Undeb Prydain, yn ariannu tŵf Bitcoin. Os ydi Senedd Llundain yn rheolaethu Bitcoin yn ysgafn bydd yr atalfeydd sy’n nadu ailadeiladu economi Prydain ar y Safon Bitcoin yn gollwng, yn gadael i fusnesau Bitcoin gartref ffynnu tra’n denu chyfalaf a busnesau tramor i symud i Wlad gyfeillgar a blaengar dros fabwysiadu safon ariannol y dyfodol.

Mae’r lobi sy’n buddsoddi yng nghrypto-cyfred, yn 2023, yn dros 3 miliwn o bobol, 6% o’r boblogaeth yn ôl amcangyfrifon diweddar (ffynhonell)
Peidied byth anghofio, ein bod i gyd yn gwsmeriaid y gyfundrefn fancio Brydeinig, ag yn talu trethi ag ethol Seneddwyr a’r Llywodraeth. Er ei bod hi’n ymddangos yn anhebyg ar brydiau, yn y diwedd mae’r banciau a Senedd Llundain yn ddibynnol ar ein trethi ac ein pleidlais i barhau mewn busnes, ac felly y lobi fwyaf bŵerus o bell ffordd dros lywodraeth a arian Prydain ar ddiwedd y dydd, ydi’r cyhoedd.

Mae lobi Bitcoin o fewn Prydain eisioes yn oddeutu 2.5% o’r boblogaeth, 1.3 miliwn o bobol
Fel ddyliai fod yn ddigwyliedig, mae lobi Bitcoin Prydain yn ifanc, yn gweithio, a thri chwarter yn ddynion. Ag er ond yn 2.5% o’r boblogaeth ar hyn o bryd, mae tŵf rhwydwaith a gwerth Bitcoin yn mynd i gynyddu’r duedd fabwysiadu ymysg demograffeg yr ieuanc, bydd eu cyfoeth yn codi a bydd y lobi’n tyfu mewn llais a dylanwad o fewn Gwleidyddiaeth ag i ddylanwadu anwybodusion Senedd Llundain.

Cymharu mabwysiadu Bitcoin, efo mabwysiadu’r Rhyngrwyd. Yn cymharu 2009 i 1994, mae Bitcoin yn frâs heddiw lle’r oedd y Rhyngrwyd yn 2009. Rydym dal mor gynnar! (ffynhonell)
Mae Egwyddor Max Plank yn disgrifio datblygiad technolegol yn digwydd un angladd ar y tro, yn yr ystyr dros amser y bydd yr ieuanc wedi eu dyfnu mewn ffyrdd newydd o weithredu tra bydd yr henoed yn marw allan yn defnyddio’r hen ffordd, ag mae hwn yn egwyddor anhygoel o bwysig wrth drio darogan y dyfodol. Erbyn hyn does neb o dan 30 oed yn cofio’r hen oes cyn y rhyngrwyd, a mewn pymtheg mlynedd arall fydd yna neb o dan 30 oed yn cofio’r oes cyn Bitcoin. Os weindiwn ymlaen ddegawd, pan fydd lobi Bitcoin wedi chwyddo i chwarter neu draean o’r boblogaeth, yna bydd y lobi yma’n pleidleisio am Wleidyddion a Phleidiau yn seiledig ar eu agweddau a’u polisîau tuag at Bitcoin. Mae lobi o 20% yn cyfieithu’n etholiadol i ogwydd o 40% rhwng dwy blaid, ag felly’n medru dyrchafu neu dorri pleidiau gwleidyddol Prydain. Hwn ydi’r lobi fwya bwêrus i lacio rheolaethau Seneddol a Llywodraethol ar Bitcoin, a galluogi cyfundrefn ariannol Prydain i ariannu a hybu cynnydd Bitcoin ym Mhrydain dros y ddegawd nesaf.
Dyfodol Bitcoin yng Nghymru
Fel rhan o Undeb Gyfreithiol ers bron i bum canrif, does gan Cymru fel y cyfryw ddim is-adeiledd ariannol ei hun, rydym yn defnyddio arian chwyddiannol Llundain, yn talu trethi fewn i Drysorlys Llundain, ag yn derbyn gwariant cyllid yn ôl i’w wastraffu wario gan Senedd Caerdydd. Rydym felly yn gwbwl ddibynnol ar is-adeiledd yr Undeb sy’n gwneud unrhyw Annibyniaeth pen i lawr o Senedd Caerdydd yn anhebygol i amhosib yn y tymor byr, ond mae is-adeiledd banciau Lloegr a’r gallu i ddod yn berchen ar bitcoin drwy brynu ar Gyfnewidfeydd a’u tynnu yn ôl i rwydwaith Bitcoin a hunan gystodi, yn annibyniaeth o’r llawr i fyny yn debygol, ag yn fwy tebygol wrth i Gymry fabwysiadu Bitcoin fel arian a chyfundrefn gyfrifo amgen. Os ydym yn allosod 2.5% o Brydeinwyr sydd wedi buddsoddi fewn i Bitcoin eisioes, yna mae oddeutu 100,000 o Gymry heddiw yn dal Bitcoin, ag yn eu rhoi ar y llwybr at annibyniaeth ariannol, cynsail unrhyw annibyniaeth cyfreithiol i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Daw dyfodol Bitcoin yng Nghymru a ni at drydydd rhan y Traethawd, fydd yn trafod ac yn damcaniaethu Strategaeth Annibyniaeth realistig, ag yn trafod y Polisîau hanfodol ar gyfer Cymry Annibynnol, a’r unig sylfeini cynaladwy i Gymru Annibynnol.
Diwedd Rhan Dau
RHAN TRI: DYFODOL

Strategaeth Annibyniaeth
Bydd trydydd rhan y traethawd yn trafod strategaethau a damcaniaethu ar y dyfodol ar Safon Bitcoin, ag er yn disgrifio gweithredoedd o fewn Cymru, mae hefyd yn gymwys ar gyfer bob Gwlad arall dros y byd, fydd yn gorfod wynebu’r cwestiynau hyn wrth i’r duedd o Ganoli ac Undebau ddymchwel o dan eu dyledion anghynaladwy, wrth i Ddatganoli ag Annibyniaeth greu nifer o Wledydd newydd a llai yn y degawdau i ddilyn.
Polisi Ariannol
Y peth mwyaf hyfryd am ddatganoli o’r llawr i fyny drwy fabwysiadu Safon Bitcoin, ydi bydd y cyhoedd wedi bod yn mabwysiadu’r gyfundrefn newydd am o leiaf ddwy ddegawd cyn unryw Lywodraeth ganolog, ag fel y trafodwyd eisioes yn Rhan Dau bydd y lobi dros ddylanwadu Gwleidyddion a Senedd Caerdydd wedi ei hen sefydlu. Mae hyn yn ddibynnol ar y Cymry’n tynnu eu bitcoins oddi ar Gyfnewidfeydd efo’r Bunt Brydeinig, a’u storio o dan hunan gystodi. Unwaith mae pobol yn dal eu bitcoin eu hunain, mae hyn yn agor defnydd rhwydwaith Bitcoin person i berson, a gellir masnach a phrynu neu werthu drwy ffôn symudol yn defnyddio yr haenau taliadau sy’n cael eu datblygu a’u hadeiladu ar Bitcoin heddiw, o’r Rhwydwaith Mellten fydd yn haen i gysylltu gydag e-arian a bancio datganoledig digidol y dyfodol.
Unwaith mae person wedi mabwysiadu rhwydwaith Bitcoin yn ogystal a fod yn berchen ar bitcoin, maent mewn effaith yn annibynnol o lywodraeth Prydain a Chymru, ag yn hytrach wedi rhoi eu ffydd mewn cyfundrefn fyd-eang di-lywodraeth, er y grym corfforol fyddai dal gan beth fyddai’n weddill o Senedd Cymru, bydd y cyhoedd yn penderfynu faint o sylw fydd angen ei dalu neu faint mor galed fydd rhaid gwasgu ar Senedd Caerdydd i blygu i ewyllys cyhoeddus. Y pwynt hollbwysig i’w egluro, ydi fod Safon Bitcoin yn gwaredu cyfundrefn chwyddiant, trethi a rheolaethau y Bunt Brydeinig, ag felly dros y byr i’r hir dymor y duedd fydd i symud ffwrdd o garchar ariannol y Bunt ag i ryddid ariannol Bitcoin, y mwyaf yr ysgogiad fydd gan ddefnyddwyr Bitcoin yng Nghymru i lobïo a dylanwadu Llywodraeth Cymru i leihau trethi ag atalfeydd ar gyfer defnyddio Bitcoin yn swyddogol. Byddai unryw ymgais gan Lywodraeth Cymru i lymhau rheolaethau neu godi trethi ar ddefnydd Bitcoin yn yr economi yn ysgogi’r cyhoedd i’r farchnad ddu berson i berson, gan osgoi chwyddiant, trethi a rheolaethau’r llywodraeth yn gyfangwbwl, fyddai’n amlwg yn crebachu gwariant cyllidol y llywodraeth a chyflogaeth y sector gyhoeddus i drethu a rheolaethu. Mewn effaith mae talu trethi i Lywodraeth Cymru o dan y Safon Bitcoin yn dyfod yn wirfoddol, ag felly bydd grymoedd a gwariant y llywodraeth i lywio’r Wlad ar gyfeiliorn yn dioddef yn enbyd, fydd yn gynsail ar gyfer dad-genedlaetholi a dad-sosialu economi a Gwlad Cymru yn y degawdau nesaf.
Bydd tŵf mabwysiadu Bitcoin ymysg y cyhoedd hefyd yn dylanwadu’n gryf ar Lywodraeth Cymru’n mabwysiadu Bitcoin ar y lefel Wladol, a gellir dadlau mae’r unig ffordd i Lywodraeth Cymru fedru aros yn fyw ag yn berthnasol dros yr hir dymor, fyddai iddynt hwythau dderbyn bitcoin fel taliadau trethi a thollau, a’i gadw yn Nhrysorlys Cymru fel cyfalaf a chynsail i’w arian Gwladol, fel y galwn o hyn ymlaen. I dderbyn bitcoin am daliadau trethi neu thollau, byddai angen cyfreithloni Bitcoin fel arian gwladol a diddymu’r Dreth Gyfalaf o 20% cyfredol ar fasnach efo arian gwladol. Byddai gollwng yr atalfa swyddogol o 20% ar ddefnyddio bitcoin i fasnach, yn tynnu masnach o’r farchnad ddu i’r farchnad wen, ag yn dilyn llwybr arloesol El Salfador, Gweriniaeth Canol Affrica, a’r niferoedd eraill o Seneddau yng Ngwledydd bach dros y byd sy’n cysidro a phrosesu’r cyfreithiau fydd yn arwain at bitcoin fel arian cyfreithiol a gwladol, mae’r duedd wedi dechrau’n barod yn y byd datblygol, tydi ond mater o amser nes bydd y duedd yma’n wynebu llywodraethau y byd datblygiedig.
Mae cyhoedd a llywodraeth gwlad yn mawbwysiadu Safon Bitcoin hefyd yn gosod y seiliau ar gyfer cyfundrefn fancio’r dyfodol. Yn achos Trysorlys Cymru yn dal bitcoins fel eu cronfa ariannol, byddent yn medru creu arian papur gwladol a’r Bunt Gymreig, ond heb y chwyddiant na’r monopoli dros drethu a rheolaethu. Yn wir byddai unriw ymgais i chwyddo’r arian yn dangos i fyny bron dros nôs, fyddai’n arwain y cyhoedd i amddifadu’r arian ag yn ôl at sicrwydd prinder digidol ag annibynnol, Bitcoin. Yn achos bancio rhanbarthol a lleol, buasai Bitcoin yn sail gyfrifo ar gyfer y cyhoedd yn menthyg bitcoin i fanciau rhanbarthol neu gymunedol am gyfradd llôg ag arennill ar eu cynilion, ag yn gadael i’r banc fenthyg y bitcoins yna allan am gyfradd llôg ag arennill uwch i fenthycwyr ddechrau neu ehangu busnesau a chwmnïau lleol. Byddai banciau lleol hefyd yn medru creu eu arian papur eu hunain wedi ei glymu i werth bitcoin, y meder ei fabwysiadu a’i ddefnyddio gan gyhoedd a busnesau lleol, fyddai’n corffori masnach lleol ag yn dod ag ychydig o ramant y gorffennol yn ôl i siopa lleol. Bydd bancio wrth gwrs yn costio premiwm dros ddefnyddio Bitcoin dros y ffôn, bydd banciau cymunedol angen prynnu’r adeilad, talu cyflogau’r rheolwr a’r clerciaid, a thalu costau cynhyrchu’r papur a mesuron gwrth-dwyll. Dyma broblem gynhenid bancio sy’n arwain y duedd at fancio ffracsiynnol a chwyddiant, felly bydd rhaid i ddefnyddwyr a busnesau dalu am y gwasanaeth banc cymunedol hwn, ond mewn byd o ddad-chwyddiant parhaol sy’n ran gynhenid ac annatod o rwydwaith Bitcoin, gyda gwerth prynu yn codi a chostau byw yn disgyn, yna bydd costau bancio yn effeithiol yn disgyn ag yn dyfod yn fwy fforddiadwy i’w gynnal.

Byddai mabwysiadu Bitcoin fel safon ariannol yn rhoi atgyfodiad newydd i hanes lliwgar Bancio Cymreig (ffynhonell)
Mae’r uchod wrth gwrs ymhell yn y dyfodol am yn awr, yn bresennol mae gafael Senedd a Banciau Llundain efo dwy law rownd ein gwddw, yn chwyddo, trethu a rheolaethu’r Undeb fewn i ddymchweliad dinistriol, tra mae gwerth Bitcoin er yn chwyddo dros y blynyddoedd yn ansefydlog ar gyfer defnydd dydd i dydd, yn erbyn gwerth sefydlog dydd i ddydd y Bunt er ei ddibrisio parhaol dros y blynyddoedd. Mae’r duedd a’r broses o drawsnewid Cymru o fesur efo Punt Llundain i fesur mewn Bitcoin yn mynd i gymeryd y Ddegawd nesaf o leiaf, angladd a genedigaeth ar y tro.
Polisi Trethi a Thollau

Chwedl gyflym i wneud y pwynt, mae ein cyfraddau treth a gwariant cyhoeddus allan o bob rheolaeth
At ddibenion yr adran yma, diffiniwn trethi yn fewnol ar y boblogaeth gynhenid, a thollau fel trethi allanol ar fewnforion ag allforion.
I ddechrau’n fewnol, fel yr ydym wedi trafod mae mabwysiadu Bitcoin yn gwneud talu trethi’n wirfoddol, yn yr ystyr fod hi’n bosib gwerthu bitcoin fewn i arian gwladol yn swyddogol a thalu treth gyfalaf o 20% ar hyn o bryd, neu mae’n bosib ei werthu am arian gwladol yn answyddogol drwy’r farchnad ddu a pheidio datgan gair i’r awdurdodau treth. Mae yna drydedd dewis hefyd sef gwerthu bitcoin am nwydd neu gynnyrch, person i berson, efo rhywun sy’n fodlon ei dderbyn, sydd eto bron yn amhosib i feibion y refeniw ei ddatgelu heb ddatganiad y masnachwyr. Bydd masnach person i berson drwy bitcoin hefyd yn dinistrio trethau ar gynhyrchu, yn enwedig y dreth incwm, yswiriant gwladol, y dreth ar werth, a threth y gorfforaeth, oherwydd yr ysgogiad wrth gyfarwyddo efo defnyddio Bitcoin fydd i ddatgan llai a llai o drethi dros amser, fydd yn llwgu cyllid gwladol y trysorlys, yn llwgu cyflogaeth y sector gyhoeddus ag yn gwanhau awdurdod y dynion trethi dros fasnach rydd ar lawr Gwlad. Bydd y duedd yma’n dechrau ar yr ymylon ag ymysg yr hunan gyflogedig a busnesau bach sydd heddiw yn ystwyth ar gyfer osgoi a dianc trethi’r wladwriaeth drwy arian papur, ond yn bwydo fewn i fusnesau a chorfforaethau mwy dros amser efo gwanhau cyllid awdurdodau treth.

Fe ddyliai ymddangos yn eglur fod diddymu’r dreth gyfalaf a chyfreithloni defnydd Bitcoin, y domino gyntaf i drawo gallu’r llywodraeth i drethu incwm, trethu cwmnïau, trethu gwerthu, ag yn gyffredinol yn gwanhâu gallu a chyllid y llywodraeth i drethu masnach
Mae natur ddigidol a ffurff ysbrydol bitcoin yn mynd i wneud llanast hir dymor o gyllid a chyflogaeth llywodraeth ganolog Caerdydd, ond mae llywodraeth hefyd yn trethu ein eiddo corfforol a does dim ffordd effeithlon i’w osgoi, a’r pwysicaf o’r rhain ydi Trethi Eiddo a Threthi Cyngor. Oherwydd fod tŷ a cherbyd fel yr eiddo mwya gwerthfawr a chyffredin i uniogolion a theuluoedd yn eiddo corfforol, mae’n hawdd i lywodraeth leol a gwladol drwyddedu a threthu yr eitemau hynny, drwy gofresträu gwladol tai a thir (Cofrestrfa Tir Ei Fawrhydi) a cherbydau (y DVLA a’i bencadlys yn Abertawe). Byddai cyfreithloni Bitcoin fel arian gwladol yn gwneud hi’n bosib talu’r trethi yma mewn bitcoin, ag oherwydd tueddiad bitcoin i godi mewn gwerth dros amser, byddai gwerthoedd trethi a chronfeydd y llywodraeth yn codi i wneud i fyny am yr holl golledion trethi masnachol, tra byddai lobi grêf ymysg trethdalwyr i iselhau cyfraddon trethi eiddo a chyngor i adlewyrchu cynnydd gwerth ariannol Bitcoin. Mae’r dyfodol yn edrych yn llawer fwy disglair i lywodraeth leol nag i lywodraeth gwladol, yn seiliedig ar y damcaniaethu hyn.
Y prif ddosbarth arall fyddai’n gymorth i gynnal cyllidion y llywodraeth ag yn eu gallu i orfodi casglu trethi drwy reolaeth corfforol dros ffiniau a ffrydiau trafnidiaeth, ydi tollau. Tollau ar fewnforion ag allforion oedd y dull draddodiadol o gasglu trethi, oherwydd rheolaeth y llywodraeth dros ffiniau, dros ffyrdd, rheilffyrdd a phorthladdoedd. Ymhellach rydym eisioes wedi sôn yn Rhan Un am Fercantiliaeth a siwrne Prydain i anterth y byd drwy dollau ar fewnforion a rhedeg elwon masnachol, tra mae hanes disgyniad Prydain i gragen ddiwydiannol mewn dyledion ariannol yn dilyn y meddylfryd Rhyddfrydol tuag at fasnach rhydd a rhedeg colledion masnachol efo gweddill y byd, felly mae polisi tollau yn rhan annatod o Strategaeth Annibyniaeth.
Gan ddamcaniaethu mae Lloegr fydd ein partner masnachol mwyaf, yna byddai rhaid i dollau Llywodraeth Cymru adlewyrchu tollau Lloegr. Er engraifft, os byddai Lloegr yn codi Toll o 10% ar allforion Cymru, byddai hyn mewn effaith yn rhoi 10% o sybsidi i ddiwydiannau cynhenid Lloegr gynhyrchu, dros allforion estron Cymreig. Os byddai Cymru ar yr ochr arall yn penderfynu peidio codi tollau ar fewnforion o Loegr, byddai ddim sybsidi cyfatebol i ddiwydiannau Cymru a 10% o gosb effeithlon am gynhyrchu yng Nghymru. Byddai hyn yn arwain Cymru at redeg colledion masnachol efo Lloegr, yn codi ein dyledion i Loegr ag yn tanseilio economi Cymru yn yr hir dymor. Os ydi Lloegr felly yn codi toll o 10% ar allforion Cymreig, yna mae rhaid i Gymru godi 10% o doll cyfatebolar fewnforion o Loegr, i gydbwyso llif masnach tra’n creu cyllid ar gyfer Trysorlys Cymru ar gyfer ariannu gorfodaeth tollau a goruchwylio pwyntiau gwirio mwyaf y ffîn rhwng Cymru a Lloegr, megis yr A5 a’r A55 yn y Gogledd a’r A40 a’r M4 yn y De. Byddai Llywodraeth Cymru hefyd yn medru gorfodi tollau ar fasnach efo’r Iwerddon a gweddill y byd, yn bennaf drwy borthladdoedd Caergybi ar Ynys Môn ag Aberdaugleddau ag Abergwaun ym Mhenfro. Byddwn yn trafod rheolaeth y ffîn yn fwy trylwyr yn y Polisïau Amddiffyn a Mudo.
Yn y dyfodol felly wedi mabwysiadu Safon Bitcoin, bydd Llywodraeth Cymru yn colli llawer o’i nerth a’i reolaeth dros gasglu trethi ar fasnach mewnol Cymru, fydd yn hybu cyfoeth ag annibyniaeth y Cymry rhag Lywodraeth ganolog (namyn trethi eiddo a threth cyngor), ond ar y llaw arall bydd yn parhau i reoli ffiniau corfforol a phrif wythiennau y llif masnachol fewn ag allan o Gymru dros y tir a’r môr. Mae hyn yn golygu o fewn Cymru y bydd mewnforion tramor yn ddrytach na chynnyrch cynhenid, fydd yn amddiffyn swyddi a chyflogau amaethyddol a diwydiannol Cymru, ag yn sybsidi effeithiol i ddechrau cystadlu yn y diwydiannau a’r cynnyrch sy’n gorfod cael eu mewnforio i’r Wlad. Mae cyfyngiadau, atalfeydd a threthi uwch ar wledydd tramor yn arwain at lai o gyfyngiadau, atalfeydd a threthi mewnol, ag yn esiampl pellach o fanteision Cymru Annibynnol.
Polisi Egni

Egni Yn Ôl Ar Yr Egni Wedi Fuddsoddi – y rhif pwysicaf mewn unriw Bolisi Egni (ffynhonell)
Ar ôl arian a trethi, daw Polisi Egni, gan ei fod ynghŷd ag arian yn sylfaen ar gyfer cynhyrchu, masnach, diwydiant a thŵf economaidd, yn enwedig mewn oes gyfrifo ac arian digidol, sy’n hollol ddibynnol ar gynhyrchu a dosbarthu trydan. Er fod gwreiddiau pŵerdai a gridiau trydanol Prydain yn y sector breifat ac yn dechrau’n ddatganoledig, yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf mae Deddf Darparu Trydan 1926 yn gweld Senedd Llundain yn canoli a safonoli’r grid i ddatblygu rhwydwaith trydanol cenedlaethol. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd mae Senedd Llundain yn Cenedlaetholi’r grid yn llawn efo Deddf 1947, ynghŷd a’r diwydiannau glo a nwy, ac yn 1954 mae genedigaeth diwydiant niwclear efo Deddf Awdurdod Egni Atomaidd sy’n gwneud Prydain yn un o’r gwledydd cyntaf i greu ynni niwclear.
Mae cythrwfwl sectorau egni a diwydiannol yn y Saithdegau a’r Wythdegau eisioes wedi eu trafod yn Rhan Un, ag ers y Nawdegau mae Llywodraeth Prydain dan y Ceidwadwyr a’r Llafurwyr wedi symud ymaith o’r hên egni rhâd a dibynadwy oedd sylfaen Chwyldro Diwydiannol y bu Prydain yn arloesi unwaith, ag wedi symud at egni drud ag annibynadwy y tywydd ers troad y Mileniwm. Wrth i gostau trydanol a thlodi egnïol gynyddu, ynghŷd a bygythiadau brownowts neu flacowts yn yr adegau lle nad ydi’r gwynt yn chwythu a’r haul yn tywynnu, fe ddaw yn eglurach i’r Cyhoedd ag yn enwedig Gwleidyddion San Steffan sy’n didoli’r holl sybsidis a swcwr trethdalwyr Prydain i’r sector egni, fod ein arbrawf diweddar trychinebus efo phŵer gwynt a haul yn hollol anghynaladwy, ag yn y broses o ddinistrio ein diwydiant a’n cynhyrchiant sy’n gwbwl ddibynnol ar egni a thrydan rhad.

Cymysgiad egni i greu trydan ym Mhrydain yn 2023, yn dangos fod traean o’n trydan yn cael ei greu gan y tywydd anwadal. Oes yna unrhyw syndod fod mewnforion yn ffrwydro a chostau trydanol wedi dyblu yn y dair blynedd ddiwethaf, ag ein bod yn myned i greisus egni a chostau byw difrifol yn y blynyddoedd nesaf? (ffynhonell)
Yng ngafael Crefydd yr Hinsawdd a’r Duwiau Carbon, mae Llywodraeth Prydain wedi cau lawr ei sector lo ag wedi llwgu’r sectorau nwy a niwclear, er budd mewnforio melinau gwynt a phaneli solar gan ein gelynion geowleidyddol yn y Dwyrain, gyda 60% o felinau gwynt a dros 80% o baneli solar y byd yn cael eu cynhyrchu yn Tseina, oherwydd ei egni rhad a dibynadwy o lo sy’n toddi’r metalau a’r gwydyr a’r sment sy’n mynd i fewn i gynhyrchu’r “egni adnewyddol” hwn. Mae Prydain wedi allforio ei ôl-droed carbon a’i holl ddinistr amgylcheddol i’r Dwyrain, er mwyn eu mewnforio i fewn i’r wlad fel egni gwyrdd a glân, gan smalio fod y carbon a’r dinistr amgylcheddol yma erioed wedi cael ei greu. Mae meddylfryd byr dymor Gwleidyddion anwybodol wedi penderfynu ein caethiwo i fewnforion egni drud ag annibynadwy o dramor, yn hytrach na buddsoddi mewn egni rhad a dibynadwy cynhenid i gystadlu efo goruchafiaeth egnïol Tseina sy’n rhedeg mor drwm ar lo, sydd wedi ein gwneud yn anghystadleuol efo gweddill y byd, yn rhedeg colledion masnachol ag yn gorfodi be sy’n weddill o ddiwydiant y wlad yma i ail-leoli i wledydd fel Tseina, ag yn bygwth Diogelwch Cenedlaethol ag Annibyniaeth Egni yn y broses! Anhygoel!

O grud y Chwyldro Diwydiannol i fewnforwr egni Trydydd Byd, mae Gwleidyddion chwarter call Prydain ag Ewrop wedi troi cefn ar egni rhad a dibynadwy, sydd yn gwagio’r Gorllewin o’i diwydiant, ymaith i’r gwledydd sy’n cynhyrchu trydan rhad (ffynhonell)
Fel mae’r siart uchod ar Egni Yn Ôl Ar Yr Egni Wedi Fuddsoddi yn ei fynegi, dechreubwynt unriw Bolisi Egni ar gyfer cydnerthu Diogelwch Cenedlaethol ag Annibyniaeth Egni, ydi moratoriwm ar unryw brosiectau gwynt a haul pellach, a defnyddio be sydd ganddom yn barod am y ddeg i bymtheg mlynedd nesaf a chylch bywyd byr yr egni trychinebus yma, ag yn y cyfamser datblygu strategaethau ag estyn sybsidis Cenedlaethol i atgyfodi sector lo, nwy a niwclear Prydain, efo’u EYNAYEWF uchel a’u cylch bywyd 50 i 60 blynedd. Os ydi bryd Cymru fyth ar ddychwelyd ei diwydiannau trwm a chynhyrchu’r deunyddiau sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol annibynnol gartref, yna bydd glo, nwy a niwclear yn gorfod bod yn ganolog i’r polisi hwn.

Grid Trydanol Cenedlaethol Prydain, sy’n gadael i bŵerdai trydanol blwgio fewn, a’i drawsyru i’r rhwydwaith dosbarthu ar gyfer defnyddwyr trydan blwgio allan (ffynhonell)
Hyd yn oed yn achos yr Undeb Brydeinig yn torri lawr i’w Gwledydd Cartref, bydd is-adeiledd yr Ynys yn aros yn gysylltiedig, boed yn ffordd, rheilffordd, gamlas, neu rwydweithau egnïol, yn enwedig trawsyru nwy pibell a’r grid trydanol. Bydd hyn yn galluogi y Gwledydd Cartref brynu a gwerthu trydan rhwng ei gilydd, ac yn datblygu cystadleuaeth a pholisïau egni amrywiol efallai. Ni feder un Gwlad fynd yn or-ddibynnol ar drydan Gwlad arall heb beryglu Diogelwch Cenedlaethol ac Annibyniaeth Egni, felly bydd rhaid i Gymru ddatblygu ryw fath o strategaeth ar gyfer ariannu, datblygu a hybu pŵerdai egni o fewn Cymru, sy’n golygu y bydd rhaid i Addolwyr yr Hinsawdd ddioddef rhywfaint o lygredd a dinistr amgylcheddol. Dyma’r pris sydd rhaid ei dalu am drydan rhâd a dibynadwy i bŵeru holl dechnoleg ddigidol y Gymru fodern, ag rydym yn ffodus yng Nghymru drwy ffawd ddaearyddol ein bod yn gyfoethog mewn adnoddau naturiol ar gyfer creu egni, ag yn etifeddu nifer o bŵerdai adnewyddol adeiladwyd yng ngorffennol yr Undeb.
Glo

Rydym yn gwybod ers y Chwyldro Diwydiannol, fod Cymoedd y De a stribed y Gogledd Ddwyrain yn gyfoethog mewn glo (ffynhonell)
Mae hi’n eithaf diogel damcaniaethu fod atgyfodiad diwydiant glo Cymru yn mynd i fod yn dra gwahanol i’r un a farwodd dan ddwylo Thatcher yn niwedd yr Wythdegau, a mae dyfodol o löwyr fesul cant yn plymio tan ddaear yn un anhebyg. I fod yn gystadleuol efo diwydiannau glo gweddill y byd, bydd diwydiant glo Cymru yn ddibynnol ar beiriannau yn fwy na llafur, sy’n golygu llai o swyddi ond rhai glanach â chyflogau uwch am y swydd frwnt o dyllu am lo. Bydd y datblygiadau hefyd yn debygol yn faes agored yn hytrach na phyllau dwfn, gan fod glo yn adnodd mor rhad i’w gloddio a bod pŵerdai glo yn gymharol rhâd i’w adeiladu am yr egni sy’n cael ei greu, fe ddyliau unriw bolisi egni byr dymor gynnwys diwydiant glo newydd. Byddai hyn yn ddibynnol ar drwyddedi datblygu gan Lywodraeth Cymru a thynnu eu troed oddi ar wddw diwydianwyr glo, a blaenoriaethu cynhyrchu egni rhâd a swyddi lleol dros sgrechian y lobi werdd ag amgylcheddol.
Nwy

Mae nwy, fel trydan, angen rhwydwaith trawsyru i gysylltu defnyddwyr nwy Prydain, mae porthladd Aberdaugleddau yn derfynfa bwysig ar gyfer mewnforion ag allforion nwy ar longau (ffynhonell)
Mae nwy yn rhoi dwysedd egni fymryn yn îs na glo, ond yn llosgi llawer glanach a chreu llai o ddinistr a chreithiau amgylcheddol na glo, tra mae hefyd llawer anoddach ei gludo dros bellteroedd, sy’n adio’r gofyn am rwydwaith o bibellau, sydd eto yn un Cenedlaethol. Fel trydan felly, bydd gridiau presennol yn galluogi symud nwy rhwng Gwledydd Prydain, a bydd porthladd Aberdaugleddau yn chwarae rhan bwysig fel prif dderbynfa ag anfonfa Cymru Annibynnol.

Erthygl hynod ddiddorol yn trafod adnoddau a hanes ymchwiliadau olew a nwy Cymru (ffynhonell)
Fel yn esiampl glo, ar gyfer Diogelwch Cenedlaethol ag Annibyniaeth Egni mewn nwy, gall Lywodraeth Cymru drwyddedu ymchwiliad a thyllu nwy tanfor ym moroedd Cymru ar gyfer defnydd Gartref a/neu allforion. Mae nwy eisioes yn dros draean o gymysgiad egni trydanol Prydain, ag efo’r isadeiledd trawsyru wedi ei adeiladu’n barod a phŵerdai nwy newydd ymysg y rhataf o’r tanwyddau ffosil i’w adeiladu’n gôst effeithlon a chyflym, fe ddyliau nwy ynghŷd a glo chwarae rhan bwysig mewn polisîau trydanol byr dymor, er mwyn hybu diwydiant a thŵf economaidd Cymru.
Niwclear

Mae hanes niwclear Cymru yn y Gogledd, efo Pŵerdy Trawsfynydd ers 1965, a Wylfa ers 1971 (ffynhonell)
Roedd Prydain ymysg y gwledydd cyntaf i greu egni niwclear ar ôl Deddf 1954, ac mae ynni wraniwm wedi profi dros y degawdau i fod yn ffynhonell ddwys iawn o egni, yn creu gorllwyth o drydan glân, dibynadwy, rhâd a hir dymor, efo’r anfanteision o lygredd amgylcheddol enbyd yn achos damweiniau prin fel Chernobyl yn yr Wythdegau yn Negawd olaf yr Undeb Sofietaidd a dymchwel Gomiwnyddol, mae costau rhag blaen enfawr a chyfnod datblygiad hir i gomisiynu a dad-gomisiynu pŵerdai, ac mae hefyd costau a chysidraeth storio a diogelu gwastraff niwclear gwenwynig am botensial o ganrifoedd. Dylid cysidro niwclear felly fel Polisî Egni llawer mwy hir dymor a drud i Lywodraeth fuddsoddi ynddo a’i sybsideiddio, efo’r dechnoleg gyfredol.

Byddai ail-ddatblygu safle Trawsfynydd drwy Adweithydd Modiwlaidd Bach yn creu trydan glân, rhad a dibynadwy, ag amcangyfrifon o 500-2600 o swyddi ar gyfer peirianwyr trydanol, mecanyddol, systemau a diogelwch (ffynhonell)
Mae hefyd yn synnwyr cyffredin bod hi llawer haws a rhatach i drio ail-ddatblygu safleoedd niwclear hanesyddol, nag adeiladu pŵerdy a chysylltiadau grid o’r newydd, ag felly mae’r debygolrwydd yn ffafrïo dyfodol niwclear Cymru i barhau yn y Gogledd. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisioes wedi sefydlu Cwmni Egino yn 2021 i ail-ddatblygu safle Trawsfynydd ar gyfer Adweithydd Modiwlaidd Bach a thechnoleg cenhedlaeth nesaf yn y sector Niwclear, a chreu y trydan glân, rhâd a dibynadwy ar gyfer sylfaen ddiwydiannol a thŵf economaidd yn y Gogledd. Mae hefyd gohebiaeth ddiweddar fod gwaith is-adeiledd rhagarweiniol yn parhau ar Gynllun £20 Biliwn Wylfa Newydd ar gyfer unai Adweithydd newydd mawr, neu gyfres o Adweithyddion Modiwlaidd Bach. Byddai ail-ddatblygu’r ddwy safle yma yn hwb anferthol i Ogledd Cymru greu a denu diwydiannau newydd, ag yn chwarae fewn i addewid Gogledd Cymru fel hwb ar gyfer cloddio Bitcoin yn y dyfodol.

Mae Adweithyddion Modiwlaidd Bach (Small Modular Reactors – SMR) yn ennyn llawer o sylw o fewn y cyfryngau, ag o fewn Llywodraethau’n ddiweddar. Mae’r dyfodol yn ddisglair! (ffynhonell)
Dŵr

Rhestr fer gorsafoedd dŵr mwyaf Cymru (ffynhonell)
Gellir dadlau mae dŵr ydi adnodd mwyaf adnabyddus Cymru, ag ynghŷd a’i thirwedd fynyddig yn enwedig yn y Gogledd, drwy ffawd ddaearyddol mae afonydd a llynoedd Cymru yn estyn tuag at ffrwyno pŵer dŵr drwy orsafoedd hydro. Yn sefyll allan ar y rhestr fer uchod mae’r ddwy orsaf sy’n meddu ar bwmp i ailgylchu’r dŵr ar gyfer cylchoedd parhaus, yn dynwared gweithredoedd batri, ag yn gwneud hydro yn llawer mwy dibynadwy a gwerthfawr i grid trydanol cenedlaethol, ag yn ei annibynu o dywydd a glaw anwadal. Oherwydd fod natur y galw am drydan yn ansefydlog, efo pigau anferth mewn defnydd ben bore ag ar fîn nôs, cyn ag ar ôl gwaith, datblygwyd Gorsafoedd Hydro efo pwmp er mwyn cynhyrchu gorllwyth o drydan i wasanaethu’r defnydd yma ond am ychydig oriau’r dydd, tra yn yr oriau mân pan mae pawb yn cysgu a defnydd trydan ar ei isaf, mae’n bosib pwmpio’r dŵr yn ôl i fyny o’r gwaelod i’r top, i’w storio ar gyfer y noson wedyn. Er fod hi’n costio mwy mewn trydan i bwmpio’r dŵr yn ôl i fyny nag ydi ar ei ffordd i lawr, oherwydd fod yr orsaf yn gwerthu’r trydan i’r grid pan mae ar ei uchaf, a phrynu’r trydan i bwmpio’n ôl ar ei isaf, mae’n bosib gwneud elw tra hefyd yn amddiffyn miliynau o deuluoedd yng Nghymru a Gogledd Lloegr efo trydan dibynadwy pan mae’r galw mwyaf amdano.

Galw Trydanol dros oriau’r dydd, a dros y tymhorau. Mae defnydd ansefydlog yn codi gwerth gorsafoedd pwmp hydro (ffynhonell)
Mae Gorsaf Ffestiniog yn medru cynhyrchu 1.4GWh am bedair awr parhaol ag yn seren beiriannol, ond mae engraifft Gorsaf Dinorwig yng nghrombil Eryri, yn cawru fel un o brosiectau egni a pheirianyddol mwyaf hanes Llywodraeth Prydain, yn cymeryd deng mlynedd (1974-1984) ag yn costio bron i hanner Biliwn oedd yn werth lot mwy hanner canrif yn ôl. Ond am y pris enfawr yma, mae Mynydd Gwefru Llanberis yn medru cynhyrchu bron i 2000MW o bŵer efo storfa o 9.1GWh, adnodd anhygoel o drydan fedr ei droi ymlaen ar fyr rybudd i leddfu straeniau ar y grid cenedlaethol. Bydd Hydro yn chwarae rhan bwysig iawn yn nyfodol egni Cymru o dan y drefn bresennol neu o dan drefn newydd.

Tyllwyd yr ogof fwyaf yn Ewrop rhwng Llyn Marchlun Mawr a Llyn Peris, i greu Gorsaf Dinorwig (ffynhonell)
Mae dinistr amgylcheddol a chostau anferthol prosiectau hydro mawr yn golygu nad ydi pŵer dŵr yn gôst effeithlon yn y tymor byr, mae’n debygol felly mae ychydig iawn o’r prosiectau yma caiff eu datblygu yn y dyfodol. Ar y llaw arall mae’r Gorsafoedd wedi adeiladu yn barod yn hanfodol ar gyfer cydbwyso galwadau ar drydan, ag yn cyfiawnhâu eu costau atgyweirio yn y dyfodol.
Gwynt

Adnodd arall does dim prinder ohono yng Nghymru ydi gwynt (ffynhonell)
Mae Llywodraethau Prydain yn sgîl Thatcher wedi cael eu swyno gan y lobi adnewyddol, efo ffermydd melinau gwynt yn dechrau ar y tir, a than gyfyngiadau Plaid Dorïaidd Dafydd Camdrwyn yn 2015, ag ers hynny wedi symud i’r moroedd. Yn wir mae problemau sylfaenol gwynt fel adnodd ddibynadwy wedi cael eu hanwybyddu gan Senedd Llundain a’u sybsidis dibendraw i’r sector wynt, yn golygu fod grid trydanol Prydain yn deillio bron i 30% o’i drydan o’r gwynt. Yn yr un amser mae costau trydanol defnyddwyr Prydain wedi ffrwydro sydd wedi cyfrannu i’r creisus egni mae’r Gorllewin wedi ei ddioddef ers y llanast Cofid, ag wedi gwneud Prydain yn ddibynnol ar drydan o lynges niwclear Ffrainc, a gorfod ail-danio pŵerdai glo yn ngaeafau y ddwy flynedd ddiwethaf pan nad oedd y gwynt yn chwythu. Yn ogystal mae cyfraddau llôg uchel a chostau glo yn Tseina i doddi’r metelau a’r sment a’r holl fwynau daear brin sy’n mynd i gynhyrchu ein melinau gwynt modern, wedi codi gymaint yn ddiweddar ag i fygwth elw a dyfodol y sector wynt adnewyddol fel rhan mor allweddol o’n grid trydanol. Mae’n debyg y bydd ffolineb ceisio rhedeg economi ddiwydiannol a thechnolegol oddi ar adnodd mor anwadal a gwynt yn dod i ben yn fuan, wrth i’r Cyfryngau a Seneddwyr Llundain ddeffro o drwmgwsg eu polisïau egni trychinebus, a’r symudiad yn ôl at egni rhad a dibynadwy o lo, nwy a niwclear. Gweler yr awdur felly ddim hir oes i’r chwyldro gwynt, a fydd yn colli ei sybsidis a’i ffynhonellau gwastraffus yn y dyfodol, serch hyn fydd yn ein gadael efo’r genhedlaeth bresennol o felinau gwynt, a fydd am y ddegawd i ddwy nesaf, a’u cylch bywyd byr o’i gymharu a pŵerdai glo, nwy, niwclear a dŵr, yn parhau i gynhyrchu trydan.
Y brif anfantais efo gwynt fel adnodd egni ydi nad oes modd darogan pryd y bydd yn chwythu, ag felly mae’n medru arwain at brinderau o drydan sy’n bygwth sefydlogrwydd a gofynion y grid â blacowts, tra ar y llaw arall mewn gwynt cryf mae’r melinau yn creu gormodedd o drydan sy’n medru arwain ar orlwytho’r grid heb angen, sydd hefyd yn bygwth y grid a blacowts. Buasai hyn yn gallu cael ei gydbwyso a’i ddatrys efallai gan rwydwaith storio a batris, ond mae dychmygu y mwynau daear prin megis lithiwm a cobalt fyddai rhaid eu tyllu a’u mireinio i adeiladu’r rhwydwaith yma, yn amhosib heb ddinistr amgylcheddol a llygredd llethol pellach yng Ngwledydd y Dwyrain. Mae’r broblem yma o storio trydan mewn ffordd effeithlon yn dod a ni i drafod yr ateb byr dymor o sut i ddefnyddio gormodedd o drydan gwynt, a gweithredu fel polisi egni ar gyfer Lywodraeth Cymru annibynnol, sef cloddio Bitcoin.

Ffynhonellau egni Bitcoin dros y byd (ffynhonell)
Fel dangosir yn y siart uchod, mae Bitcoin yn cael ei ddenu at ffynhonellau adnewyddol o drydan oherwydd eu bod yn annibynadwy, ag felly yn fwy proffidiol i’w cloddio ar amserau penodol. Mae manteision yn cynnwys gallu lleoli cloddwyr bitcoin yn ystwyth ag yn gyflym wrth ymyl egni adnewyddol sydd yn amal mewn lleoliadau anghysbell, ac mae hi hefyd yn bosib troi cyfrifiaduron cloddio Bitcoin ymlaen ag i ffwrdd mewn eiliadau i adweithio i anwadalrwydd y tywydd. Gellir hefyd gysidro Bitcoin fel batri trydanol, drwy drawsnewid trydan fewn i arian digidol, sydd efo pymtheng mlynedd o hanes llewyrchus fel stôr o werth, ag mewn effaith yn cynyddu gwerth y trydan sy’n cael ei gloddio heddiw yn llawer uwch yn y dyfodol. Am y rhesymau hyn, bydd cloddio bitcoin yn dod yn rhan bwysicach o bolisi bob cwmni trydan adnewyddol a phwêrdai egni i leihau gwastraff trydanol ymhob Gwlad dros y byd, fydd yn cysylltu rhwydwaith egni y byd efo’i gilydd, a drwy’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn dod yn gymaint fwy hanfodol i’r sector egni adnewyddol, oherwydd y tywydd ansefydlog a hyblygrwydd cloddwyr bitcoin, gellir cloddio’n drwm mewn adegau o ormodedd trydan adnewyddol nad oes galw amdano ar y pryd, a gellir troi’r peiriannau ffwrdd mewn chwinciad mewn prinderoedd o drydan adnewyddol, a phan mae galw cryf amdano. Mae costau rhâd trydan adnewyddol oddi ar y grid o’i gymharu a chostau uwch trydan ar y grid, yn golygu fod Bitcoin wedi esblygu’n fwy tuag at drydan gwynt a dŵr yn hanesyddol, sydd ynghŷd a solar bron i hanner egni trydanol Bitcoin heddiw. Bydd Bitcoin yn gymorth i sefydlogi cwmnïau trydanol yn enwedig yn y sector wynt, dŵr a haul, yn myned i amseroedd ansicir, ag efallai hyd yn oed yn gwneud y cwmnïau hyn yn broffidiol a chynaladwy heb sybsidis a swcwr Seneddwyr Llundain yn boddi mewn creisusau egni fforddiadwy.
Beth sy’n wir ar gyfer cwmnïau egni, sydd hefyd yn wir ar gyfer Llywodraethau Cenedlaethol. Fel drafodwyd yn Rhan Dau, mae llond llaw o wledydd eisioes yn cloddio Bitcoin ar y lefel genedlaethol, ac oherwydd fod gridiau a diwydiannau trydanol yn nwylo cyhoeddus yn rhan fwyaf o wledydd y byd yn barod, fe ddyliai fod yn amlwg fod trawsdoriad Bitcoin rhwng egni a llywodraethau yn mynd i gyfarfod yn fuan iawn, dros y byd. Drwy droi trydan Cenedlaethol fewn i bitcoin, gall Wlad greu trysorlys Bitcoin neu setlo masnach rhyngwladol, fydd yn gwasgu ag yn gorfodi gwledydd eraill hefyd i gloddio am Bitcoin. Ag wrth edrych ar adnoddau cyfoethog Cymru mewn egni trydanol, o lo a nwy i niwclear, gwynt a dŵr, byddai Llywodraeth Cymru mewn safle cryf i gymeryd mantais mewn cloddio am bitcoin, ar gyfer y trysorlys, a gwariant a chyllid.
Cyn darfod adran hir ar egni, mor bwysig a thrydan i safonau byw a chynhyrchedd economi y Gymru fodern, mae dîsyl (a phetrol) efallai yn bwysicach. Er holl obeithion y chwyldro cerbydau trydanol, does dim hir oes o’i gymharu efo manteision y tanwyddau ffosil, a distylliadau olew. Yn wir, mae dîsyl yn enwedig yn brif sylfaen i beiriannau symudol heddiw, o’r tractorau sy’n cynnal a chynyddu cynhyrchedd amaethyddol yng nghefn gwlad, i’r diwydiant adeiladu a thrafnidiaeth sy’n symud cynnyrch o gwmpas y wlad, mae olew felly yn hanfodol i ddyfodol y Gymru sydd ohoni.

Meirinfeydd olew Prydain yn 2012. Mae safle Aberdaugleddau wedi cau a safle Penfro dal yn agored, felly o leiaf mae gan Gymru un safle sy’n cynhyrchu tanwydd gartref (ffynhonell)
Byddai Llywodraeth Cymru, y tu allan i drwyddedu ag ymchwiliaeth olew oddi ar arfordir Cymru, yn ddibynnol ar fewnforion olew unai o Fôr y Gogledd (ag o’r Alban) neu o gyfandir Ewrop a’r Dwyrain Canol, ym mha bynnag achos byddem yn rhedeg diffygion masnachol ag yn ein gorfodi i allforio ein cynnyrch yn gyfatebol. Byddai gollwng trethi ar danwydd hefyd yn ei wneud yn rhatach i amaeth a diwydiant Cymru gynhyrchu. Bydd mewnforion olew a meirinwyr olew cynhenid yn bwysig iawn i ddyfodol Cymru Annibynnol.
Polisi Amddiffyn
Mae hanes Cymru’n gyfres drist o ymosodiadau allanol, o’r Rhufeiniaid, i’r Gwyddelod, i’r Sacsoniaid, y Llychlynwyr, y Normaniaid a Choron Lloegr. Mae ffawd ddaearyddol Cymru yn arfordir dair ochr a ffindir efo gwlad llawer mwy wedi gwneud Cymru yn agored i’w goresgyn, ac mae amddiffyn ag amddiffyniad yn gorfod bod yn un o bolisïau pwysicaf Gwlad Annibynnol.
Efo arfordir bron i 1700 milltir o hyd, byddai gofyn Llynges yn gweithio allan o’r prif borthladdoedd sy’n clymu fewn i bolisîau Tollau, y rheswm am ryfeloedd môr Gwledydd Ewrop a’r Ymerodraeth Brydeinig oedd dros y rhyddid neu ddim i fasnach, a thollau a rhedeg gormodedd masnachol (Mercantiliaeth) oedd er mwyn ailgylchu’r gormodedd fewn i adeiladu’r Llynges i amddiffyn y llongau a llif masnach. Yn ogystal a masnach, byddai Llynges yn amddiffyn yn erbyn ymosodiadau dros y môr, gan elynion estron. Byddai hanes Cymru diweddar heb Lynges gynhenid yn gorfu creu Llynges o’r newydd, ond byddem yn etifeddu is-adeiledd y Llynges Frenhinol ar gyfer adeiladu.

Clawdd Offa yn dechrau cael ei adeiladu yn yr Wythfed Ganrif (ffynhonell)
Mae’r ffîn galed rhwng Cymru a Lloegr yn dechrau’n swyddogol efo Clawdd Offa yn yr Wythfed Ganrif ag un o weithiau peirianyddol mwya’r Oesoedd Canol, ond dros y Canrifoedd ag wrth i Loegr orchfygu Cymru’n wleidyddol ag yn filwrol mae’r ffîn yn meddalu, ag erbyn y Deddfau Uno lle mae Cymru yn gyfreithiol yn rhan o Loegr, yna does fel y cyfryw ddim angen ffîn. Mewn unrhyw gwestiwn o Annibyniaeth a fydd yn codi fwy fwy wrth i Undebau y Gorllewin dorri lawr, ag wrth i wledydd newydd annibynnol gynyddu mewn nifer a lleihau mewn maint yn yr Unfed Ganrif ar Hugain, yna mae ffiniau caled a chorfforol yn brif ffordd o amddiffyn yn erbyn goresgyniad estron, ag yn elfen bwysig ar gyfer gorfodaeth Polisïau Tollau a Mudo, a rheoli llif masnach a phobol.

Ffîn fodern ond feddal Cymru a Lloegr ers Trefn Sirol 1536 (ffynhonell)
Manteision ffîn galed ar gyfer annibyniaeth fyddai codi atalfa gorfforol yn erbyn byddin estron, a hefyd rheoli llif y masnach a’r boblogaeth sy’n gadael a chyrraedd Cymru. Yr anfanteision fyddai’r costau ag adnoddau eu hangen i godi’r waliau neu gloddiau, a chostau goruchwylio’r llif masnach a phobol. Yn achos Cymru ag hollti un wlad yn ddwy, efallai byddai gan Loegr yr un ysgogiad i adeiladu ffîn galed, a byddai modd o rannu’r costau am adeiladu’r clawdd 160 milltir o hyd yn rhannu dwy wlad annibynnol. Byddai angen hefyd giatiau a phwyntiau gwirio a heddlu i warchod y ffîn tra hefyd yn gadael llif masnach a phobol. Byddai codi wal yn costio llawer o arian ag adnoddau ond mewn effaith mae’n gôst unwaith, â dim ond costau adnewyddu ag atgyweirio llawer îs fyddai o hyn ymlaen. Byddai costau parhaol wrth gyflogi’r heddlu neu warchodwyr ar y pwyntiau gwirio, a byddai eu gwariant fwy na thebyg yn dod allan o’r Cyllid Tollau, ag yn ariannu ei hun drwy drethu mewnforion o wledydd allanol. Y cythrwfwl fwyaf o godi’r ffîn galed yma fyddai hawliau tîr ac eiddo fyddai’n cael eu tramgwyddo, yn cynnwys hollti ffermydd, pentrefi, a’r pwyntiau gwirio ar y dwsinau o lonydd cefn y Gororau o’r Gogledd i’r De. Pan yn trafod cynllun peirianyddol mor gostus a chymleth, mae lot haws dweud na gwneud.
Yn ogystal a Llynges a ffîn galed, bydd angen Lluoedd Arfog i amddiffyn y Wlad, yn cynnwys Awyrlu a Byddin. I gymeryd yr Awyrlu yn gyntaf, byddem yn debyg o etifeddu isadeiledd yr Awyrlu Frenhinol, yn cynnwys 34 Gorsaf dros Gymru, ond byddem yn gorfod mewnforio’r awyrennau a’r tanwydd i gynnal yr awyrlu, ynghŷd a hyfforddiant ag ymarfer y peilotiaid. Byddai adeiladu a chynnal awyrlu yn eitem gostus arall ar y rhestr gwariant, ag yn gorfod adlewyrchu cyfyngiadau gwariant fyddai gan Lywodraeth Cymru fel Gwlad Annibynnol, ag eto yn debygol yn cael ei ariannu drwy Dollau.

Yn olaf i’r Fyddin, sy’n bwnc llawer mwy diddorol. Yr hen ffordd draddodiadol i gadw byddinoedd amddiffyn oedd drwy arfogi’r Uchelwyr a’r werin drwy Filitia sy’n fyddin amatur, datganoledig a chymunedol/rhanbarthol, oedd yn cael ei ffafrio gan frenhinoedd oherwydd costau a bygythiadau byddin sefyll llawn amser. Wedi grymoedd Seneddol a Democrataidd ddisodli Brenhinoedd, esblygodd y drefn fwy diweddar dros y ddwy ganrif ddiwethaf i fyddin genedlaethol, ganolog, brofesiynol ag yn yrfa llawn amser. Mae gwahaniaethau enfawr rhwng y ddwy feddylfryd, y fyddin gyntaf o’r gwaelod i fyny ag yn ymddiried yn y boblogaeth gynhenid i arfogi ag i amddiffyn eu Gwlad yn achos goresgyniad estron am wariant ag adnoddau Llywodraethol isel, a’r feddylfryd ganolig, ben i lawr, wedi dad-gysylltu o lawr Gwlad ag yn gweithio ar orchymyn Llywodraeth ganolog, ag yn eitem gwariant uchel ar lyfrau cyllid unriw Lywodraeth fodern.
Y duedd o dan fyddin brofesiynol ydi arfogi er mwyn concro gwledydd eraill fel bygythiad ymosodol, tra’n cyfyngu’r boblogaeth gynhenid rhag cadw arfau fel bygythiad amddiffynol, a mae wastad yn syndod clywed Gwleidyddion yn clodfori defnydd arfau eu byddinoedd dramor, tra’n clodfori deddfau sy’n cyfyngu ar allu’r cyhoedd cynhenid i arfogi gartref, heb gymeryd eiliad i feddwl am y rhagrith. Yn wir, wrth edrych yn ôl ar Hanes Cymru, un o brif bwrpasau Deddfau Penyd 1402 gan Wleidyddion Seisnig oedd er mwyn diarfogi’r Cymry, i atal ymosodiadau ag hefyd i wneud y Cymry yn ddiamddiffyn yn erbyn gormes gynyddol Lloegr. Hefyd yn achos Gweriniaeth newydd yr Unol Daleithiau wrth dorri’n rhydd o’r Ymerodraeth, ag yn dilyn eu profiadau gyda’r Prydeinwyr yng Ngwrthryfel 1775-1783, gweler yng Nghyfansodiad 1789, a’r Amendiad Cyntaf yn 1791 i Siarad Rhydd, i’w amddiffyn efo’r Ail Amendiad, yr hawl i gadw arfau.
Gyda dyfod y Chwyldro Diwydiannol yn yr Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg daeth hefyd chwyldro mewn cynhyrchu arfau cartref a gynnau rhad a dibynadwy, ag i raddau’n cyd-bwyso grymoedd a bygythiad y Werin yn erbyn Llywodraeth ganolog a’u Lluoedd Arfog. Mae arfogaeth Prydain yn cyrraedd ei anterth o gwmpas diwedd yr Ail Ryfel Byd a diwedd bygythiad yr Almaen, ag ers y Pumdegau wedi gweld ymgeision blaengarol i gyfyngu ag i wahardd cadw arfau ymysg poblogaeth Prydain, dan orchudd amddiffyn y cyhoedd, drwy ddiarfogi pobol yn dilyn y drefn a gwneud dim i ddiarfogi dihirod y farchnad ddu am arfau, heb ddiddordeb mewn dilyn unrhyw drefn. Roedd gwaharddiad Llafur Newydd ar ynnau llaw yn dilyn gweithred un dihiryn yn nhrychineb Dunblane yn Mawrth 1996, yn gam mawr ar gyfer diarfogi Prydain gyfan (namyn y dihirod wrth gwrs), ag yn rhan fwyaf o Wledydd y byd mae cyfyngiadau a gwaharddiadau wedi cynyddu, yn enwedig yn y trefi a’r dinasoedd lle mae troseddu arfog yn digwydd codi, tra yng nghefn gwlad lle mae perchnogaeth cyfreithlon arfau saethu’n uwch, a mae troseddu’n digwydd bod yn îs. Mae canran swyddogol poblogaeth Cymru a Lloegr heddiw wedi arfogi yn llai na 5%.
Yn seiliedig ar debygolrwyddau ariannol a’r duedd o ddatganoli yn gweithio gyda’i gilydd i danseilio dyledion a gwariant Undebau’r Gorllewin yn y degawdau i ddilyn, bydd Undebau yn hollti a chreu nifer o wledydd newydd annibynnol, bydd gallu Llywodraeth ganolog i gynnal Lluoedd Arfog profesiynol yn dioddef, yn dilyn at dorriadau gwariant a llwgu a gwanio y diwydiant rhyfel ac arfau, a’r tebygolrwydd fydd byddinoedd yn esblygu’n ôl tua’r traddodiadol, o filitiau lleol neu rhanbarthol i amddiffyn y Wlad yn achos goresgyniad. Bydd Llywodraethau’r dyfodol felly yn gorfod ymddiried yn eu poblogaeth a rhoddi annibyniaeth yn y ffurff o ymlacio cyfyngiadau arfau, a/neu sybsideiddio arfau, ymarferion a hyfforddiant, a strategaethau daearyddol er mwyn defnyddio’r tirwedd am bwrpas amddiffynol.
Mae’r Swisdir yn rhoddi engraifft o’r math yma o fyddin, yn Wlad o 9 miliwn o bobol gyda thirwedd fynyddig ag yn ffinio gwledydd ag ymerodraethau grymus hanesyddol, Yr Almaen, Ffrainc, Yr Eidal ag Awstria. Yn rhyfeddol mae’r Swisdir wedi wedi bod yn Wlad annibynnol ers 1291 drwy niwtraledd, heb gwffio rhyfel rhyngwladol ers 1815, ag osgoi holl lanast a dinistr Dau Ryfel Byd ddioddefwyd gan ei gymdogion. Mae strategaeth filwrol y Swisdir yn cynnwys byddin fechan brofesiynol o 9,000 o filwyr llawn amser, gyda 110,000 arall o filwyr gorfodol a gwirfoddol. Mae rheolaethau milwrol yn gorfodi gwasanaeth cenedlaethol ar ddynion rhwng 16 a 20 oed, yn cynnwys eithriadau, ag yn wirfoddol i ferched, gyda ymarferiadau yn para rhwng 18 a 21 wythnos, ag mae’n ofynnol i bob dyn gadw a diogelu ei arfau adref, sy’n gwneud y Swisdir yn un o wledydd mwyaf arfog y byd, gyda canrannau troseddu arfog isel.

Dyfyniad sy’n gael ei briodoli i Lyngesydd Isoroku Yamamoto ar unryw strategaeth gan Ymerodraeth Siapan i oresgyn yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd, oherwydd yr Ail Amendiad (ffynhonell)
Polisi Cyfraith a Threfn

Yn dilyn hollti’r Undeb byddai Cymru yn Wlad Annibynnol, ond yn etifeddu Cyfraith Lloegr, sydd wedi cyfyngu ar Gyfraith Hywel a’r hen Gyfreithiau Cymreig ers Statud Rhuddlan 1284, byddai’r dewis o fabwysiadu ag addasu Cyfraith Gymreig o’r Gyfraith Seisnig, neu mynd yn ôl at draddodiadau fwy cyntefig i reoli troseddu a chyfiawnder dros ddioddefwyr. Yn wir, mae carchardai eto yn symptom o ganoli grym Seneddol gyda gwasg argraffu banc canolog i greu cyfundrefn aneffeithlon, fiwrocrataidd, a chosbi dihirod ar bwrs y trethdalwr, yn hytrach na’r hen drefn o iâwndal a chaethiwed y troseddwr i’w ddioddefwr. Er engreifftiau, roedd galanas yn iawndâl rhyng-deuluol am lofruddiaeth ag yn gyffredin i’r Celtiaid a’r Eingl-Sacsoniaid, fel yr oedd sarhad yn drefn arall o iawndâl am anaf neu anfri. Pa bynnag ffordd yr aiff pethau, mewn dyfodol o ddatganoli, a mewn trefn ariannol fydd yn hawdd osgoi trethi Llywodraeth ganolog yn llwgu y wladwriaeth gyfreithiol, yn anochel yn lleoli cyfraith, ag yn cael ei ariannu’n gynyddol gan drethi Cyngor ag Ynadon a Charcharon Sir.

Sgîl effaith mwyaf dymchwel cors gyfreithiol Seneddau Llundain a Chaerdydd, fydd lleihau grym a gweinyddu Cyfraith a llwgu chyllid a chyflogaeth y sector gyfreithiol
Wedi delio efo’r Gyfraith, daw gorfodaeth i’r Drefn, sydd yn hanesyddol wedi disgyn i sheriff neu heddwas. Cyn y Ddeunawfed Ganrif cymunedau fyddai’n trefnu heddlu i gadw a gorfodi’r Drefn a doedd gan Lywodraeth Llundain ddim ymyrraeth uniongyrchol, hyd nes sefydlu’r Heddlu Profesiynol cyntaf yng Ninas Nglasgow, yr Alban drwy Ddeddf Seneddol yn 1800. Mae hanes modern canoli yr Heddlu ynghlwm a Robert Peel, sy’n sefydlu trefn ganolog gyntaf ar gyfer yr Heddlu yng Ngogledd Iwerddon yn 1814, a gelwir hyd heddiw wrth eu llysenw, “peelers”. Daeth cysyniad trefnu canolog heddlu profesiynol pan oedd Peel yn gweithio fel Ysgrifennydd Cartref o 1822, a sefydlodd Peel yr Heddlu Metropolitan Llundain yn 1829. Daeth Ddeddfau Seneddol pellach yn yr 1830’au i gyflwyno heddlu bwrdeisdrefol, ag erbyn yr 1850’au sefydlwyd yr Heddlu yn genedlaethol.
Er canoli’r heddlu fel cangen gyfreithiol Senedd San Steffan, roedd y drefn yn cael ei gorfodi’n lleol ag ar lawr gwlad. Roedd plisman i bob pentref, ag yn adnabod ei gymuned os nad yn dyfod o’i gymuned, oedd yn cryfhau’r berthynas rhwng y gorfodwr a’r cyhoedd, wedi ei bortreadu yn rhamantus mewn rhaglenni megis Dickson of Dock Green a Glas y Dorlan. Y realiti ers yr Ail Ryfel Byd a Chenedlaetholi economi Prydain dan y Blaid Lafur ydi fod nifer y cyfreithiau wedi cynyddu, wedi clymu’r heddlu mewn gwaith papur i weinyddu deg mil gorchymun mewn swyddi cefn, tra’n diberfeddu’r heddlu lleol a phlismyn pentref a’u dad-gysylltu oddi wrth lawr gwlad, ag sydd wedi cyrraedd ei anterth yn y blynyddoedd diweddar, lle mae Cymru lawr i bedair rhanbarth heddluol, efo cleber Wleidyddol am drio canoli eto i un Heddlu Cymru, wrth i Senedd Caerdydd lygadu mwy o rym canoli dros weddill Cymru.

Pedair rhanbarth heddluol Cymru (ffynhonell)
Wrth symud i ddyfodol o ddatganoli a methiant gynyddol Deddfau a Gwariant Seneddol, bydd Cyfraith a Threfn yn datganoli, yn agosach at yr hen drefn o heddlu lleol ag sydd eisioes yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gyngor Sir a Threth Cyngor. Mae hefyd yn bosibl bydd methiannau ariannol Cynghorau Sir yn arwain at ddatganoli pellach, ag at drefn gymunedol o Gyfraith a Threfn, oedd yn bodoli hyd nes y Ddwy Ganrif ddiwethaf.
Polisi Mudo

Delwedd o basport Cymreig (ffynhonell)
Mae polisi mudo yn clymu gyda polisi amddiffyn, yn yr ystyr y byddai Cymru am y tro cyntaf yn rheoli ei ffiniau ei hun, ag yn rheoli llif masnach a phobol fewn ag allan. Y ffordd draddodiadol o reoli allfudo ag ymfudo am y ganrif ddiwethaf ydi papurau neu gerdiau adnabod, boed yn basport neu yn drwydded yrru, yn ogystal a fisa efo dosbarthiadau ar gyfer trafeilio a thwristiaeth, astudiaeth ag addysg, gweithio a chyflogaeth, neu fisa parhaol/dinasydd cyfreithiol. Mae’r gyfundrefn yma eisioes yn weithredol o fewn yr Undeb Brydeinig, ag mae unrhywun yn glanio ym maes awyr Caerdydd neu borthladdoedd Caergybi ag Abergwaun, angen papur neu gerdyn adnabod i drafeilio fewn i’r Undeb o Gymru.
Un o brif bwrpasau Undeb 1707 rhwng Lloegr a’r Alban i greu Prydain oedd ehangu Undeb Fasnach a Thollau, a’r sgîl effaith fwyaf ar gyfer polisi mudo oedd rhyddid i boblogaeth Prydain symud yn rhydd o fewn yr Ynys, a rhwng Lloegr, yr Alban, a Chymru. Yn sgîl hollti’r Undeb daw y drefn honno i ben, y prîs fydd rhaid talu am Annibyniaeth Cymreig ydi cyfyngiadau newydd ar drafeilio neu fyw yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal a’r cyfyngiadau presennol yng ngweddill y byd. Realiti datganoli ydi bydd rhaid i drigolion Prydain ddod i arfer efo pasborts a fisas rhwng y gwledydd cartref efo goblygiadau mawr ar gyfer demograffeg mewnol Prydain, fydd yn hybu datblygiad diwylliannol fwy mewnblyg, a chynnydd amrywiaeth ddiwylliannol rhwng y Gwledydd Cartref.
Yn amlwg, fel byddai rheoli a gorfodi ffîn galed yn costio mewn adnoddau, byddai rheoli a gorfodi polisi mudo hefyd yn gôst ag yn gyfundrefn newydd o weinyddwyr a chyflogaeth gyhoeddus, yn delio efo ceisiadau cartref ar gyfer pasbort a fisa i drafeilio neu fyw dramor, a cheisiadau a chyhoeddi fisas ar gyfer twristiaid, myfyrwyr, gweithwyr neu rheini sy’n dod i Gymru i fyw’n barhaol, yn ogystal a goruchwylwyr i orfodi’r polisi mewn porthladdoedd, meysydd awyr, a’r ffîn rhwng Cymru a Lloegr.
Polisi Llês

Y cerdyn ddaw i bawb ar ei benblwydd yn 16. Croeso i fywyd fel oedolyn, yr Wladwriaeth Lês a thalu trethi! (ffynhonell)
Mewn dyfodol datganoledig sydd wedi ei ddisgrifio, bydd cyllid a threthi yn symud o drethu’r economi yn fewnol at gyllid tollau ar fewnforion a masnach allanol, fydd hefyd yn gorfod talu am fyddin, llynges, adeiladu a gorfodi ffiniau gwlad annibynnol newydd. Bydd dyfodiad Bitcoin a chynnydd mewn masnach person i berson anhysbus yn ei gwneud hi’n hawdd i Gymry osgoi yswiriant gwladol, trethi incwm, treth ar werth, a’r holl drethi eraill cynhenid ar fasnach, fydd yn amlwg yn ergyd gynyddol i gyllid a gwariant Llywodraeth Wladol. Bydd hyn yn golygu fod Llywodraeth yn gwanhâu ag yn methu fforddio yn agos i be allai fforddio ei dalu heddiw i holl ddibynyddion y Wladwriaeth Lês, boed yn bensiwn gwlad ar ôl ymddeol, i bensiynau y sector gyhoeddus, ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a gweddill addewidion monopoli gyhoeddus ers ffrwydriad y Wladwriaeth wedi’r Ail Ryfel Byd. Fel rydym wedi trafod yn Rhan Un, daeth anterth grym Senedd Llundain yn y Pedwerdegau hwyr gyda chenedlaetholi diwydiant egni a diwydiannau trwm Prydain yn ei gyfanrwydd, ynghŷd a thrafnidiaeth, iechyd, a’r holl wasanaethau eraill oedd yn arfer bod yn wasanaethau preifat. Mae chwyddiant y Saithdegau ag amodau economaidd sorllyd Prydain dan y Gomiwnyddiaeth Newydd yn dod a’r wlad yn agos i’w gliniau, ag yr Wythdegau oedd degawd y preifateiddio ar gyfer egni a diwydiant trwm, er gwell ag er gwaeth. Mae chwyddiant Dauddegau’r Unfed Ganrif ar Hugain yn mynd i gyflymu torri lawr a phreifateiddio/lleoli be sy’n weddill o’r monopolïau gwladol dros iechyd a’r gwasanaethau eraill lle nad oes cystadleuaeth heddiw, ag yr ydym yn gorfod ei ariannu gyda’n trethi uchel.

Medrir dadlau fod y Wladwriaeth Lês eisioes yn ynghynaladwy gyda gofynion mwy o ddibynwyr ar lai o gynhyrchwyr, sydd yn rhan o’r dymchwel mewn demograffeg sy’n geni llai o blant ar gyfer talu fewn i’r sgam gyfundrefn yn y dyfodol, fydd ond yn cyflymu ei ddarfod. Wrth i’r cenedlaethau ifanc sylweddoli na fyddant yn derbyn pensiynau gwladol a gwasanaeth iechyd dibynadwy mewn cyfnewid am eu taliadau Yswiriant Gwladol, byddant yn gynyddol yn ei osgoi’n gyfangwbwl drwy fabwysiadu Bitcoin (ffynhonell)
I gau pen y mwdwl ar unryw ddadl fod holl wasanaethau’r llywodraeth yn dod “yn rhad ac am ddim”, does dim ond rhaid edrych ar ein dyledion treth wedi eu cefnu efo bygythiad carchar ar gyfer rhywun sy’n trio eu osgoi. I gymeryd Yswiriant Gwladol yn gyntaf, mae’r gyfradd bresennol o 13.8% ar weithwyr o 16 oed ymlaen, fel mae pawb yn sylweddoli wrth dderbyn y cerdyn gwreiddiol drwy’r post, ag fel yswiriant yn erbyn diweithdra, salwch, ymddeoliad a marwolaeth, ac ynghŷd a’r dreth incwm o 20% yn faich o dros draean o gyflog cyn adio dim o’r trethi eraill. Er gymaint o adnoddau gwerthfawr a phrin mae’r Wladwriaeth Lês yn ei llyncu, dydi budd-daliadau diweithdra, salwch a phensiynau byth yn cadw fynu efo’r râdd chwyddiant sy’n rheibio eu gwerth am y dyfodol, tra mae’r adnoddau enfawr sy’n cael eu taflu i grombil du y Wladwriaeth yn mynd i dalu am weinyddwyr a thyfiant y sector fiwrocrataidd a’r diwydiant gwaith papur, yn hytrach na mynd i wellhau ag effeithloni gwasanaethau cyhoeddus ar y llinellau blaen. Yn fyr, wrth i gostau a gofynion y wladwriaeth lês gyflymu, felly bydd trethi, chwyddiant a dyledion gwladol yn cynyddu i wasgu’r cenedlaethau ifanc, i’r fath râdd y byddant yn dewis eu osgoi drwy fabwysiadu arian na ellir ei chwyddo na’i drethu, gan lwgu’r Wladwriaeth Lês nes ei dymchwel dan rymoedd anghynaladwy.

Er fod cyllid y Cyngor Iechyd Gwladol yn record o bron i £187 Biliwn yn y flwyddyn ariannol mwyaf diweddar, yn chweched cyflogwr mwyaf y byd, ag yn gyflogwr mwyaf y Deyrnas Unedig efo 1.5 miliwn o swyddi llawn amser, mae gŵlau ar gyfer cleifion wedi disgyn o 240,000 i dan 160,000 dros y ddwy ddegawd ddiwethaf (ffynhonell)
Os nad oes hir oes i faint anghenfil y Wladwriaeth Lês fel y mae hi heddiw, yna be fydd yn ei ddisodli yn y dyfodol? Yr ateb syml ydi dychwelyd i’r oes cyn Deddf Yswiriant Gwladol 1946 a Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1946, ag ail-ddatganoli a phreifateiddio’r Wladwriaeth Lês oddi wrth Lywodraeth ganolog, ag at yswiriant preifat ar gyfer diweithdra, salwch, ymddeoliad a marwolaeth. Byddai osgoi dibyniaeth ar y Wladwriaeth Lês ag Yswiriant Gwladol yn arbed bron i 14% o incwm, a feder gael ei ailgylchu fewn i yswiriant preifat yn erbyn cythrwfwl gwaith, iechyd a bywyd, sydd eisioes ar gynydd ym Mhrydain, efo un mewn bob wyth o Brydeinwyr, er talu Stamp eu holl oes, yn talu i fynd yn breifat am lawdriniaethau a gwasanaethau iechyd yn hytrach na disgwyl ar restrau aros a dioddef am flynyddoedd mewn cyfundrefn iechyd gyhoeddus. Yn ychwanegol, mae mabwysiadu Bitcoin ag arian sy’n ddad-chwyddiannol ag yn codi yn ei werth dros amser, yn yswiriant naturiol i amddiffyn unigolion a theuluoedd yn erbyn ansicrwydd y gweithlu a bywyd yn gyffredinol, wrth i gostau byw ddisgyn bydd costau iechyd ag ymddeol hefyd yn disgyn ag yn dyfod yn fwy fforddiadwy. Bydd y symudiad at yswiriant preifat hefyd yn datganoli’r gyfundrefn iechyd at ysbytai fwy lleol, a gobaith y symudiad yn ôl at hyfforddi doctoriaid a nyrsiaid lleol, yn hytrach na gwasanaeth iechyd gwladol sydd wedi dod yn ddibynnol ar fewnforio llafur rhad y trydydd byd, a dwyn gweithwyr iechyd gorau y gwledydd hyn i ddod i weithio’n Mhrydain, sydd wedi brifo cyfundrefnau iechyd y byd datblygol.

Er mor ansefydlog ydi pris Bitcoin o ddydd i ddydd, dros yr 13 blynedd diwethaf mae ei bris yn flynyddol wedi codi bron 150% yn erbyn arian gwladol, ag yn datblygu’n yswiriant gwerthfawr iawn (ffynhonell)
Mae annibyniaeth yn air hawdd iawn i’w daflu o gwmpas gan feddylwyr sydd ond yn bwriadu cyfnewid dibyniaeth ar Lywodraeth a Senedd Llundain, am Lywodraeth a Senedd Caerdydd, ond annibyniaeth gwir a chynaladwy ydi annibyniaeth o Lywodraeth, a dianc ei gwasanaethau aneffeithlon a drud. Mae mabwysiadu arian byd eang a’i ddefnyddio gartref yn ennill gwerth o raddfa fyd eang, tra’n hybu annibyniaeth rhag lywodraeth gwladol, fydd yn amlwg yn gwanhâu gwariant a chrafanc y Llywodraeth dros ei dibynyddion, a thrawsnewid meddylfryd o ddibyniaeth i feddylfryd o annibyniaeth a rhyddid.
Fel y bydd trethi gwladol ar incwm a masnach yn dod yn haws i’w osgoi, bydd hyn yn ein gadael efo trethi lleol a threth cyngor, fydd yn llawer anoddach ei osgoi. Mae tŷ neu fusnes corfforol yn darged hawdd iawn ei drethu, ag yn golygu cryfder fydd yn parhau llawer hirach ar gyfer llywodraeth leol. Ar yr ochr wariant, mae llywodraeth leol eisioes yn ariannu isadeiledd y Sir, yr heddlu a’r llysoedd a threfn lleol, a gwasanaethau megis casglu sbwriel, atgyweirio ffyrdd, ysgolion, a gwasanaethau cymdeithasol lleol. Pe byddai llywodraeth sir hefyd yn cael ei lwgu a methu cynnal yr holl wariant uchod, yna byddai’r gwasanaethau yma hefyd yn gorfod cael eu preifateiddio a’u datganoli’n bellach i gynghorau lleol/plwyf, i’w ariannu’n uniongyrchol gan ddefnyddwyr a chwsmeriaid, ag yn llawer rhatach ag effeithlon yn siwr. Serch hyn, y tebygolrwydd fydd Cyngor Sir yn parhau i fedru trethu ag ariannu Llywodraeth Sir, ond wedi prisio’r trethi yma mewn bitcoin, bydd costau byw yn cynnwys y dreth cyngor yn lleihau fel canran o werth flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy’n esmwytho’r unigolyn a’r teulu yn erbyn costau ariannu llywodraeth leol.
Polisi Tai
| Blwyddyn | Prisiau Tai Mewn Punnoedd | Prisiau Tai Mewn Bitcoin |
| 1af o Ionawr 2013 | £ 163,056 | 14,823 ₿ |
| 1af o Ionawr 2014 | £ 178,124 | 272 ₿ |
| 1af o Ionawr 2015 | £ 188,566 | 891 ₿ |
| 1af o Ionawr 2016 | £ 198,564 | 629 ₿ |
| 1af o Ionawr 2017 | £ 206,665 | 239 ₿ |
| 1af o Ionawr 2018 | £ 211,792 | 19 ₿ |
| 1af o Ionawr 2019 | £ 212,694 | 71 ₿ |
| 1af o Ionawr 2020 | £ 217,911 | 40 ₿ |
| 1af o Ionawr 2021 | £ 231,644 | 10 ₿ |
| 1af o Ionawr 2022 | £ 260,771 | 7 ₿ |
| 1af o Ionawr 2023 | £ 258,155 | 19 ₿ |
Tai wedi prisio mewn punnoedd, yn erbyn Bitcoin. Ffynhonellau prisiau tai Prydain, a siart Bitcoin mewn punnoedd
Fel y trafodir ym mhennod 10 o’r Podlediad Arian Cymreig mewn cryn fanylder, mae tai a phrisiau tai yn bwnc llôsg Hanes Cymru, o’r Saithdegau Chwyddiannol a dechrau ymlifiad Saeson cefnog i hel tai hâf yng nghefn gwlad Cymru, i ymgyrch losgi Meibion Glyndŵr drwy’r Wythdegau dros Ogledd a De Orllewin Cymru, a’r llîf o estroniaid aeddfed sydd wedi ymgartrefu yma ag yn gorfodi ein pobol ifanc ag ein adnodd mwyaf gwerthfawr, i symud ymaith i chwilio am waith a thâi rhatach. Oherwydd chwyddiant a dibrisio’r Bunt dros yr hanner canrif diwethaf, mae Effaith Cantillon sy’n llifo allan o Ddinas Llundain a Seneddwyr San Steffan wedi galluogi rheini sydd agosaf i’r wâsg argraffu arian i hordio tai rhâd yn yr ardaloedd sydd bellaf o’r wâsg argraffu, sydd wedi cymeryd nifer o dai allan o’r sdoc dai draddodiadol a sydd nawr yn dai hâf neu dai gosod ar gyfer twristiaeth, sy’n gyrru gwerth gweddill y sdoc dai yn uwch ag yn anfforddiadwy ac allan o afael pobol leol ifanc gynhenid, sy’n eu gyrru o gefn gwlad Cymru i weddill Prydain a’r byd. Mae ysgogiadau afiach arian chwyddiannol y Bunt Brydeinig yn gwagio Cefn Gwlad Prydain o’i ieuanc i symud yn nês ar wâsg argraffu Llundain, ag yn cael eu disodli gan yr henoed sydd wedi elwa o godiad prisiau tai a storio eu gwerth mewn tai yn hytrach na arian, am reswm amlwg.
Mae Effaith Cantillon llai yn chwarae allan o fewn Cymru hefyd, yn sgîl sefydlu’r Cynulliad yng Nghaerdydd sydd nawr yn Senedd, dros y blynyddoedd mae’r arian a’r gwariant sy’n llifo drwy lywodraeth canolog Caerdydd hefyd wedi denu poblogaeth gefn gwlad Cymru i lawr i’r Ddinas Fawr Ddrwg i fyw am sybsidis a chyflogaeth yn y sector gyhoeddus, sydd yn sugno adnoddau gwerthfawr a chynhyrchiol o’r wlad ag i ddinasoedd mawr yr Undeb. Mae’r holl strwythyr ysgogi ddinistriol yma sy’n hybu cenedlaetholi a chanoli ag yn tanseilio lleoli a datganoli, yn deillio o arian gwladol a bancio canolog felly mae’n bwysig trafod y strwythyr ysgogi o dan arian cystadleuol a dad-chwyddiannol, mewn gair, Bitcoin.
Mae’r siart uchod o brisiau tai yn arddangos dau beth: fod pris tŷ cyffredin wedi codi bron £100,000 o bunnoedd yn y ddegawd olaf, tra mae pris tŷ mewn bitcoins wedi dymchwel o bron bymtheg mil i lawr i dan ugain. Mae’r siart felly yn arddangos faint mor drychinebus ydi’r bunt am storio gwerth o’i gymharu efo tai, a faint mor drychinebus ydi tai fel stôr o werth o’i gymharu efo Bitcoin. Yn wir mae trechu grymoedd chwyddiannol y Bunt Brydeinig a’i disodli gan rymoedd dad-chwyddiannol Bitcoin yn mynd i droi’r holl gyfundrefn darganfyddiad prîs y farchnad ben i waered, efo goblygiadau anferthol ar gyfer y berthynas rhwng llafur a chyfalaf, a rhwng yr hen a’r ieuanc.
O dan chwyddiant, llafur sy’n cael ei ddibrisio drwy werth yr arian, tra mae gwerth cyfalaf yn codi, ag yn gweithredu fel sybsidi i berchnogwyr a’r cenedlaethau hỳn, ar draul cosbi llafur a’r cenedlaethau ieuanc, sy’n gyrru creisus mewn cyfalaf fforddiadwy, a fydd yn y diwedd yn ansefydlogi cymdeithas, a thensiynnau peryglys rhwng y lleiafrif sy’n berchen eiddo, a’r mwyafrif sydd dim. O dan ddad-chwyddiant mae’r berthynas yn troi ben i waered, wrth i werth llafur mewn arian (bitcoin) ddibrisio cyfalaf a’i wneud yn fwy fforddiadwy i’r ifanc fedru dod yn berchen eiddo. Mae dad-chwyddiant hefyd yn dreth ar gyfalaf ag ar yr henoed a fyddant debyg yn mabwysiadu bitcoin olaf, ond hefyd bydd bitcoin yn ysgogi’r hordiwrs tai a chyfalaf yma i werthu eu tâi sbâr am well stôr o werth, fydd yn dosbarthu a chyfartalu eiddo yn fwy cydraddol rhwng yr hen a’r ieuanc, ag yn sefydlogi cymdeithas wrth i fwy o gymdeithas fod yn berchen eiddo, ag ar draul y sector rentio, tai gosod, tâi haf, a’r diwydiant twristiaeth.
Bydd traethawd pellach a manwl ar Greisus Tai Fforddiadwy yn cael ei gyhoeddi ar y blog arian cymraeg yn y dyfodol, yn ymwneud â’r pwnc llosg yma.
Polisi Addysg

Mewn oesoedd cynt, oherwydd cyfyngiadau cyfathrebu a thrafeilio, bu’r duedd i addysg ganoli mewn canolfannau dysg, esblygodd o brifysgolion prin y Canol Oesoedd, i ddatblygiad ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau dros y canrifoedd a chanoli drwy Ddeddfau Seneddol, tuag at gyfundrefn addysg Genedlaethol, ag hyd yn oed yn waeth, Cwriciwlwm Cenedlaethol. Dydi hi ddim yn cymeryd yn hir i ddychmygu pam fyddai Gwleidyddion a rheolwyr llywodraethol mor awchus am reolaeth canolog dros addysg wladol, ar gyfer safonoli pynciau a dulliau addysgu a Phrydeinio’r genhedlaeth nesaf, a dofi gymaint a phosib ar gyfer eu dyfodol fel cog ym mheirianwaith parhau’r Undeb. Gellir hefyd arholi a phrofi’r gwybodaeth sydd wedi ei gynnwys yn y cwriciwlwm cenedlaethol i adnabod galluoedd ymysg y clyfraf o’r disgyblion, sydd wedyn yn gadael cartref i brifysgolion Dinasoedd Prydain, efo cyfle da na ddown yn ôl i gyfoethogi cymunedau, ond eu sugno’n agosach at swyddi ag arian gwladwriaeth yr Undeb. Gwnaethpwyd mwy o niwed hir dymor gan ffantasïau Toni Blêr a’r Blaid Lafur ar droad y Mileniwm i yrru gormodedd o’r ifainc i goleg ag i fewn i ddyled, i gystadlu am swyddi gwneud i dyfu’r sector gyhoeddus a fiwrocratiaidd, ag am raddoedd mewn meysydd (yn enwedig yn y dynoliaethau), nad oedd yna byth ddigon o swyddi na diwydiant i’w cynnal.

Mae dyfodiad y rhyngrwyd a chyfundrefn ddatganoledig o gyfathrebu, rhannu gwybodaeth ac addysgu, eisioes yn tanseilio’r gyfundrefn addysg bresennol a sydd eto i chwarae allan yn llawn, bydd y degawdau nesaf yn gweld colli rheolaeth Llywodraeth Ganolog dros wariant addysg a disgyniad y Cwriciwlwm Cenedlaethol, ynghŷd a diweithdra’r sector gyhoeddus wrth i addysg breifateiddio ag eto ddatganoli at Gynghorau Sir a threthi lleol, a thaliadau gwirfoddol am addysg plant ag oedolion yn lleol. Er holl rymoedd yr rhyngrwyd fydd yn amharu ar drefn addysg draddodiadol, bydd yr adeiladau addysgol yn dal i fodoli dros Gymru, a gellir eu ail-bwrpasu ar gyfer addysg fwy realistig ar gyfer gofynion Cymru’r dyfodol, addysg leol i blant ag oedolion, addysg gyrfaoedd ar gyfer hyfforddi sgiliau ar gyfer sectorau a swyddi llawr gwlad, amaeth, adeiladu, peiriannu a diwydiant, dosbarthau nôs ar gyfer oedolion, ayyb. Bydd hyn yn galluogi addysg leol o’r llawr i fyny ar gyfer cadw’r ifainc yn lleol i gyfoethogi’r gymuned, yn hytrach na defnydd addysg er mwyn sugno’r galluog allan o’u cymunedau lleol tuag at y wâsg argraffu arian a dinasoedd Cymru a chyflogaeth y Sector Gyhoeddus.
Polisi Trafnidiaeth

Mae ffyrdd mor hen a dynoliaeth, wedi dechrau fel rhwydweithiau trafnidiaeth lleol i alluogi symud o gwmpas a masnach, bu symudiad at ganoli trafnidiaeth dros y canrifoedd eto yn nwylo Seneddol, ag i ddewis yr enillwyr a’r collwyr yn y brwydrau rhwng masnachwyr am ddulliau cyflymach o drafnidiaeth. Dechreuodd llwybrau trafnidiaeth ganolog gyda’r Camlesi, ag yng nghanol y Chwyldro Diwydiannol a Deddfau Seneddol daeth y Gorffwyll Camlesi rhwng yr 1790’au a’r 1810’au, ond buan iawn wedyn amddifadodd San Steffan y camlesi am drenau a thechnoleg symudol gynt dros Brydain, drwy fuddsoddi mewn cwmnïau rheilffyrdd a bwydo Gorffwyll Rheilffyrdd yr 1840’au cynnar. Fe barodd goruchafiaeth y trenau am bron Ganrif, nes dyfeisio’r car modur ar ddechrau’r Ugeinfed Ganrif. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd a Deddf Trafnidiaeth 1947 cenedlaethwyd y priffyrdd, y rheilffyrdd, y camlesi, porthladdoedd, a hyd yn oed cwmnïau bysiau a lorïau am gyfnod byr, fe ddaeth isadeiledd trafnidiaeth Prydain yn uniongyrchol i ddwylo’r Senedd a’r Llywodraeth.

Gyda Thoriadau Beeching yn y Chwedegau, mae’r rheilffyrdd a threnau yn ngefn gwlad yn dioddef o symudiad Senedd Llundain at draffyrdd a cheir (ffynhonell)
O’r Ail Ryfel Byd mae llywodraeth Prydain yn penderfynu blaenoriaethu ceir dros drenau, ag yn dilyn esiampl yr Almaen ag adeiladu’r Autobahn o’r 30au, yn 1949 daeth y Ddeddf Ffyrdd Arbennig, a dechrau’r Traffyrdd efo agoriad swyddogol yr M1 yn 1959. Yn sgîl arallgyfeirio sybsidis at y lonydd dan lobïo dibaid diwydiant ceir prydain, diberfeddwyd y rheilffyrdd drwy gefn gwlad Prydain ynghŷd a thrafnidiaeth gyhoeddus, mae’r hanner canrif ers wedi gweld cenedlaetholi traffyrdd a ffyrdd deuol ag wedi agor fyny Prydain oll i drafeilio chyflym a rhad, a thanseilio economïau ag annibyniaeth leol, er llês dibyniaeth ar rwydweithiau amaethyddol a diwydiannol cenedlaethol.
Fel bydd y duedd o golledion trethi a rheolaeth ganolog yn tanseilio Senedd Llundain a Chaerdydd mewn dyfodol datganoledig, bydd hefyd yn llwgu gallu Llywodraeth Genedlaethol i barhâu eu gwariant ar lonydd a thraffyrdd newydd i ysbeilio tirwedd Prydain ymhellach, rydym yn debygol yn agos i anterth adeiladu lonydd newydd, a bydd y dyfodol felly yn fwy o fater o drio ariannu a chynnal y rhwydwaith traffyrdd a phriffyrdd presennol, unai drwy dollau neu drwy drethi Cyngor a datganoli cynnal y priffyrdd i’r Siroedd. Bydd yr un peth yn wir am y rheilffyrdd, ag wrth i lywodraeth ganolog fethu efallai gall rheilffyrdd preifat a gwirfoddol ddychwelyd, fel gweler efo nifer o hen reilffyrdd sydd wedi cael eu hail-adeiladu a’u hadnewyddu gan wirfoddolwyr yn ddiweddar, wedi bradwriaeth Beeching. Bydd datganoli hefyd o bosib yn newid byd i’r isadeiledd hedfan ym Mhrydain, a symudiad i ffwrdd o feysydd awyr canolog anferthol megis Manceinion a Llundain, ar gyfer rhwydwaith meysydd awyr bach ag isadeiledd fwy lleol, fyddai’n gwneud fflio gartref a dramor yn llawer fwy cyfleus ar gyfer cefn gwlad.
Polisi Amaeth

Does dim yn fwy hanfodol i ddyfodol annibynnol unriw wlad, na’r diwydiant sy’n cynhyrchu ein bwyd
Mae diwydiant amaethyddol llewyrchus yn gorwedd ar ddwy brif golofn, tu allan i bolisi ariannol fel sylfaen y dyfodol, sef polisi egni a pholisi tollau. Fel y dyliau Llywodraeth Wladol o leiaf gysidro sybsidis ar gyfer creu egni rhad a dibynadwy i gynyddu cynhyrchiant a cynhyrchedd gartref, gellir hefyd dadlau’n gryf dros sybsideiddio amaeth fel rhan o ddiogelwch cenedlaethol ar gyfer bwydo’r Genedl. Anfanteision sybsidis uniongyrchol ydi creu dibyniaeth amaethyddol ar lywodraeth ag ar ei ddiwydiant gwaith papur, sydd hefyd yn rhoi modd i wleidyddion hanner call orfodi eu polisïau dinistriol biwrocrataidd a rheolaethau hinsawdd gwallgof i gynllunio’n ganolog, a be gaiff ffermwyr ei dyfu a ddim ei dyfu. Yn hytrach na sybsidis uniongyrchol, ag er llês annibyniaeth amaeth rhag seneddwyr, byddai sybsideddio an-uniongyrchol yn cynnwys Polisi Egni ar gyfer cynhyrchu trydan a tanwydd rhad i sector amaeth Cymru fyddai yn eu gwneud yn gystadleuol neu fwy cystadleuol na gwledydd eraill, ag yn cyfoethogi ffermwyr yn uniongyrchol. Byddai hefyd rhaid rhedeg cydbwysedd masnach efo sectorau amaeth gweddill y byd a thollau cyfatebol efo gwledydd allanol, yn hytrach na’r colledion masnachol enbyd mae Llywodraeth Prydain yn ei redeg heddiw efo sector amaeth Ewrop a rhai o wledydd y Gymanwlad, sydd yn gadael llif o fewnforion bwyd rhâd o’r Cyfandir danseilio prisiau a gwerth bwyd ar gyfer ffermwyr Prydain.
Yn fwy na dim, byddai mabwysiadu arian dad-chwyddiannol a datganoledig fel Bitcoin yn cynyddu gwerth arian a chynilion ffermwyr Cymru, yn galluogi ail-fuddsoddi mewn ffermydd ag yn llwgu dyledion ffermydd sydd heddiw yn gweithio i’r banc am eu hoes, ag yn wystlon polisi cyfraddau llôg y Banc yn Lloegr sy’n gyrru tlodi, iselder ysbryd a hunanladdiad ymysg ffermwyr Prydain.

Fel y gwelwn y protestiadau amaethyddol sy’n ffrwydro dros Brydain a Chyfandir Ewrop ar y funud, mae Awdurdodau’r Gorllewin yn mynd i ddysgu’r wers o gythruddo ffermwyr. Mae ffermwyr annibynnol o reolaeth llywodraeth ganolog yn gonglfaen Annibyniaeth Cymru
Polisi Diwydiannol
Fel sy’n wir am yr sector amaeth, mae’r un yn wir am sector ddiwydiannol. I ddiwydiant Cymru ffynnu, mae egni rhad yn sail hanfodol ynghŷd a chydbwysedd masnachol drwy dollau cyfatebol, fyddai’n galluogi cystadlu efo mewnforion estron, ag sydd eto’n fater o Ddiogelwch Cenedlaethol, er mwyn cynhyrchu mwynau, metalau, cadwynau darparu, a pheiriannau gartref ag osgoi dibyniaeth. Bydd methiant llywodraeth ganolog hefyd yn tynnu nifer o’r cyfyngiadau rheolaethol ag amgylcheddol cenedlaethol, fyddai’n galluogi datganoli a lleoli diwydiant Cymreig, i hybu amrywiaeth a chystadleuaeth, a chreu swyddi a hunan gynhaliaeth lleol.
Polisi Iaith
Mae polisi iaith yn sgîl effaith o’r holl bolisïau eraill uchod, er mwyn cadw siaradwyr Cymraeg yn eu cymunedau a’u cynefin, yn hytrach na’u sugno ymaith at Ddinasoedd Prydain a thuag at yr iaith Saesneg. Rydym eisies wedi sôn sut mae polisi ariannol ag Effaith Cantillon y Bunt yn hudo’r Cymry Cymraeg tuag at wâsg argraffu Llundain, y polisi addysg presennol sy’n gwagio cefn gwlad o’i galluog tuag at gyfundrefn addysg a swyddi sector gyhoeddus yr Undeb, ein polisi egni trychinebus sy’n diberfeddu swyddi a chwmnïau bach diwydiannol ag amaethyddol dros Brydain, a’r creisus tâi fforddiadwy lle mae’r henoed yn disodli’r ifanc ag yn eu gyrru ffwrdd o adref. Dydi holl bolisïau iaith Senedd Caerdydd i hyrwyddo Cymraeg mewn ysgolion ag o fewn y sector gyhoeddus, ddim yn mynd i gywiro’r duedd o farw’r Gymraeg yng nghadarnleoedd Gorllewin Cymru ag ar lawr gwlad, a bydd yr iaith yn parhau i ddirywio mor belled a mae’r gyfundrefn bresennol yn parhau.
Yr unig strategaeth felly ar gyfer cadw’r Gymraeg yn fyw yn y cadarnleoedd ag atgyfodiad y Gymraeg mewn ardaloedd di Gymraeg, ydi ynysu ein hunain o Brydain, ag i ddatblygu gwlad annibynnol fewnblyg efo’i diwylliant a’i iaith ei hun. Mewn dyfodol datganoledig lle mae Bitcoin yn disodli’r Bunt fel ein sylfaen ariannol a chyfrifo, bydd dad-chwyddiant yn rheibio chwyddiant, trethi a rheolaethau yr Undeb a Senedd Caerdydd, dymchwel y gyfundrefn addysg sy’n sugno pobol ifanc tuag at y prifysgolion a’r Dinasoedd, dymchwel prisiau tâi a’u gwneud yn fforddiadwy i’r ifanc a’r cynhenid aros adref, i fagu teuluoedd a Chymry Cymraeg y dyfodol.
Diweddglo
Pwrpas y traethawd hwn ydi rhannu syniadau ag ysgogi meddyliau, yn seiliedig ar orffennol, presennol a dyfodol Cymru. Roedd astudiaeth o hanes Cymru’n hanfodol i ddeall o lle’r ydym wedi dyfod, a’r digwyddiadau pwysicaf sydd wedi dylanwadu ar ein gorffennol. Mae astudiaeth o’r presennol yn hanfodol ar gyfer heddiw, y groesffordd yr ydym wedi cyrraedd a pha ddewisiadau realistig sydd ganddom yn y blynyddoedd i ddilyn, wrth i dueddiadau hanesyddol cyfandirol eto ddechrau troi ymaith o hen drefn sefydliedig i drefn newydd sy’n sefydlu. Mae astudiaeth o’r dyfodol yn un damcaniaethol, ond yn disgrifio beth sy’n bosib ag yn debygol wrth i drefn newydd sefydlogi ac ehangu.
Rydym mewn safle eithriadol o ddiddorol a chynhyrfus yn hanes Cymru, a’r byd yn fwy cyffredinol. Wedi pum canrif o ganoli ariannol a llywodraethol ers ein Diwygiad Protestannaidd anffodus wedi dyfeisiad y wâsg argraffu bapur, gellir dadlau fod anterth canoli yn dilyn yr Ail Ryfel Byd neu ar ddiwedd y Saithdegau, ond y Nawdegau a phreifateiddio’r Rhyngrwyd oedd dechrau’r duedd aml ddegawdol o ddatganoli, yn dechrau efo gwybodaeth. Rydym yn y dair ddegawd ddiwethaf wedi myned i fywyd digidol, er gwell ag er gwaeth, ag wedi gollwng costau cyfathrebu i bron ddim, sydd wedi gweddnewid ein perthynas efo ein uchelwyr gwleidyddol, sydd nawr yn sylweddoli grymoedd adweithiol y rhyngrwyd yn erbyn eu breuddwydion am ganoli a rheoli’r dyfodol a dinistrio’r Wlad ymhellach.
Wedi amharu ar gyfathrebu ag addysgu, y cyffindir nesaf ddigidol oedd masnach a’r symudiad araf ond cyson tuag at siopa arlein, sydd yn sicr wedi tarfu ar siopa stryd fawr traddodiadol a sydd hefyd wedi llusgo y banciau a’r gyfundrefn drethi i fewn i’r byd newydd ddigidol. Mae hi’n hollol ddiogel datgelu fod ein uchelwyr gwleidyddol a’n cyfundrefn fancio erbyn hyn mor gaeth a’r boblogaeth a’r sector breifat i ddyfodol digidol, fel y gwelwn heddiw gyda holl sensro gorffwyll yr hen drefn yn ofni colli ei monopoli dros ei ddinasyddion. Yr monopoli mwyaf sydd ar ôl, a’r olaf i’w darfu fydd yn troi yr holl fyd ben i waered, ydi monpolïau arian gwladol dros fasnach a dibrisio’r farchnad drwy chwyddiant a threthi.
Y cyffindir olaf i’r rhyngrwyd cyn datganoli’r byd i’w eithaf, ydi cystadleuaeth ariannol gan gystadleuwyr oes y rhyngrwyd, sydd yn diweddu efo dyfeisiad cyfundrefn gyfrifon ddatganoledig, digidol a chynhenid i’r rhyngrwyd, ag yn datrys Problem Cadfridog Bysantin, oedd gwendid angheuol yr hen oes ddigidol oedd yn gofyn cystodi canolog ag yn caethiwo i un pwynt o fethiant. Ers i Satoshi ddatrys y gwendid, yn sydyn iawn mae cyfundrefn ddatganoledig nid yn unig yn bosib, ond yn realiti sy’n mynd i barhau i reibio ag i lyncu y gyfundrefn ganolig rydym wedi gwario’r canrifoedd diweddar yn gaeth oddi mewn, ers 2009 mae Bitcoin wedi tyfu o ddim i faint rhyngwladol yn gwasanaethu degau o filiynau o bobol dros y byd, ag yn y dyfodol bydd mabwysiadu pellach i gannoedd o filiynau, cyn biliynau o ddefnyddwyr.
Wrth i ni basio Penblwydd Bitcoin yn bymtheg oed, rydym yn cyrraedd yr oes lle bydd Bitcoin yn symud o’r sector breifat i’r sector gyhoeddus, fydd yn gorfodi Gwledydd i fabwysiadu Bitcoin fel cyfalaf a stôr o werth mewn Trysorlysiau Cenedlaethol, yn ogystal a chloddio am Bitcoin yn defnyddio trydan cenedlaethol, fydd yn ffrwydro cystadleuaeth lywodraethol ar gyfer diogelu llês eu poblogaethau cynhenid, a’r symudiad tuag at gyfreithloni a lleihau trethi ar Bitcoin. Gyda grymoedd datganoledig Bitcoin yn gweithredu ar lefel genedlaethol, bydd yn cyflymu ag yn esmwytho’r broses o ddienyddio Undebau Ariannol Rhyngwladol, ag yn sail hollbwysig ar gyfer y ffrwydriad mewn gwledydd bychain annibynnol newydd yr Unfed Ganrif ar Hugain, yn cynnwys Cymru Fach. Fel rhan o Annibyniaeth Gymreig, bydd Bitcoin hefyd yn dinistrio trethi a gwariant Senedd Caerdydd, ag yn gwanio rheolaeth a chrafanc soshalaidd y Blaid Lafur Gymreig dros Gymru sydd wedi diffinio’r Ganrif olaf yn hanes ein Gwlad, a’n rhyddhau ar gyfer dyfodol llewyrchus, lleol a hunan gynhaliol.
Mae’r ddegawd nesaf yn gaddo newidiadau anhygoel i ni gyd!

Derbynir Cyfraniadau Bitcoin yn Ddiolchgar:
bc1q49a3y9anq3a2pjqvq3gm8wj8aqqld3pnva9phwna2ftdar73mf3qak275j

