Torri’r Bunt i Dorri’r Undeb – Rhan Un: Gorffennol

Yng nghrombil y Pandemic Cofid, mae’r dyfodol datganoledig yn goleuo ar y Banc yn Lloegr, sylfaen yr Undeb drwy’r Bunt Brydeinig ers 1694 (ffynhonell)

Cyflwyniad

Bydd Rhan Cyntaf y traethawd hwn yn ymdrin â’r Gorffennol, hanes Cymru fel cenedl annibynnol o wreiddiau Rhufeinig, esblygiad yr Oesoedd Canol at oruchafiaeth Gwynedd dros weddill Cymru, hyd y Deddfau Uno efo Lloegr yn 1535 a 1542 o dan deyrnasiad Harri’r Wythfed sy’n dod a threfn ffiwdal a Babyddol Cymru i ben, ag wrth i Gymru ddioddef ei Diwygiad Protestannaidd a’r broses aml ganrifol o Seisnigeiddio a Phrydenio y Cymry. Byddwn yn trafod rôl a hanes hollbwysig y Bunt Brydeinig, sydd yn enwedig ers sefydlu’r Banc yn Lloegr yn 1694 wedi dod yn arian cyffredin sy’n cadwyno pobol Prydain o fewn Undeb Ariannol a Chyllid, ag yn sybsidi anferthol i gyfoethogi Llundain a De Lloegr ar draul tlodi Canoldir a Gogledd Lloegr, Yr Alban a Chymru.

RHAN UN: GORFFENNOL

Hanes Cymru Fel Cenedl

Cymru Rufeinig diwedd y Bedwaredd Ganrif (ffynhonell)

Er bod olion pobol yng Nghymru yn dechrau oddeutu 9,000 o flynyddoedd yn ôl, mae hanes Cymru fel Cenedl ynghlwm â’r Rhufeiniaid, sy’n dechrau concro Cymru yn 43 ar Ôl Crist, yn nheyrnasiad Iŵl Cesar. Mae’r Rhufeiniaid yn aros yn Nghymru a Phrydain am dros dair canrif nes y Flwyddyn 383, pan maent yn hwylio am adael wrth i Ymerodraeth Rufain ddymchwel ar y Cyfandir.

Chwedl Breuddwyd Macsen Wledig (ffynhonell)

Mae sefydlu Cymru fel cenedl ynghlwm â chwedloniaeth Macsen Wledig sy’n dod yn Ymerawdwr Rhufain yn y Gorllewin rhwng 383 a 388, a mae teuluoedd Brenhinol a Thywysogion Cymru y Canol Oesoedd yn hawlio’r hanes a’r achau Rhufeinig hwn.

Y Canol Oesoedd Cynnar (5ed i’r 10ed Ganrif)

Dechrau datganoli Ynysoedd Prydein wedi’r Rhufeiniaid (ffynhonell)

Mae Rhufain wedi gadael Prydain yn gyfangwbl erbyn y Flwyddyn 410, efo nifer o ranbarthau gwahanol yn rheoli eu hunain. O dan y Rhufeiniaid mae Cymru eisioes yn gyswllt efo Cristionogaeth, ac mae Oes y Seintiau yn para bron dair can mlynedd o 400 i 700 Ôl Crist, wrth sefydlu eglwysi a mynachlogydd dros Gymru, drwy arloes Dewi Sant, Illtud a Theilo.

Prydain y Seithfed Ganrif (ffynhonell)

Mae ymadawiad Rhufain yn ysgogi y Saeson Cyfandirol i oresgyn a setlo yn Ne Ddwyrain Lloegr a’r Eingls yn y Gogledd Ddwyrain, dros y Seithfed Ganrif mae’r Brythoniaid yn colli tiriogaeth Lloegr wrth i Gymru, yr Hen Ogledd, a Chernyw gael eu dad-gysylltu.

Teyrnasau cynnar Cymru (ffynhonell)

O fewn Cymru mae nifer o deyrnasau gwahanol, efo’r ddau fwyaf yng Ngwynedd yn y Gogledd Orllewin a Phowys yn y Dwyrain, ond oherwydd daearyddiaeth Powys ar y ffîn efo Mersia, maent yn gorfod rhyfela’n amddiffynnol yn erbyn y Saeson, sy’n dyrchafu Gwynedd fel y deyrnas gryfaf erbyn yr Wythfed Ganrif. Serch cadernid Gwynedd, mae hi’n anodd iawn uno Cymru yn ystod yr adeg yma oherwydd natur Cyfreithiau Cymru sy’n rhannu eiddo a theyrnasau rhwng yr holl feibion, yn hytrach na Chyfraith Lloegr ag etifedd yr eiddo fel arfer i’r mab hynaf. Golygir hyn fod cyfraith werinol a datganoledig yn fainteisiol i atal canoli o fewn Cymru, ond hefyd yn anfantais sy’n gwanhâu Cymru yn erbyn undod a rheolaeth fwy canolog Lloegr.

Gwynedd yn ehangu o dan deyrnasiad Rhodri Fawr (ffynhonell)

Mae’r Nawfed Ganrif yn dyfod Rhodri Fawr, brenin Gwynedd sydd hefyd yn dod i reoli Powys a Cheredigion. Mae ei ŵyr, Hywel Dda yn creu teyrnas Deheubarth ag yn safonoli Cyfreithiau Cymru, neu Cyfraith Hywel fel y’i adnabyddir, ag yn taro heddwch gyda Lloegr. Wedi marwolaeth Hywel yn 949, mae Gwynedd yn torri ffwrdd o’r teulu.

Mae Cymru bron yn unedig o dan deyrnasiad Hywel Dda (Ffynhonell)

Canol Oesoedd Hwyr (11fed i 15fed Ganrif)

Cymru’n unedig am wyth mlynedd dan deyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn (ffynhonell)

Yr unig frenin i uno Cymru’n llawn ydi Gruffudd ap Llywelyn, sydd hefyd yn trechu lluoedd ag ennill tir gan Loegr, ond am gyfnod o wyth mlynedd rhwng 1055 a 1063. Lladdir Llywelyn yn 1063 gan ei filwyr ei hun, ar ôl ei drechu gan Harold Godwinson, mae Cymru eto’n datganoli i deyrnasau cystadleuol, ar yr adeg gwaethaf bosib…

Dyfod y Normaniaid (ffynhonell)

Mae Cymru’n ddioddef gyda dyfod y Normaniaid yn 1066, ei choncro yn ei gwendid bron yn gyfangwbl, er gwrthryfela ysbeidiol Gollewin Cymru ag amddiffyniad Gwynedd a Deheubarth.

Ffiniau brâs Cymru yn y Fwyddyn 1217 (ffynhonell)

Mae Gwynedd eto’n codi mewn nerth yn y Drydedd Ganrif ar Ddeg, efo Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn Dywysog Gwynedd yn 1200, ag erbyn ei farwolaeth yn 1240 mae’n rheoli rhan fwyaf o Gymru.

Ffiniau Cymru wedi Cytundeb Trefaldwyn (ffynhonell)

Ar ôl cyfnod o ffraeo teuluol, coder Llywelyn ap Gruffudd, ŵyr Llywelyn Fawr yn Dywysog, ag arwyddir Cytundeb Trefaldwyn yn 1267 efo Harri’r Trydydd o Loegr, yn anffodus sydd ddim yn para’n hir. Mae marwolaeth Harri a dyfodiad Edwart Y Cyntaf (Goeshir) yn diweddu efo Llywelyn Ein Llyw Olaf yn cael ei ddenu i gyfarfod efo Lloegr, a Thywysog olaf Cymru’n cael ei ladd yng Nghilmeri yn 1282.

Y Cylch Haearn o naw castell adeiladwyd gan Edwart y Cyntaf i orchfygu Gwynedd (ffynhonell)

Edwart y Cyntaf sy’n diweddu annibyniaeth Cymru a chadarnle Gwynedd, ag adeiladu rhwydwaith o gestyll dros Ogledd Cymru i gadw rheolaeth. Mae hefyd yn arwyddo Statud Rhuddlan yn 1284, sy’n cyfyngu ar Gyfraith Hywel ag yn newid cyfansoddiadol wrth uno Tywysogaeth Cymru at Frenhiniaeth Lloegr. Mae’r Goeshir yn coroni concro Cymru drwy wneud ei fab yn Dywysog Cymru, a fyth ers 1301 mae mab hynaf Brenin Lloegr wedi cael ei arwisgo’n Dywysog Cymru.

Ffiniau Cymru yn dilyn Statud Rhuddlan 1284 (ffynhonell)

Er fod llinach Tywysogion Gwynedd yn dod i ben efo llofruddiaeth Owain Lawgoch yn 1378 gan Loegr, mae uchelwr o’r enw Owain Glyndŵr yn codi ag yn trechu’r Saeson mewn ambell i frwydr, ag am gyfnod byr yn rheoli y rhan fwyaf o Gymru, efo cefnogaeth rhan fwyaf o’r Cymry. Mae Owain yn sefydlu y Cynulliad cyntaf ym Machynlleth, ag yn cynllunio ar gyfer ddwy Brifysgol. Serch hyn, mae’r Saeson yn ail sefydlu rheolaeth ag yn y diwedd mae Owain yn diflannu.

Ymgyrch “Y Mab Darogan” yn erbyn Coron Lloegr am bymtheng mlynedd (ffynhonell)

Gyda dechrau ymgyrch Glyndŵr mae Senedd Lloegr yn pasio’r Deddfau Penyd yn 1402, sy’n gwahardd Cymry rhag cadw arfau, dal swyddi cyhoeddus, a byw mewn trefi arfog, er bod y cyfreithiau’n cael eu ymlacio dros amser.

Mae Cymru’n chwarae rhan amlwg yn Rhyfel y Rhosod, rhwng Swyddi Efrog a Chaerhirfryn mewn brwydr ddeng mlynedd ar hugain dros Goron Lloegr, sy’n dechrau’n 1455.

Siwrnau Harri’r Seithfed o Sir Benfro i Goron Lloegr, 1485 (ffynhonell)

Yn 1485, mae Harri Tudur, o drâs Cymreig ag yn olrhain ei achau gan Dywysogion megis Rhys ap Gruffydd, yn glanio byddin yn Sir Benfro i frwydro am goron Lloegr, efo llawer o gefnogaeth o fewn Cymru. Mae byddin Harri’n trechu lluoedd Rhisiart y Trydydd ym Mrwydr Bosworth yn 1485 sy’n cynnwys llawer o filwyr Cymreig, ag yn ôl llygad dystion y frwydr yn Guto’r Glyn a Thudur Aled, Rhys ap Thomas laddodd Rhisiart. Mae buddugoliaeth y Tuduriaid yn dyrchafu Harri yn Frenin Lloegr, fel Harri’r Seithfed.

Y Diwygiad Protestannaidd

Mil o flynyddoedd o ddiwylliant mynachol a Phabyddol Cymru a Lloegr, yn cael ei ysbeilio gan un gwallgofddyn (ffynhonell)

Cyrhaeddir Harri’r Wythfed, fel drafodwyd eisioes ym Mhennod 6 o’r Podlediad Arian Cymreig, y Brenin sy’n dinistrio y mileniwm diwethaf o hanes Lloegr a Chymru fel gwledydd Pabyddol, a chanolbwynt y Diwygiad Protestannaidd ym Mhrydain. Mae ei ysgariad er mwyn geni mab yn arwain iddo greu ei Eglwys ei hun, Eglwys Lloegr ag Anglicaniaeth, drwy ddwyn a dinistrio eglwysi, allorion seintiau a diddymu mynachlogydd “Yr Hen Grefydd” dros Loegr a Chymru. Fel y Brenin cyntaf i arfogi grymoedd Seneddol, a thrwy Fandaliaeth Brif Weinidogaeth Thomas Cromwell, daw traddodiad y mynachod i ben rhwng 1536 a 1541. Harri ydi Brenin cyntaf Lloegr i oresgyn Iwerddon a dechrau hanes Lloegr i danseilio’r Iwerddon Babyddol, wedi Deddf Coron Iwerddon yn 1542.

Yn bwysicach ar gyfer Cymru, Harri sy’n Uno Cymru efo Lloegr yn llawn, drwy Ddeddfau Uno 1535 a 1542 sy’n lladd beth sy’n weddill o Gyfraith Hywel a’r Gyfraith Geltaidd, a rhoi Cymru dan Gyfraith Lloegr. Mae Cymraeg yn cael ei gwahardd fel iaith mewn unriw rôl neu statws swyddogol, ag am y tro cyntaf mae’r ffîn rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei gwneud yn swyddogol, wrth i drefn Sirol Seisnig ymestyn dros Gymru, ond sydd hefyd am y tro cyntaf yn rhoi cynrhychioliad ag Aelodau Seneddol o Gymru yn Senedd Lloegr a San Steffan.

Trefn newydd Sirol Cymru yn dilyn y Deddfau Uno. Un Aelod Seneddol i bob Sir (ffynhonell)

Yn dilyn fandaliaeth Harri’r Wythfed, mae Cymru’n troedio llwybr Lloegr fewn i Brotestaniaeth ag Anglicaniaeth, gan fwyaf drwy Feibl William Morgan â’r cyfieithiad llawn cyntaf yn 1588. Mae’r Beibl yn safonoli’r iaith Gymraeg â thafodieithau’r Gogledd a’r De, ag mae defnydd y beibl yn cadw’r Gymraeg yn fyw ar lafar ag fel iaith grefyddol, yn erbyn gormes Lloegr a’r iaith Saesneg.

Beibl Wiliam Morgan a’r prif reswm mae’r Gymraeg yn dal yn fyw heddiw (ffynhonell)

Rhyfel Cartref – Y Senedd yn erbyn y Frenhiniaeth

Mae Cymru gan fwyaf yn cefnogi y Frenhiniaeth yn Rhyfeloedd y Tair Teyrnas (Lloegr, Iwerddon a’r Alban) rhwng 1639 a 1651 yn erbyn y Senedd, a mae nifer o filwyr Cymreig yn brwydro ym myddin Siarl y Cyntaf. Wedi gorchfygu yn y Rhyfel Cartref, mae’r Senedd yn torri pen Siarl ymaith yn gyhoeddus yn 1649 a mae Lloegr (a Chymru’n) dechrau fel Gwerinlywodraeth neu Gymanwlad. Mae hanes Oliver Cromwell a’r Pennau Crwn yn enwedig o waedlyd ar gyfer Prydain a’r Iwerddon, wrth erlid Pabyddion a chefnogwyr y Frenhiniaeth.

Cymru yn frenhinol ar y cyfan er trâs Cymreig Cromwell, a chefnogwyr megis ei frawd yng nghyfraith John Jones, Maesygarnedd Aelod Seneddol dros Feirionnydd ag un o 59 llofnod ar warant marwolaeth Siarl Y Cyntaf, a’r llenor Morgan Llwyd (ffynhonell)

Daw Adferiad i’r Frenhiniaeth yn 1660 wedi marwolaeth Cromwell, ond mae tensiynnau yn parhau rhwng Brenhinoedd y Sdiwartiaid a’r Senedd, sy’n diweddu yn 1688 efo’r Chwyldro Gogoneddus, gwaredu Brenin Pabyddol Iago’r Ail, a choroni William y Trydydd Oren o’r Iseldiroedd, efo cefnogaeth Seneddol. Mae Pabyddion yn cael eu gwahardd o’r Goron yn sgîl Deddf Setlo 1701 a mae Protestaniaeth yn cymeryd drosodd Prydain unwaith ag am byth.

Y Bunt, Y Banc yn Lloegr, a’r Undeb

Mae Pennod 5 o’r Podlediad Arian Cymraeg yn ymdrin gyda Safon hanesyddol y Bunt, Swllt a Cheiniog, sefydlwyd gan Pepin Fychan (a thâd Siarlymaen) yn 755 gyntaf yn Ffrainc, cyn lledaenu drwy weddill Ewrop ag i Brydain, yn seiliedig ar arian. Mae’r Bunt felly wedi bod yn arian Prydain ers canrifoedd lawer cyn dyfodiad y Banc yn Lloegr, gyda chyhoeddi arian wedi datganoli rhwng nifer o fathdai a thrysorlysau gwahanol.

Safon ariannol Prydain cyn 1971 – Punnoedd, sylltau a cheiniogau. 12 ceiniog i bob swllt, 20 swllt a 240 ceiniog i bob punt. Daeth gwerthoedd uwch na Phunt yn arian papur gyda datblygiad bancio (ffynhonell)

Dim ond chwe mlynedd wedi’r Chwyldro Gogoneddus sefydlir y Banc yn Lloegr yn 1694, ar gyfer ariannu rhyfeloedd yr Ymerodraeth Brydeinig wrth gystadlu efo Ymerodraethau yr Iseldiroedd a Ffrainc yn ystod y Ddeunawfed Ganrif, gyda’r banc yn dechrau drwy ariannu gweithiau haearn ag amaeth a llywio’r economi tuag at ryfel a chanoli.

Siartar cyntaf Banc Lloegr a chanoli andwyol Prydain drwy’r Bunt Brydeinig (ffynhonell)

Un o brosiectau cynharaf y Banc yn Lloegr ydi ariannu’r Deddfau Uno rhwng Lloegr a’r Alban yn 1707, sy’n creu Undeb Drethi ag Ariannol drwy’r Bunt Brydeinig. Mewn effaith, mae Lloegr yn llwgwrwobrwyo Uchelwyr a Gwleidyddion yr Alban i greu’r Undeb wedi canrifoedd o ryfela gan yr Alban dros ei hannibyniaeth, am y prif reswm fod Llywodraeth yr Alban wedi ceisio sefydlu Gwladfa newydd o dan y Darien Scheme yn Caledonia Newydd (Panama heddiw), oedd wedi methu’n llwyr ag yn bygwth yr Alban gyda methdal, yn eu gorfodi fewn i’r Undeb a Theyrnas Prydain Fawr.

Yn yr hanner Canrif cyntaf mae’r banc yn gweithio ar ran llywodraeth Prydain, yn bennaf drwy ariannu’r Llynges Frenhinol er mwyn goruchwylio’r moroedd rhwng Prydain a’i Hymerodraeth dramor, yn yr Amerig yn bennaf, ond yn ddiweddarach India, Hong Cong a Tseina, y Dwyrain Pell, y Dwyrain Canol ag Affrica. Ychydig iawn o ddylanwad sydd gan Fanc Lloegr dros gyfundrefn ariannol a gweddill banciau Prydain, sydd wedi datganoli yn lleol dros Brydain.

Ond dros y Ddeunawfed Ganrif mae’r dylanwad yn cryfhau a chyfundrefn ariannol yn araf ganoli, nes erbyn y Siartar Adnewyddu yn 1781, mae Banc Lloegr wedi dyfod yn “Fanc y Bancar”, wrth i weddill banciau Prydain ei ddefnyddio ar gyfer setlo masnach, gyda nodiadau papur y Banc Lloegr yn medru cael eu cyfnewid am aur, o dan Safon Aur ddyfeiswyd gan Isaac Newton yn 1717, sydd wedi disodli yr hen Safon Arian erbyn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.

Y Ddeddf Rwystredigaeth Fancio 1797

Y cartŵnydd dychanol James Gillray yn gwatwar Senedd Prydain dan Brif Weinidogaeth William Pitt yr Ieuengaf yn troi at wâsg argraffu cyfred papur i ariannu rhyfeloedd truenus yr Ymerodraeth (ffynhonell)

Mae Prydain wedi gorchfygu Ymerodraeth yr Iseldiroedd erbyn 1800, yn gadael Ffrainc fel y gelyn mwyaf bygythiol. Mae’r Chwyldro Ffrengig gwaedlyd rhwng 1789 a 1799 sy’n troi Ffrainc ben i waered yn poeni Prydain, ag yn 1793 mae Senedd Pitt yn datgan rhyfel ar Ffrainc. I ariannu Byddin a Llynges Prydain ar gyfer rhyfeloedd Ffrainc, penderfynwyd argraffu gormoded o nodiadau papur y Banc yn Lloegr heb yr aur yn y Trysorlys i’w cefnu.

Mae’r twyll bancio ffracsiynnol yn arwain at rediadau banc yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr yn hwyr yn 1796, a mae’r sefyllfa yn gwaethygu wedi newyddion fod milwyr Ffrainc wedi glanio yn Sir Benfro, ar gyfer Brwydr Abergwaun yn Chwefror 1797.

Hanes Jemima Niclas yn hela milwyr Ffrainc efo’i phicfforch ym Mrodwaith Abergwaun, a’r tro diwethaf i lynges estron oresgyn Ynys Prydain (ffynhonell)

Mae Senedd Llundain yn brawychu wedi’r rhediadau banc, ag i atal y Banc Lloegr rhag mynd yn fethdalwr, mae’r Ddeddf Rwystredigo 1797 yn gorfodi Prydain oddi ar Safon Aur fewnwladol i argraffu Rhyfeoledd Napoleon (1803-1815) a’r chwyddiant enbyd mae Prydain yn ei ddioddef er mwyn trechu Ffrainc, a datblygu’n Ymerodraeth fwyaf y byd dros y Bedwaredd Ganrif Ar Bymtheg.

Cartŵn arall gan James Gillray yn dychan disgyniad Hen Ddynes Stryd Threadneedle o foneddiges i hwren ben clawdd, ar ôl cael ei swyno a’i threisio gan y Senedd a William Pitt yr Ieuengaf. Daw llysenw hanesyddol y Banc yn Lloegr, “The Old Lady of Threadneedle Street” yn uniongyrchol o’r arlunwaith hwn (ffynhonell)

Mae fandaliaeth William Pitt o Safonau Ariannol Prydain ynghŷd a chyflwyno y Dreth Incwm yn 1799, yn tynnu Prydain oddi ar aur am gyfnod o 24 mlynedd nes y 1af o Fai 1821, sy’n creu newidiadau anferthol drwy Brydain yn y genhedlaeth yma, o dŵf poblogaeth anferthol Lloegr, i’r chwyldro egni, y chwyldro diwydiannol, a’r chwyldro amaethyddol. Mae torri’r Safon Aur a’r gadwyn ar arian prin yn batrwm sy’n ailadrodd drwy hanes, ag er hwn oedd y tro cynta i Brydain fyned oddi ar Safon Aur, fyddai ddim y tro olaf…

Y Chwyldro Diwydiannol

(ffynhonell)

Mae yna ychydig o ddadlau dros dyddiadau “swyddogol” y Chwyldro Diwydiannol, ond yn frâs rydym yn edrych ar y Ganrif rhwng 1750 ag 1850, ychydig dros hanner Canrif wedi sefydlu’r Banc yn Lloegr. Mae injian stêm James Watt yn gam pwysig yn natblygiad y Chwyldro yn y Flwyddyn 1776, yr un flwyddyn a Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau a Gwrthryfel yr Un Deg Tri Gwladfa rhwng 1775 ag 1783 yn erbyn Senedd ag Ymerodraeth Prydain.

Glo, haearn, stêm a benthyciadau banc sy’n galluogi tŵf y peiriannau (ffynhonell)

Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn cael ei greu allan o Lundain a’r Banc yn Lloegr, oherwydd ei ganolbwynt a’i gysylltiad efo gweddill banciau Prydain, yn cyflymu’n enbyd wedi torri’r Safon Aur yn 1797, ag yn ffrwydro gan fwyaf tu allan i Lundain a De Lloegr, ag ar ymylon Prydain, yn enwedig Canoldir a Gogledd Lloegr, De’r Alban, a De Cymru.

Y Chwyldro Egnïol – geoleg a meysydd glo Ynysoedd Prydein (ffynhonell)

Mae’r chwyldro hefyd yn un egnïol, efo darganfyddiadau geolegol a sefydlu meysydd a phyllau glo Lloegr a Gogledd Ddwyrain a De Cymru, ag yn ddiwydiannol gyda dablygiad gweithiau haearn a dur dros Loegr, Alban, a De Cymru. Mae’r chwyldro’n hefyd yn un amaethyddol dros Brydain, sy’n ymyrryd efo economi traddodiadol lafur yng nghefn gwlad, wrth i’r peiriannau greu diweithdra a gyrru llifoedd poblogaeth o’r wlad i ffurfio trefi diwydiannol newydd. Yn fyr, mae periannu a peiriannau yn ffrwydro drwy economi Prydain, ag yn cyd-ddigwydd efo tŵf anferthol poblogaeth Lloegr a’r Chwyldro Llafur plant o 1800.

Ar ôl codi ar gyfartaledd o filiwn o bobol bob canrif rhwng 1100 a 1800, mae poblogaeth Lloegr yn ffrwydro o 8.3 miliwn yn Ngyfrifiad 1801 i 30 miliwn erbyn Cyfrifiad 1901 (ffynhonell)

Mae tŵf poblogaeth a pheiriannau yn diddymu swyddi llafur a chreu diweithdra anferthol yng nghefn gwlad Lloegr yn enwedig, ag felly’n gorfodi tŵf trefi a dinasoedd diwydiannol Prydain, a ffatrïoedd i gynyddu cynhyrchedd y Wlad, ynghŷd a’r chwyldro mewn genedigaeth ar gyfer llafur plant i gadw safonau byw teuluol, oherwydd dibrisio gwerth y Bunt a thlodi enbyd. Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn arddangos holl symptomau chwyddiant, gynta yn y llif arian a cholled mewn pŵer prynnu, sy’n gorfodi chwyddiant maint teuluoedd, y boblogaeth, a’r galw am fwy o egni, diwydiant a pheiriannau.

Mae De Cymru’n enwedig yn chwarae rhan bwysig yn y Chwyldro Diwydiannol, yn y diwydiannau glo a haearn. Ar ôl dyfeisiad injian stêm James Watt, mae Richard Trevithick yn datblygu’r trenau a’r rheilffyrdd cynharaf ar gyfer pyllau glo a gweithiau haearn, ddwy ddegawd cyn rheilffyrdd a threnau cyhoeddus, y cofnod hanesyddol cyntaf o drên stêm ar reilffordd ydi Chwefror 1804, o weithiau haearn Penydarren ger Merthyr Tudfil lawr i Abercynon.

Loco Penydarren – trên stêm hynaf y byd yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru (ffynhonell)

Mae’r Chwyldro Diwydiannol yn effeithio’n anferthol ar strwythurau pŵer o fewn Cymru, ymaith o’r Gogledd a chadarnle hanesyddol Gwynedd, lawr i Gymoedd y De, a dinasoedd Abertawe, Caerdydd a Châsnewydd. Mae poblogaeth De Cymru’n tyfu’n anferthol o’i gymharu efo’r Gogledd, sy’n gwneud y De’n fwy pŵerus o fewn Cymru, a llîf poblogaeth o Loegr a’r tu allan yn chwyddo poblogaeth y cymoedd a dinasoedd De Cymru wrth ddinistrio poblogaethau cynhenid Cymreig. Er ystadegau, mae poblogaeth De Cymru’n dyblu o hanner miliwn yn 1801, i dros filiwn erbyn 1851, a dyblu eto i 2,400,000 erbyn 1911.

Mae Rheilffyrdd Cyhoeddus yn ffrwydro yng nghanol Pedwardegau’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, y gan fwyaf ohewydd y Banc yn Lloegr yn gollwng cyfraddau llog, a channoedd o Ddeddfau Seneddol a Gwleidyddion barus yn bwydo’r Gorffwyll Rheilffyrdd (ffynhonell)

Mae hanner cyntaf y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yn cyd-ddigwydd efo hanner canrif olaf y Chwyldro Diwydiannol ym Mhrydain, sy’n cynnwys trenau, lledaeniad y rheilffyrdd sy’n gneud trafeilio ag ymfudo yn gyflym a fforddiadwy ag yn agor Prydain i gyd i fyny, yn tanseilio datganoli ag amrywiaeth ddiwylliannol, wrth i Lundain a Gwleidyddiaeth San Steffan gymeryd mwy o reolaeth dros is-adeiledd gweddill Prydain. Mae diwydiant hefyd yn gwneud Abertawe a Chaerdydd fel dinasoedd porthladd yr Ymerodraeth yn gyfoethog a phŵerus iawn. Mae diwydiant hefyd o’i natur yn canoli, yn berchen gan fwyaf mewn dwylo Seising, sy’n arwain at wrthryfel y Cymry yn ysbeidiol. Mae’r Gwrthryfel ym Merthyr yn 1831 oherwydd cyflogau isel a diweithdra yn sgîl dirwasgiad yn arwain at gadw reiat yn erbyn y meistr haearn William Crawshay, galw’r Fyddin Brydeinig i gadw trefn, a chrogi Dic Penderyn ag alltud Lewsyn yr Heliwr i Awstralia. Bydd codiad Undebau Llafur a Sosialaeth yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol Cymru, gyda Kier Hardie yn cael ei ethol yn Aelod Seneddol cyntaf erioed Y Blaid Lafur, yn Merthyr Tudfil yn 1900.

Y Faner Goch a ddaw yn symbol o Sosialaeth a Chwyldroadau llafur, yn cael ei chwifio am y tro cyntaf yn Merthyr Tudfil yn 1831 (ffynhonell)

O dan Brif Weinidogaeth Robert Peel, mae gafael Llundain dros yr Undeb a Phrydain drwy’r Bunt hefyd yn cryfhau. Yn 1844 mae’r Ddeddf Siartar Banc yn gwneud prês papur y Banc yn Lloegr yn arian cyfreithiol, ag yn gwahardd unrhyw fanc arall rhag creu eu arian papur eu hunain. Er bod y Banc Lloegr dal yn sefydliad efo cyfranddalwyr preifat, mae ei arian yn cael ei genedlaetholi dros Brydain, gan Senedd Llundain.

Llywodraeth Geidwadol yn troi cefn ar Fercantiliaeth ag yn troedio’r llwybr Rhyddfrydol at Fasnach Rydd (ffynhonell)

Yn ogystal, yn 1846 mae llywodraeth Geidwadol yn diddymu’r Deddfau Ŷd sy’n hollti’r Blaid a gorfodi ymddiswyddiad Peel, er mwyn masnachu’n rhydd a hybu llîf ariannol y Bunt Brydeinig i weddill y byd erbyn diwedd y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, tra’n tanseilio’r hir dymor drwy redeg colledion masnachol efo’i ddau gystadleuwr rhyngwladol mwyaf, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.

Yn wir, yn 1850 mae economi Prydain yn ddwbwl maint yr Unol Daleithiau, ond erbyn 1900 mae economi Prydain yn hanner maint America, ag yr un maint ag economi yr Almaen, oedd o dan arweiniaeth Otto von Bismarck, wedi mabwysiadu Mercantiliaeth, a’r Drefn Americanaidd o drethu mewnforion. Sgîl effeithiau hanner canrif o fasnach rhydd oedd adeiladu grymoedd economaidd y ddwy brif wlad fydd yn diweddu Prydain fel Gwlad ag Ymerodraeth fwyaf bŵerus y byd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg yn gweld allforio Chwyldro Diwydiannol, Ymerodraethau a Bancio Canolog i weddill gwledydd Ewrop, a’r Unol Daleithiau (ffynhonell)

Yr Ugeinfed Ganrif

Efo tyfiant Ymerodraeth yr Almaen erbyn dechrau’r Ugeinfed Ganrif i’r un maint a Phrydain, maent wedi dyfod yn fygythiad. Mi fyddai’r Almaen yn debygol wedi trechu Ffrainc a Rwsia mewn rhyfel cyfandirol wrth ehangu yr Ymerodraeth ychydig yn bellach i’r Gorllewin a’r Dwyrain, ond mae Prydain fel Ymerodraeth fwya’r byd yn creu’r Rhyfel Byd Cyntaf wrth ymuno gyda’r Cynghreiriaid i atal tyfiant pellach yr Almaen.

Mae Ewrop gyfan a Phrydain yn dod oddi ar y Safon Aur, sy’n estynnu cyfnod y rhyfel o chwe mis a rhyfel milwrol, i ryfel pedair blynedd erchyll sy’n chwalu Teuluoedd Brenhinol Ewrop, yn chwalu dyfodol Prydain fel Ymerodraeth gryfaf y byd, ag yn sefydlu ei dibyniaeth ar yr Unol Daleithiau i ennill rhyfeloedd, a dechrau’r broses o drawsnewid “heddwas y byd” o Brydain i America.

Lladdwyd oddeutu 35,000 o ddynion Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf (ffynhonell)

Mae tystiolaeth dinistr y Rhyfel Mawr i weld ymhôb mynwent ymhôb pentref, trêf, a dinas drwy Brydain ag Ewrop, genoseid cenhedlaeth o ddynion gorau’r Gorllewin, plymio cenhedlaeth o deuluoedd fewn i alar a thlodi, y rhyfel diwydiannol cyntaf, a dinistrio economi gyfan drwy chwyddiant a phrinderau. Diolch i lanast Winston Churchill a Lloyd George, am dynnu Prydain fewn i’r rhyfel sy’n dinistrio dyfodol y Wlad.

Mae’r cyfnod rhwng y Rhyfeloedd yn amseroedd caled i Gymru ar ôl colli gymaint o ddynion ifanc yn y rhyfel, ac ym mhôb pentref, wrth i dlodi eto gynyddu dros y cyfnod. Mae’r Blaid Lafur yn gwaredu’r Rhyddfrydwyr o Gymoedd Diwydiannol De Cymru, wrth i Sosialaeth ag Undebau Llafur gydio, ag yn hollbwysig i dŵf y Blaid Lafur a’r Cenedlaetholi fydd yn rhoi diwydiannau Cymru a Phrydain yn nwylo Llywodraeth Prydain yn fuan iawn.

Yn ogystal a cholli oddeutu 15,000 o Gymry, daw’r Ail Ryfel Byd adref drwy gyrchoedd bomio awyrlu’r Almaen yn targedu isadeiledd Prydeinig, yn enwedig dinasoedd porthladd Abertawe a Chaerdydd (ffynhonell)

Mae’r Ail Ryfel Byd yn dinistrio poblogaeth a gwledydd Prydain, Ewrop a Rwsia am yr eilwaith mewn chwarter canrif, ag yn gadael Prydain mewn effaith yn fethdalwr, wrth i’r Bunt a Banc Lloegr golli ei statws fel arianwr y byd i’r Unol Daleithiau a’r Federal Reserve. Mae America hefyd yn sefydlu’r Safon Aur Gyfnewidiol hefyd adwaenir fel y Safon Goed Brython, gan gadwyno’r Doler i bris aur ar $35 yr owns, a’r Bunt yn cyfnewid yn ei herbyn. I ail-adeiladu gwledydd Prydain ag Ewrop yn dilyn dinistr y rhyfel, mae America hefyd yn ariannu’r Cynllun Marshall, wrth i Brydain dderbyn benthyciad o £5 Biliwn, 26% o’r cyfanswm.

Mae’r Bunt yn cael ei dibrisio i 4 Doler yn dilyn Cytundeb Bretton Woods, sy’n golygu fod owns o aur ym Mhrydain yn £8.75 yn dilyn y Rhyfel. Er cymhariaeth ag i ddangos chwyddiant y Bunt dros yr wyth degawd diwethaf, mae owns o aur heddiw’n dros £1600! (ffynhonell)

Wedi’r Rhyfel – Cysgod y Cryman

Ar ôl helpu rhoi Dwyrain Ewrop yn nwylo Stalin, yn 1946 mae Comiwnyddiaeth yn dyfod adref i Brydain, dan Blaid Lafur Clement Attlee yn dilyn chwalfa Churchill a’r Blaid Geidwadol yn Etholiad 1945, mae is-adeiledd ag economi Prydain yn cael ei genedlaetholi.

Cartŵn dychanol o 1935 yn portreadu Clement Attlee yn cynnig pas i Hen Wreigan Stryd Threadneedle, ar ei ffordd i’w dienyddio. Unarddeg mlynedd yn ddiweddarach caiff ei wireddu (ffynhonell)

Y pwysicaf o’r Cenedlaetholi ar gyfer ariannu Comiwnyddiaeth ydi’r Banc yn Lloegr ei hun, yn 1946. Ar ôl bodoli fel Banc efo cyfranddalwyr preifat am 252 mlynedd, dwy flynedd wedi Bretton Woods a cholli rhagorfraint cyfundrefn ariannol y byd i’r Unol Daleithiau, mae’r Banc yn awr yn berchen i Senedd San Steffan.

Yn dilyn, mae Cenedlaetholi y Wlad:

Yn 1946 mae’r Diwydiant glo yn cael ei genedlaetholi efo’r Ddeddf Cenedlaetholi Diwydiant Glo.
Yn 1946 mae iechyd yn cael ei genedlaetholi efo’r Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r Ddeddf Yswiriant Gwladol, sy’n ehangu’r Wladwriaeth Lês dan Weinidogaeth Aneurin Bifan.
Yn 1947 o dan y Ddeddf Trefi Newydd a’r Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref mae’r Llywodraeth yn dechrau adeiladu Tai Cyngor ymhob pentref, ag yn cynllunio trefi newydd i leddfu gorboblogi dinasoedd megis Llundain a Glasgow, a chreu niferoedd o broblemau cymdeithasol ar yr ystadau yma, yn amal heb swyddi gerllaw, sy’n gorfodi pobol ar y clwt, ag at dlodi sy’n gyrru troseddu.
Yn 1947 mae’r Ddeddf Drafnidiaeth yn cenedlaetholi y priffyrdd, y rheilffyrdd, y camlesi, porthladdoedd llongau, cwmnioedd bysus, a’r lorïau!
Yn 1947 mae’r Ddeddf Drydan yn cenedlaetholi’r Grid Trydanol, ynghŷd a Cable and Wireless (Telegraff a Teleffôn).
Yn 1948 mae’r Ddeddf Nwy yn cenedlaetholi y Diwydiant Nwy.
Yn 1949 mae’r Ddeddf Haearn a Dur yn cenedlaetholi y Diwydiannau Haearn a Dur.

Cartŵn arall dychanol o’r llanast hawdd ei ddarogan wrth i’r Llywodraeth gymeryd rheolaeth o isadeiledd Prydain drwy fangl San Steffan (ffynhonell)

Mewn effaith mae’r Blaid Lafur a Llywodraeth Prydain yn dod yn berchennog ar ddiwydiant De Cymru, ac felly mae De Cymru’n dyfod yn wystl Senedd Llundain a’i Gwleidyddion anwadal am ddyfodol eu economi a’u ffordd o fyw.

Y tu allan i’r ardaloedd diwydiannol, drwy ryw drugaredd mae’r Diwydiant Amaeth yn dianc Cenedlaetholi llawn ag ailadrodd newynnau Gwledydd Comiwnyddol eraill megis Rwsia a Tseina, ond hyd yn oed yng Nghefn Gwlad Cymru mae cysgod Comiwnyddiaeth a Chynllunio Canolog yn bygwth yr hen ffordd Gymreig o fyw, wedi ei bortreadu yn drawiadol gan Islwyn Ffowc Elis yn ei nofel Cysgod y Cryman sy’n cael ei gyhoeddi’n 1953, a gafodd ei ethol yn Llyfr y Ganrif yn 1999.

Llyfr y Ganrif – y Cryman wrth gwrs ydi Comiwnyddiaerh

Mae cenedlaetholdeb Cymreig yn magu wedi’r Rhyfel, ag er fod Plaid Cymru wedi ei sefydlu ers 1925, yn 1966 mae nhw’n ennill eu sedd gyntaf yn Senedd Llundain. Yn 1967 mae Deddf yr Iaith Gymraeg yn rhoi hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gyfundrefn gyfrethiol o fewn Gymru, oedd wedi bod yng anghyfreithlon ers canrifoedd.

Y Saithdegau Chwyddiannol – Diddymu’r Safon Aur

Yr Unol Daleithiau yn methdalu ar gyfnewid aur efo gweddill gwledydd y byd – mae’r gadwyn ar chwyddiant yn torri

Yn 1971 mae Richard Nixon yn diddymu’r Safon Aur Ryngwladol, sy’n rhoi’r byd ar y Safon Arian Bapur, wrth i’r gadwyn ar chwyddiant gael ei thorri sy’n gyrru chwyddiant a chostau byw i’r entrychion yn y Saithdegau.

Prif Bensaer llusgo Prydain fewn i Undeb fwy a chanolog – Edward Heath a’r Blaid Geidwadol (ffynhonell)

Mae 1973 yn flwyddyn bwysig, wrth i’r Blaid Dorïaidd swyno Prydain fewn i’r Gymuned Ewropeaidd, fel gelwid yr Undeb Ewropeaidd bryd hynny, ag mewn adeg pan y Torïaid oedd yr Blaid Ewropeaidd a’r Blaid Lafur oedd yr Ewrosgeptigs, yn poeni am ddyfodol Undebau Llafur a diwydiant Prydeinig wrth ymuno efo Ewrop, a’r llîf o lafur a chynnyrch rhad o’r Cyfandir fyddai’n tanseilio’r Undebau, diwydiannau cynhenid, ag etholaeth naturiol y Blaid Lafur. Mae’r hanner can mlynedd diwethaf wedi cadarnhau pryderon Llafur am Undeb Prydain efo Ewrop, a mae’r Colledion Masnachol o dros wythdeg biliwn y flwyddyn rydym yn rhedeg efo Ewrop (yn enwedig yr Almaen) wedi cymorth tanseilio economi diwydiannol Prydain ers y Saithdegau.

Yr Wythnosau Tri Niwrnod sy’n para tri mis yn nechrau 1974, ag yn diweddu gyrfa wleidyddol Ted Heath, daw Llafur i rym yn Etholiadau Chwefror a Hydref 1974 (ffynhonell)

Mae chwyddiant enbyd y Bunt yn nechrau’r Saithdegau’n yn gyrru streiciau diwydiannol cenedlaethol Prydain i godi cyflogau gweithwyr a theuluoedd, yn enwedig Sdreic y Glöwyr a’r Rheilffyrdd yn 1974, sy’n gorfodi’r Torïaid fewn i’r Wythnosau Dri Diwrnod ar gwmnïau a diwydiannau i arbed trydan rhwng Ionawr a Mawrth, sydd hefyd yn diweddu’r Torïaid yn etholiad 1974, wrth i Lafur ddyfod yn ôl i rym.

Creisus y Bunt yn 1976 yn gorfodi Prydain i fethdalu ar ei dyledion a mynd ar ofyn y Gronfa Ariannol Ryngwladol (International Monetary Fund – IMF) (ffynhonell)

Yn 1976 mae Prydain a Llywodraeth Lafur Callaghan yn methdalu ar fenthyciadau ag yn gorfod gofyn am bêlowt gan yr IMF, pennod ddarostyngol iawn i Wlad oedd wedi rhedeg y byd ychydig o ddegawdau ynghynt. Mae’n cael ei adnabod fel y Creisus Sterling, ag mae’r benthyciad o 4 biliwn, y mwya yn hanes yr IMF hyd hynny, i drio cefnogi gwerth gyfnewid y Bunt efo chwyddiant o dros ddeg y cant y flwyddyn, yn atseinio’r ddwy flynedd ddiwethaf yr ydym newydd ei ddioddef ers creisus Cofid.

Streicio gan Undebau yn golygu nad oedd sbwriel yn cael ei hel dros drefi a dinasoedd Prydain yng Ngaeaf 1978 (ffynhonell)

Mae Gaeaf 1978 yn cael ei gofio fel y Gaeaf Anfodlon, efo streicio Undebau Llafur yn plygu’r Wlad a’r Blaid Lafur i’w gliniau, ag yn palu’r ardd ar gyfer blodeuo Margaret Thatcher a’r Wythdegau Torïaidd. Mae sdreicio y dynion sbwriel yn mygu trefi a dinasoedd Prydain mewn budreddi, ag wrth i sdreiciau ymysg undeb y tyllwyr beddi atal claddu’r meirw. Mae tri degawd o isadeiledd canolog ag undebau llafur ymhob diwydiant mawr yn dod a’r Wlad i derfyn wrth orchymyn codiadau cyflog, i gyd oherwydd chwyddiant y Bunt Brydeinig, yn dod yn agos i ddinistrio Prydain.

Thatcher yn Brif Weinidog wedi Etholiad 1979 (ffynhonell)

Ym mlwyddyn olaf y Saithdegau cythryblus mae Thatcher a’r Toriaid yn codi i rym fydd yn chwalu diwydiant ag economi De Cymru yn ystod yr Wythdegau, mae anterth grym diwydiant Cymru a’r Undebau Llafur dros ddiwydiannau Prydain yn diweddu efo chwalfa y Blaid Lafur wedi Etholiad 1979.

Y canran yn erbyn Refferendwm Datganoli i Gymru – hyd yn oed yng Nghorllewin Cymru roedd dau draean wedi pleidleisio Na! (ffynhonell)

Yn ogystal, ar y 1af o Fawrth (Dydd Gwyl Dewi) 1979 mae Cymru’n derbyn refferendwm ar ddatganoli a Chynulliad, a phrawf yn yr Alban a Chymru i fesur cryfder yr Undeb, ag unrhyw gryfder mewn hunaniaeth Gymreig. Mae 80% o Gymru’n pleidleisio yn erbyn y referendwm a dim ond 20% o blaid, sy’n cau pen y mwdwl ar unryw ddatganoli am yr ugain mlynedd nesaf.

Yr Wythdegau – Preifateiddio

Steic y Glöwyr 1984-5 yn erbyn cau pyllau De Cymru, ac ardaloedd glo eraill Prydain. Cafodd diwydiant glo Prydain ei breifateiddio a’i roi allan o fusnes bron dros nos (ffynhonell)

Mae’r Wythdegau yn un o ddegawdau mwya dinistriol a thrist yn hanes Cymru, ag yn tynnu llawer o’r grym a’r dylanwad oedd gan Gymru, yn enwedig llafur gweithwyr Cymru dros weddill yr Undeb, ag mae rhan fwyaf o hyn lawr i un ddynes, Magi Thatcher. Ond cyn ei llusgo allan o’r bedd i’w edliw, mae angen ei thrafod yng nghyd-destun y camgymeriad cynt o genedlaetholi holl ddiwydiannau egni a diwydiant trwm Prydain.

Fel rydym eisioes wedi sôn, mae dechrau dinistr yr Wythdegau yn y Pedwardegau, a chenedlaetholi y diwydiannau glo, nwy, niwclear, trydan, trafnidiaeth, a dur. Mae Cynllunio Canolog a gweithio tu allan i unrhyw farchnad gystadleuol yn ddibynnol ar elw a cholledion, yn dioddef o’r “Problem Gyfrifo Sosialaidd“, oherwydd nad ydi’r llywodraeth yn gorfod rhedeg ar elw, mae’n amhosib gwybod beth sy’n gwneud elw a beth sy’n gwneud colled. Roedd hi’n ymddangos yn fwy amlwg fod Llywodraeth Prydain yn rhedeg diwydiannau trwm Prydain ar golledion anferthol, wedi adlewyrchu i ran fawr yn chwyddiant a thrafferthion ariannol y Bunt yn ystod y Saithdegau.

Erbyn yr Wythdegau, roedd diwydiannau Prydain wedi dyfod yn anghystadleuol efo gweddill Undeb Ewrop a’r byd, heb fuddsoddi digon mewn datblygiad peirianwaith newydd ag yn or-ddibynnol ar lafur a’r Undebau Llafur oedd wedi dod yn bŵerus, ag yn medru dod a Phrydain i gyd i sdop wrth streicio. Dyma’r prif reswm mae Thatcher yn penderfynu torri’r Undebau yn yr Wythdegau a phreifateiddio cwmnïau cyhoeddus Prydain, ag mae’r rhestr canlynol yn rhoi blâs o’r cwmniau yn nwylo cyhoeddus: Y Post Brenhinol, Capita, British Aerospace, Cable & Wireless, British Gas, British Coal, British Telecom, British Steel, British Petroleum (BP), Rolls Royce, British Airways, Cwmniau Dŵr, Cwmniau Trydan, National Power, Powergen, British Rail.

Yn hytrach na pharhau i sybsideiddio ardaloedd diwydiannol gan greu egni a deunyddiau gartref sy’n cryfhau annibyniaeth a diogelwch cenedlaethol, mae’r Torïaid yn penderfynnu taflu pawb ar y clwt, a sybsideiddio diweithdra ag anobaith yn lle (ffynhonell)

Lle mae rhaid beirniadu Thatcher a’r Blaid Dorïaidd oedd preifateiddio bob dim mor gyflym, ag mewn effaith taflu llafur diwydiannau trwm Cymru a Phrydain allan o waith bron dros nos, a chreu diweithdra a thlodi enbyd yn ardaloedd diwydiannol Prydain ag yn enwedig De Cymru, sy’n bwydo’r Wladwriaeth Lês a sybsidis Llywodraethol am beidio gweithio, â sgîl effeithion anobaith mewn caethiwed i alcohol, cyffuriau, troseddu a hunan laddiad. Yn wir, dydi clwyfau Cymru dal heb gau ers diberfeddu’r Wythdegau. Mae preifateiddio hefyd wedi rhoi’r Cwmnïau yma, mewn nifer o engreifftiau, yn nwylo pobol sydd wedi eu rheibio i wneud elw ar gyfer ychydig iawn o fuddsoddwyr a chyfranddalwyr preifat, ar draul gwasanaethau gwaeth a drytach i’r cyhoedd sy’n gorfod eu sybsideiddio drwy dalu biliau a threthi. Mewn nifer o engreifftiau, mae preifateiddio wedi gwneud y cwmnïau yma hyd yn oed yn waeth a di-egwyddor nag oedden nhw yn nwylo’r Llywodraeth, sy’n golygu fod ganddom heddiw greisus arall yn bragu ar gyfer isadeiledd Prydain, wele safon y diwydiant rheilffyrdd a sgandal Thames Water yn ddiweddar. Mae preifateiddio mewn nifer o engreifftiau wedi gwneud isadeiledd Prydain yn waeth, ag wedi gwneud Prydain yn fwy dibynnol ar fewnforion tramor o Wledydd eraill am adnoddau fel dur, glo a nwy.

Y Nawdegau – Dechrau’r Datganoli

Clawr Cylchgrawn Time, Tachwedd 1994 – y flwyddyn breifateiddwyd y Rhyngrwyd (ffynhonell)

Gellir dadlau fod y duedd o ganoli Gwleidyddol ddechreuodd efo’r Diwygiad Protestannaidd bum Canrif yn ôl, yn cyrraedd ei anterth dan y Blaid Lafur ar ddiwedd y Pedwerdegau neu dan Lafur ar ddiwedd y Saithdegau, yr Wythdegau o dan Thatcher oedd dechrau’r duedd o ddatganoli Llywodraeth, ond y Nawdegau sy’n gweld datganoli cyfathrebu, a chadarnhau tuedd aml ddegawd o ddatganoli. Yn rhan annatod o’r datganoli ydi’r Rhyngrwyd, gynt yn dechnoleg cyfathrebu’n perthyn i’r Lluoedd Arfog, Sefydliadau Addysgol ag o fewn y Sector Gyhoeddus, breifateiddwyd yn 1994 i’r cyhoedd dros y byd ei ddefnyddio. Er mae ychydig o alw oedd ar y dechrau, ag ychydig iawn o bobol oedd yn meddu cyfrifiadur neu gysylltiad i’r rhwyd, dri deg mlynedd yn ddiweddarach mae technoleg digidol wedi newid ein bywydau i gyd, ag rydym heb amheuaeth erbyn heddiw’n gwbwl ddibynnol ar ein ffônau symudol am fancio symudol, e-byst, a chyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ag i gyfathrebu. Yn wir, mae cyfathrebu person i berson sydd wedi ffrwydro yn y dair degawd ddiwethaf wedi tanseilio llawer o’r cyfryngau canolog oedd yn monopoleiddio gwybodaeth a chyfathrebu ynghynt, a pham yr ydym yn gweld heddiw gymaint o symudiad i guddio ag i sensro’r rhyngrwyd a’r cyfryngau arlein, wrth i Wleidyddion a’r Wladwriaeth ddeffro fyny i fygythiad siarad rhydd ag ein beirniadaeth ar wallgofrwydd ag anallu ein Uchelwyr Gwleidyddol, sy’n credu eu bod uwchlaw unrhyw feirniadaeth. Serch yr holl Ddeddfau “Amddiffyn Diogelwch” ag arian trethdalwyr sy’n cael ei daflu at dawelu’r dyfroedd “gwrth-ddemocrataidd” drwy gyfyngu neu wahardd ar y rhyddid i ddarlledu a chyfathrebu arlein, mae’r duedd yn dal i fagu stêm ag yn sicr bydd cythrwfwl pellach rhwng grymoedd dros ganoli a datganoli’r rhyngrwyd am y ddegawd nesaf.

Llafur Newydd (heb yr Undebau), a Cheidwadwyr mewn Coch (ffynhonell)

Erbyn diwedd y Nawdegau mae deunaw mlynedd o’r Torïaid wedi bod yn hen ormod, ag efo dyfod Llafur Newydd o dan arweiniad Toni Blêr a Gordon Brown, mae addewid am obaith newydd i Gymru o fewn yr Undeb. Yn unol gyda dechreuad y Blaid Lafur a Keir Hardie yng Nghymoedd De Cymru, mae tri o bedwar addewid gwreiddiol y Blaid Lafur yn cael eu gwireddu gan Lafur Newydd, sef Datganoli, yr Isafswm Cyflog, a gwaredu etifeddiaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi. Yr unig addewid sy’n methu ydi gwahardd alcohol a’r ddiod feddwol.

Cymru, diolch yn bennaf i Gymoedd De Cymru yn pleidleisio’n fain dros Ddatganoli (ffynhonell)

Mae dechrau datganoli’r Undeb yn cael ei wireddu ar ôl Etholiad Llafur efo Refferendwm 97, ag yn 1999 mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei sefydlu ar ôl i Gymru bleidleisio’n fain o’i blaid. Mae’r Cynulliad yn dyfod yn Senedd Cymru yn Mis Mai 2020. Gellir dadlau for datganoli wedi bod yn llwyddiant efo grymoedd newydd i Lywodraeth Cymru, ond gellid hefyd dadlau bod datganoli wedi bod yn fethiant, efo monopoli y Blaid Lafur Gymreig wedi sosialu a lladd sector breifat gynhyrchiol Cymru, ag wrth i’r sector gyhoeddus a pholisïau dinistriol wneud Cymru’n fwy dibynnol ar Drysorlys Llundain.

Brexit 2016 – Darganoli Pellach

Y gyrrwyr tu ôl i Brexit oedd Lloegr tu allan i Lundain, ynghyd a Chymru (ffynhonell)

Roedd Refferendwm Brexit yn un o ddigwyddiadau gwleidyddol pwysicaf yr Unfed Ganrif ar Hugain mor belled, ac ym marn yr awdur wedi gwanhâu’n angheuol yr Undeb Ewropeaidd a’r Undeb Brydeinig, fel yr ydym yn debyg o weld yn y ddegawd nesaf.

Fe berodd Brexit gryn ddoniolwch i’r awdur fel datganolwr sy’n amheus iawn o Undebau Rhyngwladol a Gwleidyddol yn gyffredinol, wrth sylweddoli mae’r bobol fwyaf tanbaid o blaid yr Undeb Brydeinig oedd fwyaf o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r mwyaf tanbaid o blaid Undeb Ewrop oedd fwyaf gelyniaethol i Undeb Prydain!

Yn y diwedd fe bleidleisiodd Prydain yn fain iawn dros adael Undeb Ewrop ar ôl bron i hanner canrif, er mwyn cymeryd pŵerau a chyfraith yn ôl rhag Gomisiwn Brwsel i Senedd Llundain, er mwyn i Brydain fedru rhedeg mwy o’i economi ei hun, gosod ei thermau masnach ei hun, a chystadlu’n fwy ystwyth ag effeithiol y tu allan i fonopoli’r UE a biwrocratiaid honco Brwsel.

Y broblem efo’r meddylfryd hwn mor belled, ydi nad oedd Dafydd Camdrwyn na’r Blaid Dorïaidd adawodd y refferendwm, na gwleidyddion San Steffan na biwrocratiaid Whitehall na’r cyfryngau cyhoeddus fel y BBC, yn disgwyl i Brydain fyth bleidleisio mewn mwyafrif dros adael, ag felly doedd gan lywodraeth na chyfundrefn Prydain ddim cynllun, a mewn gwirionedd unrhyw awydd nag ewyllys cymeryd rheolaeth yn ôl dros eu Gwlad wrth ddiddymu deddfau a chyfreithiau Ewrop.

Mae hyn yn golygu ein bod heddiw, bron i wyth mlynedd wedi Brexit, heb wneud dim efo rhoddion annibyniaeth Prydain, yn dal ynghlwm efo rhan fwyaf o gyfreithiau a rheolaethau gwirion a di-sens y Cyfandir, dal heb reolaeth dros ein diwydiant Pysgota, a dal yn rhedeg colledion masnachol o dros £90 Biliwn y flwyddyn, mewn geiriau eraill mae Prydain yn dal i brynnu 92 Biliwn o gynnyrch Ewrop (Yr Almaen gan fwyaf) yn fwy na maent yn ei werthu i ni. Rydym yn allforio ein diwydiannau a’n cwmnïau a’n swyddi diwydiannol i’r Almaen, tra mae Prydain yn allforio’r Bunt a’n dyledion cenedlaethol drwy’r sector ariannol a banciau i dalu am y sybsidi anferthol yma, a buasai dim ond rhedeg cydbwysedd masnachol efo Ewrop yn dychwelyd dros £90 biliwn y flwyddyn werth o ddiwydiannau a swyddi’n ôl i Brydain!!!

Yn ôl ystadegau Tŷ’r Cyffredin ar fasnach, mae Prydain wedi rhedeg elw masnachol o £5 Biliwn efo gweddil y byd yn 2022, tra’n rhedeg colledion masnachol o £92 Biliwn efo’r UE. Dyma’r rheswm fod beth sydd yn weddill o’n diwydiannau yn diflannu, ag yn ein gorfodi’n ddibynnol ar allforion o wledydd estron (ffynhonell)

Mae Brexit yn cael ei adnabod heddiw fel camgymerad trychinebus gan y rheini oedd eisiau aros a’r rheini oedd isio gadael, ond mae hyn oherwydd y llanast gwleidyddol mae’r Blaid Dorïaidd a Llywodraeth a Chyfundrefn Prydain wedi wneud o adael pan mae’r holl wladwriaeth yn ryddfrydwyr asgell chwith, ag yn addoli’r Cyfandir p’run bynnag. Mae’r fradwriaeth yma’n debygol o ddymchwel y Blaid Geidwadol yn yr Etholiad eleni, ag yn debyg o ddyfod yn agos i ddymchwel y Blaid yn ei chyfanrwydd dros y bum mlynedd nesaf wrth i asgell dde a chanol Prydain gwffio dros y corff, tra mae ewro-addolwyr Llafur yn mynd i gael mwyafrifon anferthol yn Nhŷ’r Cyffredin i arafu ag atal Brexit yn bellach, gyda’r un Gyfundrefn Barhaol Ewro-addoli yn gweithio’n ddirgel yn y cefndir tu ôl i Lafur, ag oedd tu cefn i’r Torïaid. Mae’n debyg bydd ddyddiau llawer tywyllach i ddod ar gyfer y Wlad yma yn y dyfodol agos.

O ran y duedd ddatganoli mae goleuni, ac mae’n debyg y byddwn yn edrych yn ôl yn y ddegawd i ddwy nesaf ar Brexit fel dechrau’r diwedd i’r Undeb Ewropeaidd a’r Undeb Brydeinig, datblygiad positif iawn yn nhŷb yr awdur. Mae Ewrop yn awr wedi colli un o’i gyfranwyr ariannol mwyaf ym Mhrydain, sy’n cynyddu’r faich ar yr Almaen a Ffrainc fel sylfaen ariannol a dyledion Ewrop, fydd ond yn gorfodi’r Almaen i dynnu’r plwg ar y prosiect yn gynt. Rhaid cofio fod yr Undeb Ewropeaidd a’r Ewro yn ieuanc iawn o’i gymharu efo Undeb Prydain a’r Bunt, felly y tebygolrwydd ydi mae’r Undeb Ewropeaidd a’r Ewro fydd yn dymchwel i deilchion gyntaf.

Canlyniadau cwestiwn Hunaniaeth Cenedlaethol yng Nghyfrifiad 2011, sy’n dangos mae dim ond ychydig o ardaloedd yn Llundain (a Gogledd Iwerddon) sy’n cysidro eu hunain yn Brydeinig gyntaf. Mae’r cwestiwn wedi newid erbyn Cyfrifiad 2021, ceir mwy o drafodaeth yma (ffynhonell)

O fewn Prydain, mae Brexit wedi amlygu’r gwahaniaethau rhwng meddylfryd poblogaeth Llundain a gweddill Lloegr, a rhwng Lloegr a’r gwledydd Celtaidd, yn arddangos ei hun ar y funud fel ymgyrchoedd newydd yn yr Alban a Chymru am ddatganoli pellach, ag hyd yn oed annibyniaeth llawn. Nid yn unig mae Brexit wedi lladd yr Undeb Ewroperaidd yn yr hir dymor, mae’r awdur hefyd o’r farn y bydd Brexit yn hollti’r Undeb Brydeinig yn y ddegawd i ddilyn.

Y Presennol a Realiti’r Undeb Brydeinig

Mae’r map yma o 2014, ddwy flynedd cyn Brexit, yn adlewyrchu ein colledion masnachol efo Gogledd Ewrop, a’r dyledion a’r tlodi mae hyn yn ei greu tu allan i ganolfan ariannol Llundain, a’i banciau sy’n elwa fwyaf o’r sefyllfa bresennol drwy gadwyn genedlaethol y Bunt (ffynhonell)

Cam pwysig ydi trio cyrraedd at wraidd y gwir o sut mae’r Undeb yn gweithio, pwy sy’n elwa a pwy sy’n dioddef, a mae’r Llywodraeth a’r Cyfryngau yn gweithio efo’i gilydd yn y maes yma i dwyllo a drysu poblogaeth Prydain.

Os yn wrandawr ar Gyfryngau Llundain yn ffau’r bwystfil, mae Llundain yn sybsideiddio gweddill Prydain drwy lywodraeth, trysorlys, y Banc yn Lloegr a sector ariannol y Ddinas yn Llundain.

Yn bellach, mae’r Saeson gan fwyaf yn credu eu bod yn dioddef oherwydd sybsideiddio economïau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon drwy lywodraeth leol a’r wladwriaeth lês, oherwydd fod gwariant sector gyhoeddus y gwledydd Celtaidd yn uwch o ran canran y boblogaeth a GDP, sydd yn wir.

Mae’r Cymru, yr Alban a’r Gwyddelod Gogleddol yn dadlau eu bod hwythau yn dioddef dan ddwylo Lloegr oherwydd Trysorlys Llundain, a chyfrifon fel y Fformiwla Barnett sy’n penderfynnu faint o sybsidis mae’r gwledydd Celtaidd yn ei dderbyn am eu trethi.

Mae pawb yn ffraeo ag yn dadlau ymysg eu gilydd, tra fod realiti a natur ein Undeb o dan arian canolog y Bunt ag wedi ei greu allan o Lundain, yn mynd yn angof. Y realiti ydi mae Llundain drwy’r Bunt a’i sector ariannol sy’n derbyn y sybsidi eithaf o fewn y gyfundrefn yma, drwy Effaith Cantillon, gyda’r rhai agosaf i’r wâsg argraffu arian chwyddiannol yn derbyn yr arian gyntaf ag efo’r pŵer prynnu gwreiddiol, wrth i’r arian yma lifo allan yn araf i weddill y wlad a’r rhai sy’n debyn yr arian olaf, ag wrth iddo golli ei bŵer prynnu. Mae hyn yn creu gormodedd o arian (a’r ddelwedd o gyfoeth) yn Llundain a De Lloegr, a phrinderau arian a thlodi yng ngweddill Lloegr, yr Alban a Chymru, sy’n cael ei arddangos yn y graffegion isod.

Dau graffeg sy’n disgrifio sut mae arian yn llifo o’r canol tuag at yr ymylon, ag yn colli ei werth prynnu ar y daith. Mae Effaith Cantillon hefyd yn egluro sut mae Llundain yn ardal mwya cyfoethog yng Ngogledd Ewrop, tra mae wyth o’r ardaloedd tlotaf o fewn yr un Undeb (ffynhonell, ffynhonell)

Unwaith mae pobol Cymru, yr Alban a Gogledd a Chanol Lloegr yn deffro i sut mae’r Bunt a’n cyfundrefn ariannol gyfredol yn gweithredu yn yr Undeb hon, mae’n bosib uno ag edrych oll ar y Ddinas yn Llundain a’i banciau, a’r canol, y Banc yn Lloegr. Yn anffodus, dydi hyn ddim yn debygol o ddigwydd yn y byr dymor, ond bydd chwyddiant cynyddol y Bunt yn gwarantu mwy o ddyledion i Drysorlys Llundain, a mwy o dlodi yng ngweddill Prydain, fydd yn gyrru chwyddiant a threthi, ag yn gorfodi mwy o bobol ffoi gyfundrefn ariannol y bunt, ag i fewn i arian cystadleuol allanol wrth i’r Oes Ddigidol symud yn ei blaen.

Diwedd Rhan Un

Derbynir Cyfraniadau Bitcoin yn Ddiolchgar:

bc1q49a3y9anq3a2pjqvq3gm8wj8aqqld3pnva9phwna2ftdar73mf3qak275j

Gadael sylw