
Yr ymgais ddiweddaraf chwerthinllyd gan Greenpeace US, gyda chefnogaeth y biliwnydd Chris Larsen o Ripple, i gywilyddio Bitcoin oddi ar rwydwaith Prawf o Waith datganoledig, tuag at rwydwaith Prawf o Ddal canoledig, drwy arlunwaith VonWong a Phenglog Satoshi. Anobeithiol!
Cyflwyniad
Bydd y traethawd hwn yn trafod hanes gridiau trydanol Prydain a’r byd heddiw, cymysgiad egni cenedlaethol a rhyngwladol, a’r difyrriad cynyddol rhwng trydan rhad a dibynadwy y Dwyrain, a thrydan drud ag annibynadwy y Gorllewin, a gobeithio yn agoriad llygad i’r diwydiant egni a trydan dros y byd, yr ydym mor gaeth a dibynnol ar yn ein bywyd modern.
Byddwn hefyd yn canolbwyntio ar Bitcoin ag egni, wrth ddarogan y dyfodol Geowleidyddol, gan arddangos engreifftiau cynnar o werth cloddio Bitcoin i gwmnïau egni, gridiau cenedlaethol, a hyd yn oed i lywodraethau cenedlaethol. Oherwydd fod Bitcoin yn lyfryn cyfrifo (ledger) ag arian digidol sy’n ddibynnol ar Brawf o Waith a chynhyrchiant trydanol dwys, wrth i Bitcoin dyfu mae’n dilyn felly bydd ei symbeiosis gyda rhwydweithiau egni’r byd, ag yn estynedig Llywodraethau Cenedlaethol, ddaw yn fater o Ddiogelwch Cenedlaethol yn y ddegawd nesaf, ag arf wleidyddol i’w chwifio gan Wledydd yn cystadlu dros ddiogelu dyfodol llewyrchus i’w cenedl, ag eu gwerin.
Mae hwn yn bwnc hynod bwysig i’w drafod, oblegid yr ydym heddiw yn gwbwl gaeth i drydan yn y byd modern, wedi gwario y genhedlaeth ddiwethaf yn digidoli be oedd gynt yn oes analog, mae economïau a thŵf economaidd heddiw yn troi ar e-byst, bancio symudol, a’r rhyngrwyd i gynnal y gyfundrefn ariannol ag wybodaeth fyd-eang. Cymer funud i gysidro hanfod trydan i dy safon byw, mewn oergell, rhewgell, gwresogi, goleuo, cyfathrebu, mae’n dilyn fod gan bawb ddiddordeb a buddsawdd mewn deall trydan a gwyrth fodern gridiau trydanol, sydd bellach dan fygythiad gan Wleidyddion a Gweinyddwyr Cyhoeddus diarwybod y Gorllewin. Os bydd gridiau trydanol yn methu, a phrinderau trydanol yn creu blacowts neu brisiau fedr pobol ddim fforddio ei dalu neu ddibynnu ar, bydd ein economi a’n ffordd o fyw yn gorfod mynd yn ôl i oes gyn-drydanol, yn ôl at bapur, glo a choed, canhwyllau, efo dymchwel anferthol mewn cynhyrchiant diwydiannol ag amaethyddol, a’r ddymchwel mewn poblogaeth wrth i ni fyned yn ôl at economi yn seiledig ar lafur, nid peiriannau.
Cynhyrchu Trydan

Tanwydd > bwyler > ager > tyrbein > cynhyrchydd > trawsnewidydd > grid (Ffynhonell)
Tydi trydan ddim yn ffynhonell egni gynradd, ond yn eilradd o ffynhonellau egni cynradd megis glo a nwy, a mae pob dull o gynhyrchu trydan heddiw yn dibynnu ar egni ffosil, yn cynnwys egni adnewyddol.
Mae trydan dibynadwy yn cael ei gynhyrchu mewn pŵerdai drwy losgi ffynhonell egni i droi tyrbein. Fe all y ffynhonell fod yn llosgi glo, nwy, beiomas (coed), neu drwy ddulliau niwclear.
Medrir hefyd gynhyrchu trydan annibynadwy allan o’r tywydd, fel ddefnyddir ar gridiau trydanol y byd heddiw, efo gwynt, haul a dŵr fel y tri mwyaf poblogaidd.
Mae cymysgiad o ddulliau creu egni (energy mix) yn elfen bwysig ar gyfer arallgyfeirio Diogelwch Cenedlaethol.
Egni Yn Ôl Ar Yr Egni Wedi Fuddsoddi (EROEI)

Egni Yn Ôl Ar Yr Egni Wedi Fuddsoddi – Energy Returned on Energy Invested (ffynhonell)

Defnydd Deunyddiau Fesul Ffynhonell Egni – Material Consumption Per Energy Source (ffynhonell)
Fel dywed Disraeli, mae clwyddau, clwyddau noeth, ac ystadegau, felly gall y ddau siart uchod wedi eu ffynhonellu gan flog sy’n amheus o egni adnewyddol gael eu diystyru gan y lobi adnewyddol fel newyddion ffug a cham-gynrhychioliad o’r gwirionedd a realiti, mae’n gwneud synnwyr cyffredin i’r awdur fod egni dibynadwy a disgwyladwy o ffynhonellau tanwydd ffosil dros gylch bywyd o 50-60 blynedd, yn mynd i gynhrchu EYNAYEWF llawer uwch na chynhyrchu egni annibynadwy ag annisgwyladwy o ffynhonellau tanwydd ffosil (oherwydd yndi, mae technoleg adnewyddol hefyd yn deillio o’r tanwyddau ffosil) dros gylchred bywyd o 20 mlynedd.
Niwclear cenhedlaeth bresennol sy’n creu’r EYNAYEWF uchaf o bell ffordd ar 75, gyda Rhif Defnydd Deunydd o 930.
Mae egni dŵr yn ail gyda EYNAYEWF o 49 heb ei storio, a 35 yn cynnwys ei storio, a Rhif Defnydd Deunydd llygad ddyfriol o 14068.
Daw glo yn drydydd efo EYNAYEWF o 30, a Rhif Defnydd Deunydd dechau o 1185.
Yn bedwerydd mae nwy efo EYNAYEWF o 28, gyda Rhif Defnydd Deunydd rhagorol o 572.
Yn bumed daw paneli solar canolog efo EYNAYEWF 19 heb ei storio, a 9 yn cynnwys ei storio.
Yn chweched daw gwynt efo EYNAYEWF o 16 heb ei storio, yn gollwng i 3.9 wedi storio, am Rif Defnydd Deunydd enfawr o 10260.
Yn seithfed ag olaf, gyda Rhif Defnydd Deunydd syfrdanol o 16447 i gynhyrchu EYNAYEWF o 3.9 heb ei storio, a 1.6 wedi storio, mae solar ffotofoltaic.
Dosbarthiadau Pŵer

Tra mae niwclear a glo yn darparu ffynonellau dibynadwy o drydan gyda’r EYNAYEWF uchaf, maent yn anhyblyg ag yn araf eu pweru fyny ac i lawr, a byddai defnydd ysbeidiol yn niweidio a chynyddu costau atgyweirio, sy’n golygu eu bod yn dueddol yn creu trydan parhaol, ag felly’n cyfansoddi ynni llwyth gwaelod (baseload) ar gyfer y grid. Yn ychwanegol, efo cylch bywyd disgwyledig o 50-60 mlynedd, mae’r costau cyfalaf (Rhif Defnydd Deunydd) yn gymharol isel, gydag addewid ail-ddatblygu ag ailgylchu pŵerdai o fewn safleoedd tir llwyd presennol.
Mae nwy hefyd yn darparu trydan dibynadwy efo EYNAYEWF uchel ag yn llawer fwy hyblyg na niwclear neu lo, medrir ei bŵeru fyny ag i lawr ar amrantiad ag yn medru gweithredu fel trydan llwyth gwaelod, llwyth canolradd neu llwyth anterth, hefyd gyda chylchred bywyd 50-60 mlynedd, costau cyfalaf isel, ag addewid ailgylchu yn y dyfodol.
O’r ffynhonellau annibynadwy, mae Dŵr yn darparu EYNAYEWF uchel am Rif Defnydd Deunydd a costau cyfalaf anferthol rhag blaen gyda chylch bywyd hir iawn (namyn atgyweirio) ag addewid ar gyfer ail-ddatblygu, tra mae Gwynt a Haul yn darparu EYNAYEWF sobor isel am gostau cyfalaf trychinebus o uchel, efo cylchred bywyd o 15-20 mlynedd a chyfradd ailgylchu isel am felinau gwynt a phaneli solar wedi darfod.
Prif lwyddiant y lobi werdd ag adnewyddol felly, drwy lobïwyr llwgwr, gwleidyddion anymwybodol ag ymddiheurwyr dibaid yn y cyfryngau traddodiadol, ydi cyflwyno EYNAYEWF trychinebus o isel a Rhifau Defnydd Deunydd trychinebus o uchel, fel carbon sero a egni llygredd isel drwy guddiad y costau anferthol rhag blaen i ddarparu pŵer dŵr, gwynt a haul, tra’n gor-bwysleisio a lladd ar gostau rhag blaen gweledol er gymharol isel glo, nwy a niwclear, wrth guddiad eu cylchred bywyd hir, addewid ailgylchu a’u EYNAYEWF uchel. Yn anffodus, mae gwleidyddion a biwrocratiaid cyhoeddus wedi’w swyno i gaethiwed i’r adroddiant ag anwybodaeth, sy’n cynyddu costau trydanol a dyfod yn llai dibynadwy ar gyfer defnyddwyr egni Gorllewinol.
Cymysgedd Egni – Y “Trade-Off” Llygreddol
O’r uchod, fe ddylia’i fod yn eglur for “trade-offs” llygreddol rhwng cynhyrchiant trydanol.
Niwclear

Pŵerdai niwclear Ynysoedd Prydein (ffynhonell)
Mae technoleg niwclear yn ddull hynod lân o gynhyrchu trydan ar y cyfan, heb ddiystyru achosion hanesyddol o ddinistr amgylcheddol enbyd megis Chernobyl yn yr Wythdegau, a phroblemau tynnu a gwaredu gwastraff gwenwynig megis plwtoniwm gyda hanner-bywyd aml-genhedlaeth, a felly costau hir dymor. Tra mae hyn yn wir ar gyfer technoleg niwclear cenhedlaeth gynnar, mae yna gyd-destun i’w drafod yma. Mae cynhyrchiant egni niwclear yn y Gorllewin wedi’w glymu i, ag yn sgîl-effaith datblygiad arfau niwclear ar gyfel rhyfel gan Lywodraethau’r Gorllewin, ag felly wedi canolbwyntio mewn Wraniwm, ond mae dulliau llawer diogelach a chôst effeithlon o greu egni niwclear yn defnyddio deunyddiau megis Thoriwm, fel ag arbrofwyd gan Lywodraeth yr Unol Daleithiau yn ystod y Chwedegau, ag wedi ei boblogeiddio yn y ddegawd ddiwethaf drwy Kirk Sorensen ac Adweithydd Thoriwm Hylif Fflworid (Liquid Fluoride Thorium Reactor – LFTR), lle mae tanwydd niwclear yn cael ei gymysgu gyda halen toddedig, ag yn dileu llawer o gostau eang oeri a gwaredu gwastraff technoleg niwclear ail a thrydedd cenhedlaeth. Mae hefyd symudiad cyflymol mewn datganoli egni niwclear drwy dechnoleg Adweithyddion Modiwlaidd Bach (Small Modular Reactors – SMR) wrth i’r Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd adweithio’n orffwyll i greisusau a rhyfeloedd egni, yn ddiweddar mae gohebiaeth ar gwmni o’r UDA yn arwyddo cytundebau yn yr UE a’r DU ar gyfer adeiladu pŵerdai 20 Mega Wat, a mae gan Asiantaeth Egni Niwclear Ewrop sy’n arolygu materion niwclear, ar hyn o bryd un ar hugain technoleg addawol ar eu dashfwrdd AMB.

Mae Adweithyddion Modiwlaidd Bach (Small Modular Reactors – SMR) yn ennyn llawer o sylw o fewn y cyfryngau, ag o fewn Llywodraethau’n ddiweddar. Mae’r dyfodol yn ddisglair! (ffynhonell)
Mae dyfodol niwclear dros y byd yn olau gyda phosibiliadau niferus i dechnoleg cenhedlaeth nesaf, yn bosib yn gyrru Egni Nôl Ar Egni Wedi Fuddsoddi i’r cannoedd, ni ddyliau a nid ydi’n cael ei anwybyddu gan Wledydd y Dwyrain, a ni ddyliau a ni fydd yn cael ei anwybyddu gan Wledydd y Gorllewin chwaith, wrth iddynt ddioddef eu creisusau egni mewnwladol ac anfodlonrwydd cyhoeddus, fydd yn ddylanwad cryfarch na straeon codi ofn a hysteria y cyfryngau traddodiadol a phocedi dwfn y lobi egni adnewyddol, sy’n cystadlu gyda niwclear am sybsidis egni cenedlaethol.
Glo

Bydd pŵerdy glo olaf Prydain yn cau y flwyddyn nesaf (ffynhonell)
Mae glo yn adnodd wedi ei drio a’i brofi gyda bron i dair canrif o drâs, sylfaen y Chwyldro Diwydiannol dorrodd allan ym Mhrydain gyntaf ar ddiwedd yr Ddeunawfed Ganrif, allforwyd i weddill y byd dros y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’r Ugeinfed Ganrif, yn gymharol rhad ei fwyngloddio a’i losgi, gyda’r sgîl effeithion llygreddol amlwg a dinistr amgylcheddol lle bynnag mae ei gloddio neu losgi. Mae’r Chwyldro Diwydiannol a smog dinasoedd diwydiannol Prydain yn gyfystyr.
Gyda arbrawf Cominwnyddol Prydain yn cynyddu wedi’r Ail Ryfel Byd a Chenedlaetholi Diwydiant Glo Prydain gan Blaid Lafur Clement Attlee o 1946, daeth glo yn gydran fawr o gymysgiad egni trydanol Prydain yn y Chwedegau a’r Saithdegau, ag yn arf gwleidyddol rhwng Undebau Llafur a Llywodraethau Ceidwadol gan bennaf, gyda Wythnosau Tri Niwnod (1974) ag yn diweddu efo Streiciau’r Glöwyr yn 1984-85 yn erbyn cau’r pyllau, Thatcher yn torri’r undebau llafur, a phreifateiddio diwydiant glo Prydain sydd heb ailgodi.

Mae marwolaeth glo y ddegawd ddiwethaf o dan y Torïaid. (ffynhonell)
Fel adnoddau egni eraill, mae llosgi glo wedi dyfod yn lanach a mwy effeithlon dros amser, ag er ei fod ar hyn o bryd wedi ei amddifadu fel adnodd egni gan Brydain a rhan fwyaf o’r Gorllewin, mae wedi bod yn sylfaen gridiau egni y Byd Datblygol, yn enwedig esgynfa Tseina i ffatri’r byd dros y dair ddegawd ddiwethaf, fel adnodd dibynadwy ag effeithiol i greu egni. Daeth Tseina a smog hefyd yn gyfystyr yn ystod y cyfnod yma.
Efallai fod dyfodol glo yn edrych yn anobeithiol ar hyn o bryd, ond dadler yr awdur bydd magwraeth creisusau egni yn arwain at ei ail-ddyfodiad yn y Gorllewin, yn bresennol yn y ddaear yn rhan fwyaf o’r Gorllewin i’w gloddio a’i drawsnewid i drydan rhad a dibynadwy, i gryfhau annibyniaeth egni a diogelwch cenedlaethol, gyda rhan helaeth o’i isadeiledd yn y Gorllewin dal yn bresennol, os nad yn weithredol am yn awr, i’w ailgylchu a’i ail-bwrpasu fewn i bŵerdai glo newydd, a darparu cyflenwad hanfodol o drydan llwyth gwaelod i rwydweithiau trydanol Gorllewinol.
Nwy

Mae nwy fel trydan angen rhwydwaith trawsyru drwy longau a phibelli. Mae pŵerdai nwy a defnyddwyr nwy Prydain yn cysylltu i’r rhwydwaith hwn, gyda 32 gorsaf nwy yn y Deyrnas Unedig heddiw (ffynhonell)
Manteision nwy ydi adnodd rhad a dibynadwy i greu trydan sy’n llosgi’n llawer glanach na glo, ag yn gymharol helaeth a chôst effeithlon i’w darddu dan y tir neu’r môr, gyda’r anfantais o fod yn llawer anoddach ei gludo dros bellteroedd hir na glo ac wraniwm, oherwydd ei natur nwy yn hytrach na thanwydd solid.
Does gan Brydain ddim prinder o nwy yn Môr y Gogledd, a fel glo gellir ei echdynnu gartref sy’n cynyddu Annibyniaeth Egni a Diogelwch Cenedlaethol, ond mae gelyniaeth Llywodraeth Prydain tuag at nwy ynghŷd a glo ar sail “amgylcheddol”, mewn trethi di-sens a chyfyngu ar drwyddedau i dyllu am nwy ac olew ym Môr y Gogledd, yn gwneud y nwy yn anoddach a chostus i’w echdynnu, yn cynyddu costau nwy a thrydan sy’n cael ei ysgwyddo gan gyhoedd Prydain, a sydd wedi gorfodi Prydain i fewnforio nwy o Ewrop, Rwsia (cyn yr Wcrain), a’r Unol Daleithiau.

Dim ond blas ar gymhlethder rhwydwaith cludiant nwy pibell Ewrop (ffynhonell)
Bydd nwy, tra’n lleihau fel adnodd trydanol ynghŷd a glo ar y funud, y ddau yn colli cyfran y farchnad i egni adnewyddol, hefyd yn debygol yn gweld atgyfodiad yn sgîl creisus egni adnewyddol, ag efo pŵerdai a’r isadeiledd trawsyru wedi ei adeiladu’n barod, yn barod i gyflenwi Gwleidyddion y Gorllewin efo ffynhonell rhad o drydan, a seibiant o greisus economaidd a’r anfodlonrwydd cyhoeddus i ddilyn.
Dŵr

Darlun syml o orsaf dŵr. Mae cannoedd o orsafi hydro ym Mhrydain, o’r bach i’r anferthol, a llond llaw efo pwmp ar gyfer storio, sy’n ailgylchu’r dŵr ar gyfer defnydd parhaol
Mae pŵer dŵr yn creu digonedd o drydan rhad ac am ddim, ond wedi costau rhag blaen anferthol mewn adeiladu, dinistr amgylcheddol ag ôl-droed carbon enfawr. Mae hydro hefyd yn gyfyngedig i ddaearyddiaeth, yn gofyn ffynonellau dŵr afonydd a llynoedd, gydag argae neu beidio, ag felly’n aml bellaf i ffwrdd o ganolfannau poblogaeth dwys lle mae canolbwynt galw trydanol, ag heb gyfiawnhâd economaidd am gysylltiad i’r grid, yn dioddef o’r broblem trydan anghysbell (stranded electricity), fel welwyd yn Tseina gyda tŵf hydro talaith Sichuan ers troad y mileniwm.
Medr gorsaf ddŵr fod yn arferol, neu efo pwmp storio, gyda’r dŵr yn cael ei ailgylchu i bŵeru cylchoedd pellach, yn dynwared gweithredoedd batri, ag yn gwneud hydro’n llawer fwy dibynadwy a gwerthfawr i rwydwaith trydanol, fel adnodd wrth gefn i ddarparu gorllwyth o drydan pan mae’r gofynion ar eu anterth. Fel engraifft mae Gorsaf Dinorwig yng Ngogledd Cymru sy’n medru cynhyrchu fyny at 9.1 Giga Watt dros ychydig oriau (ar anterth galw’r grid a’r amser mwyaf proffidiol), sy’n amddiffyn y grid yn ei wendid, medrir pwmpio’r dŵr yn ôl o’r llyn gwaelod i’r llun uchaf yn yr oriau mân ar y costau isaf, a chasglu’r lledaeniad elw, tra’n cyflenwi miliynau o bobl rhwng Gogledd Cymru a Gogledd Lloegr efo trydan pan mae’r galw mwyaf amdano.

Tyllwyd yr ogof fwyaf yn Ewrop rhwng Llyn Marchlun Mawr a Llyn Peris, i greu Gorsaf Dinorwig (ffynhonell)
Gwynt

Pŵer gwynt yn y Deyrnas Unedig (ffynhonell)
Gellir pŵer gwynt fod yn arferol neu wedi storio, a tra’n darparu ENAEWF hanner dechau o 16 heb ei storio, mae’n dymchwel i llai na 4 yn cynnwys storio, sy’n drychinebus ag andwyol o safbwynt côst, ond sydd wedi tyfu’n hanfodol ar gyfer Llywodraethau’r Gorllewin a’u polisîau egni. Maent hefyd yn ail ddeillyddion tanwyddau ffosil ar gyfer troi gwynt glân fewn i drydan “glân”, ond mae eu tarddiad gydag peiriannau cloddio a lorïau sy’n llyncu dîsyl, ffwrneisi glo a nwy mewn gweithiau smeltio, a diwydiannau creu carbon sment ar gyfer concrid, alwminiwm, copor, magnedi daear brin a phopeth arall, wedi eu adeiladu mewn ffatrïoedd yn rhedeg ar drydan (mwyaf tebygol yn Tseina), cyn eu cludo ar longau enfawr neu lorïau yn llyncu mwy o ddîsyl, i’w lleoliad terfynol ar y tir neu’r môr ar gyfer gosod. Does dim posib i dechnoleg adnewyddol hyd yn oed fodoli heb y tanwyddau ffosil, ac felly ni feder melinau gwynt fyth gynhyrchu fwy o felinau gwynt, oherwydd yr dinistr amgylcheddol dim ond i darddu’r adnoddau, ag y mae’r Gorllewin wedi ei allforio i’r Dwyrain yn y dair ddegawd diwethaf p’run bynnag. Fyddai hi ddim yn gwneud synnwyr economaidd i’r Gorllewin losgi glo yn eu gwledydd i gynhyrchu ENAEWF o 30, yn hytrach na mewnforio melinau gwynt wedi llosgi glo ein gelynion geowleidyddol am ENAEWF o 4?

Beth yw ôl-droed carbon ag amgylcheddol tunnell fetrig o fagnedau daear brin haearn boron neodynium? (ffynhonell)
Cyfyngiad mwyaf egni gwynt ydi wrth gwrs ei anwadalrwydd, yn yr ystyr nad oes modd darogan pryd fydd y gwynt yn chwythu neu ddim yn chwythu ac nad yw’n adnodd dibynadwy heb storfa, h.y. rhwydwaith o fatris a chostau pellach llygad ddyfriol mewn ail-ddeillyddion tanwyddau ffosil, sy’n dymchwel ENAEWF gwynt lawr i bron ddim. Mae anwadalrwydd egni gwynt hefyd yn effeithio’n ail law ar gridiau trydanol, gyda gor-gynhyrchiant ar adegau o wyntoedd cryf yn arwain at orlwytho trydanol feder amharu neu hyd yn oed arwain at flacowts, tra pan nad yw’r gwynt yn chwythu mae’r cyfraniad i’r grid yn ddim, sydd hefyd yn amharu ag yn bygwth y grid gyda blacowts. Felly, yr uchaf daw gwynt yn ran o gymysgiad egni gridiau trydanol, y drytaf a mwyaf annibynadwy daw y trydan dros amser, yn gyrru creisusau costau egni a phrinderau, fydd hefyd yn cyfrannu i’w ddiwedd.
Haul

Mae paneli solar dwys yn rhoddi ENAEWF parchus o 19 heb ei storio, yn disgyn i 9 siomedig yn cynnwys storfa, tra mae solar ffotofoltaic (PV) yn rhoddi 3.9 heb ei storio sy’n gollwing i 1.6 wedi ei storio, a gyda Rhifau Defnydd Deunydd anferthol, mae paneli solar fel melinau gwynt yn ail-ddeillyddion tanwyddau ffosil ar gyfer mwyngloddio a mireinio metalau a polysilicon mewn meintiau aruthrol, a gyda 80% o baneli solar yn cael eu cynhyrchu yn Tseina heddiw, mae’r Gorllewin wedi allforio ei gynhyrchiant carbon a’i ddinistr amgylcheddol i’r Dwyrain, er mwyn mewnforio y cynnyrch gorffenedig “glân a gwyrdd” i fewn i’r Gorllewin wrth smalio nad ydy’r llygredd yma’n bodoli neu erioed wedi cael ei greu. Mae egni haul hefyd yn dioddef yr un gwendidau a gwynt, yn yr ystyr ei fod yn colli effeithlonrwydd ar ddyddiau cymylog pan nad ydi’r haul yn tywynnu, ag yn dda i ddim yn ystod nosweithiau hir a thywyll y Gaeaf, pan mae gofynion y grid trydanol am olau a gwresogi ar eu hanterth.
Dymuna’r awdur wneud yn eglur yma ei fod yn llawn gefnogi hawl yr unigolyn i fuddsoddi mewn technoleg adnewyddol a storio ar gyfer diogelwch egni gartref, yn wir mae’r bedair blynedd ddiwethaf o gynnydd mewn prinderau a chostau trydanol, ynghŷd a chynllwyniau llywodraethol a chyfryngol i ddefnyddio llai o egni yn sgîl sioc gyflenwad y caeadau Cofid, wedi agor llygaid i faint mor fregus y grid ag analluog y bobol sy’n fod i redeg ein diwydiant egni a thrydan, sydd yn gorfodi cysidraeth llyncu’r costau rhag blaen uchel am gysidro paneli solar/melin wynt a batris storio adref, i drio ynysu rhag y rhwydwaith cenedlaethol sy’n araf fethu. Gyda prîs annibyniaeth egni ar amcangyfrif geidwadol o £20,000 am gynhyrchiant a storio, o’i gymharu a bil trydanol blynyddol am oddeutu £2,000 gan y grid, yn awgrymu cyfnod deg mlynedd nes adennill costau, o fewn cylch bywyd o oddeutu ugain mlynedd. Tra mae hyn yn gostus yn ddechreuol, os byddai trydan y grid yn dyblu o fan hyn, yn dyfod a’r cyfnod adennill costau lawr i bum mlynedd, ag yn achos blacowts yn profi’n amhrisiadwy ar gyfer popeth sy’n gofyn cyflenwad trydanol. Mae’n debygol felly bydd creisusau egni gridiau trydanol canolog yn gyrru datganoli cynhyrchiant trydan adnewyddol oddi ar y grid, wrth i fwy o bobol lyncu’r costau rhag blaen ar gyfer trydan rhad a dibynadwy, a gyda chysylltiad i’r grid cenedlaethol, fe allwn hyd yn oed weld trydan adnewyddol oddi ar y grid yn cyfrannu ar gyfer sefydlogrwydd trydan ar y grid!

Mae trydan dibynadwy, o lo, nwy a niwclear, wedi cael ei amddifadu dros y chwarter canrif diwethaf, fydd yn arwain at greisusau egni. Disgwylier y chwarter canrif nesaf i’r siart wyrdroi, efo atgyfodiad glo, nwy a niwclear. (ffynhonell) Noder hefyd fod cynhwysedd trydanol Prydain wedi disgyn dros y chwater canrif diwethaf, tra mae amcangyfrifon o filiwn o fewnfudwyr y flwyddyn ar y funud yn dod i fewn i Brydain yn gyrru gofynion yn uwch. Mae pobol yn pendroni pam bod eu costau trydanol yn codi?!
Rydym yn debygol ynagos at anterth egni gwynt a haul ar gyfer gridiau cenedlaethol yn y Gorllewin, wrth i’r ENAEWF gynhenid isel, cylch bywyd byr, costau ailgylchu uchel, ag anwadalrwydd y tywydd ddinoethi Technoleg Adnewyddol fel camweinyddiad cyfalafol trychinebus, yn bresennol yn cyfieithu fewn i gostau trydanol uwch a chreisus economaidd cynyddol, i’r cyhoedd, gwleidyddion a pharotiaid byd y cyfryngau, yn araf wedyn gyflym droi eu cefnau ar ail-ddeillyddion tanwyddau ffosil, ag yn ôl tuag adnoddau ffosil cynradd. Mae egni adnewyddol yn ffenomen cyfraddau llôg isel, lle mae dyled rhâd a chostau gwasanaethu dyled rhy rhad wedi gyrru swigen a chamgyfeiriad cyfalafol fewn i dechnoleg angynhyrchiol ac amphroffidiol, sy’n dymchwel mewn trefn newydd o gyfraddau llôg uchel, costau gwasanaethu dyledion uwch, a chostau cynyddol tanwyddau ffosil oherwydd Sioc Gyflenwad Cofid, sy’n cyfieithu fewn i gostau cynyddol melinau gwynt a phaneli solar, yn dirywio ENAEWF hyd yn oed yn bellach, ag yn arwain at fethdaliadau yn y sector, a bêlowts ar bwrs trethdalwyr.
Y Grid Trydanol (Cenedlaethol)

Cynllun cyffredinol o rwydweithiau trydanol. Mae’r grid trawsyru yn galluogi gorsafoedd pŵer i blwgio fewn, a mae’r grid dosbarthu yn gadael i ddefnyddwyr blwgio allan. Mae’r dyluniad o folteddau a gwifru trydanol yn nodwediadol ar gyfer yr Almaen, ag Ewrop (ffynhonell)
Mae’r grid trydanol yn cysylltu gorsafoedd pŵer a chyflenwad, efo defnyddwyr a galw. Rhwng gorsaf bŵer a defnyddwr mae is-orsafoedd trydanol sy’n camu’r foltedd i fyny neu lawr, gwifrau trawsyru uwchben neu tan ddaear, ag is-orsafoedd dosbarthu. Mae gridiau trydanol felly’n symud y trydan o lle mae’n cael ei gynhyrchu, i lle mae angen amdano gan y cyhoedd a chwmnïau.
Mae gridiau cenedlaethol yn anhygoel o gymhleth, ag yn un o wyrthiau’r Ugeinfed Ganrif a’r byd modern, nad oes prin neb yn ei sylweddoli na’i werthfawrogi, ar gyfer mwyafrif helaeth y cyhoedd mae trydan yn dod allan o soced! Sgîl effaith grid trydanol wedi aros i fyny 100% o’r amser am y ddwy genhedlaeth ddiwethaf, ydi gwneud defnyddwyr trydanol y Gorllewin yn ddiog, wedi anghofio sut mae pethau’n gweithio, yn cynnwys y trydan sy’n anghenrheidiol ar gyfer goleuni a gwrês, coginio, teledu, y rhyngrwyd, ag os yn gyrru car trydanol, hyd yn oed drafnidiaeth. Mae ein bywydau i gyd felly yn ddibynnol ar drydan heddiw, a bydd yn debygol yn cymeryd blynyddoedd o gostau cynyddol, busnesi’n cau, dinistr economaidd, diweithdra a thlodi, a hyd yn oed flacowts i’r cyhoedd ddeffro i sut mae ein rhwydweithiau trydanol yn gweithio, a dylanwad gwleidyddiaeth a’r cyfryngau ar sybsidis a swcwr ar gyfer cynhyrchiant trydan, a’r prisiau rydym yn dalu am drydan. Os nad ydi’r cyhoedd yn ddefro, rydym yn myned yn ôl i oes gyn-drydanol!
Gall grid trydanol, fel pŵerdai, fod yn rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan gwmnïau preifat, cwmnïau cyhoeddus yn berchen i’r llywodraeth, neu yn berchen i’r llywodraeth yn uniongyrchol (wedi cenedlaetholi), ag yn amal yn gyfuniad o’r tri. Mae hyn yn naturiol yn dod a gwleidyddiaeth i fewn i’r darlun, wrth i gyfreithiau a threthi sybsideiddio egni annibynadwy a drud, ar draul llwgu sybsidis ar gyfer egni rhad a dibynadwy, yn arwain at brinderau trydanol, prisiau uchel ag anfodlonrwydd cenedlaethol.
Y Grid Trydanol Ym Mhrydain

Grid Cenedlaethol Prydain Fawr (ffynhonell)
Yn gweithio o ddosbarthiad foltedd-uchel tair-gwedd Nikola Tesla, byddai Charles Merz yn sefydlu’r gyfundrefn yma yn y Deyrnas Unedig, yn ei Orsaf Bŵer Neptune Bank ger Newcastle ar y Tyne yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, agorwyd yn 1901, ag erbyn 1912 wedi datblygu yn gyfundrefn bŵer integredig mwyaf Ewrop. Roedd gweddill y wlad fodd bynnag, yn parhau i ddefnyddio rhwydweithiau lleol a datganoledig mewn modd anhrefnus.
Yn 1925, gofynodd llywodraeth Prydain i’r Arglwydd Weir, diwydianwr o Glasgow, i ddatrys problemau anghyswllt ac aneffeithlon diwydiant cyflenwi trydan Prydain. Ymgynghorodd Weir gyda Merz, a’r canlyniad oedd Deddf (Cyflenwi) Trydan 1926, yn argymell creu cyfundrefn gyflenwi genedlaethol “gridiron” drwy’r Bwrdd Trydanol Canolog. Fe wnaeth hyn ganoli a safonoli cysylltu mwy o orsafoedd pŵer efo’i gilydd, yn gyrru trydan pellteroedd pellach, ac yn cyfrannu at amser i fyny a chyflenwad trydanol fwy dibynadwy.
Cenedlaetholwyd y grid yn llawn gan Ddeddf Trydan 1947, hefyd yn creu yr Awdurdod Trydan Prydeinig. Yn ogystal, byddai Llafur yn pasio’r Ddeddf Cenedlaetholi Diwydiant Glo 1946, Deddf Drafnidiaeth 1947 yn cenedlaetholi camlesi, porthladdoedd, rheilffyrdd, lonydd, a hyd yn oed bysiau, Deddf Nwy 1948, a Deddf Haearn a Dur 1949, felly daeth isadeiledd Prydain i’w gynllunio’n hollol ganolog, yn creu dyfodol dirdynnol rhwng pleidiau gwleidyddol, undebau llafur, a chystadleuaeth sectorau egni. Yn 1954 sefydlwyd Awdurdod Egni Atomaidd y Deyrnas Unedig gyda Deddf Egni Atomaidd 1954, yn gwneud Prydain yn un o’r gwledydd cyntaf i ganlyn egni niwclear, ond wedi canolbwyntio ar Wraniwm fel ad-gynnyrch ei raglen arfau niwclear. Daw Pŵerdy Niwclear Trawsfynydd yng Ngwynedd yn 1965, a Wylfa ar Ynys Môn yn 1971.
Gwelodd yr isadeiledd canolog hwn straeniau a thensiynau yn ystod y Chwedegau a’r Saithdegau, a’i drawsnewid eithafol yn yr Wythdegau dan Lywodraeth Geidwadol Thatcher, yn nad-reolaethu a “datganoli” isadeiledd Prydeinig, yn ystyr datganoli rheolaeth ganolog llywodraeth i gartelau a chwmnïau yn berchen neu’n derbyn sybsidis llywodraethol. Byddai Thatcher yn chwalu diwydiant glo Prydain a gweithlu llafur egni ar y tir, wrth symud at fewnforio glo a dibyniaeth egni dramor, tra’n trawsnewid cynhyrchiant trydanol yn drwm tuag at y môr yn niwydiant nwy Môr y Gogledd.
Byddai Diwydiant Adnewyddol ar y tir yn buddiannu o flynyddoedd cynnar y Blaid Lafur Newydd gyda’r symudiad gynyddol fewn i egni drud ag annibynadwy, ag o dan Bolisi Cyfraddau Llôg Isel wedi creisus ariannol 2008, gwelwyd ffrwydriad sybsidis crocbrisiol i dirfeddiannwyr cyfoethog Lloegr am roddi melinau gwynt a phaneli solar ar eu tir, hyd at ddyddiau olaf David Cameron a’r cyfyngiad ar sybsidis ffermydd gwynt ar y tir yn 2015, ar gyfer sybsidis ffermydd gwynt ar y môr.
Cymysgiad Egni Prydain Heddiw

Mae ffynonellau trydanol drud ag annibynadwy yn gwthio traean o gyflenwad y Deyrnas Unedig yn 2023: oes yna unryw syndod fod y DU hefyd yn dioddef creisus costau egni a byw, prinderau, a dogni? (ffynhonell)
Gridiau Trydanol Y Gorllewin
Mae gridiau trydanol, yn enwedig yn y Gorllewin, wedi integreiddio ag yn effeithiol yn gridiau rhyngwladol, sy’n gadael i wledydd brynnu neu werthu trydan rhwng ei gilydd. Ar un llaw mae hyn yn ychwanegu hyblygrwydd ag yn agor marchnadoedd allanol i gwmnïau egni gwlad, a ddyliau arwain yn ddamcaniaethol i sefydlogwydd trydanol uwch yn y tymor byr, ond ar y llaw arall mae trydan hawdd a rhad wedi ei fewnforio yn tanseilio cynhyrchiant gartref, diogelwch cenedlaethol, ag yn magu dibyniaeth ar ffynonellau egni tramor yn y tymor hir.

Cysylltiad trydanol Prydain efo’r Iwerddon, a Chyfandir Ewrop (ffynhonell). Mae egni niwclear dibynadwy Ffrainc wedi dyfod yn hanfodol i ofynion trydanol Prydain yn ystod pigau defnydd mewn nosweithiau, os ydi’r gwynt ddim yn chwythu. Wyt ti’n credu fod dyfod yn ddibynnol ar dy elyn geowleidyddol fwyaf dros y fil o flynyddoedd diwethaf yn strategaeth doeth, wrth i Ffrainc a gweddill Cyfandir Ewrop ddioddef efo’u creisusau egni hwythau?
Mae engraifft geowleidyddol bellach diweddar yng nghalon Ewrop, wedi i’r Almaen wario y ddegawd olaf yn dyfod yn gaeth i nwy pibell rhad o Rwsia tra’n diberfeddu ei sectorau glo a niwclear, bendithwyd hefo trydan rhad fuodd yn sylfaen ei oruchafiaeth fel ffatri’r Cyfandir, ymyl gystadleuol efo gwledydd cynhyrchu a diwydiannol Ewro eraill, tra’n rhedeg elwon masnachol efo gweddill y byd. Ysywaeth, daeth hyn i gyd i ben gyda goresgyniad Putin yn yr Wcrain, y sanctiynau hunanladdol rhoddodd yr Almaen ar ei allforwr egni mwyaf, ynghŷd a “phwy bynnag” chwythodd fyny bibellau nwy NordStream a dinistr allanol ar bolisi egni yr Almaen, sydd yn awr yn gaeth i fewnforion nwy hylif (LNG) ar longau o’r Amerig am bedwar gwaith y costau, yn ychwanegol at orfod ail beiriannu holl isadeiledd y wlad o nwy pibell i nwy hylif gymerith flynyddoedd, sydd hefyd yn rhoi syniad go lew “pwy” wnaeth chwythu fyny NordStream i ddechrau. Oherwydd ei or-ddibyniaeth pellach ar egni adnewyddol annibynadwy gwynt a haul i gyflenwi’r grid, mae’r Almaen yn awr yn dibynnu ar lo, a thrydan llwyth-gwaelod rhad a dibynadwy am draean o’i bŵer…

Mae Gweithred Derfysgaeth egni fwyaf mewn hanes yn ymollwng creisus egni hanesyddol gostith driliynau i’r Almaen a’r Undeb Ewropeaidd, ag yn debygol o ddinistrio ei elwon masnachol wedi deillio o nwy rhad Rwsia (ffynhonell)…
Gridiau Trydanol y Byd

Tu allan i swigen gyffyrddus y Byd Datblygiedig, yn y Byd Datblygol mae dros biliwn o bobol heb gyrch dibynadwy i drydan (ffynhonell)
Mae cynhyrch trydanol y Byd Datblygiedig wedi symud dros y ddwy ddegawd diwethaf o gymysgiad egni rhad a dibynadwy tuag at gymysgiad egni drud ag annibynadwy, tra mae isadeiledd mwy anaeddfed y Byd Datblygol yn dal i gynhyrchu trydan rhad a dibynadwy o lo a nwy (efo datblygiadau pellach niwclear yn y Dwyrain), yn rhoddi cytryngiad (arbitrage) egni rhatach i’r Dwyrain. Arweiniodd hyn at gamfanteisio Corfforaethau’r Gorllewin i allforio cadwyni darparu a swyddi mewn egni, diwydiant a chynhyrchu drosodd i Tseina a’r Dwyrain yn gyffredinol. Tra bod hyn wedi bendithio defnyddwyr y Gorllewin gyda nwyddau a chynnyrch rhad o Tseina, mae wedi dwad ar brîs cymdeithasol anferthol gwagio sectorau diwydiannol a swyddi y Gorllewin a chynhyrchu drud gartref, wrth i ni allforio ein ôl-droed carbon a dinistr amgylcheddol i Tseina a’r Dwyrain, allan o’r golwg, a tharo’n hunain ar ein cefnau yn y Gorllewin yn mewnforio’r nwyddau wedi eu gwneud yn barod ag yn “rhydd o garbon”. Serch hyn, mae’r duedd dair ddegawd ddiwethaf “globalisation” a nwyddau rhad o dramor yn dyfod i ben, wrth roi’r gorau i’r duedd o “de-globalisation”, chwyddiant, ail-ddyfodiad cenedlaetholdeb, a mewnforio cadwynau darparu egni a diwydiant yn ôl i’r Gorllewin.
I blymio ychydig yn ddyfnach i ddyfroedd Diogelwch Cenedlaethol, mae dyfod yn ddibynnol ar ffynonellau tramor mewn glo, nwy, trydan, dur, alwminiwm, a’r holl nwyddau hanfodol ar gyfer ein gofynion modern yn alanas, yn enwedig pan fo’r colledion masnachol mae’r Gorllewin wedi ei redeg efo’r Dwyrain wedi adeiladu pŵerau economaidd cystadleuol yn y BRICS. Tra bod y Gorllewin wedi derbyn goruchafiaeth drwy rym ariannol (mewn sanctiynau a gweithredoedd newid y drefn (regime change) dros y byd), ers y sanctiynau ar Rwsia mae’r Dwyrain yn symud yn weledol i ddatblygu arallgyfeiriad i ddiddyfnu eu hunain oddi ar Ddolers ag EwroDolers, ochr draw y geiniog geowleidyddol yma ydi bydd ail-ddarganfyddiad pryderon Diogelwch Cenedlaethol ag Annibyniaeth Egni a Chynhyrchu, yn gyrru Corfforaethau’r Gorllewin allan o Tseina a’r Dwyrain, yn erydu neu waredu colledion masnachol, hefyd adwaenid fel mewnforio cadwynau darparu, fwyaf pwysig mewn egni, dur, alwminiwm, tjips semi-conductor, a.y.y.b. Bydd y duedd “de-globalisation” o ddatganoli a thorri’r gyfundrefn ariannol fyd-eang ag o estyniad yr economi fyd-eang, yn chwyddiannol iawn i’r Gorllewin, oherwydd bydd ail-sefydlu swyddi a diwydiannau yn ôl gartref yn y Gorllewin yn gofyn dychwelyd i egni rhad a dibynadwy, a dyfodiad Diogelwch Cenedlaethol ag Annibyniaeth Egni i ymwybyddiaeth cyhoeddus, fydd yn gorfodi gwaredu technoleg egni adnewyddol (yn helaeth wedi ei gynhyrchu yn Tseina heddiw), am gydbwysedd o gynhyrchu trydan efo glo, nwy, a niwclear, y gellir ei gynhyrchu gartref neu ei fewnforio o fewn y Gorllewin.
Gofynion a Defnydd y Grid

Gofynion ar y grid dros oriau’r dydd, a dros y tymhorau (ffynhonell)
Yn natur cynhyrchu trydan, os na caiff ei ddefnyddio fe gaiff ei wastraffu, ag er yr holl fwrlwm ynghylch batris a batriffeiddio gridiau cenedlaethol, byddai’r gofynion ar ddeunyddiau daear brin yn eu mwyngloddio a’u cynhyrchu a’u mewnforio o wledydd fydd yn elynion gwleidyddol am y tymor byr o leiaf, ynghŷd a’r dinistrio amgylcheddol enfawr ag ôl-droed carbon mwyngloddio a mireinio lithiwm a chobalt y ddaear, mor andwyol mewn côst yn ei wneud yn ychydig fwy na breuddwyd.
Felly, namyn batris, mae ganddom gamgymhariaeth rhwng cyflenwad trydan sy’n barhaus (namyn egni adnewyddol), a gofynion trydanol sy’n ysbeidiol, efo neidiadau uchel mewn gofyn rhwng pedwar ag wyth y bore wrth i bawb baratoi at ddiwrnod yn y gwaith neu’r ysgol, a naid bellach rhwng pedwar ag wyth y prynhawn wrth i bawb gyrraedd adref wedi’r gwaith, gyda disgyniad serth wedi deg y nos fewn i oriau mân bore newydd. Tra daw’r pigau defnydd ysbeidiol yma’n eglur i’w darogan dros amser, nid ydi’n newid y ffaith na fedr gridiau trydanol sy’n rhedeg ffynonellau parhaus o drydan megis niwclear a glo, rampio fyny ac i lawr i gyflenwi’r gofynion, ag felly’n gorfod gor-gynhyrchu trydan a gwastraff i wasanaethu’r senario achos gwaethaf, sydd hefyd yn amlygu hyblygrwydd pŵerdai nwy fel trydan llwyth-gwaelod a llwyth-anterth. Yma, ar anterth y gofynion trydanol, y byddem yn gobeithio am nodweddion annibynadwy egni adnewyddol i gymorth llenwi’r bwlch, ond tu allan i fatris a storio does dim amser rhagweladwy i’r gwynt chwythu, a mae oriau anterth gofynion trydanol fel arfer yn ystod oriau’r tywyllwch am hanner y flwyddyn sy’n gwneud egni haul yn anefnyddiol hanner yr amser. Yn wir, y modd mwyaf effeithiol o ddarparu gorllwyth o drydan ar fyr rybydd ydi egni dŵr efo pwmp storio, megis Mynydd Gwefru Llanberis yng Ngogledd Cymru fel y sonwyd eisioes, sy’n medru cynhyrchu fyny at 9.1 Giga Wat o drydan mewn ychydig oriau gyda’r nos yn ystod anterthion, a wedyn phwmpio’r dŵr yn ôl i fyny yn ystod yr oriau mân a gofynion trydanol ar ei isaf, sy’n gwneud egni dŵr yn hynod werthfawr o fewn cymysgiad egni amrywiol.
Daw hyn a ni at ddatrysiadau i leihau gwastraff trydanol, neu ffyrdd i storio trydan heb fynd i gôst amgylcheddol enfawr batris.
Bitcoin Ac Egni

Lawnsiodd protocol Bitcoin ar y 3ydd o Ionawr 2009 fel prosiect un dyn, Satoshi Nakamoto, fel safon gyfrifo ddatganoledig arlein, yn seiliedig ar algoriddm consensws Prawf o Waith, gyda cloddwyr yn gwario trydan er mwyn pŵeru, amddiffyn a diogelu rhwydwaith Bitcoin, ag yn derbyn gwobr ar ffurff bitcoins newydd, ar 50 bitcoin bob deng munud bryd hynny.
Yn y dyddiau cynharaf, dechreuodd cloddio Bitcoin ar gyfrifiaduron personol a pŵer Uned Brosesu Ganolog (Central Processing Unit-CPU), esblygodd o fewn y ddwy flynedd gyntaf i ddefnydd dwysach trydanol Uned Brosesu Graffeg (Graphic Processing Unit-GPU), ag erbyn 2012 wedi esblygu i ddwyster trydanol llawer uwch offer cloddio ASIC (Application Specific Integrated Circuit).
Ers Oes yr ASIC, mae costau trydanol wedi dyfod yn bwysicach i gloddio, wedi ei adlewyrchu mewn canoli cloddio Bitcoin mewn gwledydd efo trydan rhad, yn enwedig egni glo a dŵr Tseina, hefyd yn creu monopoli naturiol ar ddiwydiant cynhyrchu cloddwyr ASIC Bitcoin, yn Bitmain, MicroBT, Ebang a Canaan, sy’n dal i oruchafu cynhyrchiant cloddwyr Bitcoin heddiw, dros dair blynedd ers cyfyngiadau Tseina ar gloddio Bitcoin.

Mor ddiweddar ag Awst 2019, roedd pyllau cloddio Tseineaidd yn amcangyfrifo 80% o ddosbarthiad hash byd-eang Bitcoin.
Fe dorrwyd monopoli y farchnad yma yn Mai 2021 pan gyfyngodd Plaid Gomiwnyddol Tseina yn drwm ar gloddio Bitcoin yn defnyddio glo drwy’r wlad, wrth iddynt ddioddef gyda straeniau grid a gofynion trydanol uwch, tra hefyd yn y broses o lawnsio eu e-arian yn yr e-Yuan ac arian digidol llywodraethol bydd Bitcoin yn cystadlu yn ei erbyn yn y degawdau i ddilyn. Yn swyddogol heddiw, mae cyfran hash y byd sy’n dod o Tseina oddeutu 20%, yn gweithio rhan fwyaf yn ddirgel yn y cysgodion.

Map Cadwyni Darparu Cloddwyr Bitcoin heddiw (ffynhonell)
Daearyddiaeth Cloddio Bitcoin Heddiw

Mae alltudiaeth cloddio o Tseina wedi arwain allfudiad byd-eang hash Bitcoin i’r Unol Daleithiau a’i gymysgiad egni amrywiol, glo Khazakhstan a cewri egnïol megis Rwsia a Canada (ffynhonell)…
Cloddio Bitcoin Heddiw Fesul Ffynhonell

Cloddio Bitcoin fesul ffynhonell egni, yn ôl ymchwiliad a trefneg Batcoinz (ffynhonell). Ychwanega 23% hydro, i 14% gwynt, 5% o’r haul, ag adnewyddon eraill ar 2.4%, sy’n golygu fod 44.4% o egni cloddio Bitcoin yn deillio o ffynonellau adnewyddol
Nid yw Bitcoin yn gwahaniaethu rhwng ffynonellau egni, ag oherwydd ei hyblygrwydd yn manteisio ar gefn y ffynonellau rhataf o drydan, os ydynt yn ddibynadwy neu adnewyddol, yn ffynnu yng nglofan Khazakhstan, horwth nwy a dŵr Rwsia, a gwledydd Gorllewinol yn gyfoethog mewn egni traddodiadol ag adnewyddol megis yr Unol Daleithiau a Canada. Mae cloddio Bitcoin yn llawer fwy datganoledig yn ddaearyddol nag oedd cyn cyfyngiadau Comiwnyddion Tseina, gyda’i ddaearyddiaeth wedi ddosbarthu’n bellach rhwng ffynonellau, lle bynnag mae’r trydan rhataf, ar ag oddi ar y grid.
Defnydd Trydan Byd-Eang Bitcoin Heddiw
I fod yn eglur yma, mae’n eithriadol o anodd meddu ffigyrau union ar ddefnydd trydanol Bitcoin heddiw, oherwydd nifer o ffactorau sy’n codi i’r cof y dywediad unwaith eto, clwyddau, clwyddau noeth, ag ystadegau, felly wedi darllen o gwmpas y wê rydw i’n amcangyfrif defnydd Bitcoin o holl drydan y byd, ar rhwng 0.1 a 0.5%, gyda 50-60% o hwnnw’n dod o ffynonellau adnewyddol. Felly wedi blynyddoedd o straeon codi ofn y cyfryngau traddodiadol am ddefnydd trydanol a dinistr amgylcheddol Bitcoin, hyd yn oed heddiw efo hash (a diogelwch) ar ei uchaf erioed, mae Bitcoin yn defnyddio ffraciwn o un y cant o ddefnydd trydanol y byd, sy’n ffracsiwn dybiwn i o’r trydan sy’n cael ei wastraffu heddiw, yr un trydan gwastraff sy’n denu cloddwyr Bitcoin i’w ariannu, fel trafodir yn bellach yn y man.
Ymhellach, os medr crefyddwyr yr hinsawdd werthu ceir trydanol fel technoleg dim allyrion (zero emissions), yna dydi hi ond yn deg fod crefyddwyr Bitcoin yn cael hawlio’r un peth. Yn union fel ceir trydan felly, mae Bitcoin yn dechnoleg llawn drydanol efo dim allyrion uniongyrchol, ag ond yn gwahaniaethu yn yr ystyr ei fod yn ymchwilio am drydan anghysbell oddi ar y grid, yn fwyaf tebygol o ffynonellau adnewyddol megis dŵr a gwynt, dros y ceir trydan sy’n defnyddio trydan y grid yn llawer fwy helaeth, ag yn gaeth i gymysgiad egni ffosil llawer uwch.

Ail-ddeillyddion tanwyddau ffosil: Technoleg Dim Allyriant
Pam Fod Bitcoin Yn Gweithredu Fel Batri Trydanol

Henry Ford yn dychmygu cyfundrefn Prawf o Waith yn seiliedig ar egni, i ddisodli hen Brawf o Waith y Safon Aur lygrwyd gan fancars fewn i Brawf o Ddal (Proof of Stake) yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. O’r New York Tribune, dydd Sul, Rhagfyr y 4ydd, 1921.
Pan yn cloddio am Bitcoin, rydwyt yn trosi trydan fewn i arian a stôr o werth digidol, heb ddim costau storio (yn wahanol i fatri confensiynol) am faint mor hir a sydd angen, a gellir ei drosglwyddo ar gostau isel iawn o fewn yr awr i arall, batri hylifol iawn gyda’r anfantais o fod yn fatri hydarth (volatile) ar hyn o bryd, efo prisiau sy’n symud i fyny ag i lawr o ddydd i ddydd yn dychryn buddsoddwyr newydd dwylo gwan yn y byr dymor, ond yn yr hir dymor bydd yn profi i fod yn stôr o werth hanfodol ar gyfer diwydiant egni a trydan y byd.
Dychmyga ddyfodol deng mlynedd allan, pan fydd pob cwmni egni efo uned cloddio Bitcoin mewnol, tra mae’n rhaid talu costau cyfalaf rhag blaen am y peiriannau, gellir cloddio trydan anghysbell neu wastraff yn rhad ac am ddim, sydd hefyd yn golygu bydd ganddynt bitcoins ar eu llyfrau, yn medru setlo rhwng cwmnïoedd mewn bitcoin, sy’n cysylltu’r grid trydanol drwy’r rhyngrwyd i fanteisio ar gytryngiad cenedlaethol a rhyngwladol, fydd yn safonoli a sefydlogi gridiau trydanol dros y byd. Mae’n arbrawf meddwl diddorol iawn!
Engreifftiau Cynnar Cloddio Bitcoin i Gwmnïau Egni
Egni Dŵr yn Nhalaith Sichuan, Tseina (2013-2021)


Cynhyrchodd chwyldro adeiladu Tseina wedi 2008, gam-ddosbarthiad cyfalaf enfawr i greu y Dinasoedd Gwag enwog, fe or-gynhyrchodd Tseina hefyd yn y sector isadeiledd egni a pheirianyddol, gyda egni dŵr sy’n cynhyrchu 80% o egni trydanol yn Nhalaith Sichuan heddiw, wedi eu adeiladu ar afonydd, ag yn dymhorol oherwydd y tymor glawog yn Tseina yn rhedeg rhwng Mis Mai a Mis Medi. Yn ystod y tymor sych ni fyddai cloddio bitcoin mor hyfyw a phroffidiol, ond roedd cynhyrchu gormodedd trydanol dros gyfnod pum mis yn denu cloddwyr o ardaloedd eraill Tseina i wneud y siwrnau yn ôl ag ymlaen bob blwyddyn ers 2013, mewn effaith yn ariannu trydan anghysbell a gwastraff, fewn i Bitcoin.
Gorsaf bŵer Trydanddwr Bratsk, Siberia (2018-)

Bratsk yw gorsaf ddŵr mwyaf Rwsia, wedi ei leoli yn Oblast Irkutsk, ar afon Angara, adeiladwyd gan yr Undeb Sofietaidd i drydanu gweithiau smeltio aliwminiwm, ers hynny wedi ei drawsnewid i Ganolfan Data, a chloddio am bitcoin. Sefydlodd cwmni Bitriver yn Bratsk yn 2018 oherwydd y trydan rhad, a hinsawdd oer sy’n ffafrïol i anfanteision gor boethi cloddwyr Bitcoin. (ffynhonell)
Gorsaf Trydanddŵr Mechanicville, Efrog Newydd (2021-)


Oherwydd anghytuno cytundebol rhwng Corfforaeth Drydan Albany a’r Grid Cenedlaethol dros brisiau trydanol, roedd bygythiad cau un o bŵerdai hynaf yr Unol Daleithiau, fe ddaeth cloddwyr Bitcoin i gytundeb yn cynnig teirgwaith prisiau’r Grid, ag felly yn ei gwneud yn broffidiol a chynaladwy i aros yn agored am y dyfodol. (ffynhonell)


Pam bod cloddio Bitcoin yn datblygu fel ateb i Fflamychu Nwy (ffynhonell uchaf), Cwmni Egni Equinor yn ymchwilio Fflamychu Nwy yng Ngogledd Dakota i gloddio Bitcoin (ffynhonell isaf)
Yn hytrach na bod yn gyfle economaidd ar gyfer rhanbarthau daearyddol neu bŵerdai unigol, mae fflamychu methane yn gaddo llawer mwy oherwydd ei fod yn effeithio ar y diwydiant olew a nwy yn ei gyfanrwydd, a sail diwydiannol yr economi dros y byd. Pan yn tyllu am olew, mae cwmnïau olew yn aml yn taro pocedi o nwy yn y creigiau, sy’n gwneud gwaredu methane yn felltith i’r diwydiant, oherwydd ni fedr ei storio na’i gludo’n gyfleus i farchnad egni, h.y. egni anghysbell, gyda amcangyfrifon fod y nwy sy’n cael ei fflamychu bob blwyddyn yn gyfatebol i fewnforion egni Cyfandir Ewrop o Rwsia cyn y sanctiynau wedi goresgyn yr Wcrain. Sy’n dyfod a ni at fflamychu’r nwy fewn i garbon deuocsid a chynhyrchu trydan i gloddio Bitcoin, fel mae ExxonMobil wedi ei beilotio efo Crusoe Energy. Mae engreifftiau pellach o fflamychu am bitcoin yn cynnwys Giga, sy’n gweithio efo ugain o gwmnïau olew a nwy yn yr Unol Daleithiau, Upstream Data sydd efo 300 o safleoedd cloddio dros yr UDA a Chanada, Kirkwood Oil and Gas, a nifer eraill o chwaraewyr bach yn y gofod olew a nwy.
Fe ddyliau fod yn eglur, fod trosi egni anghysbell a gwastraff fewn i drydan i gloddio Bitcoint, yn werthfawr tu hwnt i gwmnïoedd egni yn y gofodau tanwyddau ffosil ag adnewyddol, sy’n cynnwys gwynt a haul sydd eisioes yn cyfrannu bron i 20% o bŵer trydanol Bitcoin, a daw Bitcoin hyd yn oed yn bwysicach i ddyfodol y sector egni a grid cenedlaethol yn yr hir dymor, tra heddiw mae’n llwyddo fwy wrth gymeryd mantais ar egni anghysbell ag oddi ar y grid, fel yr engreifftiau uchod.
Pam Fod Bitcoin Yn Cael Ei Ddenu At Egni Adnewyddol
Mae Bitcoin yn cael ei ddenu at ffynhonellau adnewyddol o drydan oherwydd eu bod yn annibynadwy, ag felly yn fwy proffidiol i’w cloddio ar amserau penodol. Mae manteision yn cynnwys gallu lleoli cloddwyr bitcoin yn ystwyth ag yn gyflym wrth ymyl adnoddau egni adnewyddol sydd yn aml mewn lleoliadau anghysbell, ac mae hi hefyd yn bosib troi cyfrifiaduron cloddio Bitcoin ymlaen ag i ffwrdd mewn eiliadau i adweithio i anwadalrwydd y tywydd. Gellir hefyd gysidro Bitcoin fel batri trydanol, drwy drawsnewid trydan fewn i arian digidol, sydd efo pymtheng mlynedd o hanes llewyrchus fel stôr o werth, ag mewn effaith yn cynyddu gwerth y trydan sy’n cael ei gloddio heddiw yn llawer uwch yn y dyfodol. Am y rhesymau hyn, bydd cloddio bitcoin yn dod yn rhan bwysicach o bolisi bob cwmni trydan adnewyddol a phwêrdai egni i leihau gwastraff trydanol ymhob Gwlad dros y byd, fydd yn cysylltu rhwydwaith egni y byd efo’i gilydd, a drwy’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn dod yn gymaint fwy hanfodol i’r sector egni adnewyddol, oherwydd y tywydd ansefydlog a hyblygrwydd cloddwyr bitcoin, gellir cloddio’n drwm mewn adegau o ormodedd trydan adnewyddol nad oes galw amdano ar y pryd, a gellir troi’r peiriannau ffwrdd mewn chwinciad mewn prinderoedd o drydan adnewyddol, a phan mae galw cryf amdano. Mae costau rhâd trydan adnewyddol oddi ar y grid o’i gymharu a chostau uwch trydan ar y grid, yn golygu fod Bitcoin wedi esblygu’n fwy tuag at drydan gwynt a dŵr yn hanesyddol, sydd ynghŷd a solar bron i hanner egni trydanol Bitcoin heddiw. Bydd Bitcoin yn gymorth i sefydlogi cwmnïau trydanol yn enwedig yn y sector wynt, dŵr a haul, yn myned i amseroedd ansicir, ag efallai hyd yn oed yn gwneud y cwmnïau hyn yn broffidiol a chynaladwy heb sybsidis a swcwr Seneddwyr Llundain yn boddi mewn creisusau egni fforddiadwy.
Mabwysiadu Bitcoin – O’r Sector Breifat i’r Sector Gyhoeddus
Fel y trafodwyd eisioes, dechreuodd Bitcoin wrth ei draed ag o’r gwaelod i fyny, y mabwysiadwyr cyntaf oedd unigolion, cwmnïau a busnesau y sector breifat, wrth adeiladu’r cyfnewidfeydd ag is-adeiledd Bitcoin i ehangu’r defnyddwyr a’r rhwydwaith, ag mewn amser pan oedd llywodraethau a’r sector gyhoeddus yn ddiarwybod am ddatblygiad Bitcoin. Wrth i Bitcoin basio ei Ddegfed Penblwydd yn 2019 fe ddechreuodd bethau newid yn yr agwedd yma, ag mae’r dair blynedd ddiwethaf yn enwedig wedi gweld nifer o ddatblygiadau, wrth i lywodraethau cenedlaethol a chyfundrefnau ariannol traddodiadol, ddechrau synhwyro bygythiadau a chyfleoedd mabwysiadu Bitcoin o flaen gwledydd eraill.
Mabwysiadu Bitcoin gan Wledydd

Nayib Bukele, Llywydd El Salfador, ddaeth y wlad gyntaf i wneud Bitcoin yn arian cyfreithiol (ffynhonell)
El Salfador efo poblogaeth o 6.5 miliwn, ddaeth y wlad gyntaf i gyfreithloni Bitcoin fel arian ar yr 7fed o Fedi 2021, a Gweriniaeth Ganol Affrica efo poblogaeth o 5.5 miliwn ddaeth yr ail wlad ar y 27ain o Ebrill 2022. Yn ogystal mae gohebiaeth ar Tonga (poblogaeth o 105,000) a Fiji (poblogaeth o filiwn) yn cysidro mabwysiadu Bitcoin fel arian cyfreithlon i leddfu eu dibyniant ar arian tramor. Mae hefyd achos Panama (poblogaeth o 4.3 miliwn) lle mae rheolaethau eglur, ag er nad ydi Bitcoin yn arian cyfreithiol does dim trethi cyfalaf, sy’n rhoi Bitcoin ar yr un droed a’r Balboa a Doler yr UDA, y ddau arian cyfreithiol yn Panama.
Ymhellach, yn ôl sibrydion diweddar mae Suriname (poblogaeth o 630,000) a Colombia (poblogaeth o 52 miliwn) yn Ne America yn cysidro strategaeth fabwysiadu Bitcoin, tra mae codiad Javier Milei yn yr Ariannin (poblogaeth o 47 miliwn) wedi arwain at ryddid i ddefnyddio bitcoin ar gyfer setlo cytundebau, ag yn bwysicach wedi diddymu holl drethau ar gyfnewid mewn bitcoin sy’n dymchwel atalfa lywodraethol, fydd yn ffynnu mabwysiadaeth gynhenid ag yn denu cyfalaf ag arbenigedd cyfundrefn fyd-eang Bitcoin, i symud i’r Ariannin i adeiladu.
Beth sydd yn gyffredin i’r gwledydd uchod? Maent i gyd yn wledydd datblygol ar ymylon cyfundrefn ariannol y byd, yn ddibynnol ar arian y Gorllewin (y Doler yn enwedig) ag efo diffygion ariannol a bancio cynhenid sy’n atal y boblogaeth a’r economi rhag tyfu a chynhyrchu cyfoeth, ag yn fwy torcalonnus yn sugno yr ifainc allan o’r wlad i weithio’n y Gorllewin er mwyn gyrru’r arian gartref, Effaith Cantillon ar ei orau. Mae’r duedd felly yn glîr, fod gwleidyddion yn y gwledydd tlawd ac ymylol yn mynd i yrru mabwysiadaeth er mwyn rhyddid ariannol o’r Gorllewin, ag er llês y dyfodol. Y tebolrwydd ar lefel Wladol ydi bydd y Gwledydd Datblygol y De ar yr ymylon yn mabwysiadu Bitcoin fel arian cyfreithlon gyntaf, a Gwledydd Datblygedig y Gogledd yn y craidd yn mabwysiadu Bitcoin fel arian cyfreithiol olaf.
Gwledydd yn Cloddio Bitcoin
O’r uchod, a symudiadau wyth gwlad yn cynnwys dros gan miliwn o bobol tuag at Bitcoin, daw’r cwestiwn o sut i gael gafael arno yn y ffordd mwyaf cyfleus? Dyma agwedd arall lle mae Bitcoin yn rhagori, oherwydd gellir cynhyrchu bitcoins o fewn y wlad drwy gloddio, a thrwy ddefnydd gridiau trydanol, sydd yn rhan fwyaf o wledydd y byd yn nwylo’r llywodraeth yn barod, mewn un ffordd neu arall. Drwy arallgyfeirio trydan, gellir creu arian gwladol gartref, sy’n cryfhau diogelwch cenedlaethol a chadarnhau annibyniaeth. Am y rheswm hyn, fe ddaw Bitcoin yn rhan fwy pwysig o geowleidyddiaeth egnïol y byd yn y ddegawd nesaf, fel drafodwyd ym Mhennod 9 o’r Podlediad Arian Cymreig ar Bitcoin ag Egni, ag ysbrydoliaeth y traethawd hwn.
Engreifftiau o wledydd yn cloddio Bitcoin:

Iran – Oherwydd sanctiynau ariannol y Gorllewin yn gwahardd gwerthu olew a nwy mewn Doleri i setlo masnach, mae Iran wedi penderfynu llosgi eu olew a nwy i gynhyrchu trydan i gloddio Bitcoin. Yn wir tra mae’r Awdurdodau wedi gwahardd cloddio i’r cyhoedd ar ôl i nifer ddechrau cloddio mewn mosgiaid am eu bod yn derbyn trydan yn rhad ag am ddim gan y Llywodraeth, mae Iran yn cloddio ar y lefel Genedlaethol drwy’r Lluoedd Arfog, ag yn amlwg gyda bendith y Llywodraeth. Mae’r bitcoins yn cael eu defnyddio wedyn i dalu am fewnforion na gellid eu talu mewn Doleri, a mae Iran wedi bod yn cloddio ers o leiaf 2019.

Feneswela – Gwlad arall yn dioddef sanctiynau Gorllewinol, ar ôl carcharu cloddwyr Bitcoin preifat mewn Gwlad lle mae trydan bron am ddim i’r cyhoedd, mae’r Llywodraeth a’r Fyddin wedi troi trydan Cenedlaethol fewn i bitcoins ers 2020 er mwyn sefydlogi eu seiliau, wrth i arian gwladol y Bolivar doddi mewn gwerth fesul yr awr yn nwylo’r cyhoedd.

Bhutan – Daeth yr hanes allan yn gymharol ddiweddar fod Brenhiniaeth Bhutan, gwlad o 700,000 yn Ne Asia, wedi bod yn cloddio’n gyfrinachol ers 2020 drwy ddefnyddio egni adnewyddol a phŵer dŵr i gynhyrchu trydan. Mae rhesymau Bhutan dros fabwysiadu Bitcoin ar lefel Wladol yn cynnwys colledion ariannol twristiaeth yn ystod ag ers llanast Cofid, ag yn ymgais i geulo allfudo eu pobol ifanc allan o’r wlad (1.5% o’r boblogaeth wedi allfudo i Awstralia yn unig yn y ddwy flynedd ddiwethaf).

El Salfador – Yn ogystal a chyfreithloni Bitcoin fel arian gwladol, mae Bukele wedi mynd gam yn bellach, wrth ddefnyddio egni adnewyddol a gwrês llosgfynyddoedd i gloddio am bitcoins, ar gyfer cronfa wladol, ag er mwyn cymeryd dyled allan yn y ffurf Volcano Bonds i adeiladu is-adeiledd Bitcoin y wlad allan yn bellach.
Mae’r bedair esiampl uchod yn amlygu sut all Gwledydd a Llywodraethau gynhyrchu bitcoins gartref, sy’n magu annibyniaeth egni ag arian rhag prinderau ag anwadalrwydd arian Gorllewinol, wrth i ymddiried yn ei chyfundrefn ariannol wanhau, wrth i’w chyfyngiadau a’i gwaharddiadau ar weddill gwledydd y byd gynyddu. Mae Iran (gwlad o 88 miliwn) eisioes wedi troi at Bitcoin i osgoi’r sanctiynau, sydd wedi ymestyn i Rwsia (gwlad o 147 miliwn) sydd hefyd yn y broses o gyfreithloni Bitcoin ar gyfer taliadau tramor a sibrydion fod eu Llywodraeth hefyd yn cloddio Bitcoin fel rhan o strategaeth i leihau dibyniaeth ar y Doler wrth fasnach yn rhyngwladol. Fe ddylia’i hefyd fod yn glir y meder llywodraethau gyfreithloni Bitcoin ar lefel lywodraethol tra’n gwahardd defnydd Bitcoin gan y cyhoedd o fewn y wlad, a dyma’r tebygolrwydd cryfaf yn y byr dymor, y bydd gwledydd yn cymeryd mantais o Bitcoin ar lefel ryngwladol, tra’n rheolaethu’n llym defnydd Bitcoin ar gyfer taliadau mewnwladol, rhag iddo fygwth a thanseilio monopoli eu arian gwladol dros y boblogaeth gynhenid. Ond yn yr hir dymor, ag wrth i werth Bitcoin gynyddu, fe ddaw yn fater o ddiddordeb ag yn wir diogelwch cenedlaethol i gyfreithloni Bitcoin ar gyfer taliadau, er y bygythiad feidrol fydd hyn yn ei greu i’r gyfundrefn fancio a threthi.
Bitcoin A’r Gollewin – Seiliau Newydd i’r Undebau Cyllid

Bydd ailosod seiliau cyfalafol y byd yn cynnwys ail brisio aur yn llawer uwch, a banciau a llywodraethau yn defnyddio aur a Bitcoin a phrinder cynhenid fel seiliau’r gyfundrefn newydd, ag ar draul arian a dyled gwladol fydd yn dibrisio ag yn anablu gallu Undebau’r Gorllewin i gyhoeddi dyled a gwariant cyllidol (ffynhonell)
Cyrhaeddwn yn agosach adref, ag at dair Undeb Ariannol a Chyllidol sy’n mygu dominyddu setlo masnach dros y byd. Er y dyledion enbyd a hunllefus mae’r Unol Daleithiau, Ewrop a Phrydain wedi creu ers eu dechreuad, mae chwyddiant yn gyffredinol yn îs yn y gwledydd yma ag mae’r system fancio a thaliadau yn gweithredu’n fwy effeithiol, sy’n golygu y tebygolrwydd y bydd hi’n cymeryd yn hirach i Bitcoin gymeryd drosodd yma fel rhwydwaith daliadau, ond mae Bitcoin yn cynnig lot fwy o ddefnydd byr dymor i’r Gorllewin fel stôr o werth a chyfalaf phrin a drudfawr i gefnu’r dyledion arian a’r cyllid.
Oherwydd rôl hanesyddol aur fel sail yr hen system ariannol ag am y ffaith fod Banciau Canolog y Byd yn dal i storio aur ar eu llyfrau fel cyfalaf annibynnol a sofrin, yna mae’n weddol hawdd damcaniaethu y bydd gwledydd y Gorllewin, ymysg dymchwel eu marchnad ddyledion rhyngwladol a chwyddiant gynyddol eu arian mewnwladol, yn penderfynu ailbrisio aur yn uwch fydd drwy lygredd hud a lledrith Cyfrifo, yn ailbrisio llyfrau a gwerth y gyfundrefn gyfrifon yn uwch, a chynyddu’r galw am brynnu a storio aur yn y Gorllewin.
Mae’r un peth yn wir am Bitcoin. Os ydi’r gyfundrefn fancio a llywodraethau cenedlaethol yn dechrau hel cronfeydd Bitcoin fel ased sylfaenol ar eu llyfrau, fel mae gwerth Bitcoin yn tyfu mae gwerth cyllidol ar lyfrau banciau a thrysorlysiau yn tyfu, yn galluogi cynyddu benthyciadau a gwariant gwladol ar yr ochor ddyledus, fydd yn cynyddu tŵf economaidd a gwariant cyllid llywodraethau. Y prîs fydd rhaid ei dalu am fuddsoddi mewn prinder a chyfalaf gwell wrth ailbrisio aur a bitcoin yn uwch, fydd dibrisio bonds a dyledion gwladol fydd yn eu gwneud yn llai deniadol i weddill yr economi eu prynnu, fydd yn anablu gallu’r Gorllewin i redeg dyledion a gwariant cyllidol allan o reolaeth, ond bydd y dewis hwn yn fwy deniadol na chreisus ariannol a dyledol, a chwyddiant uwch.
Banciau’r Gorllewin yn Mabwysiadu Bitcoin
Dechreuwn yma efo’r cyrff an-etholedig, a biwrocratiaid ariannol sy’n goruchwylio Banciau Canolog y byd. Adwaenir y Banc Setlo Rhyngwladol fel Banc Canolog y Banciau Canolog, a’i bencadlys erchyll yn Basle, Y Swisdir, ac mae ei gynghorau a’i bwyllgorau yn penderfynu safonau mabwysiadu cyfalaf gweddill banciau’r byd, felly mae’n bwysig talu sylw i ddatblygiadau rheolaethau crypto-cyfred ar y lefel yma.


Pwyllgor Basle yn diweddu polisi yn awgrymu 2% o uchafswm i Bitcoin fel cyfalaf ar lyfrau banciau (ffynhonell)
Y Basel III Accord, ydi’r fframwaith diweddaraf sy’n pennu safonau rhyngwladol ar gyfer cyfalaf banc, profi am straeniau, a gofynion hylifol, er mwyn cydnerthu cyfrifon a lleihau leferaeth.
Dealltwriaeth Basel III sydd wedi bod yn gyfrifol am ddyrchafu aur corfforol i Gyfalaf Dosbarth Cyntaf, yn Rhagfyr 2022 diweddodd y pwyllgor ei bolisi arfaethedig ar ddal Bitcoin, ar ôl ymgynghori efo lobïau banc (yn cynnwys J P Morgan a Deutsche Bank), efo cyfyngiad o 2% o gyfalaf yn Bitcoin. Yn seiliedig ar $180 triliwn mae’r banciau yn ei gystodi, byddai 2% yn oddeutu $3.6 trilliwn, deirgwaith maint presennol Bitcoin werth $1.2 Triliwn.
Dydi’r uchod ddim yn golygu y bydd y banciau i gyd yn gorlifo fewn i Bitcoin yn y dyfodol agos, ond mae’r drws wedi cael ei agor, gan y banciau eu hunain, i ddal Bitcoin fel cyfalaf ar eu llyfrau. Er engraifft os byddai gwerth Bitcoin yn lluosi ddeg gwaith o fan hyn, byddai 2% o gyfalaf yn chwyddo i 20% o gyfalaf, a deg gwaith y gallu i godi benthyciadau i’r sector breifat a thŵf economaidd fyddai’n dod yn ei sgîl.
Diweddaru Safonau Cyfrifo ar Gyfer Bitcoin
Yn ogystal a’r gyfundrefn ariannol, mae’r gyfundrefn gyfrifo yn chwarae rhan bwysig ar gyfer corfforaethau a chwmnïau y sector breifat, sydd fel y banciau a’u dwylo ynghlwm gan safonau a rheolaethau cyfreithiol yn penderfynu pa asedau a chyfalaf y caent fuddsoddi ynddo. Er fod nifer o gwmnïau y sector breifat eisioes wedi buddsoddi yn Bitcoin fel cronfa gyfalafol ar gyfer y dyfodol, roedd rheolaethau cyfrifo yn rhoi cosbau ar ddal Bitcoin fel cyfalaf, drwy ei ddiffinio fel “indefinite-lived intangible asset” sydd yn brifo Bitcoin fel ased gyfrifo. O dan y diffiniad yma, yn ystod chwarter lle byddai prîs Bitcoin yn disgyn, byddai’r cwmni yn gorfod adnabod y golled ar eu llyfrau, ond mewn chwarter lle byddai gwerth Bitcoin yn codi, ni fuasai yn cael ei adnabod fel elw cyfalafol ar y llyfrau!
Mae’r diffiniad hanner call yma o Bitcoin fel “indefinite-lived intangible asset”, sydd wedi atal corfforaethau a chwmnïau fuddsoddi mewn Bitcoin ar eu llyfrau ar fîn cael ei adolygu, wrth i’r Bwrdd Safonau Cyfrifo Ariannol (Financial Accounting Standards Board – FASB) symud ymlaen i gyfrifo gwerth têg ar gyfer Bitcoin.


FASB ydi’r corff sy’n gosod safonau cyfrifo i wellhau Egwyddorion Cyffredinol Derbyn Cyfrifon (Generally Accepted Accounting Principles – GAAP) o fewn yr Unol Daleithiau er llês y cyhoedd (ffynhonell)
Mae gan yr un addasiad cyfrifo yma oblygiadau anferthol ar ddyfodol Bitcoin, wrth i’r Unol Daleithiau fel canolfan ariannol y byd fabwysiadu cyfrifo gwerth têg, bydd yn gorfodi Byrddau Safon Cyfrifo mewn gwledydd eraill i gymeryd yr un agwedd tuag at Bitcoin, a galluogi eu corfforaethau preifat a chyhoeddus i fuddsoddi yn Safon Gyfrifo Bitcoin. O hyn ymlaen bydd cwmnïau yn dal bitcoin ar eu llyfrau yn medru addasu i werth têg y farchnad bob chwarter, wrth i werth bitcoin gynyddu bydd gwerth sefydliadau a chorfforaethau a iechyd ariannol y cwmni yn cynyddu, yn galluogi ehangu y cwmni a chreu swyddi newydd ar gyfer y dyfodol. Ac oherwydd fod rhaglen gyhoeddi Bitcoin yn rhagweladwy ag yn hanneru bob pedair blynedd, bydd yr holl gwmnïau yma’n ymladd am gyfranddaliad o’r uchafswm o 21,000,000, efo bron i 19,600,000 wedi eu creu yn barod â’r radd chwyddiant newydd hanneru eto eleni o 900 i 450 y diwrnod, fydd yn gyrru galw am Bitcoin yn llawer uwch na’i gyflenwad. Gellir dadlau y bydd prynnu parhaol gan sefydliadau yn diddymu cylchoedd ariannol pedair blynedd Bitcoin, sydd wedi ailadrodd dair gwaith ers ei ddechrau. Bydd buddsoddi corfforaethol hefyd yn siwr o leihau hydarthedd (volatility) Bitcoin, a sefydlogi prisiau fuasai’n gwneud Bitcoin hyd yn oed yn fwy deniadol fel cyfalaf, ag yn gyrru fwy o fuddsoddi a fwy o frwydro wrth ailbrisio llyfrau corfforaethol yr Unol Dalethiau a’r Gorllewin yn uwch eto! Rhywbeth i gnoi cîl arno.

Trysorlysiau Corfforaethol ar hyn o bryd bron yn 2.3 miliwn, 11.58% o gyflenwad yn ôl ystadegau bitcointreasuries.net, drwy Dashfwrdd Bitcoin Clark Moody
Mabwysiadu Bitcoin ar lefel Wladol – Deddfau Seneddol
Yn ogystal a’r cyrff anetholedig yn cynllwynio yn y cysgodion, mae’r cyrff etholedig a Chyfreithiau Gwlad, Deddfau Seneddwyr yn chwarae rhan hyd yn oed yn fwy pwysig. Yn wir, mae rhan fwyaf o drobwyntiau hanes Cymru a Phrydain (a’r helaeth o’r rhain er gwaeth) wedi dod allan o Senedd Llundain, o’r Deddfau Penyd 1402, i Ddeddfau Uno 1536 a 1542, Deddfau Uno 1707, Deddf Rhwystredigaeth Fancio 1797, a Deddfau Cenedlaetholi economi Prydain wedi’r Ail Ryfel Byd. Efallai bod y diniwed yn credu fod llwybyr igam ogam hanesyddol tuag at ganoli wedi bod yn un damweiniol, ond mae angen deall fod Senedd Llundain yn ganolog i ddatblygiad economaidd a thechnolegol Prydain ers Diwygiad Harri ag wedi dewis enillwyr a chollwyr y bum canrif ddiwethaf, ag felly yn ei wneud yn ddylanwadol iawn ar ddyfodol Bitcoin ym Mhrydain, unai yn anghyfreithlon yng nghysgodion y farchnad ddu, neu yn gyfreithlon ag yn graidd polisîau ariannol a chyllid dyfodol yr Undeb.
I drafod y Gorllewin yn gyffrediniol gyntaf, ag yn erbyn pob disgwyliad, yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cymeryd y blaen gyda Rheolaethau Marchnad Mewn Asedau Crypto (Markets in Crypto Assets – MICA) ers yr 20fed o Ebrill 2023, ag er fod yr adolygion mor belled yn rhai cymysg, mae gan gwmnïau a sector ariannol Ewrop ddarlun llawer cliriach o beth sy’n bosib a ddim yn bosib ei wneud efo Bitcoin, gyda Deutsche Bank, banc mwyaf yr Almaen yn un o’r symudwyr cynnar wrth gynnig dal crypto-cyfred ar gyfer ei gwsmeriaid. Ar ôl edrych fel yr Undeb fwyaf blaengar dros fabwysiadu Bitcoin o dan Lywyddiaeth Donald Trump, mae’r Unol Daleithiau wedi symud i gefn y dosbarth ers Llywyddiaeth Joe Biden a’r Democratiaid, eu casineb amlwg tuag at Bitcoin yn agored i’w weld, ag wedi dylanwadu’n gryf ar Operation Chokepoint 2.0 a’r ymgais i lwgu Cyfnewidfeydd Bitcoin a banciau crypto er mwyn eu torri ffwrdd o’r sector ariannol draddodiadol. Er ymdrechion y Democratiaid, ar Stryd Y Wal mae’r gyfundrefn ariannol yn parhau i gynhesu at Bitcoin efo llith o Gronfeydd Gyfnewid Masnachol (Exchange Traded Fund – ETF) yn cael eu lawnsio ar ddechrau Ionawr gan rai o sefydliadau ariannol mwya’r byd megis Blackrock a J P Morgan, yn dangos fod diddordeb yn awchu i fuddsoddi. Hyd yn oed o fewn y Gyngres mae yna filiau yn gweithio’u ffordd drwy’r gors gyfreithiol, o’r bil ddwybleidiol Lummis-Gillibrand S. 4356 – y Ddeddf Arloesedd Ariannol Gyfrifol (Responsible Financial Innovation Act – RFIA) yn Ngorffennaf 2022, bil drafft Strwythur Marchnad a’r Ddeddf Eglurdeb Taliadau Arian Sefydlog 2023, gan gadair y Cyngor Gwasanaethau Ariannol (Financial Services Committee) Patrick McHenry a Gweriniaethwyr Tŷ’r Cynrhychiolwyr, wrth i’r Unol Daleithiau ddisgyn ar ôl ym mabwysiadu Bitcoin a crypto ag yn ddibynnol ar ailddyfodiad Trump.
Yn olaf i Lundain, lle pasiodd Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2023 fewn i Gyfraith, er mwyn rheolaethu y sector grypto-cyfred. Bydd lobïau’r Trysorlys, y Banc yn Lloegr a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (Financial Conduct Authority – FCA) nawr yn ymgynghori gyda lobïau gweddill y sector breifat a chyhoeddus, fydd yn penderfynnu eithafon a chyflymder tŵf ariannol a chyfrifo Bitcoin o fewn Prydain.


Mae Brexit wedi bod yn ergyd drom i sector ariannol a fancio y Ddinas yn Llundain, efo nifer o fanciau Ewrop wedi ymadael yn ôl am y Cyfandir, sydd fwy na thebyg tu ôl i ddelfryd y Blaid Dorïaidd gynt i drawsnewid Prydain fewn i ganolfan crypto (ffynhonell)
Dyfodol Bitcoin Ym Mhrydain
Roedd Prydain yn anterth ei nerth ar ddiwedd y Chwyldro Diwydiannol, oherwydd ei pholisïau o golledion masnachol ar gyfer ehangu’r Bunt a’r Ddinas yn Llundain yn ganolfan ariannol y byd, aberthwyd economi a chynhyrchedd Prydain nes ei hunanladdiad yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd roedd nerth Prydain wedi methu, yn colli ei statws ariannol fyd eang i’r Unol Daleithiau, a Llundain wedi colli canolfan ariannol y byd i Efrog Newydd. Serch hyn, o ludw ei chyn-oruchafiaeth ariannol, y dadenwyd y Ddinas yn Llundain fel ail ganolfan ariannol y byd, a phrif ganolfan cyfundrefn yr EwroDoler esblygodd wedi’r Ail Ryfel Byd, ynghŷd a chanolfannau bancio llai yn Ewrop, yn yr Almaen, Y Swisdir, Ffrainc a’r Eidal. Ffrwydrodd yr EwroDoler, neu bancio yn y cysgodion ar ôl diddymu’r Safon Aur yn 1971, a daeth i gawru dros y Doler mewn maint a chymlethder, yn enwedig yn yr Wythdegau, yn arddangos fel y Big Bang a dad-reolaethu sector ariannol Llundain. Roedd effeithiau’r Glec Fawr yn ddramatig, ag yn nhŷb nifer erbyn 2006 roedd Llundain unwaith eto yn brif ganolfan ariannol y byd, ag nid drwy gyd-ddigwyddiad hwn fyddai’n profi’n anterth y gyfundrefn EwroDoler hefyd.

Mae anterth yr EwroDoler (a Llundain) yn Awst 2007, pan mae rhywbeth tu fewn i’r gyfundrefn yn torri, wrth i ymddiried rhwng banciau Efrog Newydd a Llundain dorri lawr, mae Creisus Ariannol mwyaf ers y Ddirwasgiad Fawr yn y 1930au (ffynhonell)
Diweddodd prinderau’r EwroDoler efo Creisus Ariannol 2008 (fel yr oedd Satoshi’n cyhoeddi ei Bapur Gwyn) ag mae’n cael ei chofio fel un o greisusau gwaethaf hanes arian, ag fyth er hynny mae’r byd ag yn enwedig Prydain wedi dioddef o wendid menthyg ymysg y banciau, sgîl effaith o ddiffyg ymddiried a chwant am gymeryd risg sydd wedi cyfeithu fewn i lai o gread credyd sydd wedi brifo busnesau a’r economi yn gyffredinol, wrth i radd GDP fel un mesur o gynhyrchedd Cenedl ddioddef a thlodi gynyddu. Yn wir, er gorau ymdrechion y cyfryngau a’r wâsg draddodiadol i bapuro dros graciau 2008, mae nifer yn dechrau adnabod y cyfnod ers 2008 fel y Ddirwasgiad Fwy a’r Ddirwasgiad Dawel, nad oes neb ymysg economyddwyr, gohebwyr, nag o fewn y Trysorlys a’r Banc yn Lloegr eisiau ei drafod. Ymhellach, medr disgrifio’r bymtheng mlynedd ddiwethaf fel diwedd canoli’r byd o dan y term Seisnig “globalisation”, a medrir disgrifio prinderau EwroDolers fel dechrau’r datganoli, y gellid ei weld yn y gorthrwng gwleidyddol a “de-globalisation” y ddegawd ddiwethaf, mwyaf trawiadol ym Mhleidlais Brexit Gorffennaf 2016, a dyfodiad Donald Trump fel Llywydd yr Unol Daleithiau yn Nhachwedd 2016.
Mae sector Fancio y Ddinas yn Llundain wedi dioddef yn bellach ers Brexit, efo nifer o fanciau Ewrop yn symud o bencadlys ariannol Llundain, ag yn ôl i ganolfannau ariannol llai y Cyfandir, yn bennaf Frankfurt, sy’n gwanhau sector ariannol a gellir dadlau prif allfor Prydain yn yr Undeb sydd ohoni, gyda’n colledion a diffygion masnachol sy’n dibrisio ein arian, cyflymu diwedd ein diwydiant, cynyddu ein dyledion, ag yn magu dibyniaeth ar estroniaid a gelyniaid am yr egni a’r cynnyrch ddylai fod yn fater o ddiogelwch cenedlaethol i ni gynhyrchu gartref. Gyda dyledion Gwladol yn methu, mewn creisus egni a chostau byw, a sector fancio sy’n cyfyngu, sydd ar fîn creu y Ddirwasgiad a chreisus ariannol mwya ers 2008, ymddengys i’r awdur y bydd yn rhaid i Wledydd y Gorllewin, ag yn enwedig Prydain ail brisio seiliau cryfach i’w chyfundrefn ariannol a chyfrifo, drwy ailbrisio ag ariannu aur fel cyfalaf traddodiadol, ond hefyd ariannu Bitcoin a chrypto-cyfred fel cyfalaf arloesol, a hwn ydi’r rheswm mwyaf tebygol am symudiad y Blaid Dorïaidd a Phrydain (mewn gair, Llundain) fewn i “Hwb Crypto”, fydd wrth gwrs yn ddibynnol ar sut mae Llywodraeth Prydain yn rheolaethu y Gyfraith newydd sydd yn adnabod Bitcoin fel dosbarth ariannol newydd o fewn Undeb Prydain.
Yn nhermau cloddio Bitcoin ym Mhrydain, mae costau trydanol uchel ar gyfer unigolion a busnesau yn golygu heddiw, fod llai na 1% o bŵer y byd yn trigo yma, hefyd yn golygu fod Prydain yn ddibynnol ar fewnforio bitcoins o weddill y byd yn hytrach na’u cynhyrchu gartref. Ond ar yr ochr gadarnhaol, mae eithafion egni adnewyddol ag annibynadwy ym Mhrydain, yn denu cloddwyr bitcoin oherwydd bod mwy o wastraff yn golygu mwy o elw ar gyfer cwmnïau trydannol a chloddwyr, mor belled a bod prisiau’r egni gwastraff yma’n ddigon rhad i wneud cloddio’n hyfyw. Mae yna hefyd gyfle i Lywodraeth Prydain, er mwyn adeiladu cronfa Bitcoin genedlaethol, i arallgyfeirio trydan rhad o’i sector egni i gloddio a chreu bitcoins.
Dyfodol Cloddio Bitcoin Yng Nghymru
Mae ffawd ddaearyddol Cymru, yn ei adnoddau glo, nwy, dŵr, a hanes y niwclear y Gogledd, yn ei gwneud yn gyoethog mewn egni trydanol, ag yn allforwr egni o fewn yr Undeb, yn bennaf er mwyn trydanu poblogaeth anferth Lloegr. Fel mae’r awdur wedi dadlau yn y traethawd Torri’r Bunt i Dorri’r Undeb, fod tueddiadau technolegol y dair ddegawdd diwethaf yn yr Rhyngrwyd a Bitcoin yn arwain at ddatganoli, a hollti Undebau Ariannol y Gorllewin, yn yr Unol Daleithiau, Ewrop a Phrydain, a dyma’r trywydd byddwn yn ei ddilyn yng ngweddill yr adran hon.
Hyd yn oed yn achos yr Undeb Brydeinig yn torri lawr i’w Gwledydd Cartref, bydd is-adeiledd yr Ynys yn aros yn gysylltiedig, boed yn ffordd, rheilffordd, gamlas, neu rwydweithau egnïol, yn enwedig trawsyru nwy pibell a’r grid trydanol. Bydd hyn yn galluogi y Gwledydd Cartref brynu a gwerthu trydan rhwng ei gilydd, ac yn datblygu cystadleuaeth a pholisïau egni amrywiol efallai. Ni feder un Gwlad fynd yn or-ddibynnol ar drydan Gwlad arall heb beryglu Diogelwch Cenedlaethol ac Annibyniaeth Egni, felly bydd rhaid i Gymru ddatblygu ryw fath o strategaeth ar gyfer ariannu, datblygu a hybu pŵerdai egni o fewn Cymru, sy’n golygu y bydd rhaid i Addolwyr yr Hinsawdd ddioddef rhywfaint o lygredd a dinistr amgylcheddol. Dyma’r pris sydd rhaid ei dalu am drydan rhâd a dibynadwy i bŵeru holl dechnoleg ddigidol y Gymru fodern, ag rydym yn ffodus yng Nghymru drwy ffawd ddaearyddol ein bod yn gyfoethog mewn adnoddau naturiol ar gyfer creu egni, ag yn etifeddu nifer o bŵerdai adnewyddol adeiladwyd yng ngorffennol yr Undeb.
Fel mae’r siart ar Egni Yn Ôl Ar Yr Egni Wedi Fuddsoddi yn ei fynegi, dechreubwynt unriw Bolisi Egni ar gyfer cydnerthu Diogelwch Cenedlaethol ag Annibyniaeth Egni, ydi moratoriwm ar unryw brosiectau gwynt a haul pellach, a defnyddio be sydd ganddom yn barod am y ddeg i bymtheg mlynedd nesaf a chylch bywyd byr yr egni trychinebus yma, ag yn y cyfamser datblygu strategaethau ag estyn sybsidis Cenedlaethol i atgyfodi sector lo, nwy a niwclear Prydain, efo’u EYNAYEWF uchel a’u cylch bywyd 50 i 60 blynedd. Os ydi bryd Cymru fyth ar ddychwelyd ei diwydiannau trwm a chynhyrchu’r deunyddiau sy’n hanfodol ar gyfer dyfodol annibynnol gartref, yna bydd glo, nwy a niwclear yn gorfod bod yn ganolog i’r polisi hwn.
O ran cloddio am Bitcoin, mae addewid egnïol De Cymru’n yn hanesyddol mewn glo safon uchel a glân, ag os medrir adeiladu pŵerdai glo newydd lawr yn y De, yna bydd ffynhonell gystadleuol o drydan rhad a dibynadwy yn gwneud cloddio yn gystadleuol a diwydiant cloddio yn Ne Cymru’n hyfyw. Ond mae addewid disgleiriaf cloddio Bitcoin i bobol, cwmnïau neu Lywodraeth Cymru, yn ddios yn y Gogledd, gydag adnoddau niwclear a dŵr.

Byddai ail-ddatblygu safle Trawsfynydd drwy Adweithydd Modiwlaidd Bach yn creu trydan glân, rhad a dibynadwy, ag amcangyfrifon o 500-2600 o swyddi ar gyfer peirianwyr trydanol, mecanyddol, systemau a diogelwch (ffynhonell)
Mae dealltwriaeth o’r grid trydanol yn ei gwneud yn synnwyr cyffredin, ei bod llawer haws a rhatach trio ail-ddatblygu safleoedd niwclear hanesyddol nag adeiladu pŵerdai a chysylltiadau grid o’r newydd, ag felly mae’r debygolrwydd yn ffafrïo dyfodol niwclear Cymru i barhau yn y Gogledd. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisioes wedi sefydlu Cwmni Egino yn 2021 i ail-ddatblygu safle Trawsfynydd ar gyfer Adweithydd Modiwlaidd Bach a thechnoleg cenhedlaeth nesaf yn y sector Niwclear, i greu y trydan glân, rhâd a dibynadwy ar gyfer sylfaen ddiwydiannol a thŵf economaidd yn y Gogledd. Mae hefyd gohebiaeth ddiweddar fod gwaith is-adeiledd rhagarweiniol yn parhau ar Gynllun £20 Biliwn Wylfa Newydd ar gyfer unai Adweithydd newydd mawr, neu gyfres o Adweithyddion Modiwlaidd Bach. Byddai ail-ddatblygu’r ddwy safle yma yn hwb anferthol i Ogledd Cymru greu a denu diwydiannau newydd, ag yn chwarae fewn i addewid Gogledd Cymru fel hwb ar gyfer cloddio Bitcoin yn y dyfodol.

Rhestr fer gorsafoedd dŵr mwyaf Cymru (ffynhonell)
Gellir dadlau mae dŵr ydi adnodd mwyaf adnabyddus Cymru, ag ynghŷd a’i thirwedd fynyddig yn enwedig yn y Gogledd, drwy ffawd ddaearyddol mae afonydd a llynoedd Cymru yn estyn tuag at ffrwyno pŵer dŵr drwy orsafoedd hydro. Yn sefyll allan ar y rhestr fer uchod mae’r ddwy orsaf sy’n meddu ar bwmp i ailgylchu’r dŵr ar gyfer cylchoedd parhaus, yn dynwared gweithredoedd batri, ag yn gwneud hydro yn llawer mwy dibynadwy a gwerthfawr i grid trydanol cenedlaethol, ag yn ei annibynu o dywydd a glaw anwadal. Oherwydd fod natur y galw am drydan yn ansefydlog, efo pigau anferth mewn defnydd ben bore ag ar fîn nôs, cyn ag ar ôl gwaith, datblygwyd Gorsafoedd Hydro efo pwmp er mwyn cynhyrchu gorllwyth o drydan i wasanaethu’r defnydd yma ond am ychydig oriau’r dydd, tra yn yr oriau mân pan mae pawb yn cysgu a defnydd trydan ar ei isaf, mae’n bosib pwmpio’r dŵr yn ôl i fyny o’r gwaelod i’r top, i’w storio ar gyfer y noson wedyn. Er fod hi’n costio mwy mewn trydan i bwmpio’r dŵr yn ôl i fyny nag ydi ar ei ffordd i lawr, oherwydd fod yr orsaf yn gwerthu’r trydan i’r grid pan mae ar ei uchaf, a phrynu’r trydan i bwmpio’n ôl ar ei isaf, mae’n bosib gwneud elw tra hefyd yn amddiffyn miliynau o deuluoedd yng Nghymru a Gogledd Lloegr efo trydan dibynadwy pan mae’r galw mwyaf amdano.
Mae Gorsaf Ffestiniog yn medru cynhyrchu 1.4GWh am bedair awr parhaol ag yn seren beiriannol, ond mae engraifft Gorsaf Dinorwig yng nghrombil Eryri, yn cawru fel un o brosiectau egni a pheirianyddol mwyaf hanes Llywodraeth Prydain, yn cymeryd deng mlynedd (1974-1984) ag yn costio bron i hanner Biliwn oedd yn werth lot mwy hanner canrif yn ôl. Ond am y pris enfawr yma, mae Mynydd Gwefru Llanberis yn medru cynhyrchu bron i 2000MW o bŵer efo storfa o 9.1GWh, adnodd anhygoel o drydan fedr ei droi ymlaen ar fyr rybudd i leddfu straeniau ar y grid cenedlaethol. Bydd Hydro yn chwarae rhan bwysig iawn yn nyfodol egni Cymru o dan y drefn bresennol neu o dan drefn newydd.
Beth sy’n wir ar gyfer cwmnïau egni, sydd hefyd yn wir ar gyfer Llywodraethau Cenedlaethol. Fel drafodwyd yn gynharach, mae llond llaw o wledydd eisioes yn cloddio Bitcoin ar y lefel genedlaethol, ac oherwydd fod gridiau a diwydiannau trydanol yn nwylo cyhoeddus yn rhan fwyaf o wledydd y byd yn barod, fe ddyliai fod yn amlwg fod trawsdoriad Bitcoin rhwng egni a llywodraethau yn mynd i gyfarfod yn fuan iawn, dros y byd. Drwy droi trydan Cenedlaethol fewn i bitcoin, gall Wlad greu trysorlys Bitcoin neu setlo masnach rhyngwladol, fydd yn gwasgu ag yn gorfodi gwledydd eraill hefyd i gloddio am Bitcoin. Ag wrth edrych ar adnoddau cyfoethog Cymru mewn egni trydanol, o lo a nwy i niwclear, gwynt a dŵr, byddai Llywodraeth Cymru mewn safle cryf i gymeryd mantais mewn cloddio am bitcoin, ar gyfer y trysorlys, a gwariant a chyllid.
Am drafodaeth fwy trylwyr o Bolisi Egni Cymru Annibynnol, gweler Torri’r Bunt i Dorri’r Undeb: Rhan Tri – Dyfodol.
Diweddglo
Rydym mewn safle eithriadol o ddiddorol a chynhyrfus yn hanes Cymru, a’r byd yn fwy cyffredinol. Wedi pum canrif o ganoli ariannol a llywodraethol ers ein Diwygiad Protestanaidd anffodus wedi dyfeisiad y wâsg argraffu bapur, gellir dadlau fod anterth canoli’r gyfundrefn yn dilyn yr Ail Ryfel Byd neu ar ddiwedd y Saithdegau, ond y Nawdegau a phreifateiddio’r Rhyngrwyd oedd dechrau’r duedd aml ddegawdol o ddatganoli, yn dechrau efo gwybodaeth. Rydym yn y dair ddegawd ddiwethaf wedi myned i fywyd digidol, er gwell ag er gwaeth, ag wedi gollwng costau cyfathrebu i bron ddim, sydd wedi gweddnewid ein perthynas efo ein uchelwyr gwleidyddol, sydd yn awr yn sylweddoli grymoedd adweithiol y rhyngrwyd yn erbyn eu breuddwydion am ganoli a rheoli’r dyfodol a dinistrio’r Wlad ymhellach.
Wedi amharu ar gyfathrebu ag addysgu, y cyffindir nesaf ddigidol oedd masnach a’r symudiad araf ond cyson tuag at siopa arlein, sydd yn sicr wedi tarfu ar siopa stryd fawr traddodiadol a sydd hefyd wedi llusgo y banciau a’r gyfundrefn drethi i fewn i’r byd newydd digidol. Mae hi’n hollol ddiogel datgelu fod ein uchelwyr gwleidyddol a’n cyfundrefn fancio erbyn hyn mor gaeth a’r boblogaeth a’r sector breifat i ddyfodol digidol, fel y gwelwn heddiw gyda holl sensro gorffwyll yr hen drefn yn ofni colli ei monopoli dros ei ddinasyddion. Yr monopoli mwyaf sydd ar ôl, a’r olaf i’w darfu fydd yn troi yr holl fyd ben i waered, ydi monpolïau arian gwladol dros fasnach a dibrisio’r farchnad drwy chwyddiant a threthi.
Y cyffindir olaf i’r rhyngrwyd cyn datganoli’r byd i’w eithaf, ydi cystadleuaeth ariannol gan gystadleuwyr oes y rhyngrwyd, sydd yn diweddu efo dyfeisiad cyfundrefn gyfrifon ddatganoledig, digidol a chynhenid i’r rhyngrwyd, ag yn datrys Problem Cadfridog Bysantin, oedd gwendid angheuol yr hen oes ddigidol oedd yn gofyn cystodi canolog ag yn caethiwo i un pwynt o fethiant. Ers i Satoshi ddatrys y gwendid, yn sydyn iawn mae cyfundrefn ddatganoledig nid yn unig yn bosib, ond yn realiti sy’n mynd i barhau i reibio ag i lyncu y gyfundrefn ganolig rydym wedi gwario’r canrifoedd diweddar yn gaeth oddi mewn, ers 2009 mae Bitcoin wedi tyfu o ddim i faint rhyngwladol yn gwasanaethu degau o filiynau o bobol dros y byd, ag yn y dyfodol bydd mabwysiadu pellach i gannoedd o filiynau, cyn biliynau o ddefnyddwyr.
Wrth i ni basio Penblwydd Bitcoin yn bymtheg oed, rydym yn cyrraedd yr oes lle bydd Bitcoin yn symud o’r sector breifat i’r sector gyhoeddus, fydd yn gorfodi Gwledydd i fabwysiadu Bitcoin fel cyfalaf a stôr o werth mewn Trysorlysiau Cenedlaethol, yn ogystal a chloddio am Bitcoin yn defnyddio trydan cenedlaethol, fydd yn ffrwydro cystadleuaeth Gwladol ar gyfer diogelu llês eu poblogaethau cynhenid, a’r symudiad tuag at gyfreithloni a lleihau trethi ar Bitcoin. Gyda grymoedd datganoledig Bitcoin yn gweithredu ar lefel genedlaethol, bydd yn cyflymu ag yn esmwytho’r broses o ddienyddio Undebau Ariannol Rhyngwladol, ag yn sail hollbwysig ar gyfer y ffrwydriad mewn gwledydd bychain annibynnol newydd yr Unfed Ganrif ar Hugain, yn cynnwys Cymru Fach. Fel rhan o Annibyniaeth Gymreig, bydd Bitcoin hefyd yn dinistrio trethi a gwariant Senedd Caerdydd, ag yn gwanio rheolaeth a chrafanc soshalaidd y Blaid Lafur Gymreig dros Gymru sydd wedi diffinio’r Ganrif olaf yn hanes ein Gwlad, a’n rhyddhau ar gyfer dyfodol llewyrchus, lleol a hunan gynhaliol.
Mae costau egni yn ddios yn ffrwydro mewn arian gwladol, ond maent wedi dymchwel mewn bitcoin yn y ddegawd olaf, a dyma’r meddylfryd sydd angen ei werthfawrogi yn y blynyddoedd i ddilyn gan ddiwydiannau egni a thrydan y byd. Mae Bitcoin fel arian dad-chwyddiannol (deflationary) yn ysgogi hel a dal, ymysg unigolion ag yn y sector breifat am bymtheng mlynedd cyntaf ei fywyd, bydd y ddegawd nesaf yn gweld y sector gyhoeddus yn ei fabwysiadu, tra’n dinistrio ei farchnad ddyledion a’i gyllid gwariant yn yr hir dymor, ag yn llwgu’r anghenfil. Cymera’r arbrawf meddwl yma i’w derfyn rhesymegol, pan fydd holl Wledydd y byd yn cythru ag yn cwffio i gloddio niferoedd prinach o bitcoins ar gyfer eu trysorlys cenedlaethol a’u diogelwch cenedlaethol, bydd yn niddordeb bob gwlad i ddatblygu y trydan rhataf bosib i ennill mantais, yn gyrru’r ymchwiliadau Egni Yn Ôl Ar Yr Egni Wedi Ei Fuddsoddi, a datblygiad technoleg cenhedlaeth nesaf mewn egni niwclear.
Mae Geowleidyddiaeth, Diogelwch Cenedlaethol a Polisi Egni yn mynd i gyduno o gwmpas Bitcoin yn y dyfodol agos…
| DD/MM/Blwyddyn | Bil trydanol y DU ar gyfartaledd mewn punnoedd (£) | Bil trydanol y DU ar gyfartaledd mewn bitcoin (₿) |
| 31/03/2013 | £ 1,000 | ₿ 14.29 |
| 31/03/2014 | £ 1,100 | ₿ 4.10 |
| 31/03/2015 | £ 1,200 | ₿ 7.23 |
| 31/03/2016 | £1,300 | ₿ 4.48 |
| 31/03/2017 | £ 1,400 | ₿ 1.53 |
| 31/03/2018 | £ 1,500 | ₿ 0.30 |
| 31/03/2019 | £ 1,600 | ₿ 0.53 |
| 31/03/2020 | £ 1,700 | ₿ 0.30 |
| 31/03/2021 | £ 1,800 | ₿ 0.04 |
| 31/03/2022 | £ 1,900 | ₿ 0.05 |
| 31/03/2023 | £ 2,000 | ₿ 0.09 |
| 31/03/2024 | £2,100 | ₿ 0.03 |
Cyfrifo bil blynyddol mewn punnoedd, gydag chwyddiant blynyddol o 10%. Pris bitcoin wedi ddeillio o siart prîs CoinGecko
Derbynir Cyfraniadau Bitcoin yn Ddiolchgar:
bc1q49a3y9anq3a2pjqvq3gm8wj8aqqld3pnva9phwna2ftdar73mf3qak275j

Ysbrydoliaeth y Traethawd
