
Map daearwleidyddol y byd (ffynhonell)
Cyflwyniad
Traethawd i drafod amser cythryblus iawn yn hanes y byd dan gysgod Trydydd Rhyfel Byd, gyda creisusau economaidd a dyledion i gynyddu dros 2026 a 2027 wrth i’r PetroDoler wynebu ei fygythiad diweddaraf yng ngwyneb y rhyfel rhanbarthol yn y Dwyrain Canol, a pha rôl mae Bitcoin eisioes yn dechrau chwarae yn naear wleidyddiaeth ariannol y byd am y ddegawd nesaf.
Dechreuad – Gwers Hanes i Osod y Llwyfan
Yr un peth sylfaenol i ddeall am hanes ydi nad yw’n aros yn ei unfan, a bod hanes unrhyw wlad a’i phobol yn gylchred o lanw a thrai diwyllianol.
Rhaid i’r sbeis lifo! (ffynhonell)
Ym mhennod pump a chwech o’r Podlediad Arian Cymreig fe drafodwyd y troi drosodd diwylliannol hwn, yn enwedig wedi i ni fyned i’r oes ariannol tua Pum Canrif Cyn Crist. Tra sefydlwyd diwyllianau cyntefig yn dyfeisio ieithoedd, cyfreithiau a chyfrifo ar gyfer llywodraethu a threthu, roedd y rhain yn ddiwyllianau tirol ag yn esblygiad araf dros filoedd o flynyddoedd, o Swmeria, i’r Aifft, y Babiloniaid a’r Ffeniciaid, daw’r drefn gyn-ariannol i ben gyda goresgyniad Ymerodraeth Persia (Iran heddiw, ddigon diddorol?!) dros yr holl ddiwyllianau cynt, efo Cyrus Fawr yn y Chweched Ganrif Cyn Crist. Mae’r datblygiad i drefn ariannol hefyd yn adlewyrchu ehangiad ymerodraethau o’r tiroedd i’r moroedd, sydd yn gofyn modd ar gyfer cyfnewid dros gyfandiroedd tramor.
Y Persiaid yw’r cyntaf i sefydlu diwylliant ymerodraethol ddaeth i orchuddio hanner poblogaeth y byd ar droad y Bumed Ganrif, a maent yn sefydlu safon ariannol am y tro cyntaf sy’n dyrchafu eu gallu i ganoli a gweinyddu, ond sydd hefyd yn cyflymu llanw a thrai diwylliannau ariannol. Am y mil o flynyddoedd nesaf mae diwyllianau ariannol yn dominyddu hanes, o’r Atheniaid, i’r Macedoniaid i’r Rhufeiniaid, sydd drwy arian y Denariws yn ymerodraethu Ewrop a’r Dwyrain Canol am dros bum Canrif.
O ddymchwel Rhufain tua 500 Wedi Crist, mae Ewrop yn ymlwybro i’r Oesoedd Tywyll o ddatganoli gwleidyddol a diwylliannol, at lyfrau cyfrifo a threfn ffiwdal ynghlwm a’r tir, tra mae’r diwylliant ariannol yn cael ei fabwysiadu yn y Dwyrain gan grefydd newydd Islam, o’r Wythfed Ganrif mae’r Dinar, arian moslemaidd gyda’i enw’n tarddu o Denariws Rhufain, yn uno y Dwyrain Canol a dechrau ymledu dros Fôr y Canoldir, sy’n gwasgu gweddillion yr ymerodraeth rufeinig ar ffurff y byd Groegaidd Bysantin.
Mae’r canrifoedd nesaf yn gweld ymgeisiau’r byd Moslemaidd i goncro’r byd Cristion yn cynnwys yng Ngogledd Affrica a Phenryn Iberia, ag amddiffyniad y Gorllewin ar ofyn y Bysantiaid drwy’r bedair Groesgad rhwng y Ddeuddegfed Ganrif a’r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg, i waredu’r dylanwad moslemaidd o Ewrop a’r Dwyrain Canol. Tra bod llwyddiant mewn gwaredu’r moslemiaid allan o Benrhyn Iberia, mae’r Groesgad yn methu yn y Dwyrain Canol, sy’n diweddu yn y Bymthegfed Ganrif efo Ymerodraeth yr Otomaniaid yn concro Caergystennin (Constaninople) a diwedd yr Ymerodraeth Bysantin, a’r rhufeiniaid Groegaidd yn y Dwyrain.
Gyda’r Otomaniaid nawr yn gwbwl rheoli’r Dwyrain Canol a llwybrau masnach y lonydd Sidan a Sbeis rhwng y Dwyrain a’r Gorllewin, mae’r trethi a’r rheoliadau yn mygu cyflenwad i’r fath raddau, ei fod yn arwain yn uniongyrchol at yr Oes Ewropeaidd o Hwylio ag ymerodraethau morol, ac atgyfodiad ariannol.
Troeon Ffawd! (ffynhonell)
Mae’r oes o hwylio yn dechrau yn y Gwledydd Pabyddol yn dilyn ailgoncro Penrhyn Iberia, mae Portiwgal a wedyn Sbaen yn sefydlu gwladfeydd newydd yn Affrica ag Asia yn ogystal a darganfod y byd newydd ar gyfandir America. Mae ymerodraeth fyd-eang forwrol yn ysgogi dychwelyd trefn economaidd yn seiliedig ar geiniogau aur ac arian.
Mae Diwygiad Gogledd Ewrop o’r Unfed Ganrif ar Bymtheg yn dyrchafu gwledydd newydd Protestanaidd yn gystadleuwyr gyda’r gwledydd Pabyddol, yn enwedig yr Iseldiroedd sy’n Ymerodraeth fwyaf eang y byd yn ystod yr Ail Ganrif ar Bymtheg. Yn ychwanegol, mae’r Iseldiroedd yn esblygu trefn ariannol yn seiliedig ar fancio canolog, gyda datblygiad yr Amsterdam Wisselbank o 1609, sydd mewn effaith yn fanc canolog cyntaf y byd.
Dros y Ddeunawfed Ganrif mae Prydain a Ffrainc yn disodli’r Isediroedd fel yr ymerodraeth gryfaf, a mae Prydain yn esgyn i lynges fwyaf bŵerus byd yn sgîl eu buddugoliaethau yn y Rhyfel Saith Mlynedd sy’n diweddu’n 1763. Mae goruchafiaeth Prydain dros Ffrainc yn cael ei gadarnhau ym Mrwydr Waterloo yn 1815 ar ddiwedd deuddeng mlynedd costus Rhyfeloedd Napoleon.
Mae Prydain eisioes wedi mabwysiadu’r cysyniad o fanc canolog o’r Iseldiroedd, yn dilyn y Chwyldro Gogoneddus yn 1688 sy’n amnewid Albanwr lled-babyddol (Iago’r Ail) gyda Iseldirwr Protestanaidd (Wiliam y Trydydd), chwe mlynedd yn ddiweddarach sefydlir y Banc yn Lloegr yn 1694, ail fanc canolog hynaf y byd.
Yn ogystal ag ariannu llynges fwyaf bŵerus y byd mae banc canolog Lloegr yn chwarae rhan allweddol yng ngenedigaeth a ffyniant y Chwydro Diwydiannol sy’n trawsnewid Prydain i weithdy’r byd, ag ei gwladfeydd dros y byd yn farchnadoedd helaeth ar gyfer prynnu ei hallforion, mae Prydain yn dod i reoli’r byd drwy fercantiliaeth a’r Chwyldro Diwydiannol rhwng 1750 a 1850.
Ar ei anterth mae Prydain yn ailadrodd patrwm Portiwgal, Sbaen a’r Iseldiroedd, a symud oddi wrth allforion tuag at fewnforion, sy’n ad-gynnyrch o hawlio rhagorfraint ariannol y byd, sy’n gofyn allforio dy arian i fasnach gweddill y byd tra’n diddymu tollau ar fewnforion tramor. Ym Mhrydain mae hyn yn digwydd o dan Brif Weinidogaeth Robert Peel a thâd sefydliadol Gwladwriaeth Prydain fodern, gyda diddymu Deddfau Ŷd (tollau) a sefydlu deddfau ariannol yn canoli pŵer y Banc yn Lloegr, mae Prydain yn troedio llwybr rhyddfrydol fydd yn hollti’r blaid Geidwadol ag yn dinistrio gyrfa Peel.
Yn seiliedig ar Benbleth Triffin, sgîl effaith esgyniad Prydain i ariannwr y byd ydi disgyniad ei ddiwydiant drwy allforio grymoedd mercantilaidd i weddill y Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau a’r Almaen, sydd drwy fercantiliaeth yn araf erydu goruchafiaeth Prydain. Wedi bod yn ddwbwl maint economi’r Unol Daleithiau yn 1850, erbyn 1900 mae economi Prydain yn ond hanner maint America ag yr un maint a’r Almaen, sy’n creu argyfwng gynyddol o fewn Prydain a gweddill Ewrop, sy’n anochel yn ein arwain at y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’r Rhyfel Byd Cyntaf yn berwi lawr i ymryson hîl-laddol rhwng grym sefydliedig Prydain a grym sefydliadol yr Almaen, ynghŷd a llusgo gweddill y byd fewn i’r frŵes. Yn wir roedd bygythiad gwirioneddol y byddai’r Almaen yn ymerawdu Ewrop yn gorfodi Prydain i lobïo ei chyn wladfa, oedd ers Datganiad Annibyniaeth 1776 wedi dyfod yn wlad mwyaf llewyrchus y byd, y prîs roedd rhaid i Brydain ei dalu am drechu’r Almaen oedd sefydlu ei dibyniaeth milwrol ar yr Unol Daleithiau i ennill rhyfeloedd, sy’n dechrau’r cloc ar Ymerodraeth America. Yn ogystal a dymchwel Ymerodraeth yr Almaen, mae’r Rhyfel Mawr yn rhoi diwedd i Ymerodraeth Awstria Hwngari a hollti canoldir Ewrop, Ymerodraeth Rwsia sy’n chwalu Dwyrain Ewrop ag Ewrasia gan eni’r Undeb Sofietaidd, a mae grym pum canrif oed yr Ymerodraeth Otomanaidd yn dymchwel gan ddisefydlogi’r Dwyrain Canol, drwy gynllun Sykes-Picot mae ardaloedd o ddylanwad Prydeinig a Ffrengig yn y rhanbarth yn llenwi’r gofod.
Wedi’r Rhyfel, mae’r ymgais i ailadeiladu Ewrop ddemocrataidd o dan warchae gan y symudiad rhyngwladol Comiwnyddol, yn gyrru adwaith pleidiau cenedlaethol gwrth-gomiwnyddol, gyntaf yn yr Eidal efo Mussolini, wedyn yn yr Almaen efo Hitler, ag yn Sbaen efo Franco. Mae atgyfodiad diwydiannol yr Almaen, a thensiynnau a dial yn deillio’n uniongyrchol o’r Rhyfel Byd Cyntaf yn adeiladu ar gyfer yr Ail Ryfel Byd, yn ymchwyddo oherwydd Dirwasgiad Fawr y Tridegau a’r ymryson economaidd rhwng gwledydd.
Mae’r Ail Ryfel byd fel y cyntaf, yn frwydr rhwng yr Almaen a’i brif gymdogion cyfandirol yn ffurff Ffrainc ar y blaen Gorllewinol a’r Undeb Sofietaidd ar y blaen Dwyreiniol. Yn y dyddiau cynnar mae buddugoliaeth i’r Almaen yn edrych yn debygol, cyn ymrwymiad Prydain i’w ail ryfel, ag am yr eilwaith yn llusgo’r Unol Daleithiau i fewn i’w ail ryfel byd, ag oherwydd ei faint economaidd a’i gyfoeth roedd grym y Cyngrheiriaid yn gwarantu trechu a dinistr y Drydedd Reich, a dylanwad yr Almaen o fewn cyfandir Ewrop.
Yr Ail Ryfel Byd a’r Trawsnewidiad Ymerodraethol

Yr ailstrwythuriad ariannol mwyaf mewn Canrif (ffynhonell)
Medrir yn hawdd ddadlau fod yr Unol Daleithiau eisioes yn wlad mwyaf pŵerus y byd erbyn diwedd y Rhyfel Mawr, er nad oedd yn meddiannu rhagorfraint ariannol y byd nac yn meddu ar rwydwaith byd-eang milwrol Prydain, a byddai goruchafiaeth llawn yn cymeryd nes blwyddyn olaf yr Ail Ryfel Byd. Roedd canolfan ariannol y byd wedi symud o Ddinas Llundain i Efrog Newydd yn raddol dros yr Ugeiniau, ag o fynediad yr Unol Daleithiau i’r rhyfel gorfodwyd Prydain i drosglwyddo ei hisadeiledd milwrol byd-eang drwy Ddeddfau Lês Benthyg o 1941, trosglwyddodd llynges fwya bŵerus y byd i’r Unol Daleithiau yn sgîl Bwydr forol Midway yn y Cefnfor Tawel ym Mehefin 1942.
Dros Orffennaf 1944 sefydlwyd Safon Coed Brython, a throsglwyddiad swyddogol rhagorfraint ariannol y byd i’r Unol Daleithiau, ar ffurf Safon Aur gyfnewidiol lle’r oedd posib cyfnewid gweddill ariannoedd y byd am ddoleri a’r cronfeydd aur yn eu cefnu. Mewn effaith mae’r gytundeb yn ailadrodd y patrwm hanesyddol lle mae gwlad gryfaf y byd yn gorfod newid o economi yn seiliedig ar allforion cenedlaethol neu fercantiliaeth, tuag at fewnforio diwydiannau gweddill y byd drwy fasnach rhydd, ag ar hynny mae’r cloc yn dechrau cyfrif ar oruchafiaeth Gorllewinol yn y Rhyfel Oer gyda’r Dwyrain.
Argyfwng Siwes – Diwedd Dylanwad Prydain a Ffrainc yn y Dwyrain Canol
Mae’r tebygrwyddau rhwng Blocâd y Siwes a Blocâd Hormŵs yn anodd i’w hanwybyddu (ffynhonell)
Mae Argyfwng Camlas Siwes yn digwydd ond ddegawd wedi’r rhyfel, ag yn ragolwg diddorol ar ein sefyllfa gyfredol y mae’r Unol Daleithiau yn ei ailadrodd heddiw. Y sbarc i danio’r argyfwng oedd penderfyniad yr Aifft i genedlaetholi Camlas Siwes oedd ym mherchnogaeth Prydain, sy’n adlewyrchu symudiad diweddar Iran i genedlaetholi Culfor Hormŵs. A fel dechreuodd yr Unol Daleithiau ar gyrch awyr i fomio Iran i drio torri blocêd yr Hormŵs, y dechreuodd cyrchoedd awyrluoedd Prydain a Ffrainc i fomio’r Aifft i dorri blocêd y Siwes, yn gwbwl aneffeithiol. Yn wir gellir dadlau mae dim ond ymgyrch filwrol ar y tir fyddai wedi medru dadwneud blocêd y Siwes fel yn achos yr Hormŵs, yn achos y Siwes doedd gan Brydain na Ffrainc y fyddin na’r grym rhyngwladol i’w gyflawni, ag mewn un o brin gytundebau rhwng yr Unol Daleithiau a’r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer, daeth y ddau at ei gilydd fel Aelodau Parhaol ar Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i bleidleisio yn erbyn Prydain a Ffrainc, a dod a diwedd u’w goruchafiaeth yn y Dwyrain Canol, gan gyflwyno cyfnod dylanwad yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol.
Y Saithdegau – Sioc Nixon a Diwedd y Safon Aur, Dechrau’r Safon Olew a’r PetroDoler

Nixon a Kissinger yn y Dwyrain Canol (ffynhonell)
Er gwaethaf ymdrechion yr Unol Daleithiau i ailstrwythuro o amgylch y Doler gyda Safon Coed Frython, roedd Penbleth Triffin sydd yn wynebu rhagorfraint ariannol y byd wedi taro eto fyth yn yr Amerig, oedd wedi buddiannu Ewrop ers y rhyfel drwy brynnu ei hallforion, tra ar y llaw arall roedd ei chronfeydd aur wedi hanneru o oddeutu 16,000 tunell i lawr i 8,000 erbyn diwedd y Chwedegau. Yn ogystal, roedd America wedi defnyddio ei braint eithriadol o fedru argraffu doleri allan o awyr iach i ariannu ehangiad y wladwriaeth lês gartref ac ehangu ei rhyfeloedd tramor yn erbyn y bwgan comiwnyddol yn y Dwyrain. Daeth Ewrop i boeni y byddai gwerth y Doler yn dirywio’n bellach, ag eisioes wedi bod yn araf wagio’r trysorlys o’i aur ers blynyddoedd, erbyn dechrau’r Saithdegau i atal y llîf penderfynodd llywodraeth Richard Nixon bod rhaid cau’r ffenest euraidd gan adael y Doler heb angor i brinder, yn y ddegawd y gwelodd y byd y Chwyddiant Mawr.
Gyda’r Unol Daleithiau angen angor newydd i’r Doler, yn y Saithdegau cymerodd fantais o’i ddylanwad newydd yn y Dwyrain Canol i drosglwyddo i’r Safon Olew. Cyfarfu Henry Kissinger yn bennaf gyda arweiniaeth Sawdi Arabia, i ddod i gytundeb y byddent yn gwerthu eu olew am ddoleri, ac yn fodlon ailgylchu’r doleri fewn i brynnu trysorlysiau a dyledion cenedlaethol yr Amerig. Mewn cyfnewid, byddai’r Unol Daleithiau yn peiriannu codiad arswydus ym mhrîs olew yn y Saithdegau fyddai’n tlodi defnyddwyr olew yn y Gorllewin, ond yn cefnogi gwerth y safon olew ag yn gwneud allforwyr olew y Dwyrain Canol yn anhygoel o gyfoethog, a chynyddu eu gallu i ddylanwadu ar wleidyddiaeth America drwy’r cyfoeth. Ymhellach byddai’r Unol Daleithiau yn gwarantu parhâd y drefn newydd drwy gynnig gwasanaeth diogelwch yn ffurf ei byddin a’i llynges a’i awyrlu i amddiffyn ei phartneriaid yn erbyn grymoedd unrhyw gystadleuaeth, a mae pob rhyfel yn y Dwyrain Canol ers hynny wedi bod i amddiffyn y drefn yma, ar draul gwaed a dioddef gwledydd megis Irac, Affganistan, Libya a Syria.
Mewn effaith, dyma’r drefn bron chwech degawd oed sydd dan fygythiad heddiw gan y rhyfel diweddaraf yn y Dwyrain Canol, sef y rhyfel yn Iran.
Hanes yr Unol Daleithiau ag Iran

Rhwng dwy Ymerodraeth Orllewinol – Gêm Fawr ddaearwleidyddol y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (ffynhonell)
Mae hi’n bwysig dwi’n credu, i roi ychydig o gyd-destun hanesyddol i gefnu’r rhyfel presennol rhwng yr Unol Daleithiau ag Iran. Er fod anterth hanesyddol Iran o dan y Persiaid fel drafodwyd eisioes a bod Iran wedi bod yn fynwent ymerodraethol i nifer o ymgeiswyr rhanbarthol dros y canrifoedd, gydag estyniad grym y Gorllewin dros y Ddeunawfed a’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, daeth Iran yn gyffindir daearwleidyddol yn y Gêm Fawr rhwng Prydain a Rwsia. Yn yr Ugeinfed ganrif daeth gelyniaeth Prydain a’r Undeb Sofietaidd a’r ddau at ei gilydd ar gyfer y goresgyniad Eingl-Sofietaidd dros Wladwriaeth Ymerodraethol Iran fel aelod niwtral yn yr Ail Ryfel Byd, yn Awst 1941.
Wedi’r Rhyfel, o dan Brif Weinidogaeth Mohammad Mosaddegh ymgyrchodd Iran am ei sofriniaeth drwy genedlaetholi y diwydiant olew oedd ym mherchnogaeth Prydain, ag i atal hyn fe gynllwyniodd y gwasanaethau cudd ar ffurf y CIA a MI6 i ddileu democratiaeth a Mosaddegh yn 1953, am reolaeth Teulu Brenhinol y Shah, ag eu taeogaeth i ddylanwad Eingl-Americanaidd.
Wedi chwarter canrif o deyrnasiad llym y Shah dan ddylanwad Gorllewinol, roedd Iraniaid cyffredin wedi syrffedu gymaint a codi chwyldro, ag yn sgîl protestio a gwrthryfel oddeutu deg y cant o’r boblogaeth daeth y Chwyldro Islamaidd, refferendwm cyhoeddus o bron gant y cant o blaid dros sefydlu’r Weriniaeth Islamaidd, a gosodiad yr Ayatollah Khomeini fel Uwch Arweinydd.
Yr adwaith Orllewinol i’r fath hyfrdra weriniaethol oedd gwario’r wyth mlynedd nesaf rhwng 1980 a 1988 yn annog, ariannu ac arfogi anturiaethau Saddam Hussein yn Rhyfel Irac-Iran, yn cynnwys defnydd llydan arfau cemegol yn erbyn Iraniaid, mewn rhyfel laddwyd hanner miliwn.
Wedi dod i heddwch ar ddiwedd yr Wythdegau, mae hi wedi bod yn bolisi Gorllewinol i lwgu Iran drwy sanctiynau economaidd, gwaharddiadau ar ddefnyddio Doleri i fasnach, a thlodi pedwar degawd i boblach Iran sydd wedi’w gwasgu rhwng arweinyddiaeth lym Islamaidd, a chosbau economaidd llym yr Unol Daleithiau. Gobaith America oedd y byddai’r caledi bywyd yn arwain y cyffredin yn Iran i orchfygu a gwaredu’r arweinyddiaeth, ond mewn realiti mae sanctiynau wedi gwaedu a chyfangu’r dosbarth canol sydd ond wedi cryfhau’r arweinyddiaeth, er protestiadau ysbeidiol. Nid yw hyn i ddeud fod y Weriniaeth Islamaidd yn arbennig o boblogaidd ymysg Iraniaid cyffredin, ond eu bod yn cofio ymyrraeth wleidyddol y Gorllewin yn eu hanes, ag felly’n fwy pleidiol tuag at yr arweinyddiaeth bresennol na be fyddai’n dod yn ei le dan law’r Gorllewin.
Mae’r Gorllewin wedi cymeryd Iran yn ysgafn dan yn ddiweddar, gan dybio y byddai eu dylanwad economaidd a milwrol dros weddill y Dwyrain Canol yn araf danseilio’r Weriniaeth, ag yn dod a’r wlad i’w gliniau.
Strategaeth Filwrol yr Unol Daleithiau
Mae strategaeth filwrol yr Unol Daleithiau yn ddisgwyladwy a heb newid llawer yn ei hanes. Tacteg hanesyddol America ydi “shock and awe”, hynny ydi bomio llynges, awyrlu, amddiffynfeydd awyr, ag isadeiledd, ynghyd a thacteg sioc ag ofnadwyaeth Israel o lofruddio arweiniaeth yr IRGC, fyddai’n ddigon i ddymchwel y drefn a dod a Iran i’w gliniau, a gorfodi termau heddwch arni.
Gwta chwe mis i fewn i’r rhyfel a dydi’r tactegau yma heb weithio, wrth i America gael ei llusgo’n ddyfnach fewn i ryfel hirdymor arall y mae’n ymrwymedig i’w cholli. Fel mae hanes goresgyniadau Americanaidd yn ei amlygu, nid ydynt yn perfformio’n dda mewn rhyfel hir dymor, fel y darganfyddwyd yn Nghorea, Fietnam, Irac ac Affganistan. Yr hiraf aiff y rhyfel yn ei flaen, y mwyaf mae’n mynd i gostio mewn arfau gynyddol brin, creisus costau byw Americanaidd a’i Gyngrheiriaid yn y Gorllewin ac yn Asia ynghŷd a dirwasgiad byd-eang gynyddol, y mwyaf bydd ewyllys da gweddill y byd ar gyfer yr antur ddiweddaraf yn y Dwyrain Canol yn gwaedu allan.
Strategaeth Filwrol Iran
Ar yr ochr arall mae strategaeth Iran yn un amddiffynol, gan ddefnyddio ei thiriogaeth gelyniaethus yn erbyn ymosodiad milwrol gan yr Unol Daleithiau, a dibynnu ar daflegrau a drônau gymharol rhad eu cynhyrchu o’i gymharu a’r gelyn. Nid oes gan Iran fawr o lynges nag awyrlu gwerth sôn amdani, ond mae ganddi fyddin o oddeutu miliwn o ddynion yn ychwanegol at y Giard Chwyldroadol, ynghŷd a thirwedd fynyddig gwlad sydd a’r un arwynebedd a Gorllewin Ewrop, oddeutu 90 miliwn o bobol yn trigo ynddi, ag yn ffinio ar anialwch anrhugarog Irac. Byddai unrhyw ymgyrch filwrol ar y llawr gan yr Unol Daleithiau i fewn i Iran yn cymeryd o leiaf cannoedd o filoedd o filwyr.
Strategaeth Iran ar gyfer enill y rhyfel yn ddigon syml ydi codi costau anferthol ar Yr Unol Daleithiau, ei Chyngrheiriaid, a gweddill y byd dros amser, fydd yn gwaedu bywyd pellach o economïau gwantan a marwol Prydain ag Ewrop, ynghŷd a gwaedu pŵer a rhagolygon Trump yn yr etholiadau canol dymor i ddod ym Mis Tachwedd. Mae’r ffrwydriad yng nghostau petrol a dîsyl yn yr Unol Daleithiau yn y misoedd diwethaf wedi dyfod yn bwnc llôsg i wlad sy’n hynod deimladwy tuag at gostau tanwydd, ag wrth i brinderau olew waethygu bydd costau tanwydd yn brathu’n waeth.

Map daearwleidyddol hollbwysig y Dwyrain Canol (ffynhonell)
Yn ogystal a rhoi cosbau economaidd enbyd ar yr Unol Daleithiau, mae Iran wedi penderfynu cosbi Gwledydd y Gwlff o’i chwmpas, er mwyn eu gwasgu fewn i gornel sy’n eu hybu i ddiarddel yr Unol Daleithiau allan o’r Dwyrain Canol. Fel a drafodwyd eisioes, mae safon y PetroDoler yn seiliedig ar olew y Dwyrain Canol a’r cytundebau darwyd rhwng yr Unol Daleithiau a Sawdi Arabia yn nechrau’r Saithdegau, a sydd heddiw yn cynnwys yr UAE, Ciwait, Oman, Catar, a Bahrain, sy’n ffurfio Cyngor Cydweithredol y Gwlff (GCC). Wedi ei amgylchynu gan elynion sy’n ufudd i’r Americaniaid, wedi’r ymosodiadau cyntaf ar y 28ain o Chwefror, fe ddefnyddiodd Iran ei thaflegrau a dronau i daro targedau yn holl wledydd y GCC, sydd wedi dinistrio degau o safleoedd milwrol oedd gan yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, yn ogystal a tharo gweithiau olew a nwy sydd yn araf ddinistrio’r gwledydd hyn. Yn bellach mae Iran wedi rhybuddio Gwledydd y Gwlff, y bydd ymosodiadau pellach ar Iran gan yr Unol Daleithiau neu Israel yn golygu bydd y don nesaf o ymosodiadau yn targedu isadeiledd trydanol a dad-halennu dŵr y Dwyrain Canol, yn beryg iawn yn dod a bywyd i ben i bob pwrpas yn y gwledydd hyn ar benrhyn sych Arabia. Y gôst mae Iran wedi pendefynu ei roi ar Wledydd y Gwlff am eu teyrnfradwriaeth Gorllewinol (yn llygaid Iran) ydi bygwth eu dyfodol, ag eu gwasgu fewn i waredu cyfundrefnau milwrol ac ariannol yr Unol Daleithiau allan o’r Dwyrain Canol.
Defnyddio Damcaniaeth Gêm I Ddarogan Dyfodol Y Rhyfel
Mae’r strategaethau wedi drafod uchod yn peri nifer o gwestiynau difyr a dwfn am gymhelliadau chwaraewyr y gëm gyda goblygiadau difrifol farwol.
Gyda gobaith yr Unol Daleithiau am ryfel ymosodol byr drosodd, y maent yn ddibynnol ar eu sanctiynau a blocâd Culfor Hormŵs yn gorfodi Iran i’w gliniau ag i ddod at y bwrdd i gyd-drafod termau eu gorchfygiad, sydd o gysidro eu hanes o ymladd i’r pen, yn enwedig eu rhyfel amddiffynnol wyth mlynedd yn erbyn Irac Sadam Hussein yn yr Wythdegau, yn anhebygol i mi o leiaf. Namyn ildiad byrdymor gan Iran, bydd rhyfel hirdymor yn gwastraffu fwy o ewyllys da’r Unol Daleithiau gyda gweddill y byd, yn ei sugno fewn i ymgyrch filwrol ar y llawr a bygwth ailadrodd trychinebau Fietnam, Irac ag Affganistan, y drafft milwrol Americanaidd cyntaf mewn pum degawd, a chreisus gwleidyddol ynghŷd a chreisus costau byw mewnwladol. Y ffordd rhataf allan o’r potes mae Donald Trump wedi ei greu ydi ildio i amodau Iran er mwyn atal y ddirwasgiad fyd-eang mae prinderau olew yn mynd i’w greu eleni, ond rhaid deall byddai hyn yn orchfygiad strategol ac yn newid gwyneb daearwleidyddiaeth y byd, mewn effaith yn cicio’r Unol Daleithiau allan o’r Dwyrain Canol. Byddai darostyngiad o’r fath yn cadarnhau diwedd yr Unol Daleithiau fel grym un-pegwn y byd, diwedd eu dylanwad dros ganolfan olew a nwy y Dwyrain Canol, a chymynrodd trychinebus i arlywyddiaeth Donald Trump.
Yn adlewyrchu disgyniad yr Unol Daleithiau, mae esgyniad Iran o gefnddwr grym yn y Dwyrain Canol i uchafiaeth yn y Rhanbarth. Gynt yn waniedig dan ddegawdau o sanctiynau Gorllewinol ac wedi’w amgylchynu gan gyngrheiriaid oedd yn lletya gorsafoedd milwrol ag yn dioddef yr ymosodiad cyntaf, ers ei gwrth-ymosodiad mae Iran fwyaf sydyn wedi llusgo’r Unol Daleithiau i ryfel hirdymor costus, ynghŷd ag ymosod ar holl wledydd y Gwlff i annog holltiadau ymysg y cynghreiriaid dan fygythiad eu parhâd hir dymor. Yr hiraf mae Iran yn medru gwasgu ei elynion daearwleidyddol, y cryfaf daw ei ddylanwad yn y Dwyrain Canol, er y costau enbyd a chaledi byrdymor.
Mae Cyngor Cydweithredol y Gwlff yn awr mewn caethgyfle! Gynt roeddent wedi cymeryd yn ganiatâol byddai gwarantau diogelwch yr Unol Daleithiau yn eu hamddiffyn yn erbyn gormes Iran yn y rhanbarth, ag ers y Saithdegau hefyd wedi prynnu’n llawn i fewn i’r PetroDoler, ag yn ganolfan bwysig ar gyfer lledaenu’r Doler i weddill y byd. Gydag blocâd Iran ar Gulfor Hormŵs ynghŷd ag ymosodiadau taflegrau a drônau ar isadeiledd olew a nwy, yn ddigon sydyn mae economïau diwydiannol a thwristiaeth y Gwlff yn y fantol. Gydag allforion olew, nwy, gwrtaith a heliwm wedi eu amharu os nad ar stop yn gyfangwbwl, does dim Doleri nag incwm yn dod i fewn i’r Gwlff sy’n bygwth eu gwledydd a iechyd y Doler ar yr un pryd. Yn ogystal mae diwydiant twristiaeth y Gwlff fel gweithfan a lloches i nifer yn ffoi gor-dreth a gor-reolaeth Prydain ag Ewrop hefyd yn cyfrannu cyfoeth a thŵf economaidd lleol, bellach ar gyfeiliorn. Mae gan ymosodiadau Iran goblygiadau anferthol ar gyfer dyfodol model economaidd y Gwlff, ag yn enwedig fel canolfan Doleri a Americanaidd dros y Dwyrain Canol wrth edrych allan am Asia. Mewn effaith mae Iran wedi gorfodi gwledydd y Gwlff i wneud penderfyniad: parhau i fod yn daeogion Americanaidd a tharged pellach i arfau ymosodol arswydus Iran, neu taro heddwch a chlosio at Iran (a’r Dwyrain) drwy ddiarddel yr Unol Daleithiau o’r rhanbarth. Mae gwledydd y Gwlff yn rhaniedig, ag i aros yn gyfun, er dyheadau Sawdi Arabia a’r UAE i ddial ar Iran am ei ryfel arnynt, undeb fydd eu nerth wrth benderfynu os mae’r Dwyrain ynteu’r Gorllewin yw eu dyfodol.
Efallai dyliau Israel fod yn uwch a hyd yn oed ar ben y rhestr, o gysidro mae’n debygol mae ei “ddeallusrwydd” milwrol a thafod mêl Benyamin Netanyahu berswadiodd y Donald fewn i’r rhyfel i ddechrau, gan gysidro grym ac arian y lobi Isrealaidd yn yr Unol Daleithiau i ddylanwadu mor drwm ar ei gwleidyddiaeth, a’i pholisîau tramor a’i chefnogaeth tuag at y prosiect Israelaidd. Yn wir, ers ei dechreuad modern mae Israel wedi bod yn wladfa Orllewinol yn y Dwyrain Canol, o’i tharddiad gyda mewnfudiad Iddewon Rwsia a Dwyrain Ewrop ar ddiwedd yr Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, y Mandad Prydeinig dros Balesteina wedi’r Rhyfel Mawr gydag allfudiad pellach Ewropeaidd yn llanast hanner canrif cyntaf yr Ugeinfed Ganrif, ag ar ei ddiwedd sefydlu Israel fel gwlad gan y Cenhedloedd Unedig yn 1948. Wedi i Brydain dynnu allan ac yn sgîl ei ddarostyngiad yn Argyfwng Siwes, mae’r Unol Daleithiau wedi ysgwyddo’r baich o ariannu ac arfogi Israel hyd heddiw. Mae’r rhyfel gydag Iran wedi amlygu i’r byd, ond yn enwedig tu fewn i’r Unol Daleithiau, y berthynas llosgachol gydag Israel, sydd yn cynyddu’r tensiwn a’r berthynas rhwng y ddwy wlad. Yn wir, nid wyf yn ei deimlo’n ddadleuol i ddweud fod yr Israel fodern yn gwbwl ddibynnol ar arian ac arfau Americanaidd am ei dyfodol, a mae dirywiad grym a dylanwad America ers dechrau’r rhyfel yn adlewyrchu dirywiad dylanwad daearwleidyddol Israel yn y rhanbarth, ag yn ei adael wedi ei ynysu gyda gelynion rhanbarthol llawer mwy yn codi, megis Iran a Twrci. Gyda poblogaeth o ddim ond deg miliwn o bobol i fyny yn erbyn gelynion gydag degau o filiynnau, mae gwendid a dibyniaeth Israel ar y Gorllewin yn amlwg. Israel ydi collwr mawr y rhyfel yn fy marn i wrth i gydbwysedd grym symud tua’r Dwyrain.
Yn awr at chwaraewyr fwy ymylol, a thrafodaeth byr ar sefyllfa Ewrop a Phrydain o fewn y cawl. Wedi etifeddu rheolaeth dros y Dwyrain Canol gan yr Ymerodraeth Otomanaidd wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, daeth y rheolaeth i ben yn effeithiol yn sgîl creisus Siwes yn 1956, fe gollodd Prydain a Ffrainc eu holl dylanwad yn y Dwyrain Canol wrth ei ildio i’r Unol Daleithiau, a fyth ers mae Ewrop a Prydain wedi bod yn daeogion ail ddosbarth i bolisi tramor Americanaidd. O ehangiad NATO i’r Dwyrain yn bygwth ffiniau Rwsia o’r Nawdegau, rhyfeloedd hanner call i chwythu fyny’r Dwyrain Canol ar droad y Mileniwm, a mabwysiadu syniadau bondigrybwyll egni adnewyddol a Rhyfel yr Wcrain yn fwy diweddar. Mae gor-ddibyniaeth llywaeth ar yr holl salwch meddwl yn dod allan o America wedi gadael Ewrop a Phrydain yng ngeiriau’r anfarwol Gerallt Lloyd Owen, yn “wymon o ddynion heb ddal tro’r trai.” Wel mae’r trai yma, mae dylanwad America fel un-pegwn y ddaear drosodd, mae ei ddylanwad yn y Dwyrain Canol yn dod i ben, mae’n tynnu ei filwyr allan o Ewrop gan araf ddarn ladd NATO, ar ôl llusgo Ewrop fewn i’w ehangiad i’r Dwyrain ag i fewn i ryfel yn yr Wcrain. Mae’r Unol Daleithiau wedi rhoi’r gorau i drio torri Rwsia ag am bob pwrpas wedi tynnu allan o’r rhyfel, gan adael Ewrop a Phrydain fel cŵn sy’n cyfarth ond heb frathiad, yn bendefynol o fynd yn bellach lawr y lôn drychinebus at egni adnewyddol, yn dad-ddiwydiannu, ag yn ddibynnol ar brynnu arfau Americanaidd nad oes digon yn cael eu cynhyrchu efo arian nad oes ganddynt, ac wedi benthyg cannoedd o biliynnau i’r Wcrain na fyddant byth yn ei dderbyn yn ôl. Mae’n anodd i mi grynhoi faint mor sorllyd ac anobeithiol ydi cyflwr gwladol a rhyngwladol Ewrop a Phrydain, dwy Undeb fydd yn fy marn i yn dymchwel rhywfath yn debyg i Ymerodraethau Awstria-Hwngari a’r Otoman ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r Undeb Sofietaidd ar ddiwedd y Rhyfel Oer. Mae lleoliad daearyddol Prydain ag Ewrop yn eu lleoli rhwng yr Unol Daleithiau ag Asia, sydd yn adlewyrchu’r dewis daearwleidyddol sydd ganddynt i ddod; parhau fewn i ryfel uniongyrchol efo Rwsia a’i gyngrheiriaid Dwyreiniol fydd yn debyg yn ryfel niwclear (nad oes gan Ewrop tu allan i Ffrainc gyda llaw), neu torri’r “berthynas arbennig” efo’r Unol Daleithau drwy ddychwelyd at egni rhad Rwsia a pherthnasau masnach a thechnegol Tseina a gweddill y Dwyrain, sy’n esgyn mewn grym a dylanwad yn erbyn y Gorllewin.
Rydym dal yn disgwyl dalfa y dihiryn yn achos chwythu’r NordStream, a phlymio’r Almaen fewn i greisus egni fydd yn eu gorfodi i dynnu plwg ar yr Undeb Ewropeaidd. Unrhyw ddyfaliadau ar bwy?! (ffynhonell)
Er y byddwn yn cysidro Rwsia a Tseina yn fwy o gymeriadau ymylol yn y rhyfel hyd yn hyn, mae gan Tseina gysylltiadau masnach agos a mae gan Rwsia gysylltiadau masnach a milwrol gydag Iran, mae’n werth trafod eu sefyllfa yn y potes. Medrir dadlau fod Rwsia fel un o allforwyr olew, nwy a gwrtaith mwyaf y byd wedi elwa fwyaf o’r creisus egni hyd yn hyn, gyda phrisiau uwch a pherthnasau cynyddol gyda gwledydd sy’n sgrechian am egni rhad a dibynadwy, ag mewn effaith yn talu am y rhyfel yn yr Wcrain am y flwyddyn yma o leiaf. Mae Tseina fel mewnforwr egni yn deillio llawer o’i olew, nwy a gwrtaith drwy Gulfor Hormŵs ag yn un o gwsmeriaid gorau Iran, ond ar y llaw arall mae rhyfel Iran wedi buddiannu Rwsia a Tseina, drwy dynnu sylw ac adnoddau’r Unol Daleithiau allan o’r Wcrain yn achos Rwsia, ag oedi’r Pifot i Asia a myrraeth gwleidyddol ym mholisi tramor De Corea, Siapan a Taiwan yn achos Tseina. Serch hyn medrir hefyd ddadlau bod Rwsia a Tseina yn ddwy wlad sy’n dymuno heddwch rhyngwladol yn gyffredinol, i hybu eu economïau sy’n ddibynnol ar allforion ag i amddiffyn eu elwon masnachol gyda gweddill y byd. Y tu ôl i’r llenni a thrwy gyfryngdod Pacistan, mae’r ddau bŵer mawr a’r rheswm ein bod heddiw mewn byd aml-begwn, yn gweithio tuag at heddwch yn y Dwyrain Canol oherwydd eu hunan ddiddordeb mewn dylanwad a chyfleodd sy’n bownd o gynyddu, wrth i ddylanwad a chyfleoedd yr Unol Daleithiau wanhau dros y rhanbarth.
Ar yr ymylon pellach, mae nifer o wledydd Ewrasiaidd hefyd yn gweithio i’w diddordebau eu hyn, os nad yn chwaraewyr canolog yn y gêm, yn cynnwys Twrci, yr Aifft, Pacistan ac India.
Goblygiadau Byrdymor Rhyfel Iran i Weddill Y Byd
Darogan camau esgynol y rhyfel bythefnos cyn y rhyfel (ffynhonell)
Ugain y cant o olew’r byd sy’n rhedeg drwy Gulfor Hormŵs sydd wedi sychu fyny, sy’n codi i draean os ydi’r rhyfel yn ehangu ag mae Iran yn gofyn i’w chyfeillion yn Yemen, yr Houthis i gau Culfor Bab-El Mandeb sy’n rhedeg i’r Môr Coch.
Digwyddiad ddaroganwyd fisoedd cyn i Yemen ddyfod yn faes daearwleidyddol yn y rhyfel, sy’n chwarae allan ar y funud (ffynhonell)
Mae’r creisus costau tanwydd eisioes i’w gweld yn Awstralia, Asia ag Ewrop, ag yr hiraf mae’r rhyfel yn parhau, yr uchaf aiff prisiau olew a thanwydd olew. Gan fod tanwydd megis dîsyl yn un o gostau mewnbwn mwyaf sylfaenol ar gyfer amaeth a thrafnidiaeth nwyddau, yna fe ddylai fod yn amlwg fod costau bwyd a thrafnidiaeth yn mynd i godi am weddill y flwyddyn yma o leiaf. Hyd yn oed os daw’r rhyfel i ben yfory, bydd cadwynau darparu olew yn cymeryd misoedd os nad flynyddoedd i ailosod, sy’n mynd i yrru tlodi a chyfangiadau economaidd pellach am y dyfodol agos.
Efallai yn bwysicach mae Gwledydd y Dwyrain Canol yn cynhyrchu tua chwarter gwrtaith cemegol y byd, sydd wedi prinhau a chodi ei brîs yn enbyd, efo goblygiadau anferthol i dymor plannu Hemisffêr y Gogledd, y caiff ei fedi yr Haf yma. Mae prinderau bwyd yn mynd i fod yn realiti erbyn diwedd y flwyddyn, yn enwedig yng ngwledydd tlotaf y byd megis cyfandir Affrica.
Goblygiadau Hirdymor Rhyfel Iran
Mae’r goblygiadau hir dymor eisioes wedi eu trafod i ryw raddau, mae hon yn drobwynt hanesyddol ar gyfer holl ranbarth y Dwyrain Canol, ag mi ddadlaf fod y cydbwysedd grym hanesyddol wedi gwyro oddi wrth y Gorllewin tuag at y Dwyrain. Mae Iran wedi dangos i’r byd drwy fabwysiadu technoleg taflegrau a dronau fel amddiffyniad, fod gan wledydd canolig nawr y gallu i frwydro’n ôl yn erbyn grymoedd milwrol llawer mwy, sy’n ddatblygiad manteisiol i’r amddiffynwr, ag oddi wrth yr ymosodwr. Ymhellach, mae ymosodiadau yr Unol Daleithiau yn rhannol ar wrthwynebiad i brosiect niwclear Iran, yn eironig wedi perswadio Iran ei fod angen arfau niwclear fel bygythiad yn erbyn ymosodiadau pellach! Yr un person oedd yn dal datblygiad arfau niwclear Iran yn ei ôl oedd yr Uwch Arweinydd Ayatollah Khamenei oedd wedi gosod gwaharddiad cyfreithiol neu Fatwa ar ddatblygiad arfau niwclear o fewn Iran, nawr wedi ei lofruddiad mae’r fatwa wedi diddymu a rydw i’n disgwyl y bydd Iran yn cynhyrchu arfau niwclear fel ataliad amddiffynol yn erbyn ymosodiadau yn y dyfodol. Mae Iran eisioes gyda phernasau agos hanesyddol efo Gogledd Corea ag yn fwy diweddar gyda Pacistan sydd ill dau yn rymoedd niwclear, a mae cytundebau diogelwch cyffredin yn datblygu yn y Dwyrain Canol rhwng Iran, Twrci, yr Aifft a Phacistan, yn rhagolwg codiad amddiffyniad cynhenid sydd yn annibynnol o’r Gorllewin a’r Dwyrain, ac yn arwain at drydedd sffêr o ddylanwad. Canlyniad ymosodiadau trychinebus yr Unol Daleithiau ar Iran yn y diwedd fydd perswadio grymoedd canolig y byd i ddatblygu arfau niwclear cenedlaethol, a felly mae’r peryg o ryfeloedd niwclear yn mynd i godi efo datganoli yn anffodus.
Darogan llofruddiaeth yr Ayatollah a’r fatwa fydd yn arwain at arfogi niwclear, wyth mis cyn ei lofruddiad (ffynhonell)
Fe drafodir y goblygiadau hir dymor i’r gyfundrefn ariannol, nesaf.
Gwendid Economaidd a Rhagolygon Dirwasgiad Byd Eang yn Sgîl y Rhyfel
Un o thêmau podlediadau a thraethodau Arian Cymreig ydi’r creisus ariannol yn yr EwroDoler ers 2008, a’r llanast byd-eang yn ei sgîl. Mae yna ddirwasgiad ariannol parhaol wedi bod yn chwarae allan ers bron i ddwy ddegawd bellach, lle mae prinderau o Ddoleri dros y byd wedi cyfangu ar allu banciau i’w benthyg ar gyfer creu credyd, sydd wedi mygu tŵf economaidd o fewn yr Unol Daleithiau, ond yn enwedig tu allan i’r Unol Daleithiau yn ail ganolfannau hanesyddol yr EwroDoler, megis Prydain (Llundain), Ewrop a Siapan. Wrth i dŵf economaidd ddioddef mae safon byw y werin wedi dioddef, sydd yn fy marn i (a nifer eraill) wedi cyfrannu’n drwm at dŵf Poblyddiaeth (Populism), welwyd fwyaf trawiadol ddegawd yn ôl ym mlwyddyn dyngedfenol 2016, gyda sioc ddwbwl Brecsit a dyfodiad y Donald.
Mewn effaith pan roedd cyfundrefn fancio ddatganoledig yr EwroDoler, oedd ei hun yn adlewyrchiad o gronfeydd ariannol canolog yr Unol Daleithiau yn tyfu, yna roedd economïau gweddill y byd yn tyfu ag yn adlewyrchu’r duedd gynyddol o globaleiddio, rhyng-gysylltiad a chyd-ddibyniaeth welodd y byd o’r Saithdegau wrth sefydlu’r PetroDoler hyd at Awst 2007. Ers creisus ariannol byd-eang 2008 mae popeth wedi gwyrdroi, y duedd o globaleiddio wedi trawsnewid i ddad-globaleiddio, dad-gysylltiad a dad-ddibyniaeth sy’n broses chwyddiannol, gostus, ag sy’n creu holltau a rhyfeloedd rhwng gwledydd, mewn cylchred o drai i gydweithrediad rhyngwladol a chylchred o lanw i genedlaetholdeb a sofriniaeth gwladol. Adlewyrchiad arall tuedd y ddegawd olaf o ddad-globaleiddio, ydi ei fod yn gydamserol gyda’r trawsnewidiad o rym un pegwn (Yr Unol Daleithiau) i fyd grymoedd aml begwn (codiad Tseina, Rwsia, Iran). Gellir hyd yn oed gysylltu cyfangiad EwroDoler y ddwy degawd diwethaf i’r duedd o ddiboblogi cenedlaethol sy’n chwarae allan dros y byd (tu allan i Affrica), wrth i gyfuniad o ddyledion gwladol, dibrisiant ariannol cenedlaethol, a chreisusau costau byw wneud genedigaeth a magu teuluoedd yn an-economaidd ag an-neniadol i boblogaethau cynhenid.
Y pwynt hollbwysig angen ei fynegi yma, ydi bod ein cyfundrefn ariannol fyd-eang wedi torri, fod yr EwroDoler rhyngwladol yn gwywo gydag llewyrch a safonau byw cenedlaethol sy’n bwydo dirywiad safonau byw byd-eang ynghŷd a diboblogi a phrinder plant, yn mynd i barhau am y dyfodol agos o leiaf, mae cyfoeth gwledydd yn mynd i barhâu i ddirywio tra mae cythrwfwl gwleidyddol mewnwladol yn mynd i barhâu i gynyddu. Mae dymchweliad ein cyfundrefn arian gyfredol yn fwy o broses nag o ddigwyddiad dros nos, sy’n mynd i gymeryd y ddegawd nesaf, yn cynnwys dirwasgiadau a chreisusau ariannol pellach.
Tra mae nifer o economyddion eisioes wedi galw’r cyfnod ers 2008 fel y Ddirwasgiad Dawel neu’r Ddirwasgiad Fwy, mewn geiriau eraill mae’r byd wedi bod mewn dirwasgiad yn hirach na Dirwasgiad Fawr y Tridegau, mae llywodraethau, y cyfryngau, ag asiantaethau ystadegol economaidd wedi llygru mesurau traddodiadol o dŵf economaidd i guddio’r ddirwasgiad, ac mae llywodraethau dros yr ugain mlynedd diwethaf wedi creu dyledion anhygoel yn y sector gyhoeddus i bapuro dros holl graciau ei sector breifat, i gefnu’r sector ariannol genedlaetholwyd yn 2008 i arbed ei dinistr.
Fel rhan o’r cenedlaetholi cymerodd y Banc yn Lloegr fwy o ddylanwad yn y gyfundrefn ariannol, drwy gymeryd holl ddyledion y banciau ar ei lyfrau, argraffu gorllwyth o gronfeydd banc i brynnu dyledion (bonds) y llywodraeth a chadw ei chostau llôg yn îs, ynghŷd a gyrru cyfraddau llôg byrdymor i ddim er mwyn cefnogi dyledwyr i dalu eu dyledion yn ôl, wrth ddwyn llôg gan y cynnilwyr a chyfoeth eisioes wedi ei greu. Mae’r gweithredoedd yma gan fanciau canolog nid yn unig ym Mhrydain ond dros y byd bron ddwy ddegawd yn ôl bellach, wedi parhau gallu llywodraethau cenedlaethol i fenthyg yn rhâd ag i barhau tŵf y sector gyhoeddus ar draul iechyd y sector breifat, i or-drethu a gor-reolaethu a mygu tŵf economaidd gan ffrwydro’r wladwriaeth lês a chreu dibyniaeth pellach ar y llywodraeth. Cyrhaeddodd yr anterth yn 2020 efo gwallgofrwydd Cofid, pan glöwyd y byd i lawr am y ffliw am bron i ddwy flynedd, a gorfodi bêlowt y sector breifat a chynnydd echrydus ym menthyg a dyledion cenedlaethol dros y byd, arweiniodd at dorri’r gylchred chwyddiant isel a chyfraddau llôg isel.
Mae costau anferthol Cofid yn dechrau cael eu talu (ffynhonell)
Rhiwbryd yn ail hanner 2020 yng nghanol dymchwel cadwynau darparu nwyddau a thrafnidiaeth y byd, y ddechreuodd y duedd sydd erbyn heddiw bron yn bump oed, o gynnydd mewn cyfraddau llôg a chwyddiant costau byw. Roedd y ddegawd o ddyledion rhad fwynhewyd ers 2008 wedi caethiwo’r byd i fenthyg mwy a mwy am lai a llai o lôg, ac y mae llawer o’r tlodi rydym wedi ei weld ers yn deillio o gostau dyledion uwch, a chostau llôg uwch ar fenthyciadau personol, morgeisi, a dyledion cenedlaethol. Mae costau llôg wedi dargyfeirio incwm gwariadwy oddi wrth weithgareddau hamdden megis bwyta allan a siopa sy’n cyfangu ar ddiwydiannau hamdden a lletygarwch, a mae busnesau bach wedi dioddef yn enbyd o’r dargyfeiriad ariannol. Yn ychwanegol mae polisîau egni honco bôst Prydain ag Ewrop yn enwedig, wedi arwain at drydan a thanwydd ymysg y drytaf yn y byd, sy’n brif côst mewnbwn fewn i amaeth, diwydiant a thrafnidiaeth, sydd wedi cyfrannu llawer i greisus costau byw a dad-ddiwydiannu y Gorllewin ers troad yr Ugeniau, ac fe gymerith flynyddoedd lawer i ddatblygu ac adeiladu egni rhad unwaith eto, sy’n golygu y bydd costau egni, bwyd a bywyd yn codi am y ddegawd nesaf, yn gyrru tensiynau mewnwladol a Poblyddiaeth pellach.
Er gwaethaf sefyllfa anobeithiol sector breifat Prydain sy’n talu’r trethi, mae sefyllfa’r sector gyhoeddus sy’n byw oddi ar y trethi yn saith gwaeth! Yn y broses o genedlaetholi’r economi ers 2008 mae’r llywodraeth wedi tyfu i faint anhygoel, yn nesau ar wariant bron hanner GDP Prydain heddiw. I gyllido’r gwariant mae graddau treth ar eu uchaf ers yr Ail Ryfel Byd ag yn dynesu at bedwardeg y cant o fywyd, sydd wedi mygu’r sector breifat ag yn enwedig busnesau bach lleol ers Cofid, a mae hi’n deg i ofyn lle mae ein trethi a holl chwyddiant dibrisiol ein harian cenedlaethol yn mynd i’w ariannu? A dyma lle mae cyflwr anobeithiol llywodraethau Prydain a thramor yn amlygu, er yr holl drethi maent yn ei gasglu nid yw’n dod yn agos at ariannu ein llywodraeth, sy’n ei gaethiwo i gyfalaf rhyngwladol a mynd ar fenthyg y “bond vigilantes”, sydd yn eu tro yn mynnu cyfraddau llôg têg i adlewyrchu gwenidau eu dyledwr. Mae hyn oll yn golygu bod costau llôg uwch ar y ddyled genedlaethol yn llyncu mwy o’n trethi, tra bod safon ein gwasanaethau cyhoeddus, o iechyd i amddiffyn, o addysg i’r heddlu ac awdurdodau lleol, yn dioddef ac yn gwaethygu. Fe ddylai’r gylchred ddieflig ddod yn eglur, mae cyfraddau llôg uwch yn mynd i yrru trethi uwch a gwasanaethau lleol gwaeth, busnesau’n cau yn arwain at lai yn talu trethi a mwy yn derbyn trethi ar y plwyf, wrth i ddyledion barhau i gynyddu hyd at fethdal cenedlaethol.
Mae’r uchod oll ar ryw ben yn y dyfodol agos, yn mynd i arwain at greisus ariannol a dyledion. Mae’n debyg y bydd y creisus yn tarddu yn yr Unol Daleithiau fel curiad calon y Doler, a’r economi mae gweddill y byd yn ddibynnol arni drwy’r EwroDoler, cyn lledaenu i’r rhanbarthau. Mae cyflwr yr Unol Daleithiau eisioes wedi drafod yn drylwyr, gyda’r rhyfel yn bragu prinderau olew a thanwydd sy’n mynd i lwgu tŵf economaidd a dod a dirwasgiad yn fwy tebygol, yn ogystal a chreisus costau byw mewnwladol a rhyfeloedd masnach rhyngwladol yn dynwared Tridegau’r Ganrif ddiwethaf, ond mewn byd sydd heddiw llawer mwy cysylltiedig a bregus. Ymhellach, mae’r rhyfel yn Iran wedi amlygu’n llawn cyfyngiadau milwrol yr Unol Daleithiau, a bod ei rheolaeth dros olew y Dwyrain Canol ac angor hanesyddol y PetroDoler yn araf ddarfod dan ddaearwleidyddiaeth newydd byd aml begwn. Yr un rhagorfraint sydd gan yr Unol Daleithiau yn weddill yw dros arian y byd, yr EwroDoler mae banciau’r byd wedi adeiladu eu rhwydweithiau arno, ond sydd eto wedi torri ers ugain mlynedd bellach ag yn gyrru’r byd fewn i gyfangiad parhaol. Y ddau le o fewn y gyfundrefn ariannol lle mae ei mantais yn parhau ydi’r farchnad bonds a’r farchnad stocs. Tra mae dyledion yn dynesu at y Pedwardeg TRILIWN, gyda galw parhaol am y dyfodol agos a ddoith ar draul marchnadoedd bonds gweddill y byd fydd yn dioddef yn waeth wrth i gyfalaf rhyngwladol lifo i ddiogelwch y craidd ar Stryd y Wal, ag fewn i farchnad bonds y Trysorlys. Ar yr ochr arall yn y sector breifat, mae marchnad stocs yr Unol Daleithiau yn cawru dros y gweddill, gyda buddsoddiad mewnwladol a rhyngwladol fyd-eang sydd eto yn sugno cyfalaf oddi wrth wledydd fwy ymylol tua’r craidd. Yn wir mae dominyddiad technegol yr Unol Daleithiau ers dyfeisiad y rhyngrwyd wedi llifo’n uniongyrchol fewn i’w farchnadoedd o’r Dot Com ymlaen, ag sydd erbyn hyn mewn swigen dechnegol llawer mwy ar ffurf y swigen AI, sydd yn fy marn i allan o bob rheolaeth ers dros flwyddyn ag yn disgwyl y pin fydd yn chwythu’r orfwylledd ddiweddaraf yn gyrbibion.
Mae holl gamweinyddiad cyfalafol y ddwy ddegawd olaf yn canoli o gwmpas yr Unol Daleithiau yn barod i ddymchwel, ag yn hanesyddol yr unig beth all ddod a’r drefn o gyfraddau llôg uwch sy’n mygu llywodraethau dyledus y Gorllewin, ydi ailosod y gylchred gredyd sy’n arwain y gylchred fusnes ddaw a chyfraddau llôg yn îs ag esmwytho methdal y Gorllewin, ydi drwy ddirwasgiad enbyd a chreisus ariannol a dyledion arall. Hyn fydd yn galluogi’r banciau canolog i ymyrryd yn bellach yn eu hymgeision i geisio arbed cyfundrefn ariannol y byd eto fyth.
Y Dyfodol Ariannol – Y Cyffindir Pwysicaf
Mae rhagorfraint ariannol y byd, dros dro (ffynhonell)
Mae’r holl draethawd hyd yn hyn yn seiliedig dan droeon ffawd hanesyddol yn natblygiad technoleg arian a chyfrifo. Roedd oesoedd arian caled yn llawer mwy sylfaenol a syml ag yn llawer anoddach dibrisio gwerth ariannol, mae datblygiad canol oesol llyfrau dwy gofnod yn chwyldro bellgyrhaeddol sy’n lledaenu’r oes o fancio dros y Gorllewin, ag yn defnyddio dyled fel modd i gaethiwo’r Dwyrain i Ymerodraethau.
Wedi sefydlu daeth goruchafiaeth bancio dros arian caled drwy dechnoleg cyfathrebu, gyda bancio’n buddiannu o ddyfeisiad y telegraff, y teleffôn, ag ers y Nawdegau y rhyngrwyd, efo bob cam mae grym a dylanwad y banciau dros fasnach ag fel storfa genedlaethol ar gyfer gwerth y genedl.
Mae bancio yn hen dechnoleg, yn hawdd ei lygru, yn canoli gwleidyddiaeth a chymdeithas, ag wedi dwyn gwerth y cyhoedd drwy chwyddiant ag yn cynyddu dyledion gwlad am ganrifoedd. Er fod y rhyngrwyd wedi cynnig tro newydd i fywyd bancio yn yr oes fodern ddigidol, mae’n eistedd ar sylfeini sigledig llywodraethau gwladol sy’n gaeth i ag yn ddibynnol ar gyfalaf rhyngwladol. Yn wir, fel rydw i’n dadlau yn y podlediad hwn, mae canolfannau ariannol traddodiadol y Gorllewin yn gwanhau gyda’u grym daearwleidyddol, mae dyledion gwladol a rhyngwladol y dair undeb ariannol sydd wedi dominyddu’r byd, y Doler, yr Ewro a’r Bunt, yn sylfeini wedi adeiladu ar dywod, wrth i’r llanw ddod i fewn i’w golchi’n ddigon buan, sydd yn mynd i adael gwagle i ariannoedd a chyfundrefnau cyfrifo amgen lenwi.
Tra gellir dadlau fod grymoedd economaidd y Dwyrain yn mynd i drawsnewid yn fuan fewn i gyfundrefnau ariannol a thaliadau fydd yn cystadlu yn gyntaf cyn cymeryd drosodd gan y Gorllewin, mae yna anfanteision pendant o ddatblygu rhagorfraint ariannol y byd. Mae’r anfanteision yn cynnwys trawsnewid o economïau sy’n allforio cynnyrch am arian i economïau sy’n allforio arian am gynnyrch, sydd wedi ailadrodd ym mhob ymerodraeth ers y Diwygiad, yn Sbaen, Yr Iseldiroedd, Prydain a’r Unol Daleithiau, wrth i Benbleth Triffin daro. Er y demtasiwn i Tseina fel y ganolfan ariannol fyd-eang nesaf, byddai yn gorfod gweddnewid ei agwedd mewnblyg tuag at ymerodraeth, ynghŷd a gweddnewid ei economi oddi wrth gynhyrchiant ac allforion tuag at ddefnyddiant a mewnforion. Cysidraf hyn hefyd yn wir ar gyfer Rwsia a gweddill aelodau blaenllaw bloc y BRICS Dwyreiniol, eu bod i gyd bron yn gynhrchwyr ac allforwyr net, felly yn fy marn i does gan y Dwyrain ddim awydd i fabwysiadu rhagorfraint ariannol y byd, ond mae ganddynt ddefnydd ar gyfer cyfundrefnau ariannol a thaliadau sy’n gwneud eu masnach yn haws.
Er fod rhwydweithiau mewnol ac allanol y diwydiant hynafol bancio wedi medru addasu i ddatblygiadau cyfathrebu digidol, a bod bob banc modern erbyn hyn yn rhedeg drwy’r rhyngrwyd, mae’n bwysig nodi nad ydi rhain yn sefydliadau cynhenid i’r rhyngrwyd ond yn cysylltu drwyddo. Yn ogystal mae bancio modern wedi esblygu, ers torri’r Safon Aur yn 1971, at dderbyn gwerth a hylifiant oddi wrth ddyledion gwladol, a thrysorlysiau’r Unol Daleithiau yn bennaf, ond yn eilraddol, Gilts Prydain, Bunds yr Almaen, OAT Ffrainc ac yn y blaen, mae dyfodol y gyfundrefn fancio ar hyn o bryd yn briod i lywodraethau cenedlaethol sy’n araf fethu, ag ar riw bwynt yn y dyfodol yn mynd i ddymchwel gan lusgo’r banciau i lawr efo nhw. Yr unig fodd i’r banciau oroesi yn yr hirdymor fydd drwy drawsnewid cyfalaf ar eu llyfrau cyfrifo oddi wrth ddyledion cenedlaethol a llywodraethau, tuag at gyfalaf yn seiliedig ar brinder ag ar brawf o waith, yn fyr aur fel arian a chyfalaf traddodiadol caled, a Bitcoin fel arian a chyfalaf digidol. Bydd y ddegawd nesaf felly yn gweld symudiad yr hen gyfundrefn ariannol dros y byd tuag at arian caled.

Ailosodiad ariannol y byd, fydd darostyngiad llywodraethau cenedlaethol rhag creu arian a dyledion allan o awyr iach. Gyda diolch i Bombthrower.com
Dyfeisiad Bitcoin – Arian Cynhenid i’r Rhyngrwyd
Mae disgrifiad helaeth o beth yn union ydi Bitcoin yn nhraethawd Rhan Dau: Presennol y Blog Arian Cymreig, ond yn syml mae’n feddalwedd digidol sy’n gynhenid i’r rhyngrwyd, gan gyflwyno cyfundrefn gyfrifon ag ariannol amgen o’r gyfundrefn fancio sydd wedi rheoli’r byd ers y Diwygiad. Fel mae bancio yn gyfundrefn hanesyddol ganoledig, mae Bitcoin yn gyfundrefn ddatganoledig. Fel mae bancio yn gyfundrefn sydd wedi ffynnu mewn oes o drwyddedau a breintiau gwleidyddol, mae Bitcoin yn gyfundrefn o’r llawr i fyny y medrir ei redeg gan unrhywun efo cyfrifiadur a chysylltiad i’r rhyngrwyd heb angen na thrwydded na braint. Ac fel mae bancio yn gyfundrefn sydd wedi profi i fod yn chwyddiannol sy’n caethiwo poblogaeth y byd i ddibrisiant ariannol barhaol a dyledion cynyddol, mae Bitcoin wedi rhaglennu ei arian i fod yn brin sydd wedi profi dros y bron deunaw mlynedd olaf i fod yn ddad-chwyddiannol, yn cynyddu gwerth ariannol a llwgu dyledion. Mae Bitcoin yn gyfundrefn sydd yn bell uwchlaw ein cyfundrefn fancio gyntefig ag yn gweddu i’r bywyd modern sy’n gwbwl ddibynnol yn gynradd ar drydan dibynadwy, ag yn eilradd ar y rhyngrwyd, er gwell ag er gwaeth, fe ddyliai fod yn weddol eglur fod yr Unfed Ganrif ar Hugain yn mynd i weld myned dyfnach i fyd o arian digidol fel sail gwerth, ag ar gyfer taliadau masnach.
Fel y rhyngrwyd sydd eisioes dros dri degawd oed, ni ddigwyddodd y trawsnewidiad digidol dros nos, ond angladd a genedigaeth ar y tro, gyda’r hen genhedlaeth yn marw allan wedi prin fabwysiadu’r chwyldro, tra mae’r genhedlaeth newydd wedi dyfnu bron o enedigaeth i’r byd digidol ac felly y peth mwyaf naturiol yn y byd. Mae’r un peth yn hollol wir am Bitcoin, sydd bellach yn nesâu at ugain mlynedd mewn bodolaeth ac yn frâs lle’r oedd y rhyngrwyd yn 2014, erbyn ail hanner Tridegau’r ganrif hon bydd Bitcoin yn dros chwarter canrif mewn bodolaeth, wedi fabwysiadu gan fwy o’r boblogaeth, ynghŷd a chysylltiadau dyfnach gyda sefydliadau ariannol traddodiadol, yn cynnwys banciau, cronfeydd pensiwn, corfforaethau yswiriant, banciau canolog, a thrysorlysiau cenedlaethol.
Statws Cyfredol Bitcoin – Agosau at Drai Y Gylchred
Bydd y Podlediad Arian Cymreig yn dathlu ei bedwerydd penblwydd ddiwedd y flwyddyn, wedi dechrau yn hwyr yn 2022, ag wedi trafod cylchred llanw a thrai pedair blynedd Bitcoin o’r dechrau. Wedi tair blynedd o lanw lle ddringodd Bitcoin o waelod oddeutu £13,000 i anterth oddeutu £90,000 erbyn Hydref 2025, mae 2026 fel ddaroganwyd wedi bod yn flwyddyn o drai sydd wedi gwagio’n llawn, yn debygol yn mynd a ni o dan £50,000 i ailosod y gylchred am y bedair mlynedd nesaf. Mae pob cylchred ganlynol yn hanes Bitcoin wedi cynyddu mabwysiadaeth ymysg y cyhoedd a’r gyfundrefn ariannol, ac wedi symud o’r cannoedd (2010-2013), i’r miloedd (2013-2017), i’r degau o filoedd (2017-2021), i’r cannoedd o filoedd (2021-2025), a tra fod cyrraedd yn agos i filiwn yng nghylchred 2025-2029 yn anhebygol yn fy nhŷb, byddwn yn debygol yn edrych ar gannoedd o filoedd pellach erbyn 2030 a’r trai blynyddol nesaf.
Bitcoin a Daearwleidyddiaeth – Y Rhyfel Am Ddyfodol Arian
Mae’r gair daearwleidyddiaeth (Geopolitics) yn air cyfansawdd sy’n cynnwys gwleidyddiaeth a daearyddiaeth, ag fel eglurwyd eisioes mae dyfodol rhagorfraint ariannol y Doler ar seiliau sigledig iawn, yn enwedig ar gyfer olew a nwy y Dwyrain Canol oedd yn sail bwysig wedi diwedd y Safon Aur. Ymhellach, fel rydwyf yn dadlau nad oes gan wledydd y Dwyrain a’r BRICS ddiddordeb yn hawlio’r rhagorfraint hwn yn llawn, am ei fod yn gymaint o felltith ag ydyw o rîn, ag yn gorfodi colledion masnachol ar economïau sydd wedi codi ar gefn mercantiliaeth ac allforion. Hyd yn oed yn America, mae Donald Trump drwy ei ddau derm fel Arlywydd, wedi gwarafun rhyfeloedd tramor hanner call, y ddyled genedlaethol gynyddol am amddiffyn a phlismona’r byd, ag am ddinistr diwydiannol yr Unol Daleithiau a’i ddosbarth gweithiol oedd yn rhaid ei aberthu i ymarfer ei ragorfraint ariannol. Yn wir, os edrychir ar y digwyddiadau daearwleidyddol drwy’r sbectol yma, onid ydi colli grym a dylanwad ddaw yn sgîl y golled strategol enfawr yma i’r Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol, yn gweithio i fantais cynlluniau hirdymor y Donald o ymgilio rhag blismona’r byd, ei bolisi America’n Gyntaf, ac ei ddyheuad am ailadeiladu seiliau diwydiannol y wlad? Mewn gwirionedd, does dim posib gwireddu dychwelyd diwydiannol yr Unol Daleithiau i gystadlu gyda gwledydd y BRICS, heb yn araf bach roi’r gorau i ragorfraint ariannol fyd-eang y Doler, ac felly yn fy marn i mae hi yn niddordeb pendant mewnwladol yr Unol Daleithiau i aberthu dyfodol rhyngwladol y Doler am ei diogelwch a’i ffyniant cenedlaethol.
Mae’r uchod yn ein dyfod at y datrysiad ariannol fyddai’n gweithio i fantais holl wledydd y byd, yn gyfundrefn gyfrifo ddi-duedd, heb ddiddordeb mewn ymyrraeth wleidyddol na manteisio un gwlad dros arall, mae’r ffaith fod Bitcoin y tu allan i reolaeth canolog holl lywodraethau’r byd yn ei wneud yn ddigon eironig y rhwydwaith berffaith ar gyfer setlo masnach a thaliadau rhyngwladol rhwng llywodraethau cenedlaethol!
Mabwysiadaeth Bitcoin ar Lefel Rhyngwladol – Y Gorllewin A’r Dwyrain
Fe ysgrifennais draethawd unigol a thrylwyr ar Bitcoin ac Egni: Trydan, Arian a Daearwleidyddiaeth yn seiliedig ar Bennod 9 o’r Podlediad Arian Cymreig: Bitcoin ag Egni, yn trafod goblygiadau cloddio am Bitcoin ar gyfer llywodraethau’r byd, ag yn enwedig y frwydr am oruchafiaeth rhwng y Gorllewin a’r Dwyrain mewn byd aml begwn.
Yn ddigon rhyfedd, roedd trafodaeth benodol am hanes Iran fel un o ganolfanau cloddio cynnar yn hanes Bitcoin, am y rheswm fod mosgiaid yn derbyn trydan am ddim gan y llywodraeth, ag am y rheswm fod modd creu bitcoin (a diogelu’r rhwydwaith) drwy gloddio yn defnyddio cyfrifiaduron arbenigol, fe ddaeth Iran yn hafan Bitcoin gynnar ar draul lladrata trydan cenedlaethol. Wrth gwrs, fe ddarganfyddodd y llywodraeth y dwyn ymhen hwyr ag erlid cloddwyr y farchnad, ac o’r profiad hwn ymhob tebyg, daeth arbrofion llywodraeth Iran gyda defnydd Bitcoin. Yn wir, roedd Iran ymysg y cyntaf yn y byd i gloddio Bitcoin ar lefel gwladol, drwy ei lluoedd arfog ers o leiaf 2019. Y pwrpas oedd sefyllfa daearwleidyddol Iran ar y pryd, dan warchae sanctiynau economaidd yr Unol Daleithiau yn gwahardd gwerthu nwy ac olew fewn i ddoleri i’w defnyddio ar gyfer eu masnach rhyngwladol, yn eithaf rhyfeddol sylweddolodd Iran yn gynnar i losgi ei nwy ac olew i fewn i drydan ag i gloddio am Bitcoin, byddai ganddynt gronfa o arian digidol i’w ddefnyddio i dalu am fewnforion, a’i dderbyn mewn taliadau am allforion. Er fod unrhyw ffeithiau caled ar ddefnydd Bitcoin o fewn Iran yn anodd i’w cadarnhau, ychydig iawn o amheuaeth sydd fod y llywodraeth wedi ag yn dal i ddefnyddio Bitcoin.
Defnydd Bitcoin ar gyfer osgoi’r Doler (ffynhonell)
Daeth cadarnhad pellach o gyfathrach Iran gyda Bitcoin wedi dechrau’r rhyfel, a’r blocâd ar Gulfor Hormŵs. Fe benderfynodd Iran leferu ei reolaeth dros un o brif dagfeydd olew y byd, drwy ofyn tôll ar longau’n tramwy’r culfor, a thra mae ymryson pellach i ddod dros dermau’r cadoediad ifanc rhwng Iran a’r Unol Daleithiau yn cynnwys aileirio’r doll masnach fel “tâl amgylcheddol” i fodloni cyfraith moroedd rhyngwladol, o hyn ymlaen bydd angen talu i ddefnyddio Culfor Hormŵs. Bydd yn rhaid i fasnachwyr olew y Dwyrain Canol dalu felly, a mae manylion diddorol yn dod i’r fei yn y cyfryngau priflif yn gyntaf, fod Iran yn fodlon derbyn taliadau mewn Bitcoin yn ogystal a Yuan Tseina, yn dwblu fyny fel modd i osgoi sanctiynau’r UDA (a gallu ei Drysorlys i rewi cronfeydd doleri) ag yn torri’r doler allan o fasnach ryngwladol Iran, sydd yn gwanhau ei ragorfraint ariannol byd-eang.
Ar yr ochr arall i’r Rhyfel mae America wedi bod yn geffyl blaen ag ôl yn y gorffennol yn eu agweddau tuag at Bitcoin. Yn hanesyddol wedi bod yn wely cynnar cyfoethog ar gyfer Bitcoin yn ariannol a datblygol yn ei ddegawd cyntaf, gyda dyfodiad Trump am ei dymor cyntaf daeth America yn geffyl blaen ar weddill y Gorllewin a’r byd, yn ei agwedd at Bitcoin a crypto-cyfred. Wedi etholiad Joe Biden dychwelodd America i gefn y râs wrth i’r Democratiaid fygu cyfrethiau digidol drwy’r Gyngres gan ddisgyn tu ôl i’r Undeb Ewropeaidd a Phrydain. Cyn ei ddychwelyd ymgyrchodd y Donald ar lwyfan yn cynnwys Bitcoin gan ganlyn y degau o filiynnau o ddeiliaid Bitcoin yn yr Amerig a chwaraeodd ran allweddol yn ei etholiad, ers ei ailddyfodiad mae’r Unol Daleithiau bellach yn geffyl sy’n bell ar y blaen, gyda Deddf Genius yn rheolaethu cyfred-sefydlog (stablecoins) er mwyn hyrwyddo defnydd a goruchafiaeth byrdymor y Doler dros y byd yn y dyfodol agos, tra mae Deddf Clarity ar fin pasio’r Gyngres yn mynd i reolaethu defnydd Bitcoin a’i fabwysiadaeth gan y sector ariannol sy’n dominyddu’r byd. Yn wir, fel y dadlaf mae cymynrodd Trump ar y lefel ryngwladol fydd colli’r Dwyrain Canol a thrawiad angheuol ryngwladol i’r Ymerodraeth Americanaidd, dadlaf mae cymynrodd mewnwladol Trump i’r Weriniaeth fydd sefydlu America fel y wlad gyntaf i fabwysiadu Bitcoin yn flaenllaw, gan gefnogi parhâd Stryd y Wal fel prif ganolfan ariannol y byd i fewn i’r dyfodol digidol.
Mae hyn yn amlwg yn mynd i orfodi gweddill gwledydd y byd i gystadlu efo’r Unol Daleithiau rhag iddynt gael eu gadael ar ôl yn y rhyfel ariannol digidol, fel yr ydym wedi ei weld efo Iran, fel yr ydym yn ei weld efo Rwsia sydd yn araf gyfreithloni Bitcoin yn fewnwladol ag mewn taliadau rhyngwladol ynghŷd a lletya bron ugain y cant o ddiwydiant cloddio byd-eang Bitcoin fel cynhyrchwyr egni mwyf y byd. Ac rydym hefyd yn gweld nifer o wledydd y Gwlff yn y Dwyrain Canol yn arbrofi gyda chloddio am Bitcoin yn defnyddio eu olew a nwy, a chronfeydd cyfoeth y Rhanbarth yn buddsoddi mewn Bitcoin mewn un ffordd neu arall. Mae’r flwyddyn yma serch perfformiad gwael y prîs, yn mynd i fod yn flwyddyn dyngedfenol wrth i lywodraethau methdal y byd ddechrau trawnewid eu seiliau ariannol tuag at Bitcoin, a’r dyfodol datganoledig. Mae datblygiadau pellach mân yn ngwledydd Ewrop tuag Bitcoin, a symudiad cyffredinol dros America Ladin a Dwyrain Asia tuag at ariannoedd cryptograffig mewn ardaloedd efo arian gwan ac yn dioddef o ddibyniaeth ar arian Gorllewinol.
Diweddglo
Gobeithio fod y traethawd wedi arddangos ein bod yn byw drwy drobwynt hanesyddol, gyda’i ganol yn y Dwyrain Canol ar gyfandir Ewrasia, a’r rhanbarth hanesyddol sydd wedi cysylltu a rhannu’r Gorllewin a’r Dwyrain. Wedi bod yn gefnddwr daearwleidyddol am oddeutu mil o flynyddoedd cyn y Diwygiad Protestanaidd, drwy ddatblygiad technolegol yr oes o hwylio a’r oes o fancio, un wrth un cododd a disgynodd yr Ymerodraethau Ewropeaidd, hyd nes diberfeddiad y cyfandir mewn Dau Ryfel Byd. Wedi’r mŵg glirio ar y holl gyflafan, gadawyd yr Ymerodraeth Americanaidd mewn effaith yn rheoli a gwarchod y byd. Wedi ymryson mewn Rhyfel Oer gyda’r Dwyrain am yn agos i hanner canrif, disgynodd cyfundrefn gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd a darostyngiad Dwyreiniol, gan gadarnhau goruchafiaeth gyfalafol Gorllewinol mewn byd daearwleidyddol un pegwn.
Heb bellach gystadleuwr a gwrth-rym, yn ei falchder ymrwymodd yr Unol Daleithiau fewn i’w anturiaethau ymyrraeth yng ngwleidyddaeth gweddill y byd. Yn Ewrop, swynwyd gwledydd y Dwyrain fewn i gyngrhair NATO yn yr ymgyrch i wthio tuag at riniog Rwsia waniedig yn araf ailadeiladu, yn Asia ariannu codiad Tseina a’i hymaelodaeth gyda’r WTO o 2001, ynghŷd a rhyfeloedd di ben Newid Arweiniaeth yn y Dwyrain Canol i ddiogelu’r PetroDoler, ymledu democratiaeth, ag ar ran Israel yn ei chynllwynion i danseilio ei gelynion yn y Rhanbarth. Am y gôst o driliynnau mewn dyledion, tollti gwaed Americanaidd a thrawsnewid y Dwyrain Canol fewn i gae chwarae ar gyfer anrhefn eithafol Islamaidd, a dechrau gorlifiad y trydydd byd fewn i Ewrop a’r Gorllewin, tyfodd y Dwyrain yn fwy fwy i gasau’r drefn un begwn, ag i baratoi am ei ddarfod.
Gydag esgyniad Tseina o’i Chanrif o Ddarostyngiad i gystadleuwr pegynnol erbyn tua 2017, mae’r byd un pegwn drosodd ers bron ddegawd, ond heb gadarnhad daearwleidyddol caled dros y dansoddol, nag ychwaith cadarnhad faint o ganolfannau grym fyddai yn y byd newydd aml begwn. Mae cadarnhad caled wedi dod i law yn y Dauddegau a dwy gurfa strategol i’r Unol Daleithiau, gyntaf yn y Rhyfel yn yr Wcrain ar gyffindir Ewrasia, a’r ail yn Iran a’r Dwyrain Canol. Yn achos yr Wcrain, yr Unol Daleithiau oedd ei phrif ariannwr, deliwr arfau, a phensaer deallusrwydd strategol ei rhyfel gydag aberth milwyr Wcrainaidd, ar gyfer dymchwel Rwsia a Pwtin a diweddu ei esgyniad i drydydd pegwn. Yn achos Iran, yn uniongyrchol drwy dactegau sioc ag ofnadwyaeth ei hawyrlu a’i llynges, ar ofyn Israel ac ei ddiogelwch rhanbarthol, i newid arweiniaeth Iran at un Gorllewinol eto, i gryfhau ei ddylanwad gwleidyddol yn y Dwyrain Canol, ac i atal esgyniad Iran i bedwaredd pegwn. Fe gyfadefaf yma nad ydw i’n medru rhagweld y dyfodol, ac mae’n bosib drwy rhyw wyrth bydd yr Wcrain rhiwsut yn ailgoncro yr ugain y cant o’r dwyrain a Crimea y mae eisioes wedi ei cholli neu fod Rwsia riwsut yn dioddef dymchwel economaidd am y rhyfel sydd ond yn costio tua 7-8% o’i GDP, ag y bydd blocêd yr Unol Daleithiau ar yr Hormŵs ynghŷd a sanctiynnau ariannol a masnach enbyd yn ddigon i ddod ag arweiniaeth Iran i’w gliniau ac allan o bŵer, ond mae hanes y ddwy wlad yn awgrymu y byddant yn dioddef caledi llawer pellach er mwyn cadw eu sofriniaeth.
Mae hyn oll i ddweud nad ydi’r trobwynt hanesyddol wedi ei ddisgrifio yn y traethawd hwn yn ddigwyddiad dros nos ond yn broses aml flynddol, gydag rhyfel Wcrain yn dros bedair oed a Rhyfel Iran yn cynnwys y Rhyfel Deuddeg Diwrnod ym Mehefin 2025, yn dros flwydd oed. A gydag cyflwr sorllyd cyfryngau priflif Gorllewinaidd yn parhau i ddatgan a darogan propaganda llwyddiant yr Wcrain a’r Unol Daleithiau dros Rwsia ac Iran, fe fydd yn fisoedd os nad flynyddoedd nes bydd y niwl yn clirio o lygaid y Gorllewin i sylweddoli ei cholledion daearwleidyddol tyngedfenol, a chyfaddef fod grym y Gorllewin yn pylu a bod angen ailosod y sylfeini ar gyfer cystadlu efo grymoedd newydd y Dwyrain.
Fel y mae’r rhyfeloedd wedi amlygu gwendid Ymerodraethol yr Unol Daleithiau a NATO, mae’n debyg y bydd eu dylanwad yn awr yn crebachu ag yn araf ddiflannu o Ewrop a’r Dwyrain, sy’n gorfodi ailosod pensaernïaeth diogelwch y byd, drwy ddatganoli rhanbarthol i adlewyrchu’r byd newydd aml begwn. Bydd hyn yn cynnwys ymgiliad yr Unol Daleithau o blismona’r byd sy’n gwireddu nifer o bolisîau Trump a’r ymgyrch America Gyntaf, allan o ryfeloedd tramor a gwleidyddiaeth y Dwyrain Canol er mwyn canolbwyntio ar ei nifer o broblemau mewnwladol a’i sffêr o ddylanwad dros gyfandir America, a chymdogion i’r gogledd a’r de. Yn Ewrop a Phrydain bydd buddugoliaeth Rwsia yn gorfodi y ddau i ddechrau trafod pensaerniaeth diogelwch newydd a ddyliau fod wedi dilyn y Rhyfel Oer a dymchwel yr Undeb Sofietaidd, ond danseilwyd gan yr Americaniaid drwy groglath NATO, fydd yn diogelu masnach hanesyddol Ewrop a Rwsia mewn egni, adnoddau, diwydiant a thechnoleg. Yn y Dwyrain Canol bydd pensaernïaeth diogelwch yn datblygu annibyniaeth rhanbarthol milwrol rhag y Gorllewin a’r Dwyrain, a datblygu trydydd sffêr o ddylanwad yng nganoldir y byd. Ac yn y Dwyrain, bydd pensaernïaeth diogelwch newydd yn sgîl ymgiliad yr Unol Daleithau o Ddwyrain Asia yn gorfodi ailosod perthnasau a chytundebau diogelwch rhwng hegemon y rhanbarth yn Tseina, a’i gymdogion yng ngwledydd Corea, India a Siapan.
Y sgîl effaith fwyaf o ailstrwythuro pensaernïaeth diogelwch y byd fydd gorfodi ailstrwythuro’r gyfundrefn ariannol. Y prîs fydd yn rhaid ei dalu gan yr Unol Daleithiau er mwyn dychwelyd yn ôl adref ydi aberthu yn wirfoddol neu’n orfodol, ei rôl fel canolbwynt ariannol y byd, a diwedd ei monopoli byd eang dros fasnach gweddill y byd. Mae goruchafiaeth cyfredol yr Unol Daleithiau yn deillio o’i dyledion cenedlaethol, a thrysorlysiau y Trysorlys sy’n cael eu dal ar lyfrau banciau a sefydliadau ariannol y byd, sydd wedi galluogi yr Unol Daleithiau i fynd $40 triliwn i’r coch ag ariannu ei ymerodraeth fyd-eang. Yn draddodiadol mae hi wedi cymeryd rhyfeloedd byd i drosglwyddo rhagorfraint ariannol o’r ymerodraeth olaf i’r nesaf, ac felly mae gweld yr Unol Daleithiau mewn dau ryfel rhanbarthol ar gyffindir Ewrasia yn rhagolwg brwydrau agoriadol Trydydd Rhyfel Byd, trechfa y grymoedd Gorllewinol a throsglwyddiad y rhagorfaint ariannol i’r Dwyrain am y tro cyntaf mewn pum canrif, ag i floc y BRICS a’i arweinydd yn Tseina. Yn wir, y rheswm am godiad y BRICS oedd rhagweld y byddai’r Unol Daleithiau’n yn arfogi ei ragorfraint gydag sanctiynnau ariannol a dwyn cronfeydd ariannol gwledydd y Dwyrain, rydym eisioes wedi weld gydag Iran a Rwsia, ac eu gorfodi i ddatblygu trefniadau ariannol amgen. Mae’r ailosodiad ariannol wedi hen ddechrau, a bydd gwywo dylanwad yr Unol Daleithiau yn y Dwyrain Canol wedi diwedd rhyfeloedd Iran a Rwsia yn cyflymu erydiad y PetroDoler a’r EwroDoler.
Fel yr ydwyf eisioes wedi ddadlau, dwi’n credu ei bod yn anhebyg bydd Tseina yn fodlon derbyn rhagorfraint ariannol yn y traddodiad Gorllewinol, oherwydd y strwythur ysgogi i drawsnewid o economi sy’n allforio nwyddau a mewnforio arian i economi sy’n allforio arian a mewnforio nwyddau gweddill y byd. Yn hynny o beth dwi ddim yn gweld gwlad draddodiadol fewnblyg Tseina yn aberthu ei heconomi ddiwydiannol er mwyn ariannu gweddill y byd, ac felly credaf y bydd cyfundrefn ariannol y dyfodol yn wahanol i’r traddodiad ers y Diwygiad. Fel rydwyf yn parhau i ddisgwyl i ddyled llywodraethol dderbyn galw gan gyfundrefn ariannol y byd, yn fwy na dim oherwydd gorfodaeth gyfreithiol llywodraethau, i aros yn hyfyw yn yr hirdymor bydd yn rhaid i sefydliadau ariannol preifat y byd leihau bonds cenedlaethol ar eu llyfrau, a chynyddu eu daliadau mewn cyfalaf gwell ar gyfer diogelu eu dyfodol. Fel dwi’n disgwyl y bydd y bydd ariannoedd gwladol yn parhau i gael eu defnyddio ar gyfer trafodion dydd i ddydd yn y sector breifat ryngwladol, bydd bonds cenedlaethol yn colli llawer o’u defnydd fel stôr o werth rhyngwladol, gydag goblygiadau amlwg ag enbyd ar gyfer rhagolygon llywodraethau i barhâu eu gwariant afreolus sy’n darogan creisusau ariannol a dyledion byd-eang yn diweddu gyda methdal cenedlaethol.
Yn y dyfodol felly, yn sgîl dadwisgiad araf monopoli’r Doler, mae’r duedd tuag at ddatganoli a chydbwysedd grym rhwng gwledydd mewn byd aml begwn, yn mynd i gynyddu’r galw am gyfalaf di duedd, niwtral, ac annibynnol, a’r ddau ased fydd yn elwa fwyaf o’r tarfiad daearwleidyddol mwyaf mewn pum canrif, ydi aur a Bitcoin. Ar yr olwg gyntaf efallai bod y ddau ased yn ymddangos yn hollol anghysylltiedig, un yn fetel drudfawr caled a’r llall yn gread digidol dansoddol, ond mae’r ddau yn rhannu nifer o rinweddau, ac fe ddyfeiswyd Bitcoin mewn nifer o ffyrdd i weithredu fel aur digidol ar gyfer yr oes drydanol. Mae’r ddau ased yn bodoli tu allan i gyfreithiau cenedlaethol ac felly’n annibynnol o wleidyddiaeth, ond ar y llaw arall mae eu rhinweddau di-duedd a’u defnydd fel stôr o werth gydag imiwnedd rhag chwyddiant a dibrisiant yn eu gwneud yn ddeniadol mewn byd sy’n chwyddiannu a dibrisio. Mae’r ddau ased yn seiliedig ar brawf o waith na ellir ei greu allan o awyr iach megis arianoedd a bonds gwladol, gydag cloddio corfforol i ddarganfod aur a chloddio digidiol gyda chyfrifiaduron arbenigol a defnydd dwys o drydan i ddarganfod bitcoin. Yn syml, mae’r ddau er eu gwahaniaethau, yn mynd i chwarae’r un rôl yn y datganoli ariannol i ddod, aur yn dychwelyd i’w graidd hanesyddol fel cronfa brin gyfalafol yn seilio llyfrau cyfrifo banciau canolog a sefydliadau ariannol o bob math, a Bitcoin yn ddiweddaru ar gyfer y byd ariannol modern digidol. A dyma lle mae Bitcoin yn rhagori dros aur, ydi tra mae bitcoin yn arian prin a stôr o werth heb ei ail dros y deunaw mlynedd diwethaf, mae Bitcoin hefyd yn rwydwaith datganoledig person i berson sy’n gadael i bersonau neu gwmnïau neu sefydliadau setlo masnach mewnwladol neu ryngwladol, yn parchu na chyfraith na ffîn genedlaethol, sy’n adeiladu’r haen fel modd ar gyfer cyfnewid, a haen na fedrir aur ei fodloni heb gyfundrefn fancio ganoledig.
Yr unig beth sy’n dal mabwysiadaeth Bitcoin yn ôl rhag esgyn i hawlio rhagorfraint ariannol y byd, ydi cyfreithiau gwledydd sy’n ymlafnio i amddiffyn eu monopolïau dros greu arian gwladol a chreu dyledion cenedlaethol, ac felly am y dyfodol agos daroganaf y bydd cystadleuwyr y byd newydd aml begwn yn parhau eu arbrofion gyda Bitcoin ar gyfer taliadau rhyngwladol sy’n osgoi cyfyngiadau a sanctiynau gwleidyddol, ac i raddau yn gadael i’w cyfundrefnau ariannol gartref ddefnyddio bitcoin fel ased ar gyfer ei gynnilo i storio gwerth i’w sefydliadau a’i ddinasyddion, ond yn cyfyngu’n drwm ar ddefnydd Bitcoin fel rhwydwaith taliadau mewnwladol rhag iddo ddinistrio’r monopoli dros arian gwladol. Yn araf bach mae’r bum mlynedd ddiwethaf wedi gweld cyfreithloni Bitcoin a’i ddiwydiant cloddio mewn bron bob gwlad yn y byd, ond gan ganolbwyntio ar y map daearwleidyddol ac ar gystadleuwyr mwyaf y byd newydd aml begwn, yn benodol, yr Unol Daleithiau, Tseina, Rwsia ac Iran. Mae defnydd Iran o Bitcoin wedi drafod eisioes ag mae’n rhaid i mi ychwanegu fod Iran wedi cyfreithloni defnydd Bitcoin fel stôr o werth i’w ddinasyddion gydag amcangyfrifon bod 15 miliwn o Iraniaid neu un mewn chwech o’r boblogaeth eisioes yn dal bitcoin, ond eto mae Iran yn gyfredol mewn rhyfel am ei fodolaeth gwleidyddol a heb feddiant o arf niwclear hyd yn hyn, ni ellir galw Iran yn Bŵer Mawr eto…
Sy’n ein gadael efo’r Tri Mawr, fydd yn dylanwadu fwyaf yr ailstrwythuriad mawr i ddod y ddegawd nesaf. Mae’r tri mawr ymysg y mwyaf o’r deiliaid aur yn eu trysorlysiau, sy’n gwarantu y bydd aur yn chwarae rhan bwysig yn yr ailstrwythuriad. Mae’r tri mawr hefyd yn gewri egni, ag yn lletya dau draean o ddiwydiant cloddio Bitcoin y byd heddiw. A mae dau o’r tri mawr eisioes mewn râs ar gyfer cyfreithloni defnydd Bitcoin yn fewnwladol a rhyngwladol, yn Rwsia a’r Unol Daleithiau, efo Tseina ar y funud ymhell ar ôl. Yn wir, fel rydw i wedi dadlau yn ddiweddar, mae’r Unol Daleithiau wedi colli’r rhyfel egni efo Tseina, wedi colli’r rhyfel diwydiannol efo Tseina, ag yn mynd i golli’r rhyfel AI efo Tseina, ond nid yw hyn yn ddiwedd y byd os all yr Unol Daleithiau yn defnyddio ei ragorfraint ariannol cyfredol, fabwysiadu Bitcoin o fewn ei sector ariannol cynhenid yn gynt na Tseina, yna bydd hyn yn ddigon i’r Unol Daleithiau (a Rwsia) gydbwyso goruchafiaeth egni a diwydiannol Tseina yn yr Unfed Ganrif ar Hugain. Mae’n anochel i mi y bydd Fladimir Pwtin yn mynd i lawr yn hanes Rwsia o leiaf fel un o’i arweinwyr mwyaf llwyddianus megis Pedr Fawr a Catrin Fawr, ag er fod cymynrodd Donald Trump yn mynd i fod yn un cymysg wedi cysidro’r golled strategol anferthol i Ymerodraeth yr Unol Daleithiau yn y dyfodol agos, mae’n bosib mae ei brif gymynrodd fydd yn rhoi yntau yn y llyfrau hanes, fydd drwy fabwysiadu a gadael i America drawsnewid ei gyfundrefn ariannol ar y Safon Bitcoin cyn ei brif elyn daearwleidyddol yn Tseina. A thra credaf y bydd Xi Jinping yn debyg yn mynd i lawr yn llyfrau hanes Tseina fel trydydd seren y Blaid Gomiwnyddol tu ôl i Deng Xaoping a Mao Tse Tung, bydd diffygion y Blaid Gomiwnyddol rhag deall manteision ac effeithiau rhwydwaith Bitcoin yn cyfri yn ei erbyn, yn enwedig o gysidro ffyniant cynnar Bitcoin yn Tseina yn enwedig yn y sector cloddio, o 2017 fe gyfyngodd Tseina yn drwm ar gyfnewid bitcoin ac yn 2021 fe gyfyngodd yn drwm ar y sector gloddio, ddechreuodd yr alltud mawr i Bitcoin allan o Tseina i’r Unol Daleithiau a Rwsia. Efallai yn nhermau daearwleidyddol yr Unfed Ganrif ar Hugain, Tseina sy’n euog o’r camgymeriad mwyaf a ddaw i’r fei yn y degawdau nesaf.

Dyddiau difyr gyfeillion!
Derbynir Cyfraniadau Bitcoin yn Ddiolchgar:
bc1q49a3y9anq3a2pjqvq3gm8wj8aqqld3pnva9phwna2ftdar73mf3qak275j
Ysbrydoliaeth y Traethawd
